Rwyf yn croesawu cyhoeddi Adroddiad y Tasglu Data Cynhwysol heddiw. Comisiynais y Tasglu annibynnol hwn ym mis Hydref 2020 ar ôl cyhoeddi’r Ystadegau Er Lles y Cyhoedd ym mis Gorffennaf 2020. Mae ymrwymiad cryf eisoes ar draws y pedair gwlad i fod yn gynhwysol o ran sut rydym yn casglu data sy’n adlewyrchu anghenion holl gymdeithas y DU, ac o ran gwella pa mor gynrychiadol yw data, dadansoddiadau ac ystadegau. Mae argymhellion y Tasglu hwn yn darparu llwyfan ar gyfer cydweithio ar draws llywodraeth y DU, y gweinyddiaethau datganoledig ac yn ehangach i wneud newid sylweddol o ran pa mor gynhwysol yw data a thystiolaeth yn y DU.

Mae’r Tasglu’n ategu’r angen i fynd i’r afael yn systematig â gwelliannau yn y maes hwn. Bydd hyn yn golygu rhaglen gydweithredol hirdymor o waith mewn partneriaeth ag amrywiaeth o sefydliadau ar draws y llywodraeth a’r tu allan iddi, a heddiw rydym yn cyhoeddi rhai gweithgareddau cychwynnol allweddol mewn ymateb i’r adroddiad. Un wers bwysig rydyn ni wedi’i dysgu wrth weithio gyda’r Tasglu a siarad ag amrywiaeth eang o bobl a sefydliadau ar eu rhan yw bod angen i ni gynnal momentwm i wneud y newid sylweddol rydyn ni’n ceisio ei wneud, gan gymryd yr amser sydd ei angen i ymgysylltu â phobl a sefydliadau mewn ffyrdd ystyrlon a chynhwysol. I’r perwyl hwnnw, bydd cynllun manylach yn dilyn ym mis Ionawr 2022 ar ôl ymgynghori ymhellach â rhanddeiliaid a sefydliadau amrywiol y tu allan i’r llywodraeth, gan gynnwys academyddion, sefydliadau cymdeithas sifil ac eraill. Byddwn hefyd yn adeiladu ar anghenion rhanddeiliaid a nodwyd yn ein hymgynghoriad ar allbynnau a dadansoddiad Cyfrifiad 2021, yn ogystal â’r ymarfer gwrando fel rhan o argymhelliad 2023 ar ddyfodol y Cyfrifiad.

Ar hyn o bryd, rydym wedi ymgynghori ag adrannau eraill llywodraeth y DU a’r gweinyddiaethau datganoledig i nodi beth sy’n digwydd eisoes er mwyn gwella cynhwysiant data a thystiolaeth yn y DU, beth sydd wedi’i gynllunio ar gyfer y dyfodol a beth arall y mae angen i ni ei wneud.

Mae’r dull cydweithredol hwn ar draws pedair gwlad y DU yn golygu y byddwn yn:

  • sicrhau bod ein rhaglen waith yn adeiladu ar fentrau presennol ac yn eu hymestyn;
  • dod â phobl a mentrau at ei gilydd i gyflawni mwy drwy gydweithio;
  • gallu darparu darlun cyfannol o gynnydd.

Er mwyn sicrhau monitro effeithiol ar draws y rhaglen waith lawn, byddaf yn sefydlu mecanwaith annibynnol ar gyfer asesu cynnydd yn gyhoeddus, gan adrodd yn ôl yn rheolaidd i mi.

Prif Weithgareddau wrth ymateb i Adroddiad y Tasglu

Mae’r tabl isod yn dangos ein rhaglen waith lefel uchel y byddwn yn parhau i’w datblygu dros y misoedd nesaf, gyda gweithgareddau cychwynnol allweddol wedi’u crynhoi. Mae’r rhain yn cael eu crynhoi o dan yr wyth Egwyddor Data Cynhwysol y tynnodd y Tasglu sylw atynt fel rhai sy’n allweddol i gyflawni’r newid sylweddol sy’n ofynnol o ran cynhwysiant data a thystiolaeth yn y DU. Mae nifer o fentrau’n amlochrog ac mae ganddynt elfennau sy’n cyfrannu at sawl egwyddor wahanol.

