Egwyddor Data Cynhwysol 1: Ymddiriedaeth
Ynglŷn ag Egwyddor 1: Creu amgylchedd o ymddiriedaeth a dibynadwyedd sy’n galluogi ac yn annog pawb i gyfrif a chael eu cyfrif yn nata a thystiolaeth y DU.
Mae 37 o ymrwymiadau o dan Egwyddor 1. Mae Ffigur 2 yn dangos dosbarthiad yr ymrwymiadau yn ôl eu statws Coch Melyn Gwyrdd. Roedd 80% o’r ymrwymiadau wedi’u cwblhau ac yn wyrdd, gyda’r mwyafrif o’r rhain yn rhai wedi’u cwblhau (49% o gymharu â 32% yn wyrdd). Isod disgrifiwn ymrwymiad sy’n hyrwyddo cynwysoldeb yn arolygon cymdeithasol y SYG.
Ffigur 2: Statws Coch Melyn Gwyrdd pob un o 37 o ymrwymiadau’r Tasglu o dan Egwyddor Data Cynhwysol 1
Astudiaeth achos: Rhaglen Cynwysoldeb wrth Gasglu Data, Arolygon Cymdeithasol, y Swyddfa Ystadegau Gwladol
Ymrwymiad:
Mae’r SYG yn cynnal adolygiad o brosesau gweithredol sy’n gysylltiedig â chasglu data yn ein portffolio presennol o arolygon cymdeithasol er mwyn pennu’r rhwystrau i gymryd rhan, gan gynnwys ymhlith y rhai heb gynrychiolaeth ddigonol yn yr ystadegau. Bydd hyn yn galluogi cynllunio prosesau gweithredol lle caiff rhwystrau eu hatal, eu dileu neu lle cymerir camau lliniaru yn eu herbyn. Cwblheir y gwaith o nodi rhwystrau a chynnig atebion yn 2022, a ddilynir gan ymchwil i nodi’r atebion gorau i’w rhoi ar waith.
Mae Rhaglen Cynwysoldeb wrth Gasglu Data’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (y SYG) wedi bod ar waith ers mis Hydref 2021. Y nod yw nodi rhwystrau rhag cymryd rhan yn arolygon cymdeithasol y SYG a gwneud argymhellion gweithredol er mwyn gwneud prosesau casglu data’r SYG yn fwy cynhwysol.
Mae rhaglen ymchwil wedi cael ei chynnal er mwyn deall profiadau o’r broses arolygu o’r dechrau i’r diwedd. Roedd hyn yn cynnwys ymchwil ansoddol gyda phobl sydd ag un neu fwy o’r pum cyflwr iechyd meddwl mwyaf cyffredin, pobl sydd ag amhariad ar y golwg, pobl sy’n fyddar/Byddar neu’n drwm eu clyw, neu bobl niwrowahanol (gyda phwyslais ar Awtistiaeth, Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADHD) a Dyslecsia).
Roedd profiadau yn amrywio rhwng grwpiau ac o fewn grwpiau. Roedd y rhwystrau a nodwyd yn cynnwys anawsterau wrth ryngweithio â llythyrau’r SYG a theimlo eu bod wedi’u heithrio ohonynt, a theimlo’n agored i niwed pan fyddai ymwelwyr annisgwyl ar garreg y drws. Roedd yr hyn a oedd yn eu helpu i gwblhau arolygon yn cynnwys gallu eu cwblhau ar lein ac ystyried budd cymryd rhan iddyn nhw eu hunain a’u cymuned yn erbyn yr ymdrech i gymryd rhan.
Ym mis Chwefror 2024, cynhaliwyd gweithdy gydag arweinwyr yn y maes arolygon cymdeithasol er mwyn rhannu a thrafod canfyddiadau ymchwil allweddol, llwyddiannau a gwersi a ddysgwyd mewn perthynas â chynwysoldeb arolygon cymdeithasol, er mwyn llywio dyfodol prosesau casglu data yn ein harolygon cymdeithasol.
Roedd cydweithwyr ymchwil a gweithrediadau’r SYG a chynrychiolwyr o adrannau o bob rhan o Wasanaeth Ystadegol y Llywodraeth a sefydliadau arolygu’r DU yn bresennol yn y gweithdy, a chanolbwyntiodd ar dair thema:
- Unigolion â chyflyrau corfforol neu iechyd meddwl neu niwrowahaniaeth
- Grwpiau anodd eu cyrraedd
- Y defnydd o gymhellion arbennig
Mae’r hyn a ddysgwyd yn y gweithdy wedi bwydo i mewn i’r gwaith o lywio argymhellion y rhaglen ymchwil, sy’n ceisio datblygu proses arolygu sydd wedi’i theilwra i anghenion unigol yn well. Mae’r argymhellion o’r rhaglen gyfan yn cael eu cwmpasu ar hyn o bryd er mwyn deall yr holl gamau sy’n gysylltiedig â gweithredu. Caiff y rhain eu blaenoriaethu, gan ystyried effaith, dichonoldeb a blaenoriaethau eraill y sefydliad.
Back to top