Crynodeb Gweithredol Adroddiad y Tasglu

Published:
28 September 2021
Last updated:
25 October 2021

Ein canfyddiadau

Bylchau allweddol mewn data

Gwnaethom ystyried yr holl dystiolaeth a gasglwyd yn ein hymgynghoriad a’n gweithgareddau ymgysylltu yn ofalus, ac mae’r canfyddiadau wedi’u crynhoi yn yr adran hon.


Rydym yn cydnabod bod data cyflawn a phriodol yn hollbwysig er mwyn deall anghenion ac amgylchiadau grwpiau gwahanol o bobl, er mwyn sicrhau bod pawb yn cyfrif ac yn cael eu cyfrif, ac nad oes neb yn cael ei adael ar ôl. Datgelodd canfyddiadau ein gweithgareddau ymgynghori, er bod data ar gael ym mhob rhan o seilwaith data’r DU er mwyn archwilio profiadau a chanlyniadau amrywiaeth o bobl â gwahanol nodweddion, fod bylchau sylweddol yn bodoli. Mae rhai grwpiau neu nodweddion ar goll yn llwyr o’r data, nid oes digon o ddata ar gyfer rhai grwpiau, ac nid yw ansawdd y data’n ddigon da ar gyfer rhai.

Ymhlith yr enghreifftiau o grwpiau neu nodweddion sydd ar goll y tynnwyd ein sylw atynt mae: pobl drawsryweddol, pobl anneuaidd a phobl â rhywedd amrywiol, poblogaethau nad ydynt yn rhan o gartrefi preswyl (er enghraifft, pobl sy’n byw mewn sefydliadau preswyl fel cartrefi gofal neu garchardai, a phobl ddigartref) a grwpiau y tybir yn aml ei bod yn ‘anos eu cyrraedd’ (er enghraifft, grwpiau Sipsiwn, Roma a Theithwyr, cyn-garcharorion, ceiswyr lloches, dioddefwyr trais domestig a mudwyr heb eu dogfennu neu ddioddefwyr masnachu pobl). Mae rhai o’r grwpiau hyn yn cynnwys y bobl fwyaf agored i niwed a difreintiedig yn y DU, sy’n golygu bod mynd i’r afael â’r diffyg data sy’n adlewyrchu eu bywydau a’u profiadau yn arbennig o allweddol.

Hefyd, gwnaeth llawer o gyfranogwyr yn ein gweithgareddau ymgynghori nodi plant fel grŵp y mae data ar goll ar eu cyfer, yn enwedig plant sy’n derbyn gofal, plant sydd wedi cael eu cam-drin neu eu hesgeuluso yn ystod plentyndod cynnar, gofalwyr ifanc, plant mudol, plant ag anableddau a phlant Sipsiwn, Roma a Theithwyr.

Disgrifiodd amrywiol gyfranogwyr fylchau o ran deall pwy a all wynebu risg o allgáu digidol ac o dan ba amgylchiadau, ac i ba raddau y caiff y boblogaeth sydd wedi’i hallgáu’n ddigidol, ei chynrychioli yn y drefn casglu data arferol. Teimlai rhai cyfranogwyr y gall y mesurau a roddwyd ar waith mewn ymateb i’r coronafeirws (COVID-19) fod wedi cau rhagor o bobl o waith ymchwil; mae llawer o arolygon wedi symud i lwyfannau ar-lein, a all arwain at gostau i gyfranogwyr, a chyfyngu ar eu gallu i gymryd rhan.

Gwnaeth y cyfranogwyr hefyd nodi bylchau o ran y pynciau yr ymdrinnir â nhw, a all gyfyngu ar wybodaeth mewn perthynas â pholisïau a gwybodaeth esboniadol. Ymhlith y rhain mae prinder data ar incwm o’r cyfrifiadau sy’n cyfyngu ar ddealltwriaeth o anfantais, a phrinder data ar gefndir economaidd-gymdeithasol, sef newidyn pwysig er mwyn deall pynciau fel anghydraddoldebau addysgol.

