Crynodeb gweithredol
Mae ystadegau am y boblogaeth a mudo yn rhoi mewnbwn hanfodol i brosesau penderfynu cyrff yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r sector gwirfoddol. Maent yn helpu pobl i ddeall y gymdeithas rydym yn byw ynddi wrth iddi ddatblygu. Maent yn helpu llywodraeth ganolog a llywodraeth leol i sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu darparu i’r bobl sydd eu hangen, ac y caiff adnoddau eu dyrannu’n effeithiol. Maent yn helpu busnesau i fuddsoddi yn y lleoedd cywir. Ac maent yn helpu’r rhai sy’n defnyddio ystadegau am y DU gyfan i feithrin dealltwriaeth resymegol o’r boblogaeth ledled y DU.
Am ddegawdau, mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi gofyn cwestiynau i’r boblogaeth gyfan drwy’r cyfrifiad a gaiff ei gynnal bob deng mlynedd yng Nghymru a Lloegr. Mae hyn wedi bod yn rhan ganolog o’r system hon ac yn sail i ddulliau dibynadwy a chyson o fesur ystadegau am y boblogaeth a mudo.
Gweledigaeth yr Awdurdod yw cael system gynaliadwy ar gyfer ystadegau am y boblogaeth sy’n cynhyrchu data o ansawdd uchel y gellir ymddiried ynddynt. Drwy ymgynghori, mae’r SYG wedi canfod bod defnyddwyr yn parhau i feddwl bod y cyfrifiad bob deng mlynedd yn ased amhrisiadwy er mwyn diwallu eu hanghenion. Ond gwnaethant hefyd ddweud wrthym fod angen ystadegau mwy rheolaidd ac amserol arnynt er mwyn deall y newidiadau sy’n digwydd mewn cymdeithas.
Mae’r Awdurdod yn argymell bod y Llywodraeth yn comisiynu cyfrifiad o’r boblogaeth gyfan yn seiliedig ar holiadur yn 2031.
Mae cynnal cyfrifiad yn 2031 yn gyfle cyffrous i adeiladu system o ystadegau am y boblogaeth a mudo sy’n cyfuno cryfderau’r broses o gasglu data am y boblogaeth gyfan â’r gwerth ychwanegol y gall data gweinyddol ei gynnig.
Mae gan y SYG ddegawdau o brofiad o gynnal cyfrifiadau. Yn 2031, byddai’r SYG yn adeiladu ar ei phrofiad o Gyfrifiad 2021. Hwn oedd y cyfrifiad cyntaf i gael ei gwblhau ar lein yn bennaf, gan gyflawni cyfradd ymateb uchel, a gwnaeth fwy o ddefnydd o ddata gweinyddol (Saesneg yn unig) na chyfrifiadau blaenorol.
Yn 2031, byddai’r SYG yn ceisio ehangu’r defnydd o ddata gweinyddol er mwyn sicrhau effeithlonrwydd pellach a bod yn fwy cynhwysol, yng ngoleuni’r cynnydd y mae wedi’i wneud gydag ystadegau yn seiliedig ar ddata gweinyddol dros y degawd diwethaf ac yn unol â newidiadau a welir yn rhyngwladol.
Mae ein defnydd o ddata gweinyddol wedi datblygu’n sylweddol ers 2021. Er nad yw’r data hyn yn ddigon aeddfed eto i negyddu’r angen am gyfrifiad, gallant chwarae rôl gynyddol bwysig yn y system yn y dyfodol, a dylent wneud hynny, gan gefnogi’r cyfrifiad a galluogi amcangyfrifon amlach ac o ansawdd uwch ar ystod ehangach o bynciau cyn ac ar ôl y cyfrifiad.
Yn rhaglen Y Tu Hwnt i 2011 (Saesneg yn unig), ystyriodd y SYG y ffyrdd y caiff data am y boblogaeth eu casglu ac, ers hynny, gwnaed cynnydd o ran darparu ystadegau am y boblogaeth a mudo sy’n seiliedig ar ddata gweinyddol. Mae hyn yn cynnwys cyhoeddi amcangyfrifon o’r boblogaeth sydd wrthi’n cael eu datblygu yn seiliedig ar ddata gweinyddol ar gyfer canol 2023 (Saesneg yn unig) a’n hamcangyfrifon swyddogol o fudo rhyngwladol hirdymor (Saesneg yn unig), a gyhoeddwyd ym mis Mai 2025.
Mae diogelwch gwybodaeth bersonol y cyhoedd yn flaenoriaeth bwysig. Mae gan y SYG hanes cryf o ddiogelu data sensitif, wedi’i ategu gan ddeddfwriaeth a’i feithrin dros sawl degawd o gynnal y cyfrifiad yng Nghymru a Lloegr, ac arolygon rheolaidd mwyaf y DU o gartrefi. Mae Strategaeth Ddata’r (Saesneg yn unig) SYG a ddiweddarwyd yn ddiweddar yn ailddatgan ac yn diweddaru ei hymrwymiad i ddiogelu data. Nid yw allbynnau ystadegol a gaiff eu cyhoeddi byth yn adnabod unigolion.
