Ymgorffori Cynwysoldeb yn nata’r DU: diweddariad 2023 ar weithredu argymhellion Data Cynhwysol

Published:
4 January 2024
Last updated:
4 January 2024

Sylwadau’r Ystadegydd Gwladol

Mae’r dudalen hon hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Mae’n bleser gennyf gyflwyno’r adroddiad blynyddol cyntaf sy’n amlinellu’r cynnydd rydym yn ei wneud i gynyddu cynwysoldeb data a thystiolaeth ledled system ystadegol y DU. Fe wnaeth fy nghomisiynu o’r Tasglu Data Cynhwysol (TDC) arwain at ei adroddiad eang a’i argymhellion ym mis Medi 2021, ac yna cyhoeddwyd Cynllun Gweithredu uchelgeisiol y TDC ym mis Ionawr 2022. Roedd cynnydd eisoes yn cael ei wneud o ran gwella cynwysoldeb data, ond mae argymhellion y Tasglu wedi ein galluogi i ganolbwyntio ein hymdrechion yn fwy cydweithredol a strategol ar draws system ystadegol y DU. Mae’r adolygiad hwn yn rhannu’r cynnydd a wnaed rhwng 2022 a 2023, ac yn amlinellu’r gweithgareddau allweddol sydd wedi’u cynllunio ar gyfer 2023 i 2024.

Mae cynnydd da wedi’i wneud, gan ddangos yr ymdrechion sy’n cael eu gwneud ar draws system ystadegol y DU i sicrhau bod pawb yn cyfrif ac yn cael eu cyfrif. Mae gennym gyfranwyr gweithredol i’r Cynllun o bob rhan o adrannau Llywodraeth y DU, y gweinyddiaethau datganoledig a sefydliadau y tu allan i’r llywodraeth. Yn wir, mae nifer y cyfranwyr wedi cynyddu ers y llynedd, arwydd ein bod yn adeiladu momentwm tuag at fwy o gynhwysiant yn ehangach.

Mae cydweithwyr yn y Gweinyddiaethau Datganoledig wedi sefydlu strategaethau newydd, gan gynnwys Strategaeth Tystiolaeth Cydraddoldeb Llywodraeth Cymru a Strategaeth Tystiolaeth Cydraddoldeb Llywodraeth yr Alban 2023 i 2025. Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi sefydlu Unedau Tystiolaeth Cydraddoldeb, Hil ac Anabledd i ddatblygu data mwy cynhwysol.

Mae gan adrannau fel yr Adran Addysg, yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, Cyllid a Thollau EF, y Swyddfa Gartref a’r Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau yn ogystal â’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) raglenni gwaith ar y gweill i wella cynwysoldeb data mewn casgliadau data arolwg a gweinyddol ar grwpiau o bobl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol ar hyn o bryd yn ystadegau’r DU. Bydd y rhain yn llenwi bylchau data ar blant a phobl ifanc, ffoaduriaid a mudwyr, pobl sy’n profi digartrefedd, ac yn galluogi dadansoddiad cyfoethocach, gan gynnwys dadansoddiad croestoriadol rhwng grwpiau poblogaeth. Yn ystod 2022, lansiodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol raglen arloesol o ymchwil ansoddol yn rhoi cipolwg ar brofiadau nifer o grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol ar hyn o bryd. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi cyhoeddi canfyddiadau ar brofiadau pobl anabl o weithgareddau, nwyddau a gwasanaethau’r sector preifat, profiadau addysgol pobl ifanc ag anghenion addysgol arbennig ac anableddau, a phrofiadau bywyd Sipsiwn a Theithwyr. Mae’r gwaith hwn i gyd yn helpu i lywio’r gwaith o lunio polisïau ac mae’n cael ei ddefnyddio’n uniongyrchol gan y grwpiau hyn yn ogystal â sefydliadau sy’n gweithio gyda nhw.

Er mwyn mynd i’r afael â rhwystrau rhag cymryd rhan mewn arolygon, mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) wedi cyflwyno cynllun arolwg addasol ar gyfer yr Arolwg o’r Gweithlu wedi’i Drawsnewid, fel rhagflaenydd i’w gyflwyno ar draws cyfres o arolygon cymdeithasol SYG. Ar yr un pryd, mae argymhelliad yr TDC i ddatblygu ‘contract cymdeithasol’ ar gyfer cyfranogwyr ymchwil i annog mwy o ymddiriedaeth a dealltwriaeth yn y defnydd o ddata, wedi datblygu i fod yn rhaglen waith fwy nag a gynlluniwyd yn wreiddiol ar gyfer 2022, i gydnabod y gallai fod angen mathau penodol o wybodaeth ar wahanol grwpiau poblogaeth i ennyn ymddiriedaeth. Rydym yn datblygu’r gwaith hwn gyda phartneriaid allanol fel rhan o strategaethau ymgysylltu ehangach.

Mae nifer o gynhyrchwyr ystadegol wedi gwella eu cynnig data a’i hygyrchedd i ddefnyddwyr, gan gynnwys lansio offer a dangosfyrddau newydd gan SYG, Llywodraeth Cymru, yr Adran Addysg, Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, yr Adran Gwaith a Phensiynau, y Swyddfa dros Gwella Iechyd a Gwahaniaethau, y Swyddfa Safonau mewn Addysg ac Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon. Rhyddhaodd y SYG offeryn “Creu Set Ddata Bwrpasol” Cyfrifiad Cymru a Lloegr 2021 ym mis Ebrill 2023.

