Atodiad: Gwerthuso'r ffordd y rhoddwyd argymhellion y Tasglu ar waith a'u canlyniadau

Mae’r gwerthusiad o’r ffordd y cafodd argymhellion y Tasglu Data Cynhwysol (y Tasglu) eu rhoi ar waith yn ategu’r darlun o’r cynnydd a wnaed ar draws prosiectau ymrwymiad y Tasglu yn Adroddiad Cynnydd Blynyddol 2025. Diben y gwerthusiad oedd:

  • Adolygu’r ddealltwriaeth o weledigaeth y Tasglu ac i ba raddau y mae’r ddealltwriaeth hon wedi cael ei rhannu.
  • Deall y broses o roi’r argymhellion ar waith a chofnodi’r gwersi a ddysgwyd yn sgil hynny.
  • Casglu tystiolaeth ddangosol o ganlyniadau.

Cafodd y gwerthusiad ei arwain a’i gynnal ar y cyd gan y Swyddogaeth Werthuso Ganolog sy’n rhan o’r Gyfarwyddiaeth Cyllid, Cynllunio a Pherfformiad yn y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) a’r Ganolfan Cydraddoldebau a Chynhwysiant yn y SYG. Cafodd y dull gwerthuso ei gymeradwyo gan y Prif Economegydd a’i gofrestru ar Gofrestr y Tasglu Gwerthuso.

Mae’r gwerthusiad yn canolbwyntio ar y broses gychwynnol o roi argymhellion y Tasglu ar waith rhwng 2021 pan gafodd adroddiad y Tasglu ei gyhoeddi hyd at ddiwedd mis Mawrth 2025 pan ddaeth cyfnod yr Arolygiad o Wariant, y dechreuwyd llawer o brosiectau ymrwymiad y Tasglu oddi mewn iddo, i ben. Mae Atodiad A yn rhoi llinell amser lawn o gamau datblygu’r Tasglu Data Cynhwysol o’r cam adrodd cychwynnol i waith monitro blynyddol.

Gan gydnabod y ffaith bod gwneud data a thystiolaeth yn fwy cynhwysol yn daith barhaus yn hytrach na chyrchfan, ein nod yw dysgu’r gwersi sy’n deillio o’r camau gweithredu cynnar a defnyddio’r rhain i ddatblygu ffyrdd pellach o wreiddio cynhwysiant yn ein gweithlu, ein data a’n dadansoddiadau.

Back to top

1. Nodau Menter y Tasglu Data Cynhwysol

Cafodd y Tasglu Data Cynhwysol (y Tasglu) ei lansio yn 2020 gan yr Ystadegydd Gwladol ar y pryd, Syr Ian Diamond, mewn ymateb i strategaeth bum mlynedd Awdurdod Ystadegau’r DU Statistics for the Public Good a oedd yn cynnwys cynwysoldeb fel un o’i phedair egwyddor.

Gofynnodd yr Ystadegydd Gwladol i’r Tasglu wneud argymhellion ynghylch sut i wneud data a thystiolaeth y DU yn fwy cynhwysol.

Argymhellion y Tasglu a’r ymateb iddynt

Aeth y Tasglu ati i wneud gwaith ymchwil ac ymgynghori helaeth i lywio ei waith ar fylchau ac anghenion data ar gyfer data cynhwysol a arweiniodd at ei Adroddiad Argymhellion terfynol (2021). Cyflwynodd y ddogfen hon weledigaeth y Tasglu o dan wyth ’Egwyddor Data Cynhwysol’ a oedd yn crynhoi’r elfennau sylfaenol yr oedd eu hangen, ym marn y Tasglu, i wneud newid sylweddol i gynwysoldeb data ym mhob rhan o system ystadegol y DU. Roedd set o argymhellion ar gyfer gweithredu yn deillio o bob Egwyddor Data Cynhwysol.

Cymeradwyodd yr Ystadegydd Gwladol yr argymhellion a galwodd ar y SYG ac eraill yng Ngwasanaeth Ystadegol y Llywodraeth i lunio cynllun gweithredu ar gyfer eu rhoi ar waith.

