Argymhelliad 2: parhau i ddarparu adnoddau ar gyfer amcangyfrifon o'r boblogaeth a mudo yn seiliedig ar ddata gweinyddol
Drwy ei hymgynghoriad yn 2023, nododd y SYG angen parhaus cryf ymhlith defnyddwyr am ddata am y boblogaeth ar lefel unigolion. Yn ei gwaith ymchwil, mae’r SYG wedi dangos dichonoldeb cynhyrchu set ddata ddad-adnabyddedig ar lefel unigolion, gan gynnwys oedran a rhyw, o ffynonellau gweinyddol, y gellir eu dadansoddi yn ôl ardaloedd daearyddol isel iawn. Darparodd y SYG y set ddata hon yn ddiogel i ymchwilwyr achrededig drwy’r Gwasanaeth Data Integredig ym mis Rhagfyr 2024. Byddai gweithredu’r set ddata hon a’i datblygu’n barhaus yn gyfrifiad cadarn a pharhaus yn seiliedig ar ddata gweinyddol yn arwain y ffordd ar gyfer system ystadegol fwy cynaliadwy yn yr hirdymor.
Dylai’r SYG geisio cynhyrchu’r cyfrifiad yn seiliedig ar ddata gweinyddol bob blwyddyn, gan gynyddu nifer y pynciau sydd ar gael bob blwyddyn. Gan ganolbwyntio ar y cyfrifiad yn seiliedig ar ddata gweinyddol, a defnyddio data o arolygon lle y bo’n briodol, dylai’r SYG ymrwymo i ddarparu’r allbynnau a ddisgrifir yn yr adran Monitro ac adrodd ar gynnydd.
Bydd y cyfrifiad yn 2031 yn defnyddio’r gwaith hwn gyda’r nod o gynyddu effeithlonrwydd a manwl gywirdeb. Yn ogystal, bydd y data o’r cyfrifiad yn 2031 yn darparu pwynt cymharu o ansawdd uchel er mwyn deall ansawdd set ddata ystadegol y SYG o’r boblogaeth a’r cyfrifiad yn seiliedig ar ddata gweinyddol.
Fel sefydliad ystadegol cenedlaethol annibynnol y DU, mae’n rhaid i’r SYG weithio mewn partneriaeth agos â chydweithwyr ledled y DU wrth ddatblygu’r gwaith hwn, a datblygu dulliau cyffredin i sicrhau y cynhelir cydlyniaeth y DU i’r dyfodol.
Bydd angen buddsoddiad a chyllid parhaus i greu system ystadegau am y boblogaeth a mudo sy’n seiliedig ar ddata gweinyddol. Mae’n rhaid i’r SYG a’i phartneriaid yn Llywodraeth y DU ac ar draws system ystadegol y DU gael yr adnoddau priodol i wneud hynny.
Yn ogystal â rhoi cyfrifiad sy’n seiliedig ar ddata gweinyddol ar lefel cofnodion ar waith, dylai’r SYG ymrwymo i gynhyrchu allbynnau eraill am y boblogaeth gan ddefnyddio data gweinyddol.
Mae’r SYG eisoes wedi symud i amcangyfrifon o fudo rhyngwladol yn seiliedig ar ddata gweinyddol fel ystadegau swyddogol sydd wrthi’n cael eu datblygu, gan gyhoeddi’r ffigurau diweddaraf ym mis Mai 2025, a bydd yn anelu at ddynodi’r rhain yn ystadegau swyddogol achrededig. Drwy’r cyfrifiad yn 2021, mae wedi dangos bod yr amcangyfrifon hyn yn seiliedig ar ddata gweinyddol wedi gwella’r dull o fesur ystadegau mudo o gymharu â mesurau hanesyddol sy’n seiliedig ar arolygon. Mae’r SYG hefyd yn datblygu ei dull o gynhyrchu amcangyfrifon mudo mewnol, gan ddefnyddio ffynonellau data mwy gweinyddol.
Mae’r SYG yn gweithio i bennu pa ffynonellau data gweinyddol fydd yn arwain at amcangyfrifon manwl a chroestoriadol o nodweddion allweddol (megis nodweddion gwarchodedig gan gynnwys ethnigrwydd ac anabledd; incwm; y Gymraeg; ystadegau tai) sy’n fwy rheolaidd a chyfredol. Yn hanesyddol, dim ond drwy ddulliau casglu data pwrpasol ar raddfa fawr y bu hyn yn bosibl, ond byddai gwella ystad data gweinyddol y sector cyhoeddus, a ddisgrifir yn Argymhelliad 3 yn cefnogi ymdrechion i gyflawni’r uchelgais hwn. Dylai’r SYG geisio cynhyrchu amcangyfrifon o ansawdd uchel, a gaiff eu cynhyrchu yn unol â’r egwyddorion a nodir yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau (Saesneg yn unig), a dylai geisio sicrhau bod y rhain yn cael eu dynodi’n ystadegau swyddogol achrededig.
Dylai’r asedau data sy’n sail i’r amcangyfrifon hyn, gan gynnwys y cyfrifiad yn seiliedig ar ddata gweinyddol, fod ar gael i ymchwilwyr drwy amgylcheddau ymchwil dibynadwy’r SYG, fel y gellir gwireddu buddion ychwanegol er budd y cyhoedd.
Gan ddefnyddio ymchwil y SYG i agweddau’r cyhoedd a phwysigrwydd tryloywder ac ymddiriedaeth (gweler yr adran Cefndir), dylai’r SYG ddechrau prosiect i archwilio data dinasyddion fel dull o wella dibynadwyedd ystadegau am y boblogaeth a mudo. Dull gweithredu yw data dinasyddion, fel y’i diffinnir gan Fframwaith Copenhagen ar Ddata Dinasyddion (Saesneg yn unig), lle mae dinasyddion neu Sefydliadau Cymdeithas Sifil yn cymryd rhan ystyrlon mewn prosesau casglu a dylunio data.
Mae’r Awdurdod yn argymell: bod Llywodraeth y DU yn comisiynu ac yn rhoi adnoddau i’r SYG ddatblygu allbynnau ystadegol gan ddefnyddio data gweinyddol sy’n darparu amcangyfrifon mwy rheolaidd ac sy’n gynhwysol wrth gynrychioli cymdeithas. Dylai hyn gynnwys cyfrifiad o’r boblogaeth yn seiliedig ar ddata gweinyddol.