Atodiadau

Atodiad A: Acronymau

GSS IDSC – Is-bwyllgor Data Cynhwysol Gwasanaeth Ystadegol y Llywodraeth

IDTF – Tasglu Data Cynhwysol

NSIDAC – Pwyllgor Cynghori ar Ddata Cynhwysol yr Ystadegydd Gwladol

MARP – Panel Adolygu Sicrwydd Methodolegol

Atodiad B: Statws Coch Melyn Gwyrdd ar gyfer pob Egwyddor Data Cynhwysol

Ynglŷn ag Egwyddor 1:

Creu amgylchedd o ymddiriedaeth a dibynadwyedd sy’n galluogi ac yn annog pawb i gyfrif a chael eu cyfrif yn nata a thystiolaeth y DU.

O’r 37 o ymrwymiadau a fapiwyd i Egwyddor 1, aseswyd bod 81% wedi’u cwblhau (65%) neu ar y trywydd cywir (16%) a nodwyd bod 19% naill ai wedi cael eu hoedi (14%) neu wedi cael eu hoedi’n sylweddol neu’u gohirio dros dro (5%).

Sail: 37 o brosiectau ymrwymiad y Tasglu wedi’u mapio i EDC1

Ynglŷn ag Egwyddor 2:

Defnyddio dull system gyfan, gan weithio mewn partneriaeth ag eraill i wneud data a thystiolaeth y DU yn fwy cynhwysol.

O’r 44 o ymrwymiadau o dan Egwyddor 2, roedd 84% wedi’u cwblhau (75%) neu ar y trywydd cywir i’w cyflawni (9%) tra bod 16% wedi cael eu hoedi (14%) neu wedi cael eu hoedi’n ddifrifol/gohirio dros dro (2%), fel y dangosir yn Ffigur 10.

Sail: 44 o brosiectau ymrwymiad data cynhwysol wedi’u mapio i EDC2

Ynglŷn ag Egwyddor 3:

Sicrhau y caiff gwybodaeth am bob grŵp ei chofnodi mewn perthynas ag agweddau allweddol ar fywyd yn nata’r DU, ac adolygu arferion yn rheolaidd.

Mae 70 o ymrwymiadau o dan Egwyddor 3, sy’n awgrymu bod mwy o weithgarwch yn digwydd yn y maes hwn nag mewn unrhyw faes arall. Er bod 87% o ymrwymiadau yn y maes hwn wedi’u cwblhau (46%) neu ar y trywydd cywir (41%), aseswyd bod 7% wedi cael eu hoedi’n sylweddol neu’u gohirio dros dro (coch), fel y dangosir yn Ffigur 11.

Sail: 70 o ymrwymiadau’r Tasglu wedi’u mapio i EDC3

Ynglŷn ag Egwyddor 4:

Gwella seilwaith data’r DU fel bod modd dadgyfuno data a dadansoddi croestoriadau, a hynny mewn ffordd gadarn a dibynadwy, ar gyfer yr ystod lawn o grwpiau a phoblogaethau perthnasol, ac ar lefelau gwahanol o ddaearyddiaeth.

Mae 51 o ymrwymiadau o dan Egwyddor 4. Mae Ffigur 12 yn dangos bod 88% o ymrwymiadau o dan EDC 4 wedi’u cwblhau (55%) neu ar y trywydd cywir i’w cyflawni (33%) tra bod 12% wedi cael eu hoedi (10%) neu wedi cael eu hoedi’n sylweddol/gohirio dros dro (2%).

Sail: 51 o ymrwymiadau’r Tasglu wedi’u mapio i EDC4

Ynglŷn ag Egwyddor 5:

Sicrhau bod y cysyniadau a gaiff eu mesur yn yr holl ddata a gesglir yn briodol ac yn eglur.

