Crynodeb Gweithredol Adroddiad y Tasglu

Published:
28 September 2021
Last updated:
25 October 2021

Ein hargymhellion

Yn seiliedig ar y canfyddiadau hyn, rydym wedi datblygu wyth egwyddor, gydag argymhellion penodol o dan bob un, ar gyfer gwella seilwaith data cynhwysol y DU. Yr egwyddorion hyn yw:

  1. creu amgylchedd o ymddiriedaeth a dibynadwyedd
  2. cydweithio drwy’r system gyfan i wella seilwaith data’r DU
  3. sicrhau y caiff data ar grwpiau eu casglu mewn modd cadarn
  4. sicrhau bod digon o ddata ar gael er mwyn gallu dadgyfuno data a chwblhau dadansoddiadau croestoriadol mewn modd cadarn a dibynadwy
  5. sicrhau bod cysyniadau yn briodol ac yn glir
  6. ehangu’r amrywiaeth o ddulliau a ddefnyddir a chreu dulliau newydd o ddeall profiadau pawb
  7. adolygu safonau wedi’u cysoni yn rheolaidd gan addasu i normau cymdeithasol ac anghenion sy’n datblygu
  8. sicrhau bod data a thystiolaeth y DU yr un mor hygyrch i bawb

Os cânt eu rhoi ar waith yn llawn, bydd yr egwyddorion hyn yn helpu i sicrhau’r newid sylweddol sydd ei angen yng nghynwysoldeb data a thystiolaeth y DU.

Back to top
Download PDF version (442.39 KB)