Mae’r dudalen hon hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Annwyl Mr Drakeford,
Argymhelliad mewn perthynas â Dyfodol Ystadegau am y Boblogaeth a Mudo
Fel y gwyddoch, roedd Papur Gwyn 2018, ‘Helpu i Lunio Ein Dyfodol’, yn cynnwys yr ymrwymiad i gyflwyno argymhelliad i’r Llywodraeth ar ddyfodol ystadegau am y boblogaeth a mudo. Byddai hyn yn ymateb i uchelgais y Llywodraeth, fel y nodwyd yn 2014, y caiff cyfrifiadau ar ôl 2021 eu cynnal gan ddefnyddio ffynonellau data eraill ac y caiff gwybodaeth ystadegol fwy amserol ei darparu.
Ym mis Mawrth 2025, gwnaeth yr Ystadegydd Cenedlaethol ar y pryd, Syr Ian Diamond, argymhelliad ffurfiol i Fwrdd Awdurdod Ystadegau’r DU yr ydym wedi’i dderbyn a’i fabwysiadu fel ein hargymhelliad ein hun. Yn ganolog i’r cyngor hwnnw, a chymeradwyaeth y Bwrdd ohono, roedd:
- yr ymchwil eang a wnaed ac a gyhoeddwyd gan y SYG ar y defnydd o ddata gweinyddol ar gyfer ystadegau am y boblogaeth a mudo;
- dealltwriaeth y SYG o faterion cyfreithiol a phreifatrwydd, gan gadw at Strategaeth Ddata’r SYG bob amser i sicrhau mesurau cadarn i ddiogelu ac amddiffyn data;
- ymchwil y SYG i ddeall agweddau’r cyhoedd at ddata gweinyddol a chysylltu data, a’i ymgysylltiad â Phwyllgor Cynghori’r Ystadegydd Gwladol ar Foeseg Data;
- yr asesiad trylwyr a gynhaliwyd o’r cyfleoedd a’r risgiau dan sylw;
- canfyddiadau’r ymgynghoriad cyhoeddus eang a gynhaliwyd yn 2023;
- yr asesiadau y gofynnodd amdanynt gan y Panel Adolygu Sicrwydd Methodolegol (MARP) a Phwyllgor Cynghori yr Ystadegydd Gwladol ar Ddata Cynhwysol (NSIDAC).
Ymddiswyddodd Syr Ian Diamond fel Ystadegydd Gwladol ar 9 Mai 2025. Mae’r Ystadegydd Gwladol Dros Dro, Emma Rourke, o blaid yr argymhelliad, ac mae’r Bwrdd yn parhau i’w gefnogi’n frwd. Mae Bwrdd Awdurdod Ystadegau’r DU yn fodlon bod y SYG wedi cynnal adolygiad cyhoeddus trylwyr o’r ddarpariaeth o ystadegau am y boblogaeth a mudo yng Nghymru a Lloegr yn y dyfodol.
Canfu’r ymgynghoriad cyhoeddus a gynhaliwyd i lywio’r argymhelliad hwn gytundeb eang y byddai amcangyfrifon amlach a mwy amserol o’r boblogaeth yn werthfawr i amrywiaeth eang o ddefnyddwyr, gan gynnwys gwneuthurwyr polisïau lleol a chenedlaethol, darparwyr gwasanaethau cyhoeddus, gwneuthurwyr penderfyniadau yn y sectorau preifat a gwirfoddol, ac ymchwilwyr a dinasyddion sy’n ceisio deall ein cymdeithas a’n heconomi sy’n datblygu yn well.
Ond nododd y sawl a ymatebodd i’r ymgynghoriad, ynghyd â MARP ac NSIDAC, sawl gofyniad y byddai angen eu bodloni er mwyn i system sy’n seiliedig ar ddata gweinyddol ddiwallu anghenion defnyddwyr mewn modd cadarn a chynaliadwy.
Bydd angen i’r SYG wneud mwy o waith er mwyn cyflawni’r gofynion hyn, a bydd angen i’r Llywodraeth gymryd camau ategol sylweddol hefyd, yn benodol, i wella a gwarantu llif y data gweinyddol angenrheidiol. Byddai Bwrdd yr Awdurdod, defnyddwyr a’r cyhoedd am gael sicrwydd y caiff y gofynion hyn eu bodloni cyn y gallem fod yn hyderus ynghylch dibynnu ar ddull gweithredu sy’n seiliedig ar ddata gweinyddol yn bennaf.
Caiff hyn ei adlewyrchu yn elfennau craidd yr argymhellion a atodir, sef:
- bod Llywodraeth y DU yn comisiynu ac yn rhoi adnoddau i’r SYG gynnal cyfrifiad gorfodol yn seiliedig ar holiadur o’r boblogaeth gyfan yng Nghymru a Lloegr yn 2031. Dylai gefnogi allbynnau cydlynol y DU a sicrhau bod gwaith y SYG gyda data gweinyddol hyd yn hyn yn darparu cynifer o fuddion â phosibl, fel y gellir parhau i ddarparu buddion o’r fath yn y dyfodol.
- bod Llywodraeth y DU yn comisiynu ac yn rhoi adnoddau i’r SYG ddatblygu allbynnau ystadegol gan ddefnyddio data gweinyddol sy’n darparu amcangyfrifon mwy rheolaidd ac sy’n gynhwysol wrth gynrychioli cymdeithas. Dylai hyn gynnwys cyfrifiad o’r boblogaeth yn seiliedig ar ddata gweinyddol.
- bod Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i sicrhau bod llif rheolaidd, dibynadwy a pharhaus o’r setiau data gweinyddol hanfodol sydd eu hangen, gan sicrhau bod perchnogion data yn cyflawni’r ymrwymiad hwnnw, ac yn buddsoddi yn y gwelliannau gofynnol i’r ffynonellau hynny ac yn mynd i’r afael â’r elfennau hysbys sy’n gwrthdaro ac yn atal data rhag cael eu trosglwyddo.
Bydd y broses o gynnal cyfrifiad yn 2031 yn hwyluso’r bartneriaeth barhaus rhwng Llywodraeth Cymru a’r Swyddfa Ystadegau Gwladol i ddatblygu ystadegau o ansawdd uchel am yr iaith Gymraeg sy’n diwallu anghenion defnyddwyr.
Rwyf wedi ysgrifennu i gymeradwyo’r argymhelliad hwn i’r Ysgrifennydd Seneddol yn Swyddfa’r Cabinet ac rwy’n aros am ymateb Llywodraeth y DU.
Yn gywir,
Syr Robert Chote
Cadeirydd
Dolenni perthnasol
Awdurdod Ystadegau’r DU yn argymell cyfrifiad yn 2031