Mae 36 o ymrwymiadau o dan Egwyddor 5. Mae Ffigur 13 yn dangos bod y rhan fwyaf o ymrwymiadau (94%) wedi’u cwblhau neu’n wyrdd (47% yr un) tra bod 6% wedi cael eu hoedi (3%) neu wedi cael eu hoedi’n ddifrifol/gohirio dros dro (3%).

Sail: 36 o ymrwymiadau’r Tasglu wedi’u mapio i EDC5

Ynglŷn ag Egwyddor 6:

Ehangu’r amrywiaeth o ddulliau a ddefnyddir fel mater o drefn a chreu dulliau newydd o ddeall profiadau holl boblogaeth y DU.

Mae 32 o ymrwymiadau o dan Egwyddor 6. Mae Ffigur 14 yn dangos dosbarthiad yr ymrwymiadau yn ôl eu statws Coch Melyn Gwyrdd. Roedd y rhan fwyaf o’r ymrwymiadau naill ai wedi’u cwblhau (50%) neu’n wyrdd (34%). Ni ddyfarnwyd statws coch i unrhyw ymrwymiad, fel yn achos Egwyddor 6. Fodd bynnag, roedd 16% wedi cael eu hoedi.

Sail: 32 o ymrwymiadau wedi’u mapio i EDC6

Ynglŷn ag Egwyddor 7:

Dylai safonau wedi’u cysoni ar gyfer grwpiau a phoblogaethau perthnasol gael eu hadolygu o leiaf bob pum mlynedd a’u diweddaru a’u hehangu lle bo angen, yn unol â newidiadau mewn normau cymdeithasol ac anghenion ymatebwyr a defnyddwyr.

Mae 23 o ymrwymiadau o dan Egwyddor 7. Mae Ffigur 15 yn dangos dosbarthiad yr ymrwymiadau yn ôl eu statws Coch Melyn Gwyrdd. Roedd 91% o’r ymrwymiadau wedi’u cwblhau (61%) neu’n wyrdd (30%).

Sail: 23 o ymrwymiadau wedi’u mapio i EDC7

Ynglŷn ag Egwyddor 8:

Sicrhau bod data a thystiolaeth y DU yr un mor hygyrch i bawb, gan ddiogelu manylion adnabod a chyfrinachedd y rhai sy’n rhannu eu data.

Mae 46 o ymrwymiadau o dan Egwyddor 8. Mae Ffigur 16 yn dangos dosbarthiad yr ymrwymiadau yn ôl eu statws Coch Melyn Gwyrdd. Roedd 98% o’r ymrwymiadau wedi’u cwblhau (52%) neu ar y trywydd cywir (46%). Ni ddyfarnwyd statws coch i unrhyw ymrwymiad ac aseswyd bod 2% wedi cael eu hoedi (melyn).

Sail: 46 o ymrwymiadau wedi’u mapio i EDC 8

Back to top

Atodiad C: Dulliau ymchwil a ddefnyddiwyd i ddeall y ffactorau sydd wedi cyfrannu at statws ‘coch’ neu ‘felyn’ a chynlluniau i oresgyn rhwystrau i gynnydd

Y dull a ddefnyddiwyd i gynnal dadansoddiad thematig o’r rhesymau dros statws ‘coch’ neu ‘felyn’

Gan ddefnyddio dull dadansoddi thematig diddwythol, cafodd themâu cychwynnol eu nodi gan adeiladu ar ddadansoddiad o ddata tebyg o’r flwyddyn flaenorol ac roedd cyfle i themâu ychwanegol ddod i’r amlwg o’r flwyddyn adrodd gyfredol. Roedd defnyddio diweddariadau’r flwyddyn flaenorol wedi helpu i gyd-destunoli’r data mwy diweddar a oedd yn gofyn i berchnogion ymrwymiadau ddarparu ‘llwybr tuag at statws gwyrdd’ yn hytrach nag esbonio’n benodol pam bod y gwaith wedi cael statws coch neu felyn.

