Dear Ms Jewell,

Thank you for your letter dated 3 October 2023 following up on several points raised during our meeting with the Committee on 21 September 2023 on the future of population and migration statistics in England and Wales.

Feedback from the 2023 International Census Forum

 The 2023 International Census Forum (ICF) was held in Montreal between 2-5 October. There were representatives in attendance from Canada, the United States of America, New Zealand, Australia, Ireland, Scotland, England & Wales, and Northern Ireland.

The subject of language data collection in the Census was raised at this ICF. In particular, there was discussion around how language is collected in the Census and whether any specific challenges had been experienced. Broadly, no country reported experiencing significant difficulties in collection or reporting.

As an example, in the Canadian Census of Population there are four questions on language. These are: can the person speak English or French well enough to conduct a conversation; what language is spoken on a regular basis at home; what language is spoken most often at home; what is the language first learned at home in childhood and still understood.

Countries reported no issues relating to sense of belonging or any other significant issues when comparing Census with Surveys.

As part of the ICF Communities of Practice (CoP) framework, technical working groups exist to carry work forward in a collaborative way. Language collection would come under the data collection CoP and so best practice and approaches will continue to be shared between countries in this working group.

Office for National Statistics (ONS) and Welsh Government joint work plan on coherence of Welsh language statistics

We recognise the importance of robust data on Welsh language skills for the Welsh Government, to measure progress against the aim of a million Welsh speakers by 2050. We have conducted initial research into the potential of administrative datasets to provide information about Welsh language skills variables, in particular from education sources. This research has suggested that there is comprehensive coverage of Welsh language skills for school age children. However, the administrative sources available do not allow for production of estimates of Welsh speaking at local authority level based on population characteristics such as age and sex.

We recognise that alternative means of data collection may be needed to produce robust Welsh language statistics, for example through government departments’ admin data collection or through surveys. We are keen to work with Welsh government to explore administrative sources further, as well as to explore the use of local data sources to provide this information.

Whilst we work to improve the quality of the administrative data, we will continue to use survey data where required to ensure robust statistics on Welsh language skills are available for policymakers and other data users. We are working closely with Welsh Government colleagues and are jointly conducting an ambitious workplan of research to understand the quality of current data collection sources.

The first results from this workplan have been published and can be found in our joint Differences between estimates of Welsh language ability in Census 2021 and household surveys article. This workplan will continue into 2024 and will help to inform Welsh Government’s response to the National Statistician’s recommendation following the consultation on the future of migration and population statistics in England and Wales.

Please do let us know if you have any other questions, and if we can help the Committee further on either of these topics or any other matters.

Yours sincerely,                                                                                                                

Ruth Studley, Jen Woolford

_____________________________________________________________________________________________________________________________________

Annwyl Ms Jewell,

Diolch am eich llythyr dyddiedig 3 Hydref 2023 yn cymryd camau dilynol mewn perthynas â sawl pwynt a godwyd yn ystod ein cyfarfod gyda’r Pwyllgor ar 21 Medi 2023 ar ddyfodol ystadegau am y boblogaeth a mudo yng Nghymru a Lloegr.

Adborth o Fforwm Cyfrifiad Rhyngwladol 2023

 Cynhaliwyd Fforwm Cyfrifiad Rhyngwladol 2023 yn Montreal rhwng 2 a 5 Hydref. Roedd cynrychiolwyr o Ganada, Unol Daleithiau America, Seland Newydd, Awstralia, Iwerddon, yr Alban, Cymru a Lloegr, a Gogledd Iwerddon yn bresennol.

Cafodd y mater o gasglu data am iaith yn y cyfrifiad ei drafod yn y Fforwm hwn. Yn benodol, cafwyd trafodaeth ynglŷn â sut y caiff gwybodaeth am iaith ei chasglu yn y cyfrifiad ac a oes unrhyw heriau penodol wedi’u nodi. Yn fras, ni nododd unrhyw wlad ei bod wedi cael anawsterau sylweddol wrth gasglu nac adrodd.