Ein dull gweithredu

Byddwn yn gwella ein rhyngweithiad â grwpiau poblogaeth gwahanol a’r rheini sy’n cael eu tangynrychioli ar hyn o bryd mewn amrywiaeth o ffyrdd

Gweithgareddau cychwynnol allweddol

  • Datblygu a gweithredu ‘Contract Cymdeithasol’ gyda chyfranogwyr ymchwil ynghylch yr hyn y gallant ei ddisgwyl o’u rhyngweithiad â chasglwyr data
  • Adeiladu ar allgymorth cymunedol Cyfrifiad 2021 i wella sut rydym yn cyfathrebu â grwpiau sy’n cael eu tangynrychioli.
  • Ar y cyd ag eraill, bydd y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn datblygu cynlluniau gweithredol clir a phenodol ar gyfer bwrw ymlaen â’r rhaglen waith
  • Bydd Canolfan Awdurdod Ystadegau’r DU ar gyfer Moeseg Data Cymhwysol yn datblygu canllawiau ar ystyriaethau moesegol sy’n ymwneud â chynhwysiant data ar gyfer ymchwil ac ystadegau, a fydd ar gael yn ddiweddarach eleni.

Rhagor o fanylion

  • Mae amrywiaeth o gynlluniau ar y gweill i ehangu ymgysylltiad a meithrin ymddiriedaeth gyda darpar grwpiau o ymatebwyr, gan adeiladu ar fentrau diweddar fel yr Arolwg Heintiadau Covid sy’n rhoi adborth i ymatebwyr ar sut mae eu data wedi cael eu defnyddio.
  • Mae cynlluniau ar y gweill i wella cyfathrebu ac ymgysylltu ag ystod ehangach o gynulleidfaoedd hefyd. Mae hyn yn cynnwys cynlluniau allgymorth ar gyfer dosbarthu dadansoddiad Cyfrifiad 2021 a defnyddio dulliau a ddatblygwyd i gynyddu ymgysylltiad y cyfrifiad ag arolygon eraill.
  • Bydd y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn gweithio gydag eraill i sefydlu mecanwaith ac amserlen glir ar gyfer monitro cynnydd tuag at yr argymhellion. Bydd hyn yn rhan o’r cynlluniau gweithredol a gyhoeddir fis Ionawr 2022.

Ein dull gweithredu

Byddwn yn gweithio ar y cyd ar draws y llywodraeth, y Gweinyddiaethau Datganoledig, y byd academaidd, cymdeithas sifil a’r rheini sydd â phrofiad bywyd i ddatblygu canllawiau ac arferion da ar feithrin cynhwysiant drwy gydol y broses ymchwil; hyrwyddo cydlyniad er mwyn gwella’r gallu i gymharu data; a gwella ansawdd data.

Gweithgareddau cychwynnol allweddol

  • Cynhelir archwiliad o’r gweithgareddau sydd ar y gweill ac wedi’u cynllunio ar draws y llywodraeth, y gweinyddiaethau datganoledig ac yn ehangach, er mwyn datblygu dull cydlynol a systematig o sicrhau cynhwysiant mewn data a chynlluniau gweithredu i gyflawni hyn.
  • Datblygu a dosbarthu canllawiau, arferion da a phecynnau cymorth i hyrwyddo mwy o gynhwysiant ym maes data a thystiolaeth yn y DU, gan fod o fudd i ddefnyddwyr data a’r rheini sy’n rhannu data.
  • Diweddaru Cynllun Gweithredu’r Siarter Data Cynhwysol ar gyfer y Nodau Datblygu Cynaliadwy Byd-eang i sefydlu a monitro cynnydd tuag at ymrwymiadau newydd i gynhyrchu data cynhwysol.

Rhagor o fanylion

  • Gwella ansawdd data, er enghraifft, drwy raglenni gwella data Uned Gwahaniaethau ar sail Hil ac Uned Anabledd Swyddfa’r Cabinet, a drwy ychwanegu cynhwysiant fel metrig allweddol mewn asesiadau trawslywodraethol GSS o ansawdd data.
  • Hyrwyddo mwy o gysondeb a chydlyniad, er enghraifft, drwy waith trawslywodraethol i wella cydlyniad ystadegol.
  • Datblygu canllawiau ar sut i wreiddio cynhwysiant yng ngwaith gwahanol broffesiynau yn y llywodraeth (ee, Gwasanaeth Ystadegol y Llywodraeth, Ymchwil Gymdeithasol y Llywodraeth, Gwasanaeth Economeg y Llywodraeth) ac yn rhyngwladol (Grŵp Dinas Titchfield y Cenhedloedd Unedig ar Heneiddio); ac yng ngwaith sefydliadau penodol (ee, Egwyddorion Data’r Swyddfa Ystadegau Gwladol)

Ein dull gweithredu

Byddwn yn adeiladu ar waith presennol ac yn datblygu cynlluniau gweithredu a chynlluniau cydweithredol newydd i wella cynhwysiant grwpiau poblogaeth sy’n cael eu tangynrychioli yn nata’r DU mewn partneriaeth ag eraill ar draws y llywodraeth ac yn ehangach.

