Argymhelliad 3: Ymrwymo i lif data gweinyddol hanfodol

Mae ystadegau swyddogol o ansawdd uchel yn wasanaeth cyhoeddus hanfodol. Mae angen i’r seilwaith sy’n eu darparu fod yn ddigon cadarn a dibynadwy fel y gellir eu cyhoeddi i’r safon uchel y mae defnyddwyr yn ei disgwyl ar yr adeg y mae defnyddwyr yn eu disgwyl.

Er mwyn cael system lwyddiannus sy’n seiliedig ar ddata gweinyddol, mae angen cyflenwad rheolaidd, amserol a sefydlog o ddata gweinyddol hanfodol gan bartneriaid o bob rhan o’r sector cyhoeddus, gan gynnwys sicrwydd o ran fformat a’r metadata ategol. Yn ogystal, mae’r SYG angen i gyflenwyr ei hysbysu a chydweithio â hi mewn perthynas ag unrhyw newidiadau gweithredol cynlluniedig a fydd yn effeithio ar ansawdd neu gynnwys setiau data gweinyddol hanfodol, gan roi rhybudd digonol, er mwyn asesu a lleihau effaith newidiadau o’r fath ar y gwaith o gynhyrchu ystadegau.

Nododd Deddf yr Economi Ddigidol 2017 lwybrau cyfreithiol clir er mwyn caffael data gweinyddol ar gyfer ystadegau. Ers hynny, mae gwaith y SYG gyda pherchnogion data wedi gwneud cynnydd da o ran cael gafael ar ddata gweinyddol, sydd wedi galluogi’r ymchwil sy’n sail i’r argymhelliad hwn.

Fodd bynnag, mae profiad yn dangos nad yw hyn yn gwarantu cyflenwad rhagweladwy o ddata y gellir adeiladu system ddibynadwy o ystadegau am y boblogaeth a mudo arno. Ceir achosion o darfu ar gyflenwadau y cytunwyd arnynt yn rhy aml, a hynny ar fyr rybudd weithiau, a phan fydd data yn cyrraedd, ni chânt eu cyflwyno ar ffurf y gellir ei defnyddio bob amser. Ni all y SYG liniaru’r risg hon ar ei phen ei hun, a bydd ymdrechion y SYG i gynhyrchu ystadegau yn seiliedig ar ddata gweinyddol yn yr hirdymor yn fwy llwyddiannus gyda chymorth o bob rhan o’r sector cyhoeddus. Galwodd Adolygiad Annibynnol yr Athro Lievesley o Awdurdod Ystadegau’r DU (Saesneg yn unig) am system effeithiol ar gyfer rhannu data’n gyfrifol er mwyn gwireddu potensial y data a ddelir gan y llywodraeth yn llawn, barn a ategwyd gan adroddiad y Pwyllgor Gweinyddiaeth Gyhoeddus a Materion Cyfansoddiadol, “Transforming the UK’s Evidence Base” (Saesneg yn unig).

Yng nghyd-destun y DU, mae’n bwysig nad yw cyfleoedd ar gyfer cynhyrchu ystadegau gwell o’r boblogaeth wedi’u cyfyngu i’r SYG yn unig. Mae angen cymorth ar y rhai sy’n cynhyrchu ystadegau yn yr Alban a Gogledd Iwerddon i gaffael y data sydd eu hangen i ymchwilio i amcangyfrifon sy’n seiliedig ar ddata gweinyddol, gyda gofyniad posibl am gyflenwad rheolaidd yn y dyfodol er mwyn cefnogi prosesau cynhyrchu ystadegol parhaus.

Bydd buddsoddi yn ystad data gweinyddol y sector cyhoeddus a’i gwella yn arwain at fanteision eang i’r system gyfan, gan gynnwys gwella’r data a ddefnyddir at ddibenion gweithredol i ddarparu gwasanaethau’r llywodraeth. Byddai hyn yn sicrhau bod y wybodaeth sydd ei hangen ar y SYG yn bresennol yn y ffynonellau hyn i’r lefel gywir o ran ansawdd ac, yn ei dro, mae hyn yn debygol o greu cylch rhinweddol, drwy wella ansawdd y data at ddefnydd gweithredol adrannau eu hunain.

Byddai’r Awdurdod hefyd yn croesawu cymorth y Llywodraeth i roi argymhelliad blaenorol gan y Comisiynydd Plant ar waith (Saesneg yn unig) ar waith, sef: bod y SYG yn gweithio gyda Swyddfa’r Cabinet i bennu’r arferion gorau ar gyfer dylunio systemau gweinyddol (ar draws y llywodraeth) er mwyn hwyluso’r gwaith o ddwyn cofnodion teuluol ynghyd.

Mae’r Awdurdod yn annog Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i gefnogi’r SYG wrth drafod â chyrff sy’n gyfrifol am gasglu data gweinyddol. Dylai nodi ffyrdd o wella’r manylder a gynigir gan ffynonellau gweinyddol fod yn amcan a rennir gan bob parti. Mae’r SYG yn arbenigo mewn dylunio a chysoni prosesau casglu data, a gellid cymhwyso’r arbenigedd hwn er mwyn gwella systemau gweinyddol. Byddai hyn yn sicrhau bod newidynnau yn cael eu mesur yn gyson. Er y byddai’r SYG yn ceisio gwneud gwelliannau er mwyn cyd-fynd â dibenion ystadegol yn well, yn gyfnewid byddai adrannau yn cael budd o ansawdd, cysondeb a gwerth gwell o ran y data a gesglir.

Mae’r Awdurdod yn argymell: bod Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i sicrhau bod llif rheolaidd, dibynadwy a pharhaus o’r setiau data gweinyddol hanfodol sydd eu hangen, gan sicrhau bod perchnogion data yn cyflawni’r ymrwymiad hwnnw, ac yn buddsoddi yn y gwelliannau gofynnol i’r ffynonellau hynny ac yn mynd i’r afael â’r elfennau hysbys sy’n gwrthdaro ac yn atal data rhag cael eu trosglwyddo.

Back to top
Download PDF version (7.75 MB)