Rhagair gan Gadeirydd Awdurdod Ystadegau’r DU

Mae’r dudalen hon hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Sir Robert ChoteFel Cadeirydd Awdurdod Ystadegau’r DU, mae’n bleser gennyf, ar ran ein Bwrdd, gymeradwyo’r cyngor a roddwyd i ni gan yr Ystadegydd Gwladol ar ddatblygiad ystadegau am y boblogaeth a mudo yn y dyfodol ar gyfer Cymru a Lloegr a chyflwyno’r argymhelliad hwn ar gyfer y camau nesaf sydd eu hangen i weinidogion.

Cyflwynwyd yr argymhelliad i’r Bwrdd ar 27 Mawrth 2025 gan Syr Ian Diamond, a ymddiswyddodd o’i rôl fel Ystadegydd Gwladol wedi hynny ar 9 Mai 2025. Mae’r Ystadegydd Gwladol Dros Dro, Emma Rourke, o blaid yr argymhelliad, ac mae’r Bwrdd yn parhau i’w gefnogi’n frwd. Hoffem ddiolch i Syr Ian am ei holl waith caled ynghyd â chydweithwyr i helpu i ddatblygu’r cynigion.

Argymhelliad yr Ystadegydd Gwladol yw comisiynu cyfrifiad gorfodol yn seiliedig ar holiadur yn 2031 – gan adeiladu ar lwyddiant a gwersi’r cyfrifiad diwethaf yn 2021 – a pharhau i ddatblygu ystadegau arloesol y SYG am y boblogaeth a mudo yn seiliedig ar ddata gweinyddol er mwyn darparu amcangyfrifon amlach a mwy amserol. Mae’r argymhelliad yn annog Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i ymrwymo i lif rheolaidd a dibynadwy o ddata gweinyddol, sy’n angenrheidiol er mwyn cynnal yr amcangyfrifon hyn a’u gwella ymhellach ac a fyddai’n cadw’r potensial i symud i system sy’n dibynnu’n fwy ar ddata gweinyddol yn y dyfodol pe bai gweinidogion yn dymuno gwneud hynny.

Mae Bwrdd yr Awdurdod o’r farn bod yr argymhelliad hwn yn cyd-fynd yn dda â’r anghenion a fynegwyd gan amrywiaeth eang o ddefnyddwyr, gan gynnwys yng Nghynulliad Ystadegau diweddar y DU. Bydd yn sicrhau’r manylder o ran nodweddion pobl y mae llawer o ddefnyddwyr am ei gael, wrth sicrhau bod ein hystadegau am y boblogaeth yn fwy dynamig ac ymatebol i alwadau sy’n datblygu. Yn bwysig, credwn fod yr argymhelliad hwn ar gyfer Cymru a Lloegr yn cynnig sylfaen adeiladol ar gyfer y penderfyniadau cyfatebol y bydd angen eu gwneud yn yr Alban a Gogledd Iwerddon a byddai’n sail i amcangyfrifon cadarn ar gyfer y DU gyfan.

Mae cyfrifiad gorfodol yn 2031 yn gyfle cyffrous i adeiladu ar gyflawniadau’r gorffennol, gan alluogi’r SYG i ymchwilio i ffyrdd newydd o wella cywirdeb, cynwysoldeb a hygyrchedd a manteisio ar ddatblygiadau ystadegol a thechnolegol arloesol er mwyn gwella’r ffordd y caiff data eu casglu, eu prosesu a’u dadansoddi mewn ffordd ddiogel a moesegol.

Gwnaeth Cyfrifiad 2021 eisoes wneud defnydd o ddata gweinyddol i ategu ffurflenni confensiynol y cyfrifiad a byddai mwy o gyfle i wneud hynny yn 2031. Mae hyn yn tanlinellu’r ffaith, yn y dull gweithredu llwybr deuol a argymhellir yma, fod un llwybr yn cryfhau’r llall.

Os bydd gweinidogion yn derbyn yr argymhelliad hwn, bydd y SYG a Bwrdd yr Awdurdod yn canolbwyntio’n ddiwyro ar ddarparu cyfrifiad o ansawdd uchel yn 2031 a datblygu amcangyfrifon o’r boblogaeth yn seiliedig ar ddata gweinyddol ymhellach mewn ffordd sy’n diwallu anghenion defnyddwyr ac yn sicrhau gwerth am arian. Byddwn yn monitro cynnydd yn ofalus ac mewn modd tryloyw, ac yn sicrhau bod defnyddwyr yn parhau i gael eu cynnwys yn llawn wrth i’r cynlluniau gael eu datblygu ymhellach a’u rhoi ar waith. Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y broses o ddatblygu’r cynigion hyn.

Syr Robert Chote
Cadeirydd Awdurdod Ystadegau’r DU
Mehefin 2025

Back to top
Download PDF version (7.75 MB)