Egwyddor Data Cynhwysol 5: Cysyniadau
Ynglŷn ag Egwyddor 5: Sicrhau bod y cysyniadau a gaiff eu mesur yn yr holl ddata a gesglir yn briodol ac yn eglur.
Mae 36 o ymrwymiadau o dan Egwyddor 5. Mae Ffigur 6 yn dangos dosbarthiad yr ymrwymiadau yn ôl eu statws Coch Melyn Gwyrdd. Mae’r rhan fwyaf o’r ymrwymiadau (89%) yn wyrdd (53%) neu wedi’u cwblhau (37%). Isod disgrifiwn brosiect gan Lywodraeth Cymru sy’n ceisio ymchwilio i’r posibilrwydd o gasglu tystiolaeth gan ddefnyddio Model Cymdeithasol o Anabledd.
Ffigur 6: Statws Coch Melyn Gwyrdd pob un o 36 o ymrwymiadau’r Tasglu o dan Egwyddor Data Cynhwysol 5
Astudiaeth achos: Casglu data yn unol â'r Model Cymdeithasol o Anabledd, Llywodraeth Cymru
Ymrwymiad 5.1.2:
Bydd Llywodraeth Cymru yn ymchwilio i ddatblygu tystiolaeth sy’n unol â’r Model Cymdeithasol o anabledd o 2022.
Mabwysiadodd Llywodraeth Cymru y Model Cymdeithasol o Anabledd yn 2022. Datblygwyd y Model Cymdeithasol gan bobl anabl ac mae wedi’i gorffori yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl, y mae’r DU ymhlith ei lofnodwyr. Mae’n gwahaniaethu rhwng ‘amhariad’ ac ‘anabledd’ ac mae’n cydnabod bod pobl ag amhariadau yn cael eu hanablu gan rwystrau sy’n bodoli’n gyffredin mewn cymdeithas. Gallai hyn gynnwys agweddau negyddol, rhwystrau sefydliadol fel diffyg polisi rhesymol ar addasiadau, rhwystrau cyfathrebu fel iaith anhygyrch, a rhwystrau amgylcheddol fel methu â darparu mynediad priodol i adeilad ar gyfer y rhai sy’n defnyddio cadair olwyn.
Yn 2022, gwnaeth Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol Llywodraeth Cymru ailddatgan yr ymrwymiad i ymgorffori’r Model Cymdeithasol a sefydlwyd Unedau Tystiolaeth Cydraddoldeb, Hil ac Anabledd Llywodraeth Cymru. Mae’r Unedau Tystiolaeth yn ymrwymedig i ymchwilio i ffyrdd o ddatblygu tystiolaeth yn unol â’r Model Cymdeithasol o Anabledd. Fel y cyfryw, roedd ymchwiliadau cychwynnol i sut i gydgynhyrchu ymchwil a gweithio ochr yn ochr â phobl anabl yn cynnwys cyngor gan aelodau o’r Tasglu Hawliau Pobl Anabl er mwyn sicrhau bod profiadau bywyd pobl anabl wrth wraidd y gwaith ymchwil hwn.
Mae’r Unedau Tystiolaeth yn dylunio ac yn profi cwestiynau arolwg safonedig sy’n adlewyrchu’r Model Cymdeithasol o Anabledd, y gellid eu cynnwys mewn prosesau casglu data ac ymchwil gymdeithasol yn y dyfodol. Caiff canllawiau eu datblygu hefyd sy’n rhoi cyngor o ran y math o gwestiynau y dylid eu defnyddio a phryd. Dyfarnwyd y contract ymchwil ym mis Chwefror 2024 a disgwylir iddo gael ei gwblhau yn yr hydref. Caiff yr ymchwil ei hun ei chynnal yn unol â’r Model Cymdeithasol o Anabledd, gan sicrhau ei bod yn gynhwysol ac yn hygyrch i bawb dan sylw, gan gynnwys rhanddeiliaid a chyfranogwyr.
Bydd cwestiynau argymelledig y model cymdeithasol wedi cael eu profi’n wybyddol gan blant ac oedolion ag amhariadau gwahanol a byddant ar gael yn Gymraeg, Saesneg, Iaith Arwyddion Prydain a fformatau hygyrch eraill.
Back to top