Rhagair gan yr Ystadegydd Gwladol Dros Dro

Emma Rourke smilingMae’r dudalen hon hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Sefydlwyd y Tasglu Data Cynhwysol (y Tasglu) ym mis Hydref 2020 gyda’r nod o sicrhau bod data a thystiolaeth ledled y DU yn adlewyrchu ac yn cynnwys pawb, fel bod pob aelod o gymdeithas yn cyfrif ac yn cael ei gyfrif a bod neb yn cael ei adael ar ôl. Ers cyhoeddi argymhellion y Tasglu, rydym wedi bod yn adrodd ar gynnydd yn erbyn yr argymhellion a gafodd eu datblygu er mwyn helpu i sicrhau system fwy cynhwysol.

Mae adroddiad eleni yn rhoi trosolwg o’r cynnydd rydym yn ei wneud o hyd wrth geisio sicrhau bod trefniadau casglu, cynhyrchu a hygyrchedd data yn fwy cynhwysol. Yn galonogol, mae metrigau’r Tasglu yn dangos bod 88% o’r 339 o brosiectau naill ai wedi’u cwblhau neu ar y trywydd cywir, sy’n adlewyrchu’r camau gweithredu cadarnhaol a gymerwyd ym mhob rhan o’r system dros y tair blynedd diwethaf.

Mae’r camau gweithredu cadarnhaol hyn a’r cynnydd a wnaed ym mhob rhan o’r system dros y tair blynedd diwethaf yn gosod sylfaen galonogol i ni asesu’r ffordd ymlaen. Rydym wedi ymgysylltu ag ystod eang o randdeiliaid i ddeall beth sydd wedi gweithio’n dda a ble mae angen gwneud gwelliannau. Rydym hefyd wedi edrych ar yr heriau sy’n wynebu prosiectau sydd wedi cael trafferth cyflawni, gan nodi gwersi a fydd yn cryfhau camau gweithredu yn y dyfodol.

Mae’r prif ganfyddiadau’n dangos bod y Tasglu wedi cael effaith ar draws y llywodraeth, gan helpu i amlygu pwysigrwydd data a dadansoddiadau cynhwysol a chefnogi gwaith i gyflawni hynny. Fodd bynnag, er mwyn sicrhau bod yr argymhellion yn parhau i ddarparu fframwaith cynaliadwy i hyrwyddo a llywio gwelliannau o ran data cynhwysol, rhaid i ni ystyried y meysydd nad oeddent wedi gweithio cystal ac edrych ar sut y gallwn atgyfnerthu effeithiolrwydd yn y meysydd hyn yn y dyfodol.

Mae’r canfyddiadau hefyd yn amlygu pwysigrwydd arweinyddiaeth gref a gwaith ymgysylltu parhaus er mwyn datblygu blaenoriaeth gyffredin a chyson i sicrhau bod cynhwysiant yn cael ei wreiddio mewn mentrau ar draws y system ystadegol. Mae hyn hyd yn oed yn bwysicach mewn cyfnod o gyfyngiadau ariannol ac mae angen ei ystyried fel mater o flaenoriaeth ar gyfer y dyfodol. Mae’r Tasglu yn cynnig fframwaith pwysig o hyd i lywio cynnydd tuag at wella data cynhwysol a’r her i ni yw adfer momentwm i barhau â’r gwaith hwn.

Yn olaf, mae hwn yn gyfle amserol i ddiolch i’r Fonesig Julia Cleverdon am ei harweinyddiaeth a’i gwasanaeth fel cadeirydd fy Mhwyllgor Cynghori ar Ddata Cynhwysol ers ei sefydlu ac i ddiolch hefyd i aelodau’r pwyllgor a fu’n gwasanaethu gyda hi. Edrychaf ymlaen yn awr at groesawu ein cadeirydd newydd, sef yr Athro Evelyn Collins, yn ogystal â’r aelodau newydd sy’n ymuno â’r pwyllgor yr hydref hwn.

Hyderaf y bydd yr adroddiad cynnydd a’r gwerthusiad hwn o’r hyn sydd wedi gweithio’n dda a’r hyn nad yw wedi gweithio cystal wrth gyflawni argymhellion y Tasglu Data Cynhwysol yn darparu gwybodaeth werthfawr i lywio ein taith barhaus tuag at ddata mwy cynhwysol.

Back to top