Egwyddor Data Cynhwysol 2: Gweithio Systemig

Ynglŷn ag Egwyddor 2: Defnyddio dull system gyfan, gan weithio mewn partneriaeth ag eraill i wneud data a thystiolaeth y DU yn fwy cynhwysol.

Mae 44 o ymrwymiadau o dan Egwyddor 2. Mae Ffigur 3 yn dangos dosbarthiad yr ymrwymiadau yn ôl eu statws Coch Melyn Gwyrdd. Roedd 77% o’r ymrwymiadau wedi’u cwblhau neu’n wyrdd (59% ac 18% yn y drefn honno). Isod disgrifiwn brosiect ar y cyd rhwng Swyddfa’r Cabinet a’r Adran Addysg sy’n defnyddio dull system gyfan i wella argaeledd data.

Ffigur 3: Statws Coch Melyn Gwyrdd pob un o 44 o ymrwymiadau’r Tasglu o dan Egwyddor Data Cynhwysol 2

Astudiaeth achos: Gwella ansawdd ac argaeledd data a thystiolaeth ar ethnigrwydd ar gyfer plant sy'n derbyn gofal, Swyddfa'r Cabinet a'r Adran Addysg

Ymrwymiad:

Gan ddefnyddio’r gwersi a ddysgwyd ynghylch ansawdd data ar ethnigrwydd o ran data iechyd, bydd Uned Gwahaniaethau ar sail Hil Swyddfa’r Cabinet yn gwneud argymhellion i wella ansawdd data mewn casgliadau gwahanol o ddata. Datblygir adroddiad prototeip ar gyfer maes penodol o ddata drwy gydol 2022 ac ymhelaethir ar hynny i feysydd eraill yn 2023, yn dibynnu ar yr ymateb i’r prototeip.

Mae Canolfan Cydraddoldeb Swyddfa’r Cabinet a’r Adran Addysg wedi datblygu a chyhoeddi strategaeth i wella ansawdd ac argaeledd data a thystiolaeth ethnigrwydd ar gyfer plant sy’n derbyn gofal a’u llwybrau allan o ofal.

Mae gwahaniaethau mewn canlyniadau a phrofiadau rhwng plant sy’n derbyn gofal o grwpiau ethnig gwahanol nad yw amddifadedd yn unig yn eu hesbonio. Gall y strategaeth ar gyfer data ar blant sy’n derbyn gofal, a gyhoeddwyd ym mis Ebrill 2023, helpu i wella’r sylfaen dystiolaeth, deall y gwahaniaethau hyn a gwneud cynnydd o ran mynd i’r afael â nhw.

Mae’r strategaeth ar gyfer data ar blant sy’n derbyn gofal, a gyhoeddwyd ym mis Ebrill 2023, yn rhoi trosolwg o ba ddata sydd ar gael ar hyn o bryd, ac asesiad o ansawdd y data sydd ar gael. Mae hefyd yn cwmpasu meysydd ansawdd data ac anghenion defnyddwyr, fel nodweddion, dangosyddion canlyniadau, dadansoddiad archwiliol pellach a’r posibilrwydd o gymhwyso canlyniadau cenedlaethol i’r lefel awdurdodau lleol.

Yn seiliedig ar asesiad o argaeledd ac ansawdd y data, ac anghenion defnyddwyr, nodwyd blaenoriaethau gan gynnwys deall y metrigau pwysig sydd eu hangen ar gyfer Dangosfwrdd Gofal Cymdeithasol Plant newydd er mwyn helpu i gefnogi prosesau dysgu a gwella; deall pa ddata amser real y byddai’n fuddiol i’r Adran Addysg a’r sector eu casglu’n uniongyrchol o systemau rheoli gwybodaeth; a dadansoddiadau manylach o gategorïau, gan gynnwys ethnigrwydd a chanlyniadau.

Mae rhai o’r camau gweithredu i fynd i’r afael â’r meysydd blaenoriaeth hyn wedi cynnwys ychwanegu dadansoddiadau ethnigrwydd at y data mewn datganiadau blynyddol. Mae hyn yn cynnwys data ar blant sy’n derbyn gofal, gan gynnwys y rhai sy’n mynd ar goll, y rhai sy’n gadael gofal a gwybodaeth am sefydlogrwydd lleoliadau a sefydlogrwydd yn yr ysgol, a deilliannau yng Nghyfnod Allweddol 1, Cyfnod Allweddol 2 a Chyfnod Allweddol 4.

Back to top