Egwyddor Data Cynhwysol 8: Hygyrchedd

Ynglŷn ag Egwyddor 8: Sicrhau bod data a thystiolaeth y DU yr un mor hygyrch i bawb, gan ddiogelu manylion adnabod a chyfrinachedd y rhai sy’n rhannu eu data.

Mae 46 o ymrwymiadau o dan Egwyddor 7. Mae Ffigur 8 yn dangos dosbarthiad yr ymrwymiadau yn ôl eu statws Coch Melyn Gwyrdd. Roedd y rhan fwyaf o’r ymrwymiadau yn wyrdd neu wedi’u cwblhau (50% a 43% yn y drefn honno). Isod disgrifiwn brosiect gan Lywodraeth yr Alban sy’n ymwneud â datblygu’r ‘Equality Evidence Finder’.

Ffigur 9: Statws Coch Melyn Gwyrdd pob un o 46 o ymrwymiadau’r Tasglu o dan Egwyddor Data Cynhwysol 8

Astudiaeth achos: Datblygu'r ‘Equality Evidence Finder’, Llywodraeth yr Alban

Ymrwymiad 8.2.3:

Bydd Llywodraeth yr Alban yn parhau i ddiweddaru a gwella’r Equality Evidence Finder, gan gydweithio â defnyddwyr er mwyn sicrhau ei fod yn diwallu anghenion.

Mae Llywodraeth yr Alban a’i phartneriaid wedi bod yn gweithio i wella swm ac ansawdd y dystiolaeth y mae’n ei chasglu a’i defnyddio wrth lunio polisïau. Mae’r Rhaglen Gwella Data Cydraddoldeb, a lansiwyd yn 2021, wedi cynnwys cyfres o weithgareddau er mwyn deall rhwystrau i gasglu data cydraddoldeb, datblygu canllawiau arfer da ac astudiaethau achos enghreifftiol, a gwneud cynnydd o ran datblygu data mewn meysydd blaenoriaeth.

Mae hyn wedi arwain at gyhoeddi a gweithredu Strategaeth Tystiolaeth Cydraddoldeb yr Alban ar gyfer 2023-2025, sy’n cynnwys tair egwyddor graidd:

  1. Caiff data a thystiolaeth fwy cadarn a chynhwysfawr eu casglu ar nodweddion croestoriadol pobl yn yr Alban ar draws ystod o ganlyniadau.
  2. Bydd tystiolaeth cydraddoldeb ar gael yn haws fel bod defnyddwyr yn gallu cael gafael ar yr hyn sydd ei angen arnynt, pan fydd ei angen arnynt.
  3. Caiff arferion da eu rhannu a’u hyrwyddo er mwyn cefnogi hyder a chymhwysedd cynyddol yn y broses o gynhyrchu a defnyddio tystiolaeth cydraddoldeb gadarn.

Cronfa ddata ryngweithiol yw’r Equality Evidence Finder (EEF) gyda’r nod o ddwyn ynghyd yr ystadegau a’r ymchwil ddiweddaraf ar gyfer yr Alban mewn perthynas ag ystod o nodweddion cydraddoldeb gwahanol a meysydd polisi. Fe’i datblygwyd gyntaf yn 2012 ac mae wedi cael ei gynnal gan Dîm Dadansoddi Cydraddoldeb Llywodraeth yr Alban ers hynny.

Mae’r EEF yn cael ei adolygu ar hyn o bryd ac mae cynllun datblygu technegol yn cael ei baratoi gan y Tîm Dadansoddi Cydraddoldeb, a fydd yn amlinellu cynlluniau i wella’r broses o ddarparu tystiolaeth am gydraddoldebau yn yr Alban ymhellach drwy wneud yr adnodd yn fwy hygyrch ac yn haws ei ddefnyddio. Bwriedir i’r cynllun ystyried y posibilrwydd o ychwanegu nodweddion newydd, fel y ffordd y caiff tystiolaeth groestoriadol ei chyflwyno er mwyn cael gwybodaeth am ganlyniadau pobl â nodweddion croestoriadol.

Mae’r tîm yn parhau i sicrhau bod yr EEF yn cael ei gynnal, ei fod yn defnyddio’r data diweddaraf a’i fod yn bodloni gofynion hygyrchedd. Ar hyn o bryd, mae cynlluniau gwella yn y dyfodol yn cynnwys:

  • gwaith ymgysylltu parhaus â defnyddwyr data, fel gwneuthurwyr polisïau, dadansoddwyr ac aelodau o’r cyhoedd, gan ddefnyddio sianeli presennol i sicrhau bod cynlluniau datblygu yn cael eu hysgogi gan anghenion defnyddwyr
  • defnyddio dull gweithredu hyblyg wrth roi profion iteraidd a chynlluniau datblygu ar waith
  • ymchwilio i ffyrdd o wella’r ffordd y caiff yr EEF ei gynnal drwy ddulliau awtomeiddio a gwneud y broses diweddaru data yn fwy effeithlon
  • sicrhau y cydymffurfir ag arferion gorau ar gyfer datblygu dangosfwrdd a Systemau Dylunio Llywodraeth yr Alban
  • gwella sgiliau technegol y tîm sy’n gysylltiedig â datblygu’r EEF.
Back to top