Rhoddwyd sawl enghraifft lle nad oes digon o wybodaeth ar gael. Dywedodd nifer o’r cyfranogwyr na chaiff data ar grefydd eu casglu’n aml mewn arolygon a, phan gânt eu casglu, nad adroddir arnynt fel mater o drefn, neu y cânt eu cyfuno’n aml â chredoau ac arferion, a all guddio anghydraddoldebau. Er y caiff data ar gyfeiriadedd rhywiol eu casglu mewn sawl ffynhonnell data yn y DU, ceir prinder gwybodaeth am wahanol brofiadau a chanlyniadau pobl mewn perthynas â’u cyfeiriadedd rhywiol. Hefyd, er bod beichiogrwydd a mamolaeth yn nodweddion gwarchodedig o dan ddeddfwriaeth cydraddoldebau ym Mhrydain Fawr, dim ond gwybodaeth rannol sydd ar gael am anghydraddoldebau o ran beichiogrwydd a chanlyniadau beichiogrwydd. Dywedodd y cyfranogwyr hefyd fod prinder data ar nodweddion personol sy’n berthnasol ar gyfer monitro cydraddoldebau mewn ffynonellau data gweinyddol.

Hyd yn oed lle y caiff grwpiau a phynciau perthnasol eu cynnwys mewn data arolygon neu ddata gweinyddol, nododd y cyfranogwyr fod risgiau y gall ansawdd y data fod yn wael. Gall gwybodaeth a gaiff ei rhoi gan ddirprwyon fod yn anghywir. Er enghraifft, lle mae data ar gael ar gyfer plant, caiff y data hyn yn aml eu casglu oddi wrth bobl heblaw’r plant eu hunain ac felly mae’n bosibl na chaiff lleisiau’r plant eu hunain eu clywed. Hefyd, gall fod problemau os bydd eitemau sy’n berthnasol i gynhwysiant ar goll o’r data. Mae hyn yn arbennig o wir yn achos cwestiynau yn y cyfrifiad sy’n wirfoddol, megis crefyddau ar grefydd, sydd felly â lefelau ymateb is na chwestiynau gorfodol. Hefyd, gall gwybodaeth a gaiff ei chario drosodd o ffynonellau data a gasglwyd o’r blaen fynd yn anghywir dros amser, er enghraifft, pan fydd pobl yn mynegi ei bod yn well ganddynt grwpiau gwahanol mewn cyd-destunau gwahanol neu ar adegau gwahanol.

Gall problemau o ran ansawdd data greu darlun camarweiniol, gan ei gwneud hi’n anodd gweld ble mae gwahaniaethu a chamliwio’n digwydd a lle y caiff cyfleoedd pobl mewn bywyd eu lleihau, felly credwn y dylid rhoi blaenoriaeth i fynd i’r afael â’r bylchau hyn.

Back to top

Cynwysoldeb a chasglu data

Mae casglu’r data cywir gan y bobl gywir yn hanfodol er mwyn meithrin y lefel o ddealltwriaeth o anghydraddoldeb sydd ei hangen arnom i gymryd camau priodol. Fodd bynnag, dangosodd gwaith ymchwil a wnaed gyda sefydliadau cymdeithas sifil ac unigolion o grwpiau a phoblogaethau perthnasol fod amrywiaeth eang o ffactorau ymarferol, diwylliannol ac emosiynol sy’n cael effaith gyfun ar barodrwydd, gallu a chyfle pobl i roi eu gwybodaeth bersonol a chymryd rhan mewn ymarferion ymchwil ffurfiol.

Cyfeiriwyd at ymddiriedaeth ym mhob un o’n gweithgareddau ymgynghori fel rhwystr rhag cymryd rhan mewn gweithgareddau casglu data. Roedd hyn yn cynnwys canfyddiad ymhlith sawl cyfranogwr bod ymdeimlad cyffredinol o ddiffyg ymddiriedaeth yn y llywodraeth, a hefyd yn ystadegau’r llywodraeth, yn enwedig ymhlith grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol (yn benodol, nodwyd bod hyn yn effeithio ar bobl o gymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr, grwpiau ethnig lleiafrifol eraill a mudwyr wedi’u dogfennu a heb eu dogfennu), ond nid ymhlith y grwpiau hyn yn unig. Gwnaethant ddisgrifio sut y gallai hyn olygu na chaiff rhai grwpiau eu cynrychioli’n ddigonol neu eu bod yn anweledig i bob pwrpas, gan arwain yn y pen draw at benderfyniadau polisi na fyddant yn adlewyrchu’r poblogaethau hyn yn ddigonol ac a fydd yn lleihau eu hymddiriedaeth ymhellach. Nododd rhai cyfranogwyr rywfaint o ansicrwydd a phryder ymhlith grwpiau a phoblogaethau perthnasol ynglŷn â sut y bydd y llywodraeth yn defnyddio eu data o bosibl, gan gynnwys ofnau y gallai datgelu eu statws arwain at driniaeth anghyfartal, gwahaniaethu neu waethygu eu sefyllfaoedd.