Cafodd Cynllun Gweithredu’r Tasglu Data Cynhwysol ei gyhoeddi ym mis Ionawr 2022, a oedd yn amlinellu rhaglen waith lefel uchel o fentrau cynlluniedig a pharhaus yn gysylltiedig â’r 8 Egwyddor Data Cynhwysol. I ddechrau, roedd hyn yn cynnwys 205 o brosiectau penodol (y cyfeiriwyd atynt fel ymrwymiadau’r Tasglu) ar draws Llywodraeth y DU, llywodraethau datganoledig, elusennau a sefydliadau academaidd. Wrth i fentrau data cynhwysol eraill o bob rhan o’r llywodraeth gael eu rhannu â’r SYG, cafodd 134 o ymrwymiadau eraill eu hychwanegu at y set fel ymrwymiadau data cynhwysol yn 2023, gan gynyddu’r cyfanswm i 339. Roedd gan bob ymrwymiad Ddeiliad Ymrwymiad enwebedig a oedd yn gyfrifol am fonitro cynnydd ac adrodd ar gynnydd tuag at gyflawni’r ymrwymiad hwnnw. Menter y Tasglu yw’r enw ar y set gyfan o weithgareddau a gaiff eu monitro er mwyn deall cynnydd tuag at gyflawni argymhellion y Tasglu.

Trefniadau llywodraethu a monitro i gefnogi gweithredu

Yn ei adroddiad argymhellion, tynnodd y Tasglu sylw at bwysigrwydd gweithio mewn partneriaeth ag eraill i wneud data a thystiolaeth y DU yn fwy cynhwysol. Yn benodol, dywedodd:

“Dylai SYG sefydlu trefn ac amserlen glir ar gyfer monitro ac adolygu argymhellion y Tasglu, gan roi gwybod i ba raddau y maent wedi cael eu rhoi ar waith ac amlinellu strategaethau er mwyn sicrhau y cânt eu rhoi ar waith yn y dyfodol.”

Mewn ymateb i hyn, rhoddwyd cyfrifoldeb i dîm yn y SYG am awgrymu trefniadau llywodraethu i gefnogi’r broses weithredu a sicrhau cytundeb yn eu cylch, sefydlu’r grwpiau llywodraethu, rhoi cymorth ysgrifenyddol parhaus iddynt, a chasglu gwybodaeth am gynnydd tuag at ymrwymiadau trawslywodraethol y Tasglu ac adrodd arni’n rheolaidd. Rhannwyd diweddariadau ar gynnydd bob dau fis, bob chwarter ac yn flynyddol gydag uwch-arweinwyr a chynghorwyr yn y ffyrdd canlynol:

  • Fel rhan o’r gwaith monitro risg sefydliadol deufisol ffurfiol yn y SYG mewn perthynas â philer data cynhwysol gweledigaeth strategol Awdurdod Ystadegau’r DU. Roedd Risg Strategol 8 yn canolbwyntio ar Gynwysoldeb ein hystadegau a’n dadansoddiadau ac, yn benodol, ‘The risk that the UKSA’s presentation of society is not inclusive and reflective of all aspects of the UK’s rapidly changing economy, demographics and policy priorities;’
  • Ar draws y gwasanaeth sifil drwy’r Is-bwyllgor Data Cynhwysol ar draws Gwasanaeth Ystadegol y Llywodraeth a sefydlwyd fel rhan o broses weithredu’r Tasglu yn benodol er mwyn darparu rhwydwaith o gymheiriaid yn y llywodraeth i gefnogi cynnydd tuag at ymrwymiadau’r Tasglu;
  • Mewn adroddiadau chwarterol a blynyddol i’r arbenigwyr annibynnol sy’n rhan o Bwyllgor Cynghori ar Ddata Cynhwysol yr Ystadegydd Gwladol, a sefydlwyd i graffu ar gynnydd tuag at argymhellion y Tasglu a chynghori’r Ystadegydd Gwladol yn unol â hynny;
  • Er mwyn bod yn dryloyw, cafodd adroddiadau monitro blynyddol yn 2023 a 2024 eu cyhoeddi ar wefan Awdurdod Ystadegau’r DU hefyd yn ogystal â’r adroddiad cynnydd terfynol (2025) a’r gwerthusiad hwn.

Er mwyn sicrhau eglurder, ni chafodd menter y Tasglu ei sefydlu na’i chynnal fel rhaglen ffurfiol gyda chyllideb ac adnoddau yn cael eu dyrannu i gyflawni ymrwymiadau’r Tasglu. Cafodd y cyllid a glustnodwyd ar gyfer y fenter ei ddarparu gan y SYG i’r tîm a oedd yn gyfrifol am sefydlu’r cyrff llywodraethu, darparu cymorth ysgrifenyddol, a chasglu a rhannu gwybodaeth reoli am gynnydd tuag at gyflawni ymrwymiadau’r Tasglu.