Mae’r Llywodraeth wedi gwneud ymrwymiad clir i agenda ddigidol drawsnewidiol (Saesneg yn unig) fel ysgogydd sylweddol ar gyfer diwygio gwasanaethau cyhoeddus. Mae hwn yn gyfle pwysig i ysgogi’r defnydd o ddata gweinyddol a’u hansawdd – nid dim ond ar gyfer ystadegau am y boblogaeth a mudo, ond yn ehangach. Mae gan y data hyn y potensial i sicrhau buddion i bob rhan o gymdeithas drwy ystadegau’r SYG, a byddai’r gwelliannau angenrheidiol i ansawdd y ffynonellau sylfaenol hefyd o fudd i’r sefydliadau cyflenwi, ac yn helpu i fesur cynnydd o ran pum Cenhadaeth a Chynllun ar gyfer Newid y Llywodraeth.
Mae gan sawl gwlad gofrestrau poblogaeth gorfodol sy’n helpu i wella’r broses o gysylltu data gweinyddol er mwyn creu ystadegau. Gwnaed cymariaethau rhyngwladol ar y thema hon yn yr Adolygiad Annibynnol diweddar o Awdurdod Ystadegau’r DU (Saesneg yn unig). Mae’r mater hwn y tu hwnt i gylch gwaith yr Awdurdod, ond gall mentrau newydd gan y Llywodraeth sy’n ymwneud â dulliau adnabod digidol gynnig buddion ystadegol tebyg a byddai’r SYG yn ceisio bod yn bartner yn y gwaith o’u datblygu.
Byddai cyfuno cyfrifiad o’r boblogaeth gyfan yn seiliedig ar holiadur â’r defnydd effeithiol o ddata gweinyddol yn creu system wydn ar gyfer cynhyrchu ystadegau am y boblogaeth sy’n canolbwyntio ar y dyfodol. Bydd hyn yn helpu i ddarparu pob manylyn sydd ei angen ar ddefnyddwyr, ynghyd â darparu dealltwriaeth well o’r ffordd y mae cymdeithas yn newid yn ystod y blynyddoedd rhwng cyfrifiadau.
O ganlyniad i hyn, gyda chyngor yr Ystadegydd Gwladol, ac ar ôl adolygu’r holl dystiolaeth, mae’r Awdurdod yn argymell system ystadegol ar gyfer y boblogaeth a mudo sy’n cyfuno cryfderau casglu data drwy gyfrifiad o’r boblogaeth gyfan sy’n seiliedig ar holiadur â’r gwerth cynyddol o ddata gweinyddol, er mwyn cefnogi’r gwaith o gynnal cyfrifiad yn 2031 a sicrhau allbynnau gwell bob blwyddyn. Argymhellir y tri cham gweithredu canlynol er mwyn cyflawni’r weledigaeth hon:
- Bod Llywodraeth y DU yn comisiynu ac yn rhoi adnoddau i’r SYG gynnal cyfrifiad gorfodol yn seiliedig ar holiadur o’r boblogaeth gyfan yng Nghymru a Lloegr yn 2031. Dylai gefnogi allbynnau cydlynol y DU a sicrhau bod gwaith y SYG gyda data gweinyddol hyd yn hyn yn darparu cynifer o fuddion â phosibl, fel y gellir parhau i ddarparu buddion o’r fath yn y dyfodol.
- Bod Llywodraeth y DU yn comisiynu ac yn rhoi adnoddau i’r SYG ddatblygu allbynnau ystadegol gan ddefnyddio data gweinyddol sy’n darparu amcangyfrifon mwy rheolaidd ac sy’n gynhwysol wrth gynrychioli cymdeithas. Dylai hyn gynnwys cyfrifiad o’r boblogaeth yn seiliedig ar ddata gweinyddol.
- Bod Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i sicrhau bod llif rheolaidd, dibynadwy a pharhaus o’r setiau data gweinyddol hanfodol sydd eu hangen, gan sicrhau bod perchnogion data yn cyflawni’r ymrwymiad hwnnw, ac yn buddsoddi yn y gwelliannau gofynnol i’r ffynonellau hynny ac yn mynd i’r afael â’r elfennau hysbys sy’n gwrthdaro ac yn atal data rhag cael eu trosglwyddo.
Byddai’r argymhellion hyn yn galluogi’r SYG i gynnal cyflymder ac uchelgais ei gwaith i ymgorffori data gweinyddol yn ei hystadegau am y boblogaeth a mudo, wrth ymateb i adborth gan ddefnyddwyr mewn perthynas â dull casglu data cynhwysfawr a chynhwysol.
Y SYG sy’n gyfrifol am gynnal y cyfrifiad yng Nghymru a Lloegr, ond gweinidogion y llywodraeth sydd â’r pŵer i alw cyfrifiad. Caiff penderfyniadau ar ddyfodol y cyfrifiad yn yr Alban a Gogledd Iwerddon eu gwneud gan y gweinidogion perthnasol, yn seiliedig ar gyngor eu hawdurdodau ystadegol, maes o law.
Fel y nodwyd yn Adolygiad Annibynnol diweddar yr Athro Denise Lievesley o Awdurdod Ystadegau’r DU (Saesneg yn unig), mae’n hanfodol bod ystadegwyr y DU yn cydweithio i sicrhau bod data ac ystadegau cydlynol a chymaradwy am boblogaeth y DU yn parhau i gael eu cynhyrchu er mwyn rhoi gwybodaeth i gymunedau ledled y DU. Mae’r Awdurdod wedi cyhoeddi ei adroddiad ar gyfer 2024 (Saesneg yn unig) ar y gwaith cydweithredol hwn i gefnogi cydlyniant yn y DU.
Back to top