Clywsom hefyd am rwystrau eraill a all effeithio ar barodrwydd i gymryd rhan, gan gynnwys baich ceisiadau mynych i gymryd rhan mewn gwaith ymchwil ymhlith rhai grwpiau o’r boblogaeth, yn enwedig pobl sydd dan bwysau o wahanol gyfeiriadau yn eu bywydau o ddydd i ddydd, a’u canfyddiadau na fyddai fawr ddim budd personol na chymunedol, os o gwbl, o gymryd rhan.

Hefyd, awgrymwyd y gall pobl gael eu hatal rhag cymryd rhan oherwydd anhygyrchedd ymarferion casglu data, er enghraifft offerynnau casglu data ar-lein sy’n allgáu pobl â mynediad neu sgiliau digidol cyfyngedig, os o gwbl, methiant i ystyried anghenion iaith, llythrennedd neu ddealltwriaeth grwpiau gwahanol o’r boblogaeth, a’r ffaith nad yw hunaniaeth na nodweddion personol y bobl sy’n gyfrifol am ddylunio a chynnal yr ymarferion casglu data a’r gwaith dadansoddi yn adlewyrchu grwpiau amrywiol o’r boblogaeth ac felly’n anghymell pobl rhag cymryd rhan.

Dywedwyd bod y labeli a ddefnyddir i gasglu gwybodaeth am nodweddion unigol wrth gasglu data hefyd yn rhwystr posibl rhag cymryd rhan. Roedd pobl o’r farn bod gallu pobl i ddewis categorïau mewn arolygon ac ar ffurflenni sy’n adlewyrchu eu nodweddion a’u hamgylchiadau personol yn hollbwysig. Tynnodd rhai cyfranogwyr sylw at natur hen ffasiwn rhai cwestiynau arolwg, gan gynnwys rhai ar ethnigrwydd ac anabledd corfforol. Cafwyd awgrymiadau gan rai y dylai gweithgareddau casglu data ar anabledd newid o ganolbwyntio ar y model meddygol, sy’n ystyried namau neu wahaniaethau unigolyn, i ganolbwyntio ar y model cymdeithasol o anabledd, sy’n ystyried anghenion a safbwyntiau’r unigolyn, fel ffordd well o fynd i’r afael â’r rhwystrau sefydliadol a strwythurol sy’n cyfyngu ar allu pobl i gymryd rhan mewn cymdeithas.

Back to top

Cynwysoldeb gwaith dadansoddi data ac allbynnau

Tynnwyd ein sylw at sawl problem sy’n effeithio ar waith casglu data a gwaith dadansoddi data, ac a all danseilio cynrychioldeb a pherthnasedd y canfyddiadau sy’n deillio ohonynt.

Dywedodd y cyfranogwyr fod diffyg cysondeb data ar nodweddion personol yn amharu ar y gallu i archwilio grwpiau yn fanwl a chymharu data gwledydd gwahanol y DU. Hefyd, teimlid bod defnyddio hen safonau wedi’u cysoni yn methu ag adlewyrchu amrywiaeth y boblogaeth yn ddigonol ar hyn o bryd, er enghraifft parhau i ddefnyddio safonau ethnigrwydd o gyfrifiadau’r DU yn 2001.

Dywedwyd wrthym hefyd am yr heriau cysyniadol a geir yn y data sydd eisoes yn bodoli a’r effaith y bydd hyn yn ei chael ar ansawdd y dystiolaeth sy’n seiliedig arnynt. Un enghraifft o hyn oedd y diffyg eglurder mewn cysyniadau a gesglir o ffynonellau gwahanol gan ddefnyddio’r termau ‘anabledd’ a ‘tarddiad ethnig’. Cyfeiriwyd at anghysondebau rhwng y diffiniadau o’r term ‘difreintiedig’ hefyd fel problem sylweddol i ddadansoddwyr.