Cafodd ymrwymiadau unigol y Tasglu eu hariannu, eu llywodraethu a’u cyflawni mewn amrywiaeth o ffyrdd ar draws y SYG, adrannau eraill llywodraeth y DU, y gweinyddiaethau datganoledig, sefydliadau academaidd ac yn ehangach ac nid oeddent wedi’u cysylltu â’i gilydd yn ffurfiol fel rhaglen gydlynol gydag un Uwch-Berchennog Cyfrifol â chyfrifoldeb ac atebolrwydd cyffredinol.  Fel y cyfryw, roedd y tîm yn y SYG yn gyfrifol am gasglu a rhannu gwybodaeth ar draws y system drwy’r trefniadau llywodraethu ond nid oedd gan unrhyw un o’r cyrff llywodraethu (yn unigol nac yn gyfunol) gyfrifoldeb strategol ac atebolrwydd am gyflawni’r portffolio o brosiectau a oedd yn cynnwys ymrwymiadau’r Tasglu.

Y Ddamcaniaeth Newid sy’n ategu’r dull gweithredu

Roedd y Tasglu yn rhagweld y gellid gwneud data a thystiolaeth yn fwy cynhwysol drwy ymdrech gydgysylltiedig ar draws y system ystadegol mewn perthynas â nifer o feysydd pwysig y cyfeiriwyd atynt fel yr Egwyddorion Data Cynhwysol (EDCau).

Egwyddor Data Cynhwysol 1:

Creu amgylchedd o ymddiriedaeth a dibynadwyedd sy’n galluogi ac yn annog pawb i gyfrif a chael eu cyfrif yn nata a thystiolaeth y DU.

Egwyddor Data Cynhwysol 2:

Defnyddio dull system gyfan, gan weithio mewn partneriaeth ag eraill i wneud data a thystiolaeth y DU yn fwy cynhwysol.

Egwyddor Data Cynhwysol 3:

Sicrhau y caiff gwybodaeth am bob grŵp ei chofnodi mewn perthynas ag agweddau allweddol ar fywyd yn nata’r DU, ac adolygu arferion yn rheolaidd.

Egwyddor Data Cynhwysol 4:

Gwella seilwaith data’r DU fel bod modd dadgyfuno data a dadansoddi croestoriadau, a hynny mewn ffordd gadarn a dibynadwy, ar gyfer yr ystod lawn o grwpiau a phoblogaethau perthnasol, ac ar lefelau gwahanol o ddaearyddiaeth.

Egwyddor Data Cynhwysol 5:

Sicrhau bod y cysyniadau a gaiff eu mesur yn yr holl ddata a gesglir yn briodol ac yn eglur.

Egwyddor Data Cynhwysol 6:

Ehangu’r amrywiaeth o ddulliau a ddefnyddir fel mater o drefn a chreu dulliau newydd o ddeall profiadau holl boblogaeth y DU.

Egwyddor Data Cynhwysol 7:

Dylai safonau wedi’u cysoni ar gyfer grwpiau a phoblogaethau perthnasol gael eu hadolygu o leiaf bob pum mlynedd a’u diweddaru a’u hehangu lle bo angen, yn unol â newidiadau mewn normau cymdeithasol ac anghenion ymatebwyr a defnyddwyr.

Egwyddor Data Cynhwysol 8:

Sicrhau bod data a thystiolaeth y DU yr un mor hygyrch i bawb, gan ddiogelu manylion adnabod a chyfrinachedd y rhai sy’n rhannu eu data.

Yn ei lasbrint ar gyfer data mwy cynhwysol, nododd y Tasglu fod y meysydd hyn yn hanfodol er mwyn sicrhau gwelliant. Fel grŵp gorchwyl a gorffen a sefydlwyd i gyflawni diben penodol, diolchwyd i’r Tasglu ei hun am ei wasanaeth a chafodd ei ddiddymu yn 2021 ar ôl iddo gyflwyno ei argymhellion. Fel y cyfryw, nid oedd disgwyl i’r Tasglu chwarae rôl barhaus yn y gwaith o wneud y newidiadau yr oedd wedi galw amdanynt. Fodd bynnag, fel rhan o’i argymhellion, galwodd ar y SYG i fonitro cynnydd yn rheolaidd ac amlinellu strategaethau i sicrhau eu bod yn cael eu rhoi ar waith yn y dyfodol. Ceir manylion am hyn yn Adroddiad Blynyddol 2025.

