Rhagair gan yr Ystadegydd Gwladol Dros Dro
Fel yr Ystadegydd Gwladol Dros Dro, rwyf yn cyflwyno’r argymhelliad hwn ar ran y Swyddfa Ystadegau Gwladol (y SYG), gan gynnig bod paratoadau yn dechrau ar gyfer cyfrifiad yn 2031 yng Nghymru a Lloegr. Os bydd y Llywodraeth yn dewis derbyn yr argymhelliad hwn, bydd y SYG unwaith eto’n gwahodd y boblogaeth gyfan i gymryd rhan yn yr ymarfer hwn sy’n sicrhau bod pob un o’n cymunedau yn weladwy ac sy’n hynod bwysig er mwyn llywio penderfyniadau am fywydau pob un ohonom.
Cynhaliodd y SYG gyfrifiad hynod lwyddiannus yn ystod pandemig COVID-19 yn 2021, ar adeg hollbwysig i’r wlad. Defnyddiwyd data cynnar o’r cyfrifiad gan wneuthurwyr polisïau, gan gynnwys llywio materion allweddol fel nifer y bobl a fanteisiodd ar frechlyn yn ôl galwedigaeth. Sicrhaodd y gyfradd ymateb uchel a chyfoeth data’r cyfrifiad y darparwyd ciplun o ansawdd uchel o’r boblogaeth gyfan a’i nodweddion, sy’n parhau i ddarparu manteision dirifedi i ddefnyddwyr ystadegol.
Mae wedi bod yn glir o’n gwaith ymgynghori ac ymgysylltu bod y cyfrifiad bob deng mlynedd, y gofynnir i’r boblogaeth gyfan ei gwblhau, yn parhau i fod yn werthfawr tu hwnt er mwyn llywio’r penderfyniadau pwysicaf sy’n wynebu ein gwlad.
Yn ogystal â chasglu data drwy gyfrifiad, gwyddom hefyd fod diddordeb cryf yn y gwelliannau i ansawdd, amlder ac ystod yr allbynnau y gallwn eu gweld drwy wneud mwy o ddefnydd o ffynonellau data amgen, a data gweinyddol yn arbennig, a brwdfrydedd drostynt. Drwy ymchwil y SYG i ddata gweinyddol dros y degawd diwethaf, rwyf wedi’i goruchwylio dros y blynyddoedd diwethaf fel y Dirprwy Ystadegydd Gwladol ar gyfer Iechyd, y Boblogaeth a Dulliau, rydym wedi dangos eu potensial enfawr o ran diwallu anghenion defnyddwyr.
Er nad yw’r data gweinyddol yn ddigon aeddfed eto i ddisodli’r angen i gasglu data drwy gyfrifiad, mae’r cynnydd rydym wedi’i wneud yn golygu ein bod mewn sefyllfa dda i ddefnyddio data gweinyddol i gyfrannu at ein gweithgarwch gyda’r cyfrifiad a darparu allbynnau gwell rhwng cyfrifiadau. Mae defnyddio’r elfennau gorau o’n profiad gyda’r cyfrifiad a’n galluoedd digidol a data sy’n cynyddu’n barhaus yn ein galluogi i ddarparu system ystadegau am y boblogaeth a mudo sy’n cefnogi prosesau gwneud penderfyniadau ac yn cyfoethogi ein dealltwriaeth o’r economi a chymdeithas.
Edrychaf ymlaen at barhau i weithio gyda’n defnyddwyr i ddatblygu ystadegau am y boblogaeth a mudo sy’n ysbrydoli hyder ac yn cyfoethogi prosesau gwneud penderfyniadau i bob un ohonom.