Ein hargymhellion
Yn seiliedig ar y canfyddiadau hyn, rydym wedi datblygu wyth egwyddor, gydag argymhellion penodol o dan bob un, ar gyfer gwella seilwaith data cynhwysol y DU. Yr egwyddorion hyn yw:
- creu amgylchedd o ymddiriedaeth a dibynadwyedd
- cydweithio drwy’r system gyfan i wella seilwaith data’r DU
- sicrhau y caiff data ar grwpiau eu casglu mewn modd cadarn
- sicrhau bod digon o ddata ar gael er mwyn gallu dadgyfuno data a chwblhau dadansoddiadau croestoriadol mewn modd cadarn a dibynadwy
- sicrhau bod cysyniadau yn briodol ac yn glir
- ehangu’r amrywiaeth o ddulliau a ddefnyddir a chreu dulliau newydd o ddeall profiadau pawb
- adolygu safonau wedi’u cysoni yn rheolaidd gan addasu i normau cymdeithasol ac anghenion sy’n datblygu
- sicrhau bod data a thystiolaeth y DU yr un mor hygyrch i bawb
Os cânt eu rhoi ar waith yn llawn, bydd yr egwyddorion hyn yn helpu i sicrhau’r newid sylweddol sydd ei angen yng nghynwysoldeb data a thystiolaeth y DU.
Back to top