I’r perwyl hwn, mapiodd y tîm yn y SYG y prosiectau a nodwyd fel ymrwymiadau’r Tasglu yn erbyn yr Egwyddorion Data Cynhwysol er mwyn gallu monitro cynnydd cyffredinol tuag at bob Egwyddor. Roedd yr adroddiadau chwarterol a blynyddol yn cyflwyno’r statws cynnydd diweddaraf ar gyfer y casgliad o ymrwymiadau’r Tasglu a oedd wedi’u mapio i bob Egwyddor Data Cynhwysol er mwyn gallu gweld ble roedd llawer o gynnydd yn cael ei wneud a ble nad oedd cymaint o gynnydd yn cael ei wneud ar draws y glasbrint ar gyfer cynnydd a ddarparwyd gan y Tasglu. Rhannwyd hyn â’r grwpiau llywodraethu er gwybodaeth a chyngor, yn ogystal â’r blaenoriaethau a’r ‘camau cywiro’ a awgrymwyd. Fodd bynnag, fel y nodir uchod, nid oedd y grwpiau llywodraethu yn chwarae rôl sicrwydd ffurfiol mewn perthynas â’r portffolio o brosiectau a oedd yn gysylltiedig â phob egwyddor, a oedd yn golygu y gallent arsylwi a rhoi cyngor, ond nad oedd unrhyw fandad ffurfiol i roi eu cyngor ar waith.

Roedd Damcaniaeth Newid gychwynnol y fenter (gweler Atodiad C) yn canolbwyntio ar wneud gwelliannau yn y meysydd unigol a amlygwyd gan yr Egwyddorion Data Cynhwysol y disgwyliwyd y byddent, o’u cyflawni, yn arwain at 4 effaith allweddol: (1) cynyddu ymddiriedaeth y cyhoedd o safbwynt cymryd rhan yng nghasgliadau data’r llywodraeth a gweithgareddau rhannu data; (2) ehangu cyfranogiad yn arolygon y llywodraeth a gweithgareddau rhannu data; (3) y llywodraeth yn cynhyrchu data o ansawdd uwch drwy weithio mewn ffyrdd systemig a chydweithredol i gynnwys mwy o grwpiau a meithrin gwybodaeth am holl boblogaeth y DU; a (4) mwy o ddefnyddwyr data, gan gynnwys y cyhoedd, yn gallu cael gafael ar y data a’r dystiolaeth sydd eu hangen arnynt gan y llywodraeth. Roedd disgwyl i’r effeithiau hyn yn eu tro arwain at y nod o wneud data a thystiolaeth y DU yn fwy cynhwysol fel pob pawb yn cyfrif ac yn cael eu cyfrif.

Mae adroddiad cynnydd blynyddol 2025 yn dangos cynnydd yn erbyn yr effeithiau hyn, a gaiff ei fesur drwy’r ymrwymiadau unigol o dan yr egwyddorion data cynhwysol. Mae pob un o’r 8 egwyddor data cynhwysol yn gysylltiedig â’r 4 effaith allweddol a amlinellir yn y Ddamcaniaeth Newid: Mae Effaith 1 yn cysylltu ag EDC1; Mae Effaith 2 yn cysylltu ag EDC3; Mae Effaith 3 yn cysylltu ag EDC2, EDC4, EDC5, EDC6 ac EDC7; ac mae Effaith 4 yn cysylltu ag EDC8. Cyfeiriwch at Tystiolaeth o Gynnydd a chanlyniadau canfyddedig am werthusiad pellach o’r cynnydd a ddangoswyd yn erbyn y canlyniadau hyn.

Back to top

2. Dull a Methodoleg Gwerthuso

Diben y gwerthusiad hwn oedd asesu i ba raddau roedd argymhellion y Tasglu Data Cynhwysol (y Tasglu) wedi cael eu rhoi ar waith hyd yma i gyflawni’r weledigaeth i wneud data a thystiolaeth y DU yn fwy cynhwysol a’r rhesymau dros hynny Roedd yn ceisio adolygu i ba raddau roedd gweledigaeth y Tasglu wedi cael ei rhannu a’i deall, archwilio’r broses o roi’r argymhellion ar waith, a chasglu tystiolaeth ddangosol o ganlyniadau cynnar. Yn benodol, roedd yn anelu at:

  • Archwilio lefelau ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o weledigaeth a nodau’r Tasglu.
  • Gwerthuso effeithiolrwydd prosesau gweithredu.
  • Casglu tystiolaeth gynnar o gynnydd a chanlyniadau canfyddedig.
  • Llunio gwersi i’w dysgu i lywio ymyriadau strategol yn y dyfodol er mwyn gwneud data’r DU yn fwy cynhwysol.

