Cyflwyniad
Mae argymhellion a Chynllun Gweithredu’r Tasglu Data Cynhwysol yn rhoi fframwaith ar gyfer monitro’r cynnydd ar draws llywodraeth y DU, llywodraethau datganoledig, cymdeithas sifil a sefydliadau academaidd, tuag at ddata a thystiolaeth fwy cynhwysol yn y DU.
Cafodd y Tasglu Data Cynhwysol ei gynnull gan yr Ystadegydd Gwladol yn 2021, ac er mai’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (y SYG) sy’n gyfrifol am fonitro’r gwaith o roi’r argymhellion ar waith, mae’r rhaglen hon wedi cael ei chroesawu gan bob rhan o’r llywodraeth a sectorau yng ngwledydd y DU.
Mae canlyniadau pellgyrhaeddol ar gyfer casglu data, ystadegau a dadansoddi ar draws system ystadegol y DU yn gysylltiedig â rhoi argymhellion y Tasglu Data Cynhwysol ar waith. Nod cyffredinol rhaglen y Tasglu Data Cynhwysol yw ymgorffori cynwysoldeb fel arfer safonol ar draws tirwedd ystadegol y DU mewn ffordd gynaliadwy.
Dangosir y cynnydd a wnaed tuag at yr argymhellion dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf ar draws y sector cyhoeddus yn yr adroddiad hwn, sy’n nodi gwybodaeth am statws ymrwymiadau fesul pob un o’r 8 Egwyddor Data Cynhwysol:
Egwyddor Data Cynhwysol 1:
Creu amgylchedd o ymddiriedaeth a dibynadwyedd sy’n galluogi ac yn annog pawb i gyfrif a chael eu cyfrif yn nata a thystiolaeth y DU.
Egwyddor Data Cynhwysol 2:
Defnyddio dull system gyfan, gan weithio mewn partneriaeth ag eraill i wneud data a thystiolaeth y DU yn fwy cynhwysol.
Egwyddor Data Cynhwysol 3:
Sicrhau y caiff gwybodaeth am bob grŵp ei chofnodi mewn perthynas ag agweddau allweddol ar fywyd yn nata’r DU, ac adolygu arferion yn rheolaidd.
Egwyddor Data Cynhwysol 4:
Gwella seilwaith data’r DU fel bod modd dadgyfuno data a dadansoddi croestoriadau, a hynny mewn ffordd gadarn a dibynadwy, ar gyfer yr ystod lawn o grwpiau a phoblogaethau perthnasol, ac ar lefelau gwahanol o ddaearyddiaeth.
Egwyddor Data Cynhwysol 5:
Sicrhau bod y cysyniadau a gaiff eu mesur yn yr holl ddata a gesglir yn briodol ac yn eglur.
Egwyddor Data Cynhwysol 6:
Ehangu’r amrywiaeth o ddulliau a ddefnyddir fel mater o drefn a chreu dulliau newydd o ddeall profiadau holl boblogaeth y DU.
Egwyddor Data Cynhwysol 7:
Dylai safonau wedi’u cysoni ar gyfer grwpiau a phoblogaethau perthnasol gael eu hadolygu o leiaf bob pum mlynedd a’u diweddaru a’u hehangu lle bo angen, yn unol â newidiadau mewn normau cymdeithasol ac anghenion ymatebwyr a defnyddwyr.
Egwyddor Data Cynhwysol 8:
Sicrhau bod data a thystiolaeth y DU yr un mor hygyrch i bawb, gan ddiogelu manylion adnabod a chyfrinachedd y rhai sy’n rhannu eu data.
Mae astudiaeth achos o brosiectau sy’n gysylltiedig â phob un o’r Egwyddorion hefyd wedi’i gynnwys, er mwyn dangos dull ac effaith y gwaith amrywiol sy’n mynd rhagddo i gyflawni’r argymhellion a dangos yr amrywiaeth o waith ar draws y llywodraeth a gyda grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol. Cafodd yr astudiaethau achos sydd wedi’u cynnwys yn yr adroddiad hwn eu dewis oherwydd bod y gwaith yn cynnwys un neu fwy o’r grwpiau blaenoriaeth ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf, a nodir yn adran Cynllun gwaith 2024-2025 yr adroddiad hwn.
Casglwyd data ar gyfer yr adroddiad hwn gan bob un o’r 29 o berchnogion ymrwymiadau ar draws y llywodraeth, llywodraethau datganoledig a’r trydydd sector. Mae statws yr ymrwymiadau yn adlewyrchu diweddariadau a gafwyd rhwng mis Chwefror a mis Mai 2024.
Gwnaed cryn gynnydd ers i’r ymrwymiadau gael eu pennu yn 2022, er gwaethaf pwysau ar adnoddau a chyllid. Mae Ffigur 1 yn dangos dosbarthiad holl ymrwymiadau’r Tasglu Data Cynhwysol gan ddefnyddio system goleuadau traffig, lle mae:
- wedi’u cwblhau yn golygu bod y gwaith a nodwyd gan yr ymrwymiad wedi’i gwblhau
- gwyrdd yn golygu bod y gwaith ar y trywydd cywir
- melyn yn golygu bod oedi wrth gwblhau’r gwaith
- a choch yn golygu bod oedi sylweddol wrth gwblhau’r gwaith neu ei fod wedi cael ei ohirio dros dro.
Ar y cyfan, mae 43% o’r ymrwymiadau wedi cael eu cwblhau ac mae 41% yn gwneud cynnydd da. Mae oedi mewn perthynas â 10% ohonynt ac mae 6% wedi’u gohirio am resymau megis newidiadau i flaenoriaethau adrannau.