Gweithgareddau cychwynnol allweddol

  • Byddwn yn cydweithio i gynnwys grwpiau sy’n cael eu tangynrychioli ar hyn o bryd mewn arolygon a data gweinyddol ac yn rhoi strategaethau ar waith i wella cynrychiolaeth.
  • Byddwn yn gwneud gwaith dichonoldeb i ganfod ffyrdd newydd o wella cynhwysiant data
  • Byddwn yn cyflwyno arolygon newydd neu’n rhoi hwb i samplau arolygon sy’n bodoli eisoes; yn casglu data gweinyddol newydd neu’n cynnal prosiectau cysylltu data, ac yn nodi ffynonellau data newydd a mawr, i lenwi bylchau data ac i alluogi gwell dadansoddiad croestoriadol.

Rhagor o fanylion

  • Mae cynlluniau penodol i ganfod grwpiau sy’n cael eu tangynrychioli a datblygu strategaethau i fynd i’r afael â thangynrychiolaeth wedi’u cynllunio gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol, Uned Anabledd ac Uned Gwahaniaethu ar sail Hil Swyddfa’r Cabinet, Swyddfa Cydraddoldeb y Llywodraeth, a’r Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol/ y Sefydliad Gwladol dros Ymchwil Iechyd
  • Mae rhaglenni’n cael eu datblygu sy’n canolbwyntio ar grwpiau penodol, fel grwpiau ethnig neu bobl anabl; mae gwaith ar y cyd â’r Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol (MHCLG), y Swyddfa Ystadegau Gwladol a’r gweinyddiaethau datganoledig ar y gweill i amcangyfrif graddfa digartrefedd gan ymgorffori amrywiaeth o grwpiau poblogaeth nad ydynt yn aelwydydd; yn ogystal â mentrau fel Rhaglen Gwella Data Cydraddoldeb yr Alban i wella data ar nodweddion cydraddoldeb gwarchodedig (gan gynnwys croestoriadedd) a gesglir ac a ddefnyddir ar draws y sector cyhoeddus.
  • Mae prosiectau cysylltu data hirdymor ar y gweill i roi cipolwg ar lwybrau addysgol plant agored i niwed, symudedd cymdeithasol plant mewn gofal a chanlyniadau bywyd ar gyfer gwahanol grwpiau o ffoaduriaid a mudwyr.
  • Mae’r gwaith o ddatblygu casgliadau data ar raddfa fwy nag erioed o’r blaen hefyd ar y gweill er mwyn cael gwell dealltwriaeth ac i allu cysylltu data, fel casglu data digartrefedd ar lefel unigol (Llywodraeth Cymru).

Ein dull gweithredu

Rydym yn datblygu amrywiaeth o strategaethau i wella seilwaith data’r DU a llenwi bylchau data er mwyn darparu data manylach drwy arolygon newydd neu arolygon wedi’u hybu a chysylltu data er mwyn gallu cynnal dadansoddiad croestoriadol gwell.

Gweithgareddau cychwynnol allweddol

  • Bwriedir cyhoeddi Strategaeth Data Is-genedlaethol GSS yn nhymor yr hydref 2021 a fydd yn canolbwyntio ar wella data daearyddol a manylder data fel arall, i’w ddilyn gan gynllun dadansoddol cysylltiedig.
  • Bydd asesiadau trawslywodraethol a hyrwyddo ansawdd data yn cynnwys ffocws penodol ar gynhwysiant a chynrychiolaeth fel paramedrau allweddol
  • Bydd arolygon presennol a ffynonellau data eraill yn cael eu gwella er mwyn gallu dadansoddi grwpiau ac ardaloedd penodol yn y DU yn fanylach
  • Bydd gwelliannau i’r data sydd ar gael ar faterion cydraddoldeb yn cael eu cyflawni drwy gysylltu setiau data hydredol ar lefel uwch nag erioed sy’n cael eu cadw ar draws y llywodraeth, fel rhan o Raglen Data Cydraddoldeb Swyddfa’r Cabinet.

