Awdurdod Ystadegau’r DU yn argymell cyfrifiad yn 2031

Published:

Purple graphic with circles and white text that reads Recommendation from the UK Statistics Authority on the future of population and migration statistics in England and Wales June 2025 in Welsh.

Mae’r dudalen hon hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Heddiw, mae Awdurdod Ystadegau’r DU wedi argymell bod y Llywodraeth yn comisiynu cyfrifiad o Gymru a Lloegr yn 2031, i’w gyflawni gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (y SYG).

Gweinidogion sydd â’r pŵer i alw cyfrifiad gorfodol o’r boblogaeth gyfan yn seiliedig ar holiadur ac, yn hanesyddol, mae un wedi cael ei gynnal bob deng mlynedd.

Y cyfrifiad diweddaraf, a gynhaliwyd gan y SYG yn 2021, oedd y cyntaf i gael ei gwblhau ar lein yn bennaf, a chafodd ei gefnogi gan fwy o ddefnydd o ddata gweinyddol.

Yn ei argymhelliad ffurfiol i’r Llywodraeth, amlinellodd yr Awdurdod weledigaeth i’r SYG gynnal cyfrifiad arall o Gymru a Lloegr, a pharhau i ddatblygu amcangyfrifon o’r boblogaeth sy’n seiliedig ar ffynonellau data eraill yn bennaf – pethau fel cofnodion treth, data’r GIG a thrwyddedau gyrru – sydd â’r potensial i ddarparu amcangyfrifon amlach ac o ansawdd uwch. Gall y rhain helpu’r llywodraeth a chymdeithas i ddeall y boblogaeth ar draws ystod ehangach o bynciau, ac ateb cwestiynau mwy cymhleth.

Dywedodd Syr Robert Chote, Cadeirydd Awdurdod Ystadegau’r DU:

“Mae’r cyfrifiad wedi bod yn adnodd hanfodol ers tro byd ar gyfer deall ein cymdeithas a llywio penderfyniadau’r rhai sy’n llunio polisïau, darparwyr gwasanaethau cyhoeddus, busnesau a dinasyddion.

“Credwn mai cynnal cyfrifiad o ansawdd uchel ar gyfer Cymru a Lloegr yn 2031 wrth ddatblygu amcangyfrifon o’r boblogaeth yn seiliedig ar ddata gweinyddol ymhellach ar yr un pryd yw’r ffordd orau i wasanaethu er budd y cyhoedd. Bydd y naill beth yn ategu’r llall, gan gryfhau ein system ystadegol er mwyn iddi addasu i newidiadau technolegol a chymdeithasol y degawd nesaf.”

Dywedodd yr Ystadegydd Gwladol Dros Dro Emma Rourke:

“Cynhaliodd y SYG gyfrifiad hynod lwyddiannus yn 2021, a oedd yn gyfnod tyngedfennol i’r wlad. Sicrhaodd y gyfradd ymateb uchel a chyfoeth data’r cyfrifiad y darparwyd ciplun o ansawdd uchel o’r boblogaeth gyfan a’i nodweddion, sy’n parhau i ddarparu buddion i ddefnyddwyr ystadegol.

“Mae wedi bod yn glir o’n gwaith ymgynghori ac ymgysylltu bod y cyfrifiad bob deng mlynedd, y gofynnir i’r boblogaeth gyfan ei gwblhau, yn parhau i fod yn werthfawr tu hwnt er mwyn llywio’r  penderfyniadau pwysicaf sy’n wynebu ein gwlad.”

Ychwanegodd: “Yn ogystal â chasglu data drwy gyfrifiad, gwyddom hefyd fod diddordeb cryf yn y gwelliannau i ansawdd, amlder ac ystod yr allbynnau y gallwn eu gweld drwy wneud mwy o ddefnydd o ffynonellau data amgen, a data gweinyddol yn arbennig, a brwdfrydedd drostynt. Mae’r cynnydd rydym wedi’i wneud yn golygu ein bod mewn sefyllfa dda i ddefnyddio data gweinyddol i gyfrannu at ein gweithgarwch gyda’r cyfrifiad a darparu allbynnau gwell rhwng cyfrifiadau.”

Nodiadau:

O dan Ddeddf y Cyfrifiad 1920, fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Ystadegau a’r Gwasanaeth Cofrestru 2007 ac is-ddeddfwriaeth, gweinidogion sydd â’r pŵer i alw cyfrifiad gorfodol yn seiliedig ar holiadur ar gyfer Cymru a Lloegr.

Yn 2014, nododd Llywodraeth y DU yr uchelgais y caiff cyfrifiadau ar ôl 2021 eu cynnal gan ddefnyddio ffynonellau data eraill ac y caiff gwybodaeth ystadegol fwy amserol ei darparu. Yn 2018, ymrwymodd yr Ystadegydd Gwladol ar y pryd, John Pullinger, i ymateb ag argymhelliad ffurfiol, ar ôl ystyried yn llawn y cynnydd a wnaed i gefnogi cyfrifiad yn seiliedig ar arolygon â data o ffynonellau amgen.

Y SYG sy’n gyfrifol am gynnal gweithrediad y cyfrifiad yng Nghymru a Lloegr. Mae’r SYG yn gweithio’n agos gyda Cofnodion Cenedlaethol yr Alban (NRS) ac Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon (NISRA) ac mae pob un ohonynt yn cynghori gweinidogion y llywodraethau datganoledig ar eu hystadegau am y boblogaeth.

Ymholiadau’r cyfryngau:

Cysylltwch â press@statistics.gov.uk neu +44 3000 671 571. Ar gyfer ymholiadau am ystadegau am y boblogaeth, cynnal y cyfrifiad, neu’r SYG, cysylltwch â media.relations@ons.gov.uk