Codau

‘Label’ a gaiff ei gymhwyso i air, ymadrodd, brawddeg neu ran o destun yw cod. Mae’n ffordd o gategoreiddio a rhannu’r data yn unedau llai er mwyn llunio cymariaethau defnyddiol rhwng achosion.

Dangosir y codau o’r dadansoddiad yn y tabl isod:

CodThema arfaethedig
Newid i flaenoriaethau gweinidogolDadflaenoriaethu
Angen mwy o ymchwilDibyniaeth
Cyfyngiadau blaenorol o ran adnoddauAdnoddau
Newid strategolStrategaeth
Blaenoriaethu
Wedi dadflaenoriaethu'n flaenorolBlaenoriaethu
Dadflaenoriaethu
Wedi dadflaenoriaethuBlaenoriaethu
Dadflaenoriaethu
Barnwyd ei fod yn aneffeithiolBlaenoriaethu
Ddim yn cael ei ganlynDadflaenoriaethu
Osgoi dyblygu gwaithDadflaenoriaethu
Llinell amser gychwynnol anymarferol yn seiliedig ar y data a gasglwydDibyniaeth
Oedi cyn trosglwyddo dataCael gafael ar Ddata
Dibyniaeth
Methu cael dataCael gafael ar Ddata
Dibyniaeth
Adnoddau cyfyngedigAdnoddau
Penderfyniad cyllido yr arhoswyd amdano'n flaenorolAdnoddau
Cyllid
Penderfyniad blaenoriaethu yr arhoswyd amdano'n flaenorolBlaenoriaethu
Dibyniaeth
Diffyg perchennog cyfrifol dros droDadflaenoriaethu
Diffyg adnoddauAdnoddau
Llai o gyllidAdnoddau
Cyllid
Aros am strategaeth sefydliadolDibyniaeth
Strategaeth
Aros i ddata gael eu casgluDibyniaeth
Data
Methu gwneud iawn am oedi blaenorolCyfyngiadau amser
Dibyniaeth ar adolygiadau cysoni Gwasanaeth Ystadegol y LlywodraethDibyniaeth
Dibyniaeth ar safonau cysoni Gwasanaeth Ystadegol y LlywodraethDibyniaeth
Dibyniaeth ar raglen waith fwyDibyniaeth
Aros am werthusiadMwy o ymchwil
Dibyniaeth
Dim llinell amser ar gyfer cyhoeddiDim llinell amser ar gyfer cyhoeddi
Dibyniaeth ar adborth defnyddwyrDibyniaeth
Ansicrwydd ynghylch cyflawni canlyniadauAilflaenoriaethu
Wedi aros am benderfyniad yn flaenorolPenderfyniad
Dibyniaeth
Aros am gyfeiriad strategolDibyniaeth
Cymeradwyaeth yr arhoswyd amdani'n flaenorolPenderfyniad
Dibyniaeth

O Godau i Themâu

Dull: Cynhaliodd tri dadansoddwr weithdy mewnol i ddatblygu themâu ar sail y codau.

Cafodd y codau eu categoreiddio yn themâu fel y dangosir yn y tabl isod:

Cod:

  • Diffyg adnoddau
  • Llai o gyllid
  • Aros am gyllid
  • Diffyg cyllid blaenorol
  • Cyfyngiadau blaenorol o ran adnoddau

Thema:

Adnoddau

Cod:

  • Ailflaenoriaethu
  • Newid i flaenoriaethau gweinidogol
  • Wedi dadflaenoriaethu
  • Ddim yn gost-effeithiol
  • Osgoi dyblygu gwaith
  • Ansicrwydd ynghylch cyflawni canlyniadau
  • Ddim yn cael ei ganlyn
  • Newid strategol
  • Diffyg perchennog cyfrifol dros dro

Thema:

Ailflaenoriaethu

Cod:

