Egwyddor Data Cynhwysol 4: Dadgyfuno

Ynglŷn ag Egwyddor 4: Gwella seilwaith data’r DU fel bod modd dadgyfuno data a dadansoddi croestoriadau, a hynny mewn ffordd gadarn a dibynadwy, ar gyfer yr ystod lawn o grwpiau a phoblogaethau perthnasol, ac ar lefelau gwahanol o ddaearyddiaeth.

Mae 51 o ymrwymiadau o dan Egwyddor 4. Mae Ffigur 5 yn dangos dosbarthiad yr ymrwymiadau yn ôl eu statws Coch Melyn Gwyrdd. Mae’r mwyafrif o’r ymrwymiadau wedi’u cwblhau neu’n wyrdd, a’r ddau ar 45%. Isod disgrifiwn brosiect a gwblhawyd gan yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon a gynyddodd faint sampl er mwyn dosbarthu data manwl.

Ffigur 5: Statws Coch Melyn Gwyrdd pob un o 51 o ymrwymiadau’r Tasglu o dan Egwyddor Data Cynhwysol 4

Astudiaeth achos: Cynyddu maint y sampl ar gyfer yr Arolwg Cyfranogiad a'r Arolwg Bywyd Cymunedol er mwyn darparu mwy o fanylder daearyddol, yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon

Ymrwymiad:

Bydd yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon yn edrych i weld pa mor ymarferol yw hi i i gyfuno sawl blwyddyn o ddata o’r Arolwg Bywyd Cymunedol er mwyn cynhyrchu set ddata gyfunol i’w gwneud hi’n haws dadansoddi is-grwpiau. Bydd yn edrych i weld pa mor ymarferol yw hi i gynhyrchu amcangyfrifon ardal fach fel bod modd dadansoddi ardaloedd daearyddol llai ar raddfa fwy. Bydd maint sampl yr Arolwg Cyfranogiad hefyd yn cynyddu fel bod modd cynhyrchu amcangyfrifon ar lefel ddaearyddol is.

Mae Arolwg Cyfranogiad yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon yn arolwg digidol yn gyntaf ac anogir ymatebwyr i gwblhau’r arolwg ar lein, er bod opsiwn i lenwi arolwg papur os oes angen. Dechreuodd yr Arolwg Cyfranogiad ei bedwaredd blwyddyn ym mis Ebrill 2024 ac mae’n arolwg cadarn o oedolion 16 oed a throsodd yn Lloegr sy’n genedlaethol gynrychioliadol .  Mae’r arolwg yn casglu data ar ymgysylltiad â’r sectorau diwylliannol, digwyddiadau diwylliannol a chwaraeon mawr, chwaraeon byw a gamblo, a’r sectorau digidol. Mae hefyd yn casglu gwybodaeth am ddemograffeg, gan gynnwys oedran, anabledd ac addysg, a meysydd cysylltiedig gan gynnwys llesiant ac unigrwydd.  Mae’r canfyddiadau yn cyfrannu at y sylfaen dystiolaeth ar gyfer nifer o feysydd polisi, yn helpu i fonitro hygyrchedd sectorau’r Adran dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, ac yn darparu gwybodaeth werthfawr am ymgysylltiad.

Mae’r Arolwg Cyfranogiad wedi disodli’r Arolwg Cymryd Rhan, a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2020. Drwy newid o arolwg wyneb yn wyneb i arolwg y caiff pobl eu hannog i’w gwblhau ar y we, llwyddodd yr Adran i gynyddu maint y sampl o 10,000 i 33,000. Mae arolygon papur ar gael ar gais bob amser. Mae’r maint sampl cynyddol yn golygu y gellir darparu ystadegau ar lefel sirol. Mae hefyd wedi galluogi’r adran i ddadansoddi a chyhoeddi dadansoddiadau demograffig manylach, gan gynnwys yn ôl ethnigrwydd ac yn ôl crefydd.

Yn ogystal, o ganlyniad i bartneriaeth â Chyngor y Celfyddydau Lloegr, cynyddwyd y sampl ar gyfer arolwg 2023/24 ymhellach i 175,000 sy’n golygu y gellir cael amcangyfrifon ystyrlon ar lefel Awdurdod Lleol. Caiff ystadegau o’r set ddata hon eu cyhoeddi ym mis Gorffennaf 2024, a bydd yr arolwg yn cynnwys mwy o fanylder nag erioed o’r blaen. Y bwriad yw rhoi hwb i’r arolwg o lefel sirol i lefel Awdurdod Lleol unwaith bob 3 blynedd, ac mae’r hwb nesaf wedi’i gynllunio ar gyfer 2025/26. Bydd y data hyn ar lefel Awdurdod Lleol yn cefnogi anghenion amrywiaeth o ddefnyddwyr a byddant yn chwarae rôl allweddol o ran cefnogi strategaeth ‘Let’s Create’ Cyngor y Celfyddydau Lloegr.

Mae’r Arolwg Bywyd Cymunedol, sydd hefyd ar gael ar lein ac ar ffurf bapur, hefyd yn casglu data ar ddemograffeg, gan gynnwys oedran, anabledd ac ethnigrwydd, gan oedolion 16 oed a throsodd yn Lloegr. Y prif themâu a gwmpesir gan yr arolwg yw ymgysylltu â’r gymuned, gwirfoddoli a chydlyniant cymdeithasol. Mae hyn yn golygu y gellir dadansoddi pynciau craidd hanfodol, gan gynnwys rhyngweithio â theulu a ffrindiau, ymdeimlad o berthyn a boddhad mewn perthynas â’u cymdogaeth, a lefelau o hapusrwydd, boddhad, gorbryder ac unigrwydd.

Ar gyfer blynyddoedd arolwg 2023/24 a 2024/25, mae’r Adran dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon yn gweithio mewn partneriaeth a’r Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol. Bydd hyn yn golygu y gellir cynyddu maint y sampl o oddeutu 10,000 i 175,000, a fydd yn golygu y gellir cynhyrchu amcangyfrifon ar lefel Awdurdod Lleol. Caiff cwestiynau ychwanegol am Balchder mewn Lle a Chyfleoedd Bywyd eu cynnwys hefyd. Caiff yr ystadegau nesaf o’r set ddata hon eu cyhoeddi yn ystod hydref 2024.

Mae’r Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon hefyd wedi comisiynu adroddiad ymchwil i archwilio addasrwydd defnyddio dull sy’n seiliedig ar fodel i gael metrigau lefel Awdurdod Lleol ar gyfer yr Arolwg Bywyd Cymunedol. Caiff yr adroddiad hwn ei gyhoeddi maes o law.

Mae’r Adran dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon yn ymgymryd ag adolygiad strategol ar hyn o bryd, gan gynnwys ymgynghoriad, o anghenion arolygu’r adran, gan gwmpasu’r Arolwg Cyfranogiad a’r Arolwg Bywyd Cymunedol. Mae’r Adran yn ystyried opsiynau ar gyfer strwythur arolygon cymdeithasol yn y dyfodol, gan sicrhau bod diwallu anghenion defnyddwyr a sicrhau gwerth am arian yn parhau i fod yn flaenoriaeth wrth gynllunio unrhyw arolwg.

Back to top