Rhagor o fanylion

  • Mae arolygon a gwelliannau newydd i arolygon presennol yn cynnwys gwaith gan Uned Anabledd ac Uned Gwahaniaethu ar sail Hil Swyddfa’r Cabinet i hyrwyddo data manylach ar ethnigrwydd ac anabledd ar draws y llywodraeth.
  • Mae dulliau o lenwi bylchau a gwella manylder data yn cynnwys samplau hwb arfaethedig ar yr Arolwg o Fywyd Cymunedol (DCMS), yr Arolwg o Gyfranogiad (DCMS), yr Arolwg o Adnoddau Teulu (DWP) a’r sampl o blant ar Arolwg Iechyd Lloegr (DHSC). Bydd prosiectau cysylltu data hefyd yn helpu i lenwi bylchau data.

Ein dull gweithredu

Rydym yn datblygu cynlluniau i fynd i’r afael â materion hysbys gyda safonau a chanllawiau cyfredol wrth fesur cysyniadau sy’n ymwneud â chynhwysiant, yn ogystal â gwaith trawslywodraethol ar y cyd i wella cydlyniad ystadegol.

Gweithgareddau cychwynnol allweddol

  • Bydd Cynllun Cysoni GSS yn cael ei gyhoeddi yn nhymor yr hydref 2021 gyda ffocws ar ddatblygu, adolygu a diweddaru safonau a chanllawiau ar gyfer mesur nodweddion gwarchodedig a nodweddion eraill
  • Rhoddir pwyslais newydd ar weithredu canllawiau’r Swyddfa Ystadegau Gwladol sy’n berthnasol i gynhwysiant ar draws y llywodraeth, gan annog mabwysiadu hynny’n ehangach.

Rhagor o fanylion

  • Bydd sicrhau dulliau gweithredu clir a chyson ar gyfer cysyniadau sy’n cael eu mesur ar draws ffynonellau data yn cael sylw drwy adolygiadau’r Swyddfa Ystadegau Gwladol o safonau a chanllawiau wedi’u cysoni, a hefyd mewn cynlluniau trawslywodraethol i wella cydlyniad ystadegol.
  • Llywodraeth Cymru yn datblygu tystiolaeth yn unol â’r model cymdeithasol o anabledd

Ein dull gweithredu

Byddwn yn cynnal ymchwil gan ddefnyddio’r dulliau arloesol sy’n gweddu orau i’r cwestiwn ymchwil a darpar gyfranogwyr, er mwyn deall mwy am brofiadau byw nifer o grwpiau sy’n cael eu tangynrychioli mewn data a thystiolaeth yn y DU

Gweithgareddau cychwynnol allweddol

  • Bwriedir i ymchwil ansoddol ddeall mwy am brofiadau bywyd grwpiau sy’n cael eu tangynrychioli mewn data a thystiolaeth yn y DU.
  • Mae gwaith cysylltu data ar y gweill ar gyfer dadansoddiad gwell, gan gynnwys datblygu Ased Data Cydraddoldeb cysylltiedig gan Swyddfa Cydraddoldeb Llywodraethol Swyddfa’r Cabinet ar y cyd â Gwasanaeth Data Integredig y Swyddfa Ystadegau Gwladol, a fydd yn dod â data ynghyd yng nghyswllt sut mae canlyniadau bywyd a llwybrau bywyd yn amrywio yn ôl gwahanol ddimensiynau cydraddoldeb
  • Mae gwaith ymchwil dichonoldeb ar y gweill yn y Swyddfa Ystadegau Gwladol i ganfod ffyrdd o gynhyrchu amcangyfrifon poblogaeth sy’n seiliedig ar ddata gweinyddol yn fwy amserol yn ôl ethnigrwydd, gan ddefnyddio amrywiaeth o ffynonellau data

