Casgliad

Ers ei ddechrau yn 2021, credwn fod cryn gynnydd wedi’i wneud ym mhob rhan o’r llywodraeth i wella tirwedd data a dadansoddiadau cynhwysol. Mae llawer o’r ymrwymiadau sydd wedi cael eu cwblhau wedi sicrhau bod cynwysoldeb yn rhan o’r gwaith o gynhyrchu a chyhoeddi data fel ‘busnes fel arfer’, ac mae’r astudiaethau achos yma yn rhoi cipolwg ar y gwaith nodedig sydd wedi mynd rhagddo dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf.

Dros y flwyddyn nesaf, byddwn yn adolygu effeithlonrwydd rhaglen y Tasglu Data Cynhwysol ar gyfer y cyfnod o 2021 i 2025, ac mae gwaith cynllunio eisoes yn mynd rhagddo i benderfynu beth fydd yn dod nesaf ar ôl mis Mawrth 2025 er mwyn hybu cynwysoldeb data a thystiolaeth yn y DU ymhellach.

Mae’r SYG yn ddiolchgar i’w chydweithredwyr ym mhob rhan o’r llywodraeth, y llywodraethau datganoledig a’r trydydd sector am gyfrannu at yr adroddiad hwn.