Egwyddor Data Cynhwysol 7: Cysoni

Ynglŷn ag Egwyddor 7: Dylai safonau wedi’u cysoni ar gyfer grwpiau a phoblogaethau perthnasol gael eu hadolygu o leiaf bob pum mlynedd a’u diweddaru a’u hehangu lle bo angen, yn unol â newidiadau mewn normau cymdeithasol ac anghenion ymatebwyr a defnyddwyr.

Mae 23 o ymrwymiadau o dan Egwyddor 7. Mae Ffigur 8 yn dangos dosbarthiad yr ymrwymiadau yn ôl eu statws Coch Melyn Gwyrdd. Roedd 83% o’r ymrwymiadau wedi’u cwblhau neu’n wyrdd (52% a 30% yn y drefn honno). Isod disgrifiwn sut mae cynllun gwaith cydlyniant Gwasanaeth Ystadegol y Llywodraeth yn bwriadu mynd i’r afael â’r ymrwymiad hwn.

Ffigur 8: Statws Coch Melyn Gwyrdd pob un o 23 o ymrwymiadau’r Tasglu o dan Egwyddor Data Cynhwysol 7

Astudiaeth achos: Cynllun gwaith cydlyniant wedi'i ddiweddaru ar gyfer Gwasanaeth Ystadegol y Llywodraeth, y Swyddfa Ystadegau Gwladol / Swyddogaeth Dadansoddi

Ymrwymiad:

Bydd y SYG yn adolygu Rhaglen Waith Cydlyniant Gwasanaeth Ystadegol y Llywodraeth a gyhoeddwyd ym mis Mehefin 2021 ar y cyd â’r pedair gwlad yn y DU er mwyn sicrhau ei bod yn cynnwys cryn bwyslais ar gynwysoldeb. Cyhoeddir Rhaglen Waith Cydlyniant wedi’i diweddaru yn 2022.

Mae’r SYG yn arwain rhaglen waith i wella cydlyniant ystadegol ar draws adrannau’r llywodraeth a phedair gwlad y DU. Cyhoeddodd y SYG gynllun gwaith ar Gydlyniant Ystadegau ar wefan y Swyddogaeth Dadansoddi, y mae’n ei ddiweddaru bob blwyddyn. Mae cydlyniant ystadegol yn ymwneud â dwyn allbynnau ar yr un pwnc ynghyd er mwyn esbonio’r rhan o’r byd y maent yn ei disgrifio yn fwy effeithiol. Gan fod ystod mor eang o ffynonellau data a dadansoddiadau yn cael eu cynhyrchu yn adrannau’r llywodraeth a phedair gwlad y DU, mae’n hanfodol ein bod yn sicrhau bod ein defnyddwyr yn ymwybodol o’r ffordd y mae’r ystadegau hyn yn cysylltu â’i gilydd, a sut y gellir eu cymharu ag ystadegau eraill er mwyn gwneud synnwyr o gymdeithas.

Mae Concordat y DU ar Ystadegau yn cefnogi’r gwaith cydlynu hwn ledled y DU. Mae hwn yn fframwaith ar gyfer cydweithio ystadegol y cytunwyd arno ar y cyd rhwng Llywodraeth y DU a llywodraethau datganoledig Cymru, Gogledd Iwerddon a’r Alban.

Mae’r SYG wedi bod yn gweithio gyda chynhyrchwyr ystadegau swyddogol ledled y DU er mwyn llunio rhaglen waith gynhwysfawr. Mae’r rhaglen hon yn pennu cyfeiriad clir ar gyfer blaenoriaethau yn y dyfodol, ac yn crynhoi’r gwaith sy’n mynd rhagddo ar feysydd blaenoriaeth uchel sydd o ddiddordeb cyffredin, gan gynnwys:

  • deall adferiad economaidd ar ôl y pandemig
  • costau byw
  • iechyd
  • tai
  • gofal cymdeithasol
  • yr amgylchedd
  • Ac ystod eang o bynciau eraill sy’n bwysig i bob gwlad yn y DU.

Amlygir ystod eang o ddadansoddiadau a gwaith cydlyniant drwy’r datganiad Coherence of Statistics sy’n ymwneud â themâu blaenoriaeth Pwyllgor Cynghori ar Ddata Cynhwysol yr Ystadegydd Gwladol. Mewn perthynas â data poblogaeth ar gyfer unigolion nad ydynt yn gartrefi yn benodol, cyhoeddwyd People experiencing homelessness, England and Wales: Census 2021 yn 2023, sy’n cynnig gwybodaeth sy’n ychwanegol at yr ystadegau swyddogol rheolaidd am ddigartrefedd a chysgu allan.

Yn ogystal, tynnir sylw at waith ar ddata cydraddoldeb trosfwaol. Mae gwaith ar gysoni a hygyrchedd ystadegau mewn perthynas â grwpiau â nodweddion gwarchodedig, pobl sy’n wynebu mwy o risg o amddifadedd, statws economaidd-gymdeithasol a daearyddiaeth, yn parhau i fynd rhagddo, ac mae’n cynnwys safonau wedi’u cysoni ar bynciau fel cefndir economaidd-gymdeithasol. Mae gwaith gyda Hyb Cydraddoldeb Swyddfa’r Cabinet ar gamau gweithredu sy’n gysylltiedig â data o adroddiad Inclusive Britain wedi cynnwys ymgynghori ar safonau ar gyfer data ar ethnigrwydd ac ymgysylltu â phobl o grwpiau ethnig gwahanol er mwyn deall yn fwy effeithiol yr iaith a’r derminoleg y maent yn uniaethu â nhw.

Mae tudalen benodol ar gydlyniant hefyd wedi cael ei chynhyrchu ar wefan y SYG er mwyn i ddefnyddwyr allu dod o hyd i ystadegau swyddogol a gynhyrchwyd gan neu ar ran Gwasanaeth Ystadegol y Llywodraeth a’r llywodraethau datganoledig yn haws. Mae blaengynlluniau yn cynnwys parhau â gwaith gyda’r llywodraethau datganoledig i gyhoeddi ystadegau cymaradwy newydd ar gyfer y DU gyfan mewn perthynas â nifer y bobl ifanc ‘Nad ydynt mewn Addysg, Cyflogaeth na Hyfforddiant’ (NEET).

Back to top