Gwaith hyd yma
Sefydlwyd Pwyllgor Cynghori ar Ddata Cynhwysol yr Ystadegydd Gwladol (NSIDAC) yn 2022 fel pwyllgor annibynnol i gynghori’r Ystadegydd Gwladol ar welliannau parhaus mewn perthynas â chynwysoldeb, ansawdd a chwmpas data, a’r ffordd y mae ymrwymiadau’r Tasglu Data Cynhwysol a wnaed ar draws y llywodraeth a sefydliadau ehangach yn datblygu er mwyn cyflawni’r argymhellion a nodwyd yn yr adroddiad gwreiddiol. Mae’r NSIDAC yn cyfarfod bob chwarter i drafod diweddariadau i ymrwymiadau allweddol y Tasglu Data Cynhwysol a rhoi cyngor i’r SYG a pherchnogion ymrwymiadau eraill ar draws y llywodraeth er mwyn cefnogi cynnydd.
Cefnogir swyddogaeth NSIDAC gan Is-bwyllgor Data Cynhwysol (IDSC) Gwasanaeth Ystadegol y Llywodraeth. Mae’r IDSC, a gaiff ei gadeirio gan y SYG ac sy’n cynnwys Penaethiaid Proffesiwn o ystod allweddol o gynhyrchwyr ystadegol y llywodraeth a llywodraethau datganoledig y DU, yn gweithio ochr yn ochr â’r NSIDAC er mwyn trafod cyfleoedd a rhwystrau sy’n ymwneud â data cynhwysol ar draws y system ystadegol.
Yn 2023, cyhoeddwyd yr adroddiad ar Ymgorffori Cynwysoldeb yn nata’r DU a oedd yn cynnwys trosolwg o’r cynnydd a wnaed hyd at 2023 ym mhob un o’r ymrwymiadau a gyhoeddwyd yn y Cynllun Gweithredu. Nodwyd cyflawniadau allweddol yn yr adroddiad hwn ynghyd â chynlluniau pellach ar gyfer 2023 i 2024. Mae’r adroddiad hwn yn rhoi trosolwg o’r cynnydd a wnaed tuag at yr ymrwymiadau yn ystod y cyfnod o 2023 i 2024.