Crynodeb gweithredol
Yn 2021, galwodd yr Ystadegydd Gwladol dasglu gyda’r nod o wneud newid sylweddol o ran cynwysoldeb data a thystiolaeth y DU. Nododd adroddiad ac argymhellion y Tasglu Data Cynhwysol 46 o argymhellion o dan 8 Egwyddor Data Cynhwysol, sef themâu trawsbynciol sy’n nodi’r meysydd blaenoriaeth ar gyfer y gwaith mwyaf effeithiol a gaiff ei wneud i wella cynwysoldeb mewn data.
Dilynwyd hyn gan y Cynllun Gweithredu, a arweiniwyd gan y SYG, a oedd yn amlinellu rhaglen waith lefel uchel o fentrau cynlluniedig a pharhaus sy’n gysylltiedig â’r 8 Egwyddor. Roedd hyn yn cynnwys 205 o ymrwymiadau ar draws Llywodraeth y DU, llywodraethau datganoledig, elusennau a sefydliadau academaidd.
Yn 2023, ychwanegwyd 134 o ymrwymiadau eraill at y cyfanswm, er mwyn amlinellu gwaith pellach, gan fynd â chyfanswm nifer yr ymrwymiadau i 339. Ym mis Mai 2024, roedd 284 o’r ymrwymiadau hyn naill ai wedi’u cwblhau neu ar y trywydd cywir i gael eu cwblhau. Mae hyn yn awgrymu bod cynnydd da wedi’i wneud dros y flwyddyn ddiwethaf. Mae’n rhaid archwilio’r rhesymau unigol dros statws yr ymrwymiadau sy’n weddill, a nodi heriau i gynnydd y rhain fel y gellir datblygu atebion.
Mae’r adroddiad hwn yn nodi cynnydd a statws yr ymrwymiadau fesul pob un o’r 8 Egwyddor, ochr yn ochr ag astudiaeth achos gan amrywiaeth o adrannau llywodraeth y DU yn amlinellu prosiectau unigol sy’n cysylltu â phob un o’r themâu.