Cefndir

Mae ystadegau o ansawdd uchel am y boblogaeth a mudo yn creu darlun manwl o’n cymdeithas. Maent yn rhoi gwybodaeth i wneuthurwyr polisïau llywodraeth leol a chanolog, darparwyr gwasanaethau cyhoeddus, busnesau’r sector preifat a sefydliadau’r sector gwirfoddol sydd ei hangen arnynt i wneud penderfyniadau da a darparu gwasanaethau a chynhyrchion yn effeithiol. Maent hefyd yn helpu dinasyddion, y cyfryngau, melinau trafod ac ymchwilwyr i ddeall sut mae maint a chyfansoddiad y boblogaeth yn datblygu.

Ers dros ddwy ganrif, mae’r cyfrifiad traddodiadol yn seiliedig ar holiadur o’r boblogaeth gyfan wedi bod yn un o’r ffynonellau pwysicaf ar gyfer y wybodaeth hon yng Nghymru a Lloegr, gan roi cipolwg ar y boblogaeth bob deng mlynedd. Dull syml o gyfrif y boblogaeth oedd y cyfrifiad yn wreiddiol, ond mae wedi datblygu dros amser, gan ddefnyddio dulliau cynyddol soffistigedig a chwestiynau sy’n adlewyrchu blaenoriaethau amrywiol ein cymdeithas sy’n newid yn gyflym.

Gwnaeth Cyfrifiad 2021 fwy o ddefnydd o ddata gweinyddol nag erioed o’r blaen (Saesneg yn unig) a dyma oedd y tro cyntaf iddo gael ei gynnal ar-lein yn bennaf, yn dilyn argymhelliad gan yr Ystadegydd Gwladol yn 2014. Cafwyd cyfradd ymateb uchel, gyda 97% o’r holl gartrefi yn cwblhau’r holiadur, a chafodd pob ardal awdurdod lleol gyfradd ymateb o 88% o leiaf. Hefyd, cafodd data eu rhyddhau yn fwy amserol nag erioed o’r blaen, a chyhoeddwyd y canlyniadau cyntaf flwyddyn ar ôl yr ymgyrch casglu data, a chyhoeddwyd pob prif ddatganiad ar gyfer Cymru a Lloegr erbyn diwedd 2023.

Roedd papur gwyn 2018, ‘Helpu i Lunio Ein Dyfodol’, yn cynnwys yr ymrwymiad i gyflwyno argymhelliad i Lywodraeth y DU ar ddyfodol y cyfrifiad, ac mae cyhoeddi’r ddogfen hon yn cyflawni’r ymrwymiad hwnnw.

Mae ehangder a manylder y data gweinyddol a ddelir ar draws y Llywodraeth yn cynrychioli cyfle enfawr ar gyfer trawsnewid ystadegau. Mae gwaith helaeth a wnaed gan y SYG dros y degawd diwethaf wedi dangos beth sy’n bosibl gyda’r data hyn. Mae’r cynnydd hwn yn dangos cryn addewid o ran datblygu ystadegau swyddogol gan ddefnyddio data gweinyddol. Mae’r Awdurdod o’r farn y dylid parhau i sicrhau adnoddau ar gyfer y gwaith hwn yn yr hirdymor, fel y gall yr allbynnau hyn aeddfedu’n llawn, gan arwain y ffordd ar gyfer system ystadegol fwy cynaliadwy a rhagweladwy sy’n manteisio’n llawn ar ddatblygiadau o ran technoleg ac argaeledd data.

Ym mhedwar ban byd, mae sefydliadau ystadegol cenedlaethol yn ymchwilio i’r defnydd cynyddol o ddata gweinyddol (Saesneg yn unig) fel rhan o’u strategaeth i fynd i’r afael â heriau mewn perthynas ag ansawdd, cwmpas ac argaeledd data. Mae llawer o’r gwledydd hyn yn dibynnu ar y cryfder a grëir drwy ddulliau cyfunol.

Mae’r cynnydd a wnaed dros y blynyddoedd diwethaf mewn perthynas ag ystadegau yn seiliedig ar ddata gweinyddol yn cynnig y cyfle i bwysleisio ein dull o ddylunio a chynnal gweithrediad cyfrifiad traddodiadol. Bydd hyn yn sicrhau bod y ffordd y caiff y cyfrifiad yn 2031 ei gynnal yn gadarn, gan ddefnyddio cryfderau ffynonellau data gwahanol ac ymateb i’r risg a gyflwynir gan gyfraddau ymateb isel i arolygon cymdeithasol a chyfrifiadau diweddar mewn gwledydd eraill ers y pandemig. Byddai hyn yn cyfuno effeithlonrwydd a chyfleoedd data gweinyddol â’r raddfa a’r manwl gywirdeb a geir o gyfrifiad gorfodol sy’n seiliedig ar holiadur.

Mae’r Llywodraeth wedi gwneud ymrwymiad clir i agenda ddigidol drawsnewidiol (Saesneg yn unig) fel ysgogydd allweddol ar gyfer diwygio gwasanaethau cyhoeddus, a fyddai’n gatalydd sylweddol i wireddu pŵer llawn data gweinyddol. Bydd yr ymrwymiad hwn yn arwyddocaol o ran dileu’r heriau a wynebir ar hyn o bryd gyda rhannu data a bydd yn hanfodol i’r gwaith parhaus o ddatblygu uchelgais hirdymor y SYG mewn perthynas â data gweinyddol.