Roedd y dulliau ymchwil a ddefnyddiwyd yn cynnwys casglu data cynradd ansoddol a dadansoddi data gweinyddol o drefniadau monitro ac adrodd rheolaidd ymrwymiadau’r Tasglu.

Cyfweliadau ansoddol â rhanddeiliaid allweddol

Er mwyn ystyried ymwybyddiaeth o weledigaeth a nodau’r Tasglu, canfyddiadau o ddulliau gweithredu a chanlyniadau cynnar, ac awgrymiadau ar gyfer newidiadau i’r dyfodol, cynhaliwyd cyfweliadau ansoddol â rhanddeiliaid allweddol, gan gynnwys y canlynol:

  • Aelodau’r Tasglu Data Cynhwysol
  • Deiliaid ymrwymiadau’r Tasglu o bob rhan o lywodraeth yn y DU, gan gynnwys y gweinyddiaethau datganoledig a Hyb Cydraddoldeb Swyddfa’r Cabinet (gynt)
  • Aelodau Pwyllgor Cynghori ar Ddata Cynhwysol yr Ystadegydd Gwladol
  • Uwch-aelodau o staff y SYG a oedd yn llywodraethu ac yn goruchwylio cynnydd tuag at argymhellion y Tasglu yn strategol

Cafodd y dull ymchwil ei gymeradwyo gan Bwyllgor Cynghori ar Foeseg Data’r Ystadegydd Gwladol a chwblhawyd cyfanswm o 18 o gyfweliadau yng ngwanwyn 2025, o’r 28 o gyfranogwyr a wahoddwyd yn wreiddiol. Cymerodd cymysgedd amrywiol o randdeiliaid ran yn y gwaith, gan gynnwys rhai oedd yn ymwneud â chyflawni, llywodraethu a gweithredu. O’r 18 o gyfranogwyr a gyfwelwyd, cymerodd 16 ohonynt ran yn rhithwir drwy Microsoft Teams, un dros y ffôn a darparodd un arall ymateb ysgrifenedig.

Dilynodd y cyfweliadau ganllaw pwnc a oedd yn canolbwyntio ar gwestiynau allweddol i’w hateb gan y gwerthusiad. Cafodd cyfranogwyr eu recriwtio drwy wahoddiad swyddogol, a chafodd pob un ohonynt daflen wybodaeth i gyfranogwyr a oedd yn amlinellu diben y gwerthusiad, sut y byddai eu data’n cael eu defnyddio, a’u hawliau fel cyfweledigion.

Cafodd yr holl ddata ansoddol eu dadansoddi’n thematig gan ddefnyddio meddalwedd dadansoddi data NVivo. Cafodd fframwaith codio cyffredin ei ddatblygu’n ailadroddol i adlewyrchu cwestiynau’r gwerthusiad a’r themâu a ddaeth i’r amlwg.

Dadansoddi data eilaidd

Mae dadansoddiad o ddata eilaidd gan ddefnyddio data o gyflwyniadau monitro ymrwymiadau a chrynodebau o gynnydd, fel y cofnodwyd yn adroddiad blynyddol 2025, wedi llywio’r adroddiad hwn hefyd.

Cwestiynau’r gwerthusiad

Rhannwyd cwestiynau’r gwerthusiad yn dri maes cyffredinol:

  1. Ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o weledigaeth a nodau’r Tasglu, gan gynnwys i ba raddau roedd cyfranogwyr yn teimlo bod y rhain wedi cael eu disgrifio’n glir dros amser.
  2. Cyflawniadau a chynnydd canfyddedig tuag at y weledigaeth a’r nodau, gan gynnwys i ba raddau y credir y gellir priodoli unrhyw gyflawniadau i fenter y Tasglu o gymharu â ffactorau eraill.
  3. Safbwyntiau am yr hyn a oedd wedi gweithio wrth roi argymhellion y Tasglu ar waith gan gynnwys adnoddau, monitro cynnydd, cyhoeddi adroddiadau cynnydd a rôl cyrff llywodraethu.
Back to top

