Monitro ac adrodd ar gynnydd
Mae’r allbynnau a ddisgwylir o uchelgais hirdymor yr Awdurdod i roi data gweinyddol wrth wraidd ystadegau am y boblogaeth a mudo fel a ganlyn:
- Ystadegau am y boblogaeth a mudo ar lefel genedlaethol a lleol, gan gynnwys amcangyfrifon cydlynol ar gyfer y DU.
- Ystadegau am nodweddion, tai a threfniadau byw, gan wella ein dealltwriaeth o gymdeithas a chymunedau ar lefel genedlaethol a lefel leol, gan gynnwys ystadegau amlamryweb.
- Amcanestyniadau o’r boblogaeth a chartrefi gan gynnwys amcanestyniadau amrywiadol mewn ymateb i anghenion defnyddwyr.
- Dealltwriaeth arbenigol o newid demograffig strwythurol a’r heriau demograffig cysylltiedig sy’n wynebu ein cymdeithas (gan gynnwys heneiddio, ffrwythlondeb a marwoldeb), gan ymgorffori dealltwriaeth o ddemograffeg ym mhob rhan o’r llywodraeth.
- Asedau data trawstoriadol a hydredol sy’n caniatáu ar gyfer ymchwil a dadansoddi.
- Dangosyddion a gwybodaeth ychwanegol sy’n darparu dealltwriaeth newydd neu gynnar o’r boblogaeth, a gaiff eu hadeiladu o ffynonellau data sydd eisoes yn bodoli a rhai newydd.
Bydd yr Awdurdod yn monitro ac yn adrodd yn gyhoeddus ar gynnydd y SYG o ran cyflawni’r argymhellion hyn fesul cyfnod yn y dyfodol. Dylai’r adroddiad cyntaf gael ei lunio yn 2026.
Er mwyn cefnogi’r gwaith adrodd hwn, mae’r Awdurdod yn cynnig sefydlu is-bwyllgor â phwyslais penodol ar gyfer y Bwrdd, gyda chylch gwaith i gynghori’r Bwrdd yn rheolaidd ar gynnydd o ran y system ystadegau poblogaeth gyfan. Byddai’n cynnwys uwch-arweinwyr o bob rhan o’r llywodraeth a thu hwnt, ar y cyd ag arbenigwyr perthnasol a chyfarwyddwyr anweithredol yr Awdurdod.
Back to top