Rhagair gan yr Ystadegydd Gwladol

Mae’r dudalen hon hefyd ar gael yn Saesneg (English).

National Statistician Sir Ian Diamond, pictured at a meeting of the Authority Board, June 2022Mae’n bleser gennyf gyflwyno’r adroddiad hwn sy’n nodi’r cynnydd a wnaed ar draws system ystadegol y DU yn ystod cyfnod 2023-2024 tuag at ddata a thystiolaeth fwy cynhwysol. Rwyf wrth fy modd bod yr adroddiad yn dangos bod cynwysoldeb yn cael ei ymgorffori mewn prosesau casglu, cynhyrchu a dosbarthu data ym mhob rhan o Wasanaeth Ystadegol y Llywodraeth.

Ceir tystiolaeth o hyn ym metrigau ymrwymiadau’r Tasglu Data Cynhwysol sy’n dangos bod dros 80% o’r prosiectau a nodwyd yn yr adroddiad Ymgorffori Cynwysoldeb gwreiddiol naill ai wedi’u cwblhau neu ar y trywydd cywir i gael eu cwblhau.

Er y dylid dathlu bod dros 40% o’r ymrwymiadau wedi cael eu cwblhau, ni allwn orffwys ar ein rhwyfau. Unwaith y bydd prosiect a grëwyd i wneud ein data yn fwy cynhwysol mewn rhyw ffordd wedi bodloni ei amcanion gwreiddiol, rhaid i ni beidio â thybio ei fod wedi’i gwblhau ac nad yw’n berthnasol i’r rhaglen ehangach mwyach.

Rhaid i ni ailystyried gwaith blaenorol yn rheolaidd er mwyn sicrhau bod y camau cadarnhaol a gymerwyd i gyflawni ein hymrwymiad bellach yn ‘fusnes fel arfer’, fel bod cynwysoldeb yn cael ei ymgorffori ymhellach yn ein gwaith ac yn parhau i fod wrth wraidd Gwasanaeth Ystadegol y Llywodraeth.

Rydym yn hynod ddiolchgar i’n cydweithwyr ym mhob rhan o Wasanaeth Ystadegol y Llywodraeth, llywodraethau datganoledig y DU, a pherchnogion ymrwymiadau eraill am eu gwaith a’u cyfraniadau at yr adroddiad, yn ogystal ag aelodau o’m Pwyllgor Cynghori ar Ddata Cynhwysol, sy’n rhoi arweiniad gwerthfawr ac yn llywio ein taith tuag at system ystadegol fwy cynhwysol.

Bu’n flwyddyn gadarnhaol o ran cynwysoldeb data, ac rydym yn edrych ymlaen at weld y cynnydd pellach tuag at ymrwymiadau’r Tasglu Data Cynhwysol yn 2025 ac wedi hynny.