3. Canfyddiadau'r gwerthusiad

Ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o weledigaeth a nodau’r Tasglu

Roedd ymdeimlad ymhlith staff y SYG a chyfranogwyr o’r gwasanaeth sifil ehangach fod ymgysylltiad cychwynnol â’r Tasglu ac ymwybyddiaeth o’i nodau yn gryf ar y dechrau ond eu bod wedi gwanhau dros amser. Cyfeiriwyd at ddiffyg adnoddau ar gyfer cyfathrebu parhaus a diffyg amser i ymgysylltu â’r negeseuon allweddol gan y Tasglu fel rhesymau dros leihad posibl mewn lefelau ymgysylltiad ac ymwybyddiaeth.

Credai’r cyfranogwyr yn gyffredinol fod y negeseuon ynghylch y Tasglu yn gadarn ac yn gyson a nodwyd bod symlrwydd y negeseuon yn gryfder penodol. Fodd bynnag, er bod canfyddiadau cychwynnol y Tasglu yn glir, teimlwyd bod yr ysgogiad i’w gwthio ymlaen wedi gwanhau.

Ar y llaw arall, teimlai rhai cyfranogwyr mai cysondeb a symlrwydd nodau a gweledigaeth y Tasglu oedd un o’r rhesymau pam bod y momentwm wedi arafu o’i uchafbwynt cychwynnol, gan fod y cyfathrebu’n canolbwyntio i raddau helaeth ar gasglu gwybodaeth fonitro. Er bod gosod a chyflawni targedau byrdymor yn ddefnyddiol, teimlwyd bod dangos gwelliant parhaus tuag at y weledigaeth yn fwy pwysig ac yn fwy priodol o bosibl.

I roi’r canfyddiadau hyn yn eu cyd-destun, cafodd yr Is-adran Cydraddoldebau a Data Cynhwysol yn y SYG ei chau a chafodd y cyfrifoldeb am fonitro camau i weithredu’r Tasglu a hyrwyddo data cynhwysol ei ddyrannu i’r Rhaglen Dyfodol Ystadegau am y Boblogaeth a Mudo yn y SYG. Nod y newid sefydliadol hwn oedd prif-ffrydio dulliau data cynhwysol o fewn ystadegau am y boblogaeth. Fodd bynnag, gallai’r diffyg parhad o ran staffio, y lleihad mewn adnoddau a’r penderfyniad ailflaenoriaethu i brif-ffrydio data cynhwysol fod wedi cyfrannu at y lleihad mewn cyfathrebu, negeseuon a’r ymdeimlad o fomentwm a nodwyd gan y cyfranogwyr.

Effeithiolrwydd prosesau gweithredu

Effeithiolrwydd canfyddedig cynllun gweithredu’r Tasglu wrth gyflawni

Roedd cynllun gweithredu’r Tasglu, a ddatblygwyd mewn ffordd gydweithredol ar draws y llywodraeth gan ymgorffori prosiectau ymchwil o sefydliadau academaidd a sefydliadau cymdeithas sifil hefyd, yn dibynnu ar gasglu a mapio mentrau presennol i greu dull cydlynol o fynd i’r afael â’r Egwyddorion Data Cynhwysol. Roedd hyn i raddau helaeth yn golygu cynnwys mentrau presennol mewn fframwaith ar gyfer data cynhwysol er mwyn meithrin dealltwriaeth well o’r hyn a oedd yn digwydd ar draws y system yn hytrach na chymryd camau newydd ac ychwanegol i fynd i’r afael â’r Egwyddorion Data Cynhwysol.

Cydnabuwyd yn gyffredinol bod y Cynllun Gweithredu yn gam angenrheidiol i sicrhau bod argymhellion y Tasglu yn cael eu cydnabod a’u rhoi ar waith ar draws y llywodraeth, gan gydnabod cymhlethdod system ystadegol gymhleth sydd wedi’i dadgyfuno. Teimlai eraill fod datblygu’r cynllun yn drobwynt o ran perchnogaeth drawslywodraethol.

Er bod yr adroddiad argymhellion (2021) yn nodi meysydd newid clir fel y dangosir gan yr Egwyddorion Data Cynhwysol, roedd yr alwad i roi argymhellion ar waith wedi’i hanelu’n gyffredinol at ‘lunwyr data’ mewn llawer o achosion. O gofio cymhlethdod y system ystadegol, gallai hyn fod wedi golygu bod gweithredu yn cael ei ystyried fel rhywbeth y dylai pawb ei wneud ond nad oedd gan neb gyfrifoldeb clir amdano.

