Argymhelliad 1: cyfrifiad ar gyfer Cymru a Lloegr yn 2031
Mae ystadegau o ansawdd uchel am y boblogaeth yn hanfodol er mwyn sicrhau bod pobl yn cael y gwasanaethau a’r cymorth sydd eu hangen arnynt, yn eu cymunedau ac yn genedlaethol. Mae adborth a gafwyd wrth ymgysylltu â defnyddwyr yn dangos angen clir i barhau i ddarparu ystadegau manwl iawn y gellir eu cyflawni drwy gyfrifiad yn seiliedig ar holiadur o’r boblogaeth gyfan. Byddai hyn yn darparu sylfaen gref ar gyfer gwaith parhaus y SYG gyda data gweinyddol wrth iddynt barhau i aeddfedu.
Dylai Llywodraeth y DU felly gomisiynu a rhoi adnoddau i’r SYG ddechrau paratoadau ar gyfer cyfrifiad yn seiliedig ar holiadur yn 2031. Dylai’r cyfrifiad hwn gael ei gynllunio ar gyfer cymdeithas yn 2031, gan adeiladu ar yr arbenigedd a ddatblygwyd gan y SYG yn 2021, a sicrhau effeithlonrwydd drwy integreiddio data gweinyddol ym mhroses casglu data cyfrifiad traddodiadol sy’n seiliedig ar holiadur ymhellach. Dylai’r SYG sicrhau bod y data sy’n deillio o’r cyfrifiad yn cefnogi datblygiad parhaus yr allbynnau yn seiliedig ar ddata gweinyddol a ddisgrifir yn Argymhelliad 2.
Prif ddiben gweithrediad cyfrifiad traddodiadol yn hanesyddol fu darparu’r mesur stoc ar gyfer amcangyfrifon canol blwyddyn o’r boblogaeth. Caiff amcangyfrifon o’r boblogaeth eu defnyddio mewn amrywiaeth o ffyrdd i lywio prosesau gwneud penderfyniadau, fel pwysoliadau arolygon, ac fel enwaduron. Mae nodau ychwanegol cyfrifiad sy’n seiliedig ar ddata gweinyddol yn cynnwys casglu data manwl ar nodweddion a rhinweddau, a’r gallu i ddarparu set ddata ymchwil werthfawr i’w defnyddio gan ymchwilwyr achrededig mewn amgylcheddau ymchwil dibynadwy. Dylai pob un o’r rhain fod yn allbynnau a flaenoriaethir o’r cyfrifiad arfaethedig yn 2031.
Fel rhan o’r gwaith allgymorth ac ymgysylltu ar gyfer y cyfrifiad hwn, bydd pwyslais cryf ar grwpiau na chânt eu cynrychioli’n ddigonol mewn ffynonellau data gweinyddol ac arolwg yn draddodiadol. Bydd y data a’r allbynnau sy’n deillio o’r cyfrifiad yn galluogi’r SYG a’i phartneriaid yn y sector cyhoeddus i ehangu eu dealltwriaeth o ansawdd data gweinyddol, a chefnogi strategaethau i wella cynwysoldeb a chynrychioldeb data gweinyddol. Bydd hyn yn gwella ystadegau yn seiliedig ar ddata gweinyddol yn y dyfodol (fel y disgrifir yn Argymhelliad 2) ac yn hwyluso dadansoddiad croestoriadol o grwpiau lleiafrifol, a gwybodaeth amdanynt, ar lefelau daearyddol isel yn fwy rheolaidd.
Bydd gwaith ymchwil a phrofi pellach, ynghyd â dysgu gan gydweithwyr rhyngwladol a sefydliadau ystadegau cenedlaethol eraill, yn hanfodol er mwyn pennu’r cynllun a chydbwyso ystyriaethau o ran ansawdd, cost a risg. Dylid datblygu’r dull gweithredu ochr yn ochr â chynhyrchwyr ystadegol yn rhannau eraill o’r DU er mwyn cefnogi cyflawniad a chydlyniant, yn dibynnu ar benderfyniadau gweinidogion yn yr Alban a Gogledd Iwerddon. Dylid datblygu’r dull gweithredu yn seiliedig ar anghenion defnyddwyr hefyd, gan gynnwys cynnal ymgynghoriad ar bynciau cyn gynted â phosibl.
O ran cynllun, dull cyflawni ac allbynnau cyfrifiad yn 2031, bydd y SYG yn ceisio rhoi elfennau arloesol ar waith, gan ddefnyddio datblygiadau diweddar ym maes technoleg fodern, gan gynnwys Deallusrwydd Artiffisial. Bydd y SYG yn:
- dylunio cyfrifiad digidol yn gyntaf â holiaduron ar-lein yn bennaf ar gyfer pob cartref a sefydliad cymunedol yng Nghymru a Lloegr yn 2031
- defnyddio data gweinyddol i gefnogi’r gwaith o gasglu data’r cyfrifiad a’u hansawdd
- defnyddio data gweinyddol i gwmpasu pynciau ychwanegol sydd o gryn ddiddordeb i ddefnyddwyr (e.e. incwm), ac ysgogi gwelliannau o ran amseroldeb
- sicrhau cydlyniant ledled y DU, gan gynnwys (yn amodol ar benderfyniadau yn yr Alban a Gogledd Iwerddon) pob gwlad sy’n elwa ar gyhoeddusrwydd ledled y DU a llwyfan casglu data a rennir, gan gydbwyso anghenion defnyddwyr ym mhob gwlad â chydlyniant y DU
Bydd y SYG, fel rhan o’i chynlluniau ar gyfer cynnal cyfrifiad digidol yn gyntaf yn seiliedig ar holiadur, yn ystyried anghenion pobl a all wynebu rhwystrau wrth ymateb yn ddigidol, gan ddefnyddio dull gweithredu cynhwysol sy’n galluogi pob rhan o gymdeithas i ymateb.
Gall cyfrifiad 2031 helpu i greu system ystadegau am y boblogaeth a mudo sy’n gynyddol seiliedig ar ddata gweinyddol yn y dyfodol, yn seiliedig ar y dull meincnodi a ddarperir drwy gasglu data mewn cyfrifiad. Drwy weithrediad y cyfrifiad, bydd y SYG yn gweithio gyda’r dinesydd i sicrhau newid sylweddol yn nerbynioldeb a dealltwriaeth y cyhoedd mewn perthynas â rhannu data gweinyddol, gan rymuso dinasyddion i fod yn fwy ymwybodol o ddata, fel y disgrifir yn Argymhelliad 2.
Mae’r Awdurdod yn argymell: bod Llywodraeth y DU yn comisiynu ac yn rhoi adnoddau i’r SYG gynnal cyfrifiad gorfodol yn seiliedig ar holiadur o’r boblogaeth gyfan a thai yng Nghymru a Lloegr yn 2031. Dylai’r cyfrifiad hwn gefnogi allbynnau cydlynol yn y DU a sicrhau bod gwaith y SYG gyda data gweinyddol hyd yn hyn yn darparu cynifer o fuddion â phosibl, fel y gellir parhau i ddarparu buddion o’r fath yn y dyfodol.