Adroddiad cynnydd blynyddol a gwerthusiad y Tasglu Data Cynhwysol: 2025
Published:
18 November 2025
Last updated:
18 November 2025
Adroddiad cynnydd blynyddol a gwerthusiad y Tasglu Data Cynhwysol: 2025
Published:
18 November 2025
Last updated:
18 November 2025
Crynodeb gweithredol
Fel rhan o’r asesiad terfynol o 339 o ymrwymiadau’r Tasglu, nodwyd bod 88% naill ai wedi’u cwblhau (55%) neu ar y trywydd cywir i’w cyflawni (33%). Nodwyd y bu oedi yn amserlen waith 8% o’r ymrwymiadau, ac aseswyd bod 3% arall wedi profi oedi sylweddol neu wedi cael eu gohirio’n dros dro.
Gan edrych ar yr Egwyddorion Data Cynhwysol (EDC), mae’r meysydd lle nodwyd y cyfrannau uchaf o brosiectau sydd wedi’u cwblhau neu sydd ar y trywydd cywir i’w cyflawni yn canolbwyntio ar sicrhau bod data a thystiolaeth y DU yr un mor hygyrch i bawb, gan ddiogelu manylion adnabod a chyfrinachedd y rhai sy’n rhannu eu data (EDC8 gyda 98% o brosiectau wedi’u cwblhau neu ar y trywydd cywir); ac ar sicrhau bod y cysyniadau a gaiff eu mesur yn briodol ac yn eglur (EDC5 gyda 94% o brosiectau wedi’u cwblhau neu ar y trywydd cywir).
Ar draws yr Egwyddorion Data Cynhwysol, mae’r meysydd sydd wedi bod fwyaf heriol o bosibl yn ymwneud â chreu amgylchedd o ymddiriedaeth a dibynadwyedd, gan annog pawb i gyfrif a chael eu cyfrif mewn data a thystiolaeth (EDC1 gyda 19% o brosiectau wedi’u hoedi, eu hoedi’n sylweddol neu’u gohirio dros dro); ac ehangu’r amrywiaeth o ddulliau a ddefnyddir a chreu dulliau newydd er mwyn deall profiadau holl boblogaeth y DU (EDC6 gydag 16% wedi’u hoedi neu’u gohirio dros dro).
Gan ganolbwyntio ar y prosiectau allweddol, roedd y rhai y tybiwyd y gallent gael yr effeithiau mwyaf sylweddol ar draws y system ystadegol yn perthyn yn anghymesur i EDC3 (sicrhau y caiff gwybodaeth am bob grŵp ei chofnodi mewn perthynas ag agweddau allweddol ar fywyd yn nata’r DU, ac adolygu arferion yn rheolaidd) ac EDC4 (gwella seilwaith data’r DU fel bod modd dadgyfuno data a dadansoddi croestoriadau, a hynny mewn ffordd gadarn a dibynadwy, ar gyfer yr ystod lawn o grwpiau a phoblogaethau perthnasol, ac ar lefelau gwahanol o ddaearyddiaeth). Ar adeg llunio’r adroddiad terfynol, yr egwyddorion hyn oedd yr unig rai lle roedd ymrwymiadau allweddol wedi’u hoedi’n ddifrifol neu’u gohirio dros dro ond yr egwyddorion hyn oedd â’r nifer mwyaf o ymrwymiadau a gyflawnwyd hefyd.
Yn achos y rhan fwyaf o brosiectau sydd wedi profi oedi cymedrol neu sylweddol, y bwriad yw y byddwn yn parhau i symud ymlaen â nhw yn y dyfodol. Yn unol â hyn, mae cynlluniau ar waith neu’n mynd rhagddynt ar gyfer y rhan fwyaf o’r rhain sy’n nodi sut y caiff y gwaith ei symud ymlaen a phryd.
O safbwynt y grŵp bach o brosiectau sydd wedi’u hoedi’n sylweddol neu nad oes disgwyl iddynt symud ymlaen ymhellach, nodwyd mai’r rhesymau dros hyn oedd diffyg adnoddau, fel cyllid annigonol, gwaith yn cael ei ddadflaenoriaethu am fod blaenoriaethau gweinidogol wedi newid, neu asesiad nad oes eu hangen ar ddefnyddwyr.
Cynhaliwyd gwerthusiad hefyd lle casglwyd safbwyntiau rhanddeiliaid ar beth a oedd wedi gweithio’n dda a beth nad oedd wedi gweithio cystal wrth roi argymhellion y Tasglu ar waith (Atodiad). Er y nodwyd ymgysylltu cadarnhaol i ddechrau ynghylch menter y Tasglu a’r Cynllun Gweithredu, gwanhaodd hyn yn raddol am fod newidiadau angenrheidiol i flaenoriaethau a lleihad cysylltiedig mewn adnoddau o fewn y SYG wedi effeithio ar strwythurau cyfathrebu a llywodraethu, a theimlwyd eu bod hefyd wedi’u datgysylltu wrth unrhyw fandad gweithredol. Caiff argymhellion yn yr adroddiad gwerthuso eu defnyddio i lywio gwaith cynllunio yn y dyfodol i gefnogi cynnydd tuag at gyflawni argymhellion y Tasglu.