Ymgynghoriad 2023 ac ymgysylltu â defnyddwyr

Ar 29 Mehefin 2023, gwnaeth y Swyddfa Ystadegau Gwladol (y SYG) lansio ymgynghoriad ar ddyfodol ystadegau am y boblogaeth a mudo yng Nghymru a Lloegr. Roedd hwn yn ceisio barn am sut y byddai cynigion y SYG i greu system gynaliadwy, sy’n seiliedig ar ddata gweinyddol, ar gyfer cynhyrchu ystadegau hanfodol a chyfredol am y boblogaeth yn diwallu anghenion defnyddwyr. Cafwyd cyfanswm o 706 o ymatebion. Mae’r SYG wedi cyhoeddi adroddiad ar ganfyddiadau’r ymgynghoriad.

Cafwyd ymatebion gan amrywiaeth o sefydliadau ac unigolion o’r sector cyhoeddus, y sector preifat a thu hwnt. Casglwyd adborth drwy ddigwyddiadau ymgysylltu â rhanddeiliaid yn ystod y cyfnod ymgynghori hefyd.

Dangosodd yr ymatebwyr gefnogaeth eang o blaid parhau i ddatblygu system sy’n gwneud defnydd cynyddol o ddata gweinyddol, gan sicrhau manteision data mwy amserol a rheolaidd.

Ochr yn ochr â hyn, roedd cryn ddyhead am sicrwydd pellach mewn perthynas â rhai o fanylion technegol system weinyddol a sut y caiff ei darparu. Roedd defnyddwyr am gael gwell dealltwriaeth o’r dyluniad ystadegol arfaethedig, yn enwedig ar gyfer cynhyrchu data ar lefel unigolion. Roedd safbwyntiau cyson ar draws pob grŵp eang o ddefnyddwyr, gan gynnwys y llywodraeth, ymchwilwyr, y trydydd sector ac unigolion, fel a ganlyn:

  • byddai amcangyfrifon mwy rheolaidd ac amserol o’r boblogaeth a mudo yn cynnig tystiolaeth ategol well ar gyfer darparu gwasanaethau
  • byddai monitro mudo mewnol yn well drwy’r diffiniadau amgen arfaethedig yn galluogi unigolion i ddeall tueddiadau newidiol ar adegau penodol
  • mae data ar nodweddion manwl yn hanfodol i lawer o ddefnyddwyr a sefydliadau weithredu’n effeithiol ac i ddeall anghenion poblogaethau penodol yn llawn
  • mae angen data ar lefelau daearyddol manwl er mwyn deall gwahaniaethau rhwng cymunedau, yn enwedig mewn perthynas ag anghydraddoldeb neu amddifadedd
  • mae angen sicrwydd mewn perthynas â chynaliadwyedd ffynonellau gweinyddol sylfaenol, gan gynnwys cwmpasu nodweddion yn llawn
  • mae angen sicrwydd o ran cyflenwad, ansawdd, cysondeb a chydlyniaeth data ar draws ffynonellau a gwahanol rannau o’r DU
  • mae casglu data ar lefel unigolion yn hanfodol i alluogi cydgasgliad wedi’i deilwra mewn allbynnau er mwyn diwallu amrywiaeth eang o anghenion
  • unwaith y bydd digon o amser wedi mynd heibio, caiff data am y boblogaeth eu gwerthfawrogi gan haneswyr cymdeithasol ac at ddiben ymchwil achyddol.

Er ei bod yn glir bod llawer o ddefnyddwyr yn croesawu’r gwaith parhaus i ddatblygu ystadegau am y boblogaeth a mudo a gaiff eu seilio’n yn fwyfwy ar ddata gweinyddol, a bod grwpiau ffocws y SYG gydag aelodau o’r cyhoedd wedi dangos eu bod yn derbyn y dull gweithredu hwn, mae’n amlwg o ymatebion a thystiolaeth y SYG hyd yn hyn, gan gynnwys y ddogfen ymgynghori, nad yw’n amser addas eto i roi’r gorau i gynnal cyfrifiad o’r boblogaeth gyfan ar ffurf holiadur. Daeth y thema hon i’r amlwg mewn cyfraniadau at Gynulliad Ystadegau’r DU yn 2025 hefyd, fel y disgrifir yn yr adroddiad annibynnol (Saesneg yn unig) am y digwyddiad. Mae’r Awdurdod wedi gwrando ar yr adborth hwn, ac mae’r angen i ddangos y galluogrwydd hwn wedi llywio blaenoriaethau ac amserlen yr argymhelliad hwn.

Anfonodd Pwyllgor Cynghori ar Ddata Cynhwysol yr Ystadegydd Gwladol (Saesneg yn unig) lythyr ffurfiol at yr Ystadegydd Gwladol (Saesneg yn unig) mewn ymateb i’r ymgynghoriad, y mae’r SYG wedi’i gyhoeddi [link] (Saesneg yn unig). Roedd yr adborth yn canolbwyntio ar yr angen i ddata am y boblogaeth fod yn gynhwysol, lle gall pobl â’r holl nodweddion gwarchodedig gael eu cyfrif a bod yn weladwy a, thrwy hynny, sicrhau cywirdeb data gweinyddol a’r gallu i gynhyrchu data ar boblogaethau sy’n wynebu risg.

At hynny, pwysleisiodd y pwyllgor bwysigrwydd dilysu cywirdeb data gweinyddol, yn enwedig yn absenoldeb posibl cyfrifiad traddodiadol yn seiliedig ar holiadur o’r boblogaeth gyfan yn 2031. Nododd y pwyllgor fod y cynllun arfaethedig i ddilysu’r data yn ei gamau cynnar ac y byddai angen gwneud cryn gynnydd mewn perthynas â’r dulliau hyn er mwyn cynhyrchu gwybodaeth gywir am boblogaethau sy’n wynebu risg ar ôl 2031.

Back to top
Download PDF version (7.75 MB)