Rhagor o fanylion

  • Bydd ymchwil yn cael ei gynnal i ddeall mwy am brofiadau bywyd grwpiau, gan gynnwys y rheini nad ydynt yn byw mewn cartrefi preifat ar hyn o bryd, fel y rheini sy’n byw mewn cartrefi gofal, hosteli, llochesi ac ar soffas, a’r rheini sy’n byw mewn llety dros dro fel llety gwely a brecwast; plant sydd dan anfantais ac yn cael eu tangynrychioli; pobl anabl; a grwpiau Sipsiwn, Roma a Theithwyr.
  • Bydd gwaith dichonoldeb yn cael ei wneud ar sut y gellir defnyddio ffynonellau data newydd a mawr i lenwi bylchau data, dan arweiniad Campws Gwyddor Data’r Swyddfa Ystadegau Gwladol mewn cydweithrediad ag aelodau rhyngwladol Pwyllgor Arbenigwyr y Cenhedloedd Unedig ar Ddata Mawr a Gwyddor Data.
  • Byddwn yn adeiladu ar fentrau diweddar i ehangu’r ystod o ddulliau a ddefnyddir i gasglu data mwy cynhwysol, fel casglu samplau biolegol yn wirfoddol ar gyfer monitro iechyd a gynhaliwyd ar gyfer yr Arolwg Heintiadau Covid-19 yn y Swyddfa Ystadegau Gwladol.
  • Byddwn yn cynhyrchu cyhoeddiadau mwy dadansoddol sy’n helpu defnyddwyr i ddeall a dehongli data cynhwysol yn well, gan adeiladu ar waith fel cyfres o adroddiadau’r Uned Gwahaniaethu ar sail Hil ar Ddulliau ac Ansawdd.

Ein dull gweithredu

Byddwn yn ymgynghori â rhanddeiliaid, arbenigwyr data, defnyddwyr a phobl sydd â phrofiad bywyd er mwyn cynnal adolygiadau cychwynnol a pharhaus o safonau i sicrhau ein bod yn ymwybodol o’r newidiadau cymdeithasol diweddaraf

Gweithgareddau cychwynnol allweddol

  • Byddwn yn gweithredu mecanwaith adolygu rheolaidd ar gyfer safonau wedi’u cysoni fel rhan o’r Cynllun Cysoni GSS newydd i adolygu’r safonau a’r canllawiau presennol

Rhagor o fanylion

  • Drwy ymgynghori â defnyddwyr data, y byd academaidd a’r rheini sydd â phrofiad bywyd, bydd y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn adolygu safonau a chanllawiau wedi’u cysoni ar gyfer nifer o wahanol grwpiau, gan gynnwys ethnigrwydd ac anabledd, ac yn ymrwymo i adolygu’r rhain yn rheolaidd fel yr argymhellir gan y Tasglu.

Ein dull gweithredu

Byddwn yn ymgysylltu ag amrywiaeth ehangach o bobl er mwyn deall sut mae gwneud data a thystiolaeth yn fwy hygyrch, gan sicrhau diogelwch data ar yr un pryd, a chymryd camau i wella hygyrchedd.

Gweithgareddau cychwynnol allweddol

  • Mae gwelliannau i’r offer presennol wedi’u cynllunio, yn ogystal â datblygu offer newydd sy’n cael eu gyrru gan ddinasyddion, er mwyn gwella hygyrchedd data
  • Bydd y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn datblygu Uned Hygyrchedd Cyfathrebu i sicrhau bod cyfathrebiadau’n diwallu anghenion y rheini sydd mewn gwahanol grwpiau nodweddion gwarchodedig.

Rhagor o fanylion

  • Mae offerynnau newydd yn cael eu datblygu i helpu pobl i ddod o hyd i’r data a’r dystiolaeth sydd eu hangen arnynt, gan gynnwys Offeryn Llywio Data Cydraddoldeb; y llwyfan Nodau Datblygu Cynaliadwy ar y we sy’n caniatáu i ddefnyddwyr chwilio am ddata wedi’u dadgyfuno.
  • Mae gwelliannau i’r offerynnau presennol hefyd ar y gweill, megis prosiect i ailddatblygu’r data a’r dadansoddiad sydd ar gael o’r wefan Ffeithiau a Ffigurau Ethnigrwydd.
  • Mae offerynnau newydd ar gyfer dadansoddi data mewn modd pwrpasol a symlach ar y gweill hefyd, gan gynnwys lluniwr tablau hyblyg ar-lein i’w ddefnyddio gyda data Cyfrifiad 2021 ar gyfer Cymru a Lloegr. Bydd y dulliau a ddefnyddir i gynhyrchu’r offeryn hwn yn cael eu defnyddio’n ehangach gyda setiau data eraill.