Mae’r cyfoeth o waith dadansoddi y mae data gweinyddol yn ei alluogi yn cynyddu bob blwyddyn ac, mewn amser, gyda’r buddsoddiad cywir, gallai un diwrnod ragori ar fuddion cyfrifiad traddodiadol.

Fel rhan o Raglen Trawsnewid y Cyfrifiad a Chasglu Data, nododd yr Awdurdod y tri maen prawf gwerthuso canlynol ar gyfer asesu unrhyw argymhelliad posibl:

  1. Cefnogir cynlluniau’r SYG ar gyfer system ystadegol y dyfodol gan ddefnyddwyr fel modd o ddiwallu eu hanghenion craidd am ystadegau ynghylch maint a chyfansoddiad poblogaeth Cymru a Lloegr, ei nodweddion a’i stoc dai.
  2. Bydd y system ystadegol hon yn ddigon hyblyg a chadarn i ymateb yn gyflym i anghenion defnyddwyr yn y dyfodol, a rhai sy’n dod i’r amlwg, gan addasu i newidiadau yn y ffynonellau data sydd ar gael; a bydd yn gallu mynd y tu hwnt i anghenion craidd.
  3. Mae dulliau a ffyrdd o weithredu wedi’u hadolygu gan gymheiriaid ac yn cydymffurfio ag ystyriaethau deddfwriaethol a moesegol perthnasol. Mae ein cynlluniau wedi’u derbyn gan y cyhoedd ac mae achos busnes a chynllun rhaglen ar waith er mwyn creu system ystadegol gynaliadwy.

Er mwyn cefnogi’r gwaith o ddatblygu argymhelliad sy’n cyd-fynd â’r meini prawf hyn, mae’r Awdurdod wedi ystyried amrywiaeth o dystiolaeth sy’n deillio o ymchwil y SYG, ymgynghoriad cyhoeddus a chyngor arbenigol. Asesiad y SYG yw y bydd defnyddwyr yn croesawu cyfrifiad yn seiliedig ar holiadur o’r boblogaeth gyfan yn 2031 a’r argymhellion a wneir yn y ddogfen hon.

Mae’r SYG wedi cyhoeddi ymchwil helaeth ar ei gwefan mewn ymgynghoriad ag arbenigwyr annibynnol ym maes methodoleg, moeseg data a chynwysoldeb. Hefyd, cynhaliodd ymgynghoriad cyhoeddus ar ddyfodol ystadegau am y boblogaeth a mudo rhwng mis Mehefin a mis Hydref 2023. Gan gyd-daro â lansiad yr ymgynghoriad, cyhoeddodd y SYG grynodeb o’r ymchwil i drawsnewid ystadegau am y boblogaeth a mudo (Saesneg yn unig) a’i hasesu yn erbyn y meini prawf gwerthuso.

Mae Strategaeth Ddata’r SYG (Saesneg yn unig) yn ceisio gwireddu gwerth llawn data fel ased strategol, wrth gynnal lefelau uchel o ymddiriedaeth a thryloywder. Wrth i’r SYG weithio i roi hyn ar waith, bydd setiau data gweinyddol cysylltiol yn chwarae rôl gynyddol bwysig yn y gwaith o gynhyrchu ei hystadegau. O ystyried natur sensitif y data sydd wedi’u cynnwys yn y setiau data hyn, mae cynnal ymddiriedaeth y cyhoedd yn hollbwysig.

Gan ddilyn cyngor gan Bwyllgor Cynghorol Moeseg Data’r Ystadegydd Gwladol (Saesneg yn unig), mae’r SYG wedi ymgysylltu’n uniongyrchol ag aelodau o’r cyhoedd er mwyn archwilio agweddau cyfoes at ddata a ph’un a yw’r rhain yn newid dros amser. Ym mis Mehefin 2023, cyhoeddodd y SYG grynodeb o agweddau’r cyhoedd at ddata (Saesneg yn unig), gan gynnwys safbwyntiau ar gysylltu data a defnyddio data gweinyddol at ddibenion ystadegol. Mae hyn yn defnyddio ystod o ffynonellau’r SYG a ffynonellau allanol rhwng 2014 a 2023. Mae’r ymchwil ddiweddaraf yn awgrymu bod y cyhoedd yn derbyn prosesau rhannu a chysylltu data i raddau helaeth, a bod hyn wedi bod yn gyson wir dros y degawd. At hynny, mae aelodau o’r cyhoedd yn tybio’n gynyddol fod rhannu a chysylltu data eisoes yn arferion cyffredin ar draws sefydliadau’r llywodraeth.

Mae’r Awdurdod yn cydnabod bod yn rhaid i’r SYG weithio i gynnal lefelau uchel o ymddiriedaeth. Dylai’r SYG gynnal a chryfhau ei hymrwymiadau i gynnal tryloywder gyda’r cyhoedd ynglŷn â pha ffynonellau data a gaiff eu defnyddio a sut. Mae hyn yn cynnwys rhannu gwybodaeth am y mesurau preifatrwydd a diogelwch sydd ar waith i gynnal ymddiriedaeth ac amddiffyn preifatrwydd.

Back to top
Download PDF version (7.75 MB)