Hefyd, tynnodd y cyfranogwyr sylw at y problemau sy’n deillio o feintiau sampl bach mewn arolygon o gartrefi, gan gynnwys effaith hyn ar fanylder y gwaith dadansoddi y gellir ei wneud, boed hynny yn ôl sector, ardal ddaearyddol neu nodwedd, ac a all beri i grwpiau cyfan fod yn anweledig mewn data. Dywedwyd y gallai mynd ati yn sgil hynny i ddadgyfuno grwpiau llai yn gategorïau mwy ymyleiddio a dieithrio rhai grwpiau a phoblogaethau. Mae meintiau sampl bach hefyd yn amharu ar y gallu i gyflawni dadansoddiadau croestoriadol cadarn. Gall hyn danseilio’r potensial i ddeall is-grwpiau penodol o’r boblogaeth, y gydberthynas rhwng nodweddion gwahanol a’u dylanwad cyfunol ar ganlyniadau amrywiol.

Codwyd amlder casglu data fel mater pwysig hefyd. Cydnabuwyd bod cyfrifiadau’r DU yn ffynhonnell werthfawr o ddata cynhwysol, sy’n cynnig cipolwg na all ffynonellau data eraill mo’i gynnig, ond mae’r bwlch o 10 mlynedd rhwng cyfrifiadau’n golygu bod y data sy’n deillio ohonynt yn aml wedi dyddio ers sawl blwyddyn.

Roedd rhai cyfranogwyr o’r farn na all data ystadegol ar eu pen eu hunain gynnig dealltwriaeth gynhwysfawr o brofiad go iawn. O ystyried cymhlethdod, helaethrwydd a chroestoriadedd materion sy’n effeithio ar fywydau pobl, credai’r cyfranogwyr ei bod yn hollbwysig defnyddio data ansoddol a data meintiol lle bo hynny’n briodol.

Roedd neilltuo adnoddau ar gyfer gwaith ymchwil a’r sgiliau sydd eu hangen i gasglu a dadansoddi data hefyd yn broblemau cyffredin a godwyd yn y gwahanol weithgareddau ymgynghori, a chredai’r cyfranogwyr fod hyn yn cyfyngu ar y gallu i gwblhau dadansoddiadau hyd yn oed pan fo’r data gofynnol ar gael.

Clywsom hefyd am broblemau mewn perthynas â hygyrchedd data a thystiolaeth. Dywedodd y sefydliadau a gymerodd ran yn yr ymgynghoriad ar-lein fod diffyg data hygyrch sydd ar gael yn hawdd ar gyfer gwaith dadansoddi a chyfeiriodd rhai cyfranogwyr hefyd at ansicrwydd o ran gwybod pa ddata yn union a oedd ar gael a ble i gael gafael arnynt. Hefyd, pwysleisiodd rhai ohonynt yr angen i ddefnyddio iaith glir a hawdd ei deall i gyfleu dehongliadau ystadegol ac argaeledd data a thystiolaeth mewn amrywiaeth o wahanol fformatau er mwyn i gynulleidfaoedd amrywiol allu eu defnyddio.

Back to top

Dysgu gan eraill

Yn ogystal â phrif ganfyddiadau ein gweithgareddau ymgynghori sydd wedi’u crynhoi yma, gwnaethom hefyd ystyried sut y gallwn ddysgu o brofiadau yn y DU a thu hwnt er mwyn gwella ein dull gweithredu mewn perthynas â chydraddoldebau a chynhwysiant yn y dyfodol. Rhannodd y cyfranogwyr yn y gweithgareddau ymgynghori enghreifftiau o arferion addawol â ni, yn ychwanegol at y rhai rydym yn ymwybodol ohonynt drwy ein profiad ein hunain. Ceir rhagor o fanylion am rai o’r rhain yn y prif adroddiad ar y canfyddiadau. Yn ogystal â hynny, mae’r adroddiadau ar y dystiolaeth ategol yn amlinellu’r canfyddiadau ehangach o bob un o’r gweithgareddau ymgynghori ac ymgysylltu a gynhaliwyd.

Back to top
Download PDF version (442.39 KB)