Crynodeb Gweithredol Adroddiad y Tasglu

Published:
28 September 2021
Last updated:
25 October 2021

Pwy ydyn ni

Ym mis Hydref 2020, cawsom ni, sef grŵp amrywiol o uwch-academyddion ac arweinwyr cymdeithas sifil ag amrywiaeth eang o arbenigedd ym meysydd cydraddoldebau, methodolegau, daearyddiaeth a moeseg data, ein gwahodd gan yr Ystadegydd Gwladol i ffurfio Tasglu annibynnol wedi’i gadeirio gan y Fonesig Moira Gibb. Ein diben oedd llunio argymhellion ar y ffyrdd gorau o wneud newid sylweddol o ran cynwysoldeb data a thystiolaeth y DU.

Gofynnwyd i ni ystyried pedwar cwestiwn pwysig:

  1. sut y gallwn wneud y dulliau o gasglu data a thystiolaeth, eu dadansoddi ac adrodd arnynt yn y DU yn fwy cynhwysol?
  2. sut y gallwn ddefnyddio’r data sydd eisoes ar gael, megis data gweinyddol, data’r cyfrifiad a data arolygon, yn y ffordd fwyaf effeithiol er mwyn deall cydraddoldebau a chynhwysiant?
  3. beth yw’r bylchau allweddol mewn data sy’n ein hatal rhag deall cydraddoldebau a chynhwysiant, a sut y gallwn gau’r bylchau hynny?
  4. sut y gallwn adeiladu ar ein profiadau ein hunain a phrofiadau pobl eraill er mwyn gwella ein dull gweithredu mewn perthynas â chydraddoldebau a chynhwysiant yn y dyfodol?

Rydym yn ddiolchgar iawn i bawb a rannodd eu safbwyntiau a’u profiadau â ni ac rydym wedi ceisio gwneud cyfiawnder â’r toreth o wybodaeth a roddwyd i ni yn ein hargymhellion. I unrhyw rai a hoffai edrych yn fanylach ar y prif ganfyddiadau, argymhellion a chanfyddiadau o bob un o’r gweithgareddau ymgynghori, maent wedi cael eu cyhoeddi ar wahân ac maent ar gael i’w gweld ar-lein.

Mae’r adroddiad cryno hwn hefyd ar gael yn Saesneg ac mewn fformat hawdd ei ddeall. Mae fersiynau PDF hawdd eu deall ar gael yn Gymraeg, yn Saesneg ac mewn Pwyleg, Rwmaneg, Pwnjabeg, Cantoneg, Arabeg a Ffarsi. Os bydd angen fformat arall arnoch, rhowch wybod i ni yn equalities@ons.gov.uk neu ffoniwch 0800 298 5313.

Back to top

Yr hyn a wnaethom

Gwnaethom ddechrau ar y gwaith drwy gomisiynu amrywiaeth o weithgareddau er mwyn gwrando ar bobl o bob cwr o’r DU, a dysgu ganddynt, gan gynnwys pobl a all gael eu gwahodd i gymryd rhan mewn gwaith ymchwil a rhannu eu data ag ymchwilwyr, a phobl sy’n casglu neu’n defnyddio data a thystiolaeth. Roedd hyn yn cynnwys:

  1. ymgynghoriad agored 12 wythnos ar-lein ar Citizen Space
  2. saith trafodaeth bord gron a chwe chyfweliad manwl ag uwch-gynrychiolwyr llywodraeth ganolog a llywodraeth leol, a llywodraethau’r gwledydd datganoledig
  3. pedair trafodaeth bord gron a dau gyfweliad manwl ag academyddion a chynrychiolwyr cymdeithasau dysgedig
  4. trafodaethau â mwy nag 80 o arweinwyr cymdeithas sifil sy’n gweithio mewn 15 o feysydd sy’n gysylltiedig â chydraddoldeb
  5. trafodaethau â mwy na 90 o aelodau o’r cyhoedd sydd â phrofiad uniongyrchol o faterion yn ymwneud â chydraddoldeb

Deuai’r cyfranogwyr yn y trafodaethau a’r cyfweliadau manwl hyn o amrywiaeth o gefndiroedd a chawsant eu dewis yn seiliedig ar y gwaith sy’n cael ei wneud ym maes cydraddoldebau ar hyn o bryd. Cafodd digwyddiadau ymgynghori eu cynnal ar-lein, am iddynt gael eu cynnal yn ystod y pandemig pan oedd cyfarfodydd wyneb yn wyneb wedi’u cyfyngu. Er mwyn sicrhau ein bod yn clywed gan bobl nad oedd mor hawdd iddynt ddefnyddio’r rhyngrwyd, gwnaethom hefyd gynnal ymgynghoriad papur drwy’r post â phobl sy’n wynebu risg o allgáu digidol. Hefyd, gwnaethom ystyried papurau a chyflwyniadau ar amrywiaeth eang o bynciau sy’n gysylltiedig â data a thystiolaeth gynhwysol. Cawsom hefyd ein gwahodd gan grwpiau a sefydliadau eraill i ddigwyddiadau roeddent yn eu trefnu, a chawsom sylwadau ysgrifenedig ganddynt, er mwyn cyfrannu eu safbwyntiau at yr ymgynghoriad.

Back to top
Download PDF version (442.39 KB)