Egwyddor Data Cynhwysol 3: Cwmpas

Ynglŷn ag Egwyddor 3: Sicrhau y caiff gwybodaeth am bob grŵp ei chofnodi mewn perthynas ag agweddau allweddol ar fywyd yn nata’r DU, ac adolygu arferion yn rheolaidd.

Mae 70 o ymrwymiadau o dan Egwyddor 3, y nifer uchaf o gymharu â’r Egwyddorion eraill. Mae Ffigur 4 yn dangos dosbarthiad yr ymrwymiadau yn ôl eu statws Coch Melyn Gwyrdd. Roedd 80% o’r ymrwymiadau yn wyrdd neu wedi’u cwblhau (47% a 33% yn y drefn honno). Mae 14% o’r ymrwymiadau o dan yr Egwyddor hon yn goch, sy’n uchel o gymharu â’r Egwyddorion eraill ac, yn gyffredinol, gellir cysylltu hyn â blaenoriaethau newidiol adrannau. Isod disgrifiwn brosiect gan yr Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol i ryddhau gwybodaeth ychwanegol ochr yn ochr â chyhoeddiadau’r Casgliad Gwybodaeth Lefel Achosion Digartrefedd (HCLIC).

Ffigur 4: Statws Coch Melyn Gwyrdd pob un o 70 o ymrwymiadau’r Tasglu o dan Egwyddor Data Cynhwysol 3

Astudiaeth achos: Is-grwpiau tablau llifoedd newydd yn natganiadau ystadegol Casgliad Gwybodaeth Lefel Achosion Digartrefedd (HCLIC) yr Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol

Ymrwymiad:

Mae’r Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau wedi llunio amrywiaeth o allbynnau newydd o’r set ddata digartrefedd statudol er mwyn diwallu anghenion defnyddwyr o ran y llifau drwy’r system o is-grwpiau penodol, gan gynnwys pobl sy’n cysgu allan a’r rhai rhwng 18 ac 20 oed sy’n gadael gofal a’r ddalfa. Adolygir anghenion defnyddwyr cyn y cyhoeddiad nesaf er mwyn sicrhau bod y gwaith adrodd yn adlewyrchu’r grwpiau â’r flaenoriaeth uchaf.

Mae’r Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau yn rhyddhau ystadegau blynyddol ar asesiadau a gweithgareddau digartrefedd statudol yn Lloegr, y cyfeirir atynt fel cyhoeddiadau HCLIC, sy’n rhoi gwybodaeth am y rhai y mae dyletswydd ar awdurdodau lleol i’w lletya gan eu bod yn ddigartref heb unrhyw fai arnyn nhw, yn gymwys i gael cymorth a gan fod ganddynt ‘angen blaenoriaethol’. Mae’r datganiadau hyn yn rhoi gwybodaeth am ddemograffeg, gan gynnwys oedran, ethnigrwydd a statws cyflogaeth, er mwyn gallu dadansoddi’r data yn ôl cefndir demograffig-gymdeithasol.

Mae prosesau ymgysylltu rheolaidd â defnyddwyr ac adborth ganddynt yn golygu y gall yr Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol fod yn ymwybodol o anghenion newidiol defnyddwyr. Caiff cynhyrchion ystadegol eu diweddaru er mwyn sicrhau yr adroddir ar ystadegau amserol a phriodol drwy ddiweddaru ein casgliad data drwy opsiynau a chwestiynau newydd yn y fanyleb data.

Caiff y gofynion adrodd hyn eu dilysu drwy asesiadau beichiau newydd a chyfarfodydd y Bartneriaeth Gwybodaeth Ganolog a Lleol â chynrychiolwyr awdurdodau lleol lle rhoddir adborth ar ba mor hawdd y gellir rhoi’r newidiadau hyn ar waith. Ymgysylltir â chydweithwyr a chynghorwyr polisi yn rheolaidd er mwyn sicrhau bod y cynhyrchion yn addas at y diben, a chroesewir sylwadau gan ddefnyddwyr cyffredinol ystadegau drwy’r blwch negeseuon e-bost ac arolygon.

Er mwyn sicrhau bod anghenion amrywiol amrywiaeth o ddefnyddwyr yn cael eu hystyried wrth gasglu data ac adrodd arnynt, mae ystod o allbynnau newydd wedi cael eu cynhyrchu fel rhan o ddatganiad 2022-23. Mae tablau llifoedd, sy’n archwilio llif cartrefi drwy ddyletswyddau digartrefedd a’u canlyniadau, bellach yn cynnwys carfanau o gartrefi sydd ag anableddau ac afiechydon corfforol, anawsterau dysgu a mynediad at gymorth lloches. Bydd hyn yn golygu y gellir dadansoddi canlyniadau yn fanylach yn ôl amgylchiadau a chymharu meysydd niferus o anfantais.

Wrth edrych tua’r dyfodol, mae’r Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau yn bwriadu adolygu gofynion defnyddwyr sy’n gysylltiedig â’r set ddata a buddiannau ychwanegol rhanddeiliaid mewn carfanau newydd posibl y gellid eu cynnwys yng nghyhoeddiad blynyddol 2023-2024.

 

Back to top