O fewn y SYG rydym yn arwain nifer o weithgareddau strategol gyda’r nod o gryfhau ansawdd, cwmpas a hygyrchedd data.

Ym mis Chwefror 2022, fe wnaethom gyhoeddi cynllun ar gyfer adolygu’r safonau a’r canllawiau wedi’u cysoni ar gyfer casglu data ar draws y llywodraeth ar nodweddion personol i sicrhau eu bod yn adlewyrchu normau cymdeithasol cyfredol, yn ogystal ag anghenion ymatebwyr a defnyddwyr. Yn ystod 2022 i 2023, fe wnaethom ddiweddaru nifer o safonau newydd gan gynnwys ar gyfer ethnigrwydd, dosbarthiad economaidd-gymdeithasol, hunaniaeth genedlaethol a chrefydd.

Mae’r SYG hefyd wedi parhau i ddatblygu’r Gwasanaeth Data Integredig (IDS) sydd bellach yn ei gyfnod beta cyhoeddus llawn. Bydd hyn yn darparu llyfrgell dulliau ystadegol ar gyfer defnyddwyr achrededig, yn ogystal â gwasanaethau cysylltu data a pharu ar draws y llywodraeth, y disgwylir iddynt fod ar gael yn ddiweddarach yn 2023. Ochr yn ochr â hyn, mae dulliau newydd a gwell ar gyfer cysylltu setiau data ar draws sefydliadau yn cael eu datblygu gan SYG ac eraill fel rhan o’r Adolygiad Data Cydgysylltiedig yn y Llywodraeth, rhai i’w defnyddio yng nghyd-destun yr IDS. Hefyd lansiodd y SYG ei chynnig ystadegau is-genedlaethol newydd a gwasanaeth dadansoddi lleol yn 2022, gyda’r uchelgais o gwmpasu pedair gwlad y DU.

Mae’r SYG hefyd wrthi’n cynnal rhaglen drawsnewid uchelgeisiol a radical, gan geisio darparu ystadegau poblogaeth, mudo a chymdeithasol mwy amserol. Rwy’n hynod falch o’r ystod o fewnwelediadau a ddarparwyd o Gyfrifiad Cymru a Lloegr 2021. Fodd bynnag, mae’r bwlch deng mlynedd rhwng Cyfrifiadau’n ein gadael mewn sefyllfa lle rydym yn gorfod gwneud penderfyniadau pwysig yn seiliedig ar amcangyfrifon anghyflawn ac a allai fod yn anghywir. Credwn y gallwn wneud gwell defnydd o ddata sydd eisoes ar gael at ddibenion gweinyddol i fynd i’r afael â’r bylchau hyn. Rydym ni hefyd yn gwybod nad yw’r data hyn yn berffaith, a byddwn yn lansio ymgynghoriad cyhoeddus cyn bo hir i helpu i lywio sut rydym yn symud ymlaen i ddiwallu anghenion ein defnyddwyr.

Cyflawnwyd nifer o fentrau i wella mynediad at ddata gweinyddol yn 2022 drwy ryddhau setiau data newydd neu estynedig gan gynnwys gan y Swyddfa Gartref, y Swyddfa Rheoleiddio Cymwysterau ac Arholiadau, yr Adran Addysg a’r Swyddfa Myfyrwyr. Bydd data gweinyddol yn parhau i fod yn ffactor pwysig wrth ddatblygu cynwysoldeb ystadegau’r DU.

Hoffwn fynegi fy niolch i’r Fonesig Julia Cleverdon DCVO CBE, a ddaeth yn Gadeirydd Pwyllgor Cynghori Data Cynhwysol fy Ystadegydd Gwladol newydd yn 2022, gyda chynrychiolwyr o bob un o’r pedair gwlad. Mae’r Fonesig Julia ac Aelodau eraill y Pwyllgor yn darparu cyngor a her dryloyw, arbenigol ac annibynnol ar ein blaenoriaethau a’n cynnydd ar draws system ystadegol y DU. Rwy’n hynod werthfawrogol o’r amser a’r arbenigedd y mae’r grŵp amrywiol hwn o uwch academyddion, arbenigwyr data cydraddoldeb ac arweinwyr cymdeithas sifil yn eu darparu. Mae hwn yn gam pwysig i sicrhau ein bod yn cael yr effaith a ddymunwn.

Mae cymaint o gynnydd wedi’i wneud ar draws system ystadegol y DU. Fodd bynnag, mae’r adolygiad hwn hefyd yn amlygu rhai o’r heriau a wynebir a gwyddom y bydd mwy o’n blaenau. Mae pob adran a sefydliad yn gorfod blaenoriaethu gwaith yn yr hinsawdd cyllidol presennol. Mae rhai o’r penderfyniadau hyn yn cael eu gwneud wrth i ni gyhoeddi’r diweddariad hwn, ac am y rheswm hwn nid yw’r rhestr o fentrau allweddol ar gyfer y flwyddyn i ddod yn gynhwysfawr wrth i adrannau gwblhau eu cynlluniau.

Rwy’n annog pawb i ddarllen adroddiad argymhellion gwreiddiol y TDC ochr yn ochr â’r adroddiad cynnydd hwn. Rwy’n eich herio i ystyried a oes mwy y gallwch ei wneud i yfrannu i’r genhadaeth bwysig hon. Ni allwn ond gwella pa mor gynrychioliadol yw data a thystiolaeth y DU os ydym i gyd yn cydweithio.

Yr Athro Syr Ian Diamond
Yr Ystadegydd Gwladol
Mai 2023

 

Back to top
Download PDF version (956.81 KB)