Gellid bod wedi mynd i’r afael â’r diffyg eglurder hwn drwy’r Cynllun Gweithredu, a oedd wedi aseinio prosiectau penodol i ‘berchnogion ymrwymiadau’ y Tasglu. Fodd bynnag, roedd hwn yn canolbwyntio ar gyfrifoldeb am adrodd ar gynnydd mewn perthynas â phrosiectau penodol yn hytrach na chyfrifoldeb am gyflawni’r prosiectau eu hunain. Cyfeiriwyd at ganfyddiad nad oedd y cynllun cychwynnol yn ddigon manwl na chydlynol a thynnodd rhai cyfranogwyr sylw at ddyblygu a gorgyffwrdd rhwng ymrwymiadau a oedd wedi effeithio ar y gallu i fonitro pwy oedd yn berchen ar rannau gwahanol o’r cynllun.

Awgrymodd cyfranogwyr hefyd y gellid bod wedi dewis a dethol ac ategu ymarfer presennol ar draws y llywodraeth er mwyn rhoi’r argymhellion ar waith yn hytrach na chyflwyno dulliau newydd. Er y gellid ystyried bod hyn yn helpu i fapio’r tirlun data cynhwysol presennol a meithrin dealltwriaeth gyffredin, mae’n aneglur sut y gallai hyn, ar ei ben ei hun, arwain at newid sylweddol uchelgeisiol i gynwysoldeb data a thystiolaeth y DU.

Cychwynnwyd nifer o brosiectau o ganlyniad i argymhellion y Tasglu, gan gynnwys rhaglen o waith ymchwil ansoddol yn y SYG i feithrin dealltwriaeth well o brofiadau bywyd grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol yn ystadegol.

Effeithiolrwydd canfyddedig trefniadau llywodraethu a goruchwyliaeth ar weithredu

Fel Tasglu a oedd yn weithredol am gyfnod penodol, cafodd argymhellion y Tasglu eu comisiynu gan yr Ystadegydd Gwladol i roi glasbrint i eraill weithredu arno. Er mwyn i newidiadau cynaliadwy tuag at ddata mwy cynhwysol ddatblygu a pharhau, byddai angen cynnwys llawer o gyrff o bob rhan o’r system ystadegol. Cafodd hyn ei gydnabod gan y Tasglu a’i adlewyrchu yn ei ail Egwyddor Data Cynhwysol a oedd yn galw ar y SYG a llunwyr data eraill i ‘ddefnyddio dull system gyfan, gan weithio mewn partneriaeth ag eraill i wneud data a thystiolaeth y DU yn fwy cynhwysol.’

Mae creu’r math o newidiadau y galwyd amdanynt ar draws system gymhleth yn dibynnu ar arweinyddiaeth barhaus a rennir, ffocws, gallu a phenderfyniad i godi ymwybyddiaeth a sicrhau gwaith cydgysylltiedig rhwng nifer o gyrff sydd â blaenoriaethau, gwybodaeth ac arbenigedd gwahanol.

Yn unol â’r adroddiad argymhellion, arweiniodd y Cynllun Gweithredu at greu dau bwyllgor, sef Pwyllgor Cynghori ar Ddata Cynhwysol yr Ystadegydd Gwladol (NSIDAC) a’r Is-bwyllgor Data Cynhwysol trawslywodraethol. Nod y pwyllgorau hyn oedd monitro cynnydd a rhoi cyngor ar sut i wneud cynnydd parhaus.

