Egwyddor Data Cynhwysol 6: Dulliau

Ynglŷn ag Egwyddor 6: Ehangu’r amrywiaeth o ddulliau a ddefnyddir fel mater o drefn a chreu dulliau newydd o ddeall profiadau holl boblogaeth y DU.

Mae 32 o ymrwymiadau o dan Egwyddor 6. Mae Ffigur 7 yn dangos dosbarthiad yr ymrwymiadau yn ôl eu statws Coch Melyn Gwyrdd. Roedd y rhan fwyaf o’r ymrwymiadau naill ai wedi’u cwblhau (47%) neu’n wyrdd (28%). Isod disgrifiwn astudiaeth i brofiadau bywyd grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol yn ystadegol gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Ffigur 7: Statws Coch Melyn Gwyrdd pob un o 32 o ymrwymiadau’r Tasglu o dan Egwyddor Data Cynhwysol 6

Astudiaeth achos: Ymchwil ansoddol i brofiadau bywyd grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol yn ystadegol, y Swyddfa Ystadegau Gwladol

Ymrwymiad:

Mae’r SYG yn cynnal ymchwil ansoddol i archwilio profiadau bywyd grwpiau nad ydynt wedi’u cynrychioli’n ddigonol yn nata a thystiolaeth y DU ar hyn o bryd, gan gynnwys: profiadau oedolion anabl o gymryd rhan mewn gweithgareddau a chael gafael ar nwyddau a gwasanaethau ledled y DU; profiadau ysgol plant ag anghenion addysgol arbennig ac anableddau yn Lloegr; a phrofiadau bywyd, blaenoriaethau ac anghenion cymunedau Sipsiwn a Theithwyr.

Mewn ymateb i argymhellion a amlinellwyd gan y Tasglu Data Cynhwysol, mae’r tîm Ymchwil Ansoddol yn y Ganolfan Cydraddoldebau a Chynhwysiant wedi cyhoeddi pum adroddiad ymchwil ar brofiadau bywyd grwpiau amrywiol nad ydynt wedi’u cynrychioli’n ddigonol yn ystadegol. Roedd y grwpiau yn cynnwys: oedolion anabl, Sipsiwn a Theithwyr, plant ag anghenion addysgol arbennig ac anableddau, y cyhoeddwyd pob un ohonynt yn 2023, ac yna brofiadau goroeswyr cam-drin domestig mewn llety diogel dros dro, a phobl ifanc sydd wedi’u dadleoli, a gyhoeddwyd yn 2024.   Mae’r rhaglen ymchwil ansoddol yn parhau drwy gydol y flwyddyn hon ac wedi hynny.

Mae gweithio gyda sefydliadau cymdeithas sifil wedi bod yn hanfodol er mwyn cael gafael ar gyfranogwyr ar gyfer yr ymchwil, gan gynnwys y rheini a allai fod ar goll neu nad ydynt wedi’u cynrychioli mewn mannau cyswllt gwasanaeth a data eraill. Mae sefydliadau cymdeithas sifil wedi darparu gwybodaeth am eu cymunedau, gweithredu fel porthgeidwaid ar gyfer recriwtio cyfranogwyr a rhoi cymorth dilynol i gyfranogwyr. Er enghraifft, o ganlyniad i gymorth rhwydwaith o sefydliadau cymdeithas sifil, gellid cynnwys Sipsiwn a Theithwyr o safleoedd gwahanol yng Nghymru a Lloegr mewn cyfweliadau hanes bywyd a roddodd wybodaeth am ddiwylliant, hunaniaeth a mynediad at ystod o wasanaethau, fel iechyd ac addysg.

Mae amrywiaeth o ddulliau arloesol wedi cael eu defnyddio ar gyfer y prosiectau er mwyn sicrhau bod yr ymchwil yn gynhwysol ac yn briodol. Mae dull ymchwilio a arweinir gan gyfranogwyr ac sy’n seiliedig ar brofiadau bywyd yn sicrhau y gall cyfranogwyr rannu beth sy’n bwysig yn eu barn nhw a chael mwy o berchnogaeth dros y broses ymchwil. Mae hyn yn helpu i fynd i’r afael â rhywfaint o’r anghydbwysedd grym traddodiadol a all godi rhwng ymchwilwyr a chyfranogwyr ac yn sicrhau y caiff yr ymchwil ei chynnal ‘gyda’r’ grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol ac nid ‘arnynt’.

Defnyddiwyd dull ymchwil cymheiriaid ar gyfer sawl prosiect hefyd. Er enghraifft, yn y prosiect gyda phobl ifanc sydd wedi’u dadleoli, cynhaliwyd y cyfweliadau gan bobl ifanc eraill sydd wedi’u dadleoli a oedd wedi cwblhau hyfforddiant ymchwil. Roedd hyn yn golygu bod y cyfranogwyr yn gallu rhannu eu profiadau â phobl â nodweddion ac iaith debyg iddynt, gan helpu i wneud iddynt deimlo’n gyfforddus a’i gwneud yn haws iddynt fynegi eu hunain.

Mae cyfran fawr o setiau data cenedlaethol yn canolbwyntio ar ddata am oedolion, sy’n golygu bod llai o ddata ar gael am blant. Er mwyn sicrhau eu bod yn gallu cymryd rhan yn ystyrlon a bod eu lleisiau yn cael eu clywed, datblygwyd pecyn cymorth creadigol a hyblyg y gellid ei addasu er mwyn diwallu anghenion gwahanol. Er enghraifft, defnyddiwyd gweithgareddau chwarae gyda Lego, tynnu lluniau a mapio teithiau i gefnogi rhyngweithiadau a sgyrsiau â chyfranogwyr am eu profiadau addysgol.

Back to top