Er enghraifft, yng Nghyfrifiad o Boblogaeth Canada, mae pedwar cwestiwn am iaith, sef: a yw’r person yn gallu siarad Saesneg neu Ffrangeg yn ddigon da i gynnal sgwrs; pa iaith a gaiff ei siarad yn rheolaidd yn y cartref; pa iaith a gaiff ei siarad amlaf yn y cartref; pa iaith a gaiff ei dysgu gyntaf yn y cartref yn ystod plentyndod ac sy’n cael ei deall o hyd.

Ni nododd gwledydd unrhyw broblemau mewn perthynas ag ymdeimlad o berthyn nac unrhyw faterion eraill o bwys wrth gymharu’r Cyfrifiad ag Arolygon.

Fel rhan o fframwaith Cymunedau Ymarfer y Fforwm, mae gweithgorau technegol yn bodoli er mwyn symud gwaith yn ei flaen mewn ffordd gydweithredol. Byddai casglu gwybodaeth am iaith yn rhan o’r Gymuned Ymarfer ar gyfer casglu data ac felly bydd arferion gorau a dulliau gweithredu yn parhau i gael eu rhannu rhwng gwledydd yn y gweithgor hwn.

Cynllun gwaith ar y cyd y Swyddfa Ystadegau Gwladol (y SYG) a Llywodraeth Cymru ar gydlynu ystadegau am y Gymraeg

 Rydym yn cydnabod pa mor bwysig yw cael data cadarn ar sgiliau Cymraeg i Lywodraeth Cymru, er mwyn mesur cynnydd yn erbyn y nod o gael miliwn o siaradwyr erbyn 2050. Rydym wedi gwneud gwaith ymchwil cychwynnol i’r posibilrwydd o ddefnyddio setiau data gweinyddol i ddarparu gwybodaeth am newidynnau sgiliau Cymraeg, ac o ffynonellau addysg yn benodol. Mae’r ymchwil hon wedi awgrymu bod sgiliau Cymraeg plant oedran ysgol yn cael eu cwmpasu’n gynhwysfawr. Fodd bynnag, nid yw’r ffynonellau gweinyddol sydd ar gael yn caniatáu i amcangyfrifon o sgiliau siarad Cymraeg gael eu cynhyrchu ar lefel awdurdod lleol yn seiliedig ar nodweddion y boblogaeth fel oedran a rhyw.

Rydym yn cydnabod y gall fod angen defnyddio dulliau eraill o gasglu data er mwyn cynhyrchu ystadegau cadarn am y Gymraeg, er enghraifft drwy brosesau casglu data gweinyddol adrannau’r Llywodraeth neu drwy arolygon. Rydym yn awyddus i weithio gyda Llywodraeth Cymru i ymchwilio ymhellach i ffynonellau gweinyddol, yn ogystal ag ystyried ffyrdd o ddefnyddio ffynonellau data lleol i ddarparu’r wybodaeth hon.

Wrth i ni weithio i wella ansawdd y data gweinyddol, byddwn yn parhau i ddefnyddio data o arolygon pan fo angen i sicrhau bod ystadegau cadarn am sgiliau Cymraeg ar gael i’r rhai sy’n llunio polisïau a defnyddwyr data eraill. Rydym yn gweithio’n agos gyda chydweithwyr yn Llywodraeth Cymru ac rydym yn cynnal cynllun gwaith ymchwil uchelgeisiol ar y cyd er mwyn deall ansawdd ffynonellau casglu data cyfredol.

Mae canlyniadau cyntaf y cynllun gwaith hwn wedi cael eu cyhoeddi a gellir dod o hyd iddynt yn ein herthygl ar y cyd, Gwahaniaethau rhwng amcangyfrifon o allu yn y Gymraeg yng Nghyfrifiad 2021 ac arolygon aelwydydd. Bydd y cynllun gwaith hwn yn parhau i 2024 a bydd yn helpu i lywio ymateb Llywodraeth Cymru i argymhelliad yr Ystadegydd Gwladol yn dilyn yr ymgynghoriad ar ddyfodol ystadegau am y boblogaeth a mudo yng Nghymru a Lloegr.

Rhowch wybod i ni os oes gennych unrhyw gwestiynau eraill, ac os gallwn helpu’r Pwyllgor ymhellach mewn perthynas â’r pynciau hyn neu unrhyw faterion eraill.

Yn gywir,                                                                                                               

Ruth Studley, Jen Woolford