Pwyllgor Cynghori ar Ddata Cynhwysol yr Ystadegydd Gwladol

Mae NSIDAC yn elfen allweddol o’r strwythurau llywodraethu a gyflwynwyd fel rhan o’r broses o roi argymhellion y Tasglu ar waith ac mae’n cynnwys arbenigwyr annibynnol sy’n rhoi cyngor ar fentrau penodol i wneud data’n fwy cynhwysol i’r Ystadegydd Gwladol a chydweithwyr o’r SYG ac adrannau eraill y llywodraeth. Mae’r pwyllgor hefyd wedi rhoi barn ar y cynnydd a wnaed tuag at yr argymhellion mewn ymateb i adroddiadau statws Coch Melyn Gwyrdd chwarterol ar yr ymrwymiadau allweddol a’r adroddiadau blynyddol. Mae Cadeirydd NSIDAC yn cyflwyno brîff i’r Ystadegydd Gwladol bob chwarter hefyd. Fel pwyllgor cynghori, nid oes gan NSIDAC yr un awdurdod â phwyllgor sicrwydd i ragnodi camau gweithredu a sicrhau eu bod yn cael eu cyflawni ac nid yw’n ofynnol ychwaith i brosiectau presennol neu newydd ofyn am gyngor NSIDAC ynghylch eu cynlluniau a’u dulliau gweithredu. Nid oes unrhyw gysylltiad rhwng NSIDAC a phaneli sicrwydd presennol y SYG, fel y Panel Adolygu Sicrwydd Methodolegol (MARP).

Efallai bod y diffyg awdurdod hwn wedi arwain at y canfyddiad a fynegwyd gan gyfranogwyr bod gofyn am gyngor gan NSIDAC ac ymateb iddo yn rhywbeth dewisol ond gallai fod wedi tanseilio ymrwymiad canfyddedig NSIDAC i ddata cynhwysol hefyd.

 Yr Is-bwyllgor Data Cynhwysol

Cafodd Is-bwyllgor Data Cynhwysol (IDSC) ei ychwanegu at y strategaeth lywodraethu hefyd er mwyn darparu mewnbwn ar lefel uwch a rhannu gwybodaeth am fentrau data cynhwysol o bob rhan o Wasanaeth Ystadegol y Llywodraeth. Roedd yr Is-bwyllgor yn cynnwys Penaethiaid Proffesiwn o Wasanaeth Ystadegol y Llywodraeth ac Ymchwil Gymdeithasol y Llywodraeth yn bennaf, gyda’u hadrannau a’u gweinyddiaethau yn arwain ymrwymiadau penodol y Tasglu hefyd.

Roedd rhai cyfranogwyr o’r farn bod y rhwydwaith trawslywodraethol hwn yn ffordd gadarnhaol o ymgysylltu adrannau â’r agenda ehangach i wneud data’n fwy cynhwysol a rhannu gwersi i’w dysgu.

Cydlyniant ac effeithiolrwydd canfyddedig y trefniadau llywodraethu

O ganlyniad i ailstrwythuro sefydliadol yn y SYG a chyfyngiadau o ran adnoddau, cafodd yr Is-bwyllgor Data Cynhwysol ei lansio ar ôl NSIDAC, yna cafodd y broses lansio ei gohirio dros dro tra bod y tîm a oedd yn darparu cymorth ysgrifenyddol yn cael ei ailstrwythuro, ac yna cafodd ei ail-lansio yn ddiweddarach. Roedd y diffyg parhad hwn wedi golygu na chafodd y dolenni adborth a gynlluniwyd rhwng y ddau bwyllgor allweddol eu rhoi ar waith byth fel yr amlinellwyd yn y cynllun llywodraethu gwreiddiol.

Yn ogystal, er bod gan y ddau bwyllgor gylch gwaith i gynghori ar flaenoriaethau ar gyfer data mwy cynhwysol a helpu i gyflawni argymhellion y Tasglu, teimlai’r cyfranogwyr nad oedd y gwaith wedi’i gysylltu â’r Cynllun Gweithredu, ac nad oedd y pwyllgorau yn cael eu hystyried bob amser fel lleoedd i asesu cynnydd yn strategol neu gyfeirio newid ystyrlon. Yn lle hynny, gellid ystyried eu bod yn lleoedd trafod ynysig, heb fawr o eglurder ynghylch sut y byddai’r wybodaeth neu’r dystiolaeth a rennir â’r pwyllgorau yn arwain at gamau gweithredu neu ganlyniadau penodol. Roedd y datgysylltiad hwn rhwng cyfraniadau unigol a strwythurau goruchwylio ehangach wedi creu ymdeimlad bod y broses yn ddarniog ac nad oedd yn gydgysylltiedig.

Roedd rhywfaint o ansicrwydd hefyd ynghylch rolau penodol NSIDAC a’r IDSC a’r gwahaniaethau rhyngddynt. Teimlwyd y gallai’r diffyg eglurder hwn ynghylch strwythurau llywodraethu a’u cyfrifoldebau fod wedi cyfyngu ymhellach ar gyfleoedd i ymgysