Cynllun gwaith ar gyfer 2024 i 2025
Ar y cyd â gwaith parhaus i fonitro a chefnogi cynnydd ymrwymiadau’r Tasglu Data Cynhwysol, mae’r NSIDAC a’r IDSC wedi datblygu cyfres o themâu â blaenoriaeth ar gyfer gweddill y rhaglen hyd at 2025.
Yn seiliedig ar asesiad o’r system ystadegol, tirwedd data cydraddoldeb a chynnydd rhaglenni sy’n ymwneud â grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol hyd yn hyn, bydd y Pwyllgorau yn blaenoriaethu’r gwaith o ddatblygu data mwy cynhwysol ar gyfer tair thema:
- Plant
- Anabledd
- Poblogaethau nad ydynt yn rhan o gartrefi (fel pobl sy’n ddigartref neu sy’n byw mewn sefydliadau cymunedol fel cartrefi gofal).
Bydd mabwysiadu ffocws ar y tri maes allweddol hyn yn cefnogi camau i wneud cynnydd cyflym o ran casglu mwy o ddata a data o ansawdd gwell, llunio dadansoddiadau trawsbynciol a rhoi gwybodaeth am brofiadau a chanlyniadau grwpiau â nodweddion croestoriadol. Bydd y dull gweithredu hwn hefyd yn hyrwyddo camau i flaenoriaethu data ar grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol fel rhan o’r broses o ymchwilio i ddata gweinyddol i’w defnyddio fel data ystadegol.