Mae’r dudalen hon hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Heddiw, mae Awdurdod Ystadegau’r DU wedi argymell bod y Llywodraeth yn comisiynu cyfrifiad o Gymru a Lloegr yn 2031, i’w gyflawni gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (y SYG).
Gweinidogion sydd â’r pŵer i alw cyfrifiad gorfodol o’r boblogaeth gyfan yn seiliedig ar holiadur ac, yn hanesyddol, mae un wedi cael ei gynnal bob deng mlynedd.
Y cyfrifiad diweddaraf, a gynhaliwyd gan y SYG yn 2021, oedd y cyntaf i gael ei gwblhau ar lein yn bennaf, a chafodd ei gefnogi gan fwy o ddefnydd o ddata gweinyddol.
Yn ei argymhelliad ffurfiol i’r Llywodraeth, amlinellodd yr Awdurdod weledigaeth i’r SYG gynnal cyfrifiad arall o Gymru a Lloegr, a pharhau i ddatblygu amcangyfrifon o’r boblogaeth sy’n seiliedig ar ffynonellau data eraill yn bennaf – pethau fel cofnodion treth, data’r GIG a thrwyddedau gyrru – sydd â’r potensial i ddarparu amcangyfrifon amlach ac o ansawdd uwch. Gall y rhain helpu’r llywodraeth a chymdeithas i ddeall y boblogaeth ar draws ystod ehangach o bynciau, ac ateb cwestiynau mwy cymhleth.
Dywedodd Syr Robert Chote, Cadeirydd Awdurdod Ystadegau’r DU:
“Mae’r cyfrifiad wedi bod yn adnodd hanfodol ers tro byd ar gyfer deall ein cymdeithas a llywio penderfyniadau’r rhai sy’n llunio polisïau, darparwyr gwasanaethau cyhoeddus, busnesau a dinasyddion.
“Credwn mai cynnal cyfrifiad o ansawdd uchel ar gyfer Cymru a Lloegr yn 2031 wrth ddatblygu amcangyfrifon o’r boblogaeth yn seiliedig ar ddata gweinyddol ymhellach ar yr un pryd yw’r ffordd orau i wasanaethu er budd y cyhoedd. Bydd y naill beth yn ategu’r llall, gan gryfhau ein system ystadegol er mwyn iddi addasu i newidiadau technolegol a chymdeithasol y degawd nesaf.”
Dywedodd yr Ystadegydd Gwladol Dros Dro Emma Rourke:
“Cynhaliodd y SYG gyfrifiad hynod lwyddiannus yn 2021, a oedd yn gyfnod tyngedfennol i’r wlad. Sicrhaodd y gyfradd ymateb uchel a chyfoeth data’r cyfrifiad y darparwyd ciplun o ansawdd uchel o’r boblogaeth gyfan a’i nodweddion, sy’n parhau i ddarparu buddion i ddefnyddwyr ystadegol.
“Mae wedi bod yn glir o’n gwaith ymgynghori ac ymgysylltu bod y cyfrifiad bob deng mlynedd, y gofynnir i’r boblogaeth gyfan ei gwblhau, yn parhau i fod yn werthfawr tu hwnt er mwyn llywio’r penderfyniadau pwysicaf sy’n wynebu ein gwlad.”
Ychwanegodd: “Yn ogystal â chasglu data drwy gyfrifiad, gwyddom hefyd fod diddordeb cryf yn y gwelliannau i ansawdd, amlder ac ystod yr allbynnau y gallwn eu gweld drwy wneud mwy o ddefnydd o ffynonellau data amgen, a data gweinyddol yn arbennig, a brwdfrydedd drostynt. Mae’r cynnydd rydym wedi’i wneud yn golygu ein bod mewn sefyllfa dda i ddefnyddio data gweinyddol i gyfrannu at ein gweithgarwch gyda’r cyfrifiad a darparu allbynnau gwell rhwng cyfrifiadau.”
Nodiadau:
- Darllenwch yr argymhelliad ffurfiol gan Awdurdod Ystadegau’r DU ar ddyfodol ystadegau am y boblogaeth a mudo.
- Heddiw, mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol hefyd wedi cyhoeddi amrywiaeth o gynhyrchion gan gynnwys yr adroddiad Canlyniadau Ymgynghori, yr Asesiad Effaith ar Gydraddoldeb (Saesneg yn unig) ac Adroddiad y Cyfrifiad Cyffredinol (Saesneg yn unig).
O dan Ddeddf y Cyfrifiad 1920, fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Ystadegau a’r Gwasanaeth Cofrestru 2007 ac is-ddeddfwriaeth, gweinidogion sydd â’r pŵer i alw cyfrifiad gorfodol yn seiliedig ar holiadur ar gyfer Cymru a Lloegr.
Yn 2014, nododd Llywodraeth y DU yr uchelgais y caiff cyfrifiadau ar ôl 2021 eu cynnal gan ddefnyddio ffynonellau data eraill ac y caiff gwybodaeth ystadegol fwy amserol ei darparu. Yn 2018, ymrwymodd yr Ystadegydd Gwladol ar y pryd, John Pullinger, i ymateb ag argymhelliad ffurfiol, ar ôl ystyried yn llawn y cynnydd a wnaed i gefnogi cyfrifiad yn seiliedig ar arolygon â data o ffynonellau amgen.
Y SYG sy’n gyfrifol am gynnal gweithrediad y cyfrifiad yng Nghymru a Lloegr. Mae’r SYG yn gweithio’n agos gyda Cofnodion Cenedlaethol yr Alban (NRS) ac Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon (NISRA) ac mae pob un ohonynt yn cynghori gweinidogion y llywodraethau datganoledig ar eu hystadegau am y boblogaeth.
Ymholiadau’r cyfryngau:
Cysylltwch â press@statistics.gov.uk neu +44 3000 671 571. Ar gyfer ymholiadau am ystadegau am y boblogaeth, cynnal y cyfrifiad, neu’r SYG, cysylltwch â media.relations@ons.gov.uk