Cyngor gan y Panel Adolygu Sicrwydd Methodolegol

Yn ystod rhaglen ymchwil y Swyddfa Ystadegau Gwladol (y SYG) i’r defnydd o ddata gweinyddol ar gyfer ystadegau am y boblogaeth a mudo, aeth ati i ymgynghori â’r Panel Adolygu Sicrwydd Methodolegol (MARP) (Saesneg yn unig). Mae’r adran hon yn cynnwys crynodebau o’r prif bwyntiau a’r adborth a gafwyd gan y MARP ar y cynigion yn yr ymgynghoriad a’r argymhelliad a ddeilliodd ohono.

Ffurfiwyd y MARP gan yr Ystadegydd Gwladol i adolygu dulliau a ddefnyddir i gynhyrchu ystadegau swyddogol a rhoi cyngor a sicrwydd yn eu cylch. Mae’r rhain yn cyd-fynd â’r canllawiau yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau (Saesneg yn unig) ar sicrhau ansawdd drwy adolygiadau gan gymheiriaid.

Yn dilyn adolygiad o ddulliau ac ymchwil sy’n gysylltiedig â Chyfrifiad 2021 a dyfodol ystadegau am y boblogaeth a mudo, ym mis Tachwedd 2023 lluniodd y MARP gyngor cychwynnol i’r Ystadegydd Gwladol (Saesneg yn unig).

Ym mis Mawrth 2025, cytunodd y MARP ar y datganiad canlynol i’w gynnwys yn y ddogfen hon, yn seiliedig ar y cyngor a oedd yn dod i’r amlwg i’r Awdurdod gan yr Ystadegydd Gwladol:

“Mae argymhelliad yr Ystadegydd Gwladol yn rhagweld dibyniaeth gynyddol ar ddata gweinyddol ar gyfer y system ystadegau am y boblogaeth a mudo yn y dyfodol, ar y cyd â chyfrifiad bob deng mlynedd yn 2031. Er mwyn i’r cyfuniad hwn gyflawni ei botensial, un amod sylfaenol yw cyflenwad diogel a dibynadwy o ddata gweinyddol o ansawdd da i gefnogi gwaith o SYG o gynhyrchu ystadegau swyddogol sy’n addas at ei dibenion ei hun ac at ddibenion eraill. Rydym felly’n cefnogi’r argymhelliad y dylai’r llywodraethau perthnasol (Llywodraeth y DU a llywodraethau datganoledig, yn ogystal â phob rhan berthnasol o’r wladwriaeth) ymrwymo i gyflawni a datblygu hyn yn gryf.

“Mae’r cynigion methodolegol y mae’r MARP wedi’u hadolygu hyd yma yn dilyn ymarfer methodolegol cadarn, ac yn dangos addewid a chynnydd yng nghyd-destun y weledigaeth arfaethedig. Mae manylion llawn y gwaith a adolygwyd ar gael ar wefan MARP. Fel rydym wedi’i gynghori, mae materion methodolegol i’w datrys o hyd er mwyn cyflawni’r weledigaeth ac, yn wir, mae’r profiad a geir wrth i’r broses fynd rhagddi yn debygol o arwain at gwestiynau a fyddai’n elwa ar ystyriaeth fethodolegol. Rydym yn hyderus bod y SYG yn deall yr hyn sydd ei angen ac y bydd yn ystyried hyn fel rhan o’r dasg o ddatblygu’r dull gweithredu newydd yn ymarferol. Ond mae llawer i’w wneud o hyd.

“Un enghraifft y bydd angen rhoi sylw penodol iddi yw’r dull o fesur nodweddion, gan y bydd gwahaniaethau o ran y diffiniadau, y manylion categorïaidd a lefel y manylder sydd ar gael yn y ffynonellau data gweinyddol amrywiol, a’r darparwyr data unigol fydd yn rheoli’r rhain. Bydd mecanweithiau casglu data yn newid dros amser, ac felly mae’n bosibl y bydd effaith ar gysondeb amserol. Ni fydd rhai nodweddion yn ymddangos rhyw lawer mewn data gweinyddol, os o gwbl. Ar gyfer nodweddion, ac yn fwy cyffredinol, bydd angen asesu ansawdd y ffynonellau data gweinyddol er mwyn sicrhau bod y data yn addas at y diben. Yn ogystal, bydd angen sicrhau y bydd yr ansawdd hwn yn parhau i’r dyfodol. Bydd angen addasiadau priodol o ran cwmpas hefyd.

“Yn gyffredinol, bydd Cyfrifiad 2031 yn cynnig cam gwirio pwysig iawn ar gyfer yr allbynnau yn seiliedig ar ddata gweinyddol yn y cyfamser, a bydd yn ei gwneud yn bosibl i asesu cynnydd o ran cyflawni’r data gweinyddol angenrheidiol. Bydd angen i’r asesiad hwn ystyried materion megis cysondeb amserol ac argaeledd parhaus data gweinyddol, yn ogystal â ph’un a yw ffynonellau data newydd sy’n dechrau llifo wedi cael eu cyflwyno’n briodol. Serch hynny, byddem yn cynghori’r SYG i baratoi opsiynau wrth gefn yn erbyn risg na fydd cyflenwad, ansawdd neu hygyrchedd data gweinyddol yn ddigonol er mwyn cynnal safonau’r SYG, gan gynnwys lefel ymddiriedaeth y cyhoedd mewn ystadegau swyddogol. Yn ogystal, dylai fod gwaith parhaus ar gostau a manteision y dull gweithredu ar ei newydd wedd.”

Back to top
Download PDF version (7.75 MB)