  • Wedi aros am benderfyniad yn flaenorol
  • Dibyniaeth ar raglen waith fwy
  • Dibyniaeth ar safonau cysoni Gwasanaeth Ystadegol y Llywodraeth
  • Dibyniaeth ar adolygiadau cysoni Gwasanaeth Ystadegol y Llywodraeth
  • Oedi cyn trosglwyddo data
  • Methu cael data
  • Aros am werthusiad
  • Dibyniaeth ar adborth defnyddwyr
  • Aros i ddata gael eu casglu
  • Angen mwy o ymchwil
  • Aros am gyfeiriad strategol
  • Aros am strategaeth sefydliadol
  • Llinell amser gychwynnol anymarferol yn seiliedig ar y data a gasglwyd
  • Wedi aros am benderfyniad blaenoriaethu yn flaenorol
  • Cymeradwyaeth yr arhoswyd amdani’n flaenorol

Thema:

Dibyniaeth

Dull o ddeall cynlluniau i oresgyn rhwystrau i gynnydd yn y dyfodol

Defnyddiwyd dadansoddiad thematig o adborth gan ddeiliaid ymrwymiadau i ddeall cynlluniau ar gyfer ymrwymiadau coch neu felyn yn y dyfodol. Mewn rhai achosion (7 ymrwymiad), roedd yr ymateb cychwynnol a ddarparwyd yn niweddariad Chwarter 4 yn cynnwys gwybodaeth fanwl am gynlluniau i roi’r prosiect ar y trywydd cywir unwaith eto a/neu ei gwblhau. Ar gyfer 11 prosiect arall, cafodd y data a gasglwyd drwy’r diweddariad blaenorol eu hategu gan drafodaeth â deiliad yr ymrwymiad i gael mwy o fanylion.

Lle nad oedd y diweddariad yn cynnwys digon o fanylion i wneud hyn, anfonwyd arolwg at berchnogion yr ymrwymiadau i gasglu rhagor o wybodaeth am gynlluniau i barhau â’r gwaith neu’i gwblhau (h.y., ‘llwybr at statws gwyrdd’). Cafwyd data ar 15 o brosiectau ymrwymiad drwy’r arolwg.  Roedd y data a gasglwyd drwy’r dulliau amrywiol hyn wedi helpu i roi darlun cyfannol o gynlluniau ar gyfer dyfodol prosiectau’r Tasglu yr aseswyd eu bod yn felyn neu’n goch.

Back to top

Atodiad D: Diffiniadau

Ymrwymiadau

Diffiniad: Ymrwymiadau yw mentrau y mae adrannau’r llywodraeth a sefydliadau anllywodraethol wedi dweud y byddant yn eu cyflawni. Mae pob ymrwymiad yn perthyn i Egwyddor Data Cynhwysol. (Ymateb gan yr Ystadegydd Gwladol i’r Tasglu Data Cynhwysol Adroddiad ac argymhellion)

Egwyddor Data Cynhwysol (Egwyddor)

Diffiniad: Yn cyfeirio at un o’r wyth Egwyddor Data Cynhwysol. Mae pob un yn cynnwys argymhellion penodol i wella seilwaith data cynhwysol y DU (Gadael neb ar ôl: Sut y gallwn fod yn fwy cynhwysol yn ein data).

Statws Coch Melyn Gwyrdd

Diffiniad: Statws Wedi cwblhau, Coch, Melyn, Gwyrdd. Statws goddrychol yw hwn ac mae’n seiliedig ar wybodaeth gan berchnogion ymrwymiadau.

Ymrwymiadau allweddol

Diffiniad: Ymrwymiadau allweddol yw’r rhai sy’n deillio o Gynllun Gweithredu’r Tasglu yn 2022. Y rhain oedd y mentrau mawr (llinynnau gwaith, prosiectau, rhaglenni) a allai wneud newid sylweddol i gynwysoldeb data ledled y DU.

Ymrwymiadau nad ydynt yn allweddol

Yn cyfeirio at ymrwymiadau eraill nad ystyriwyd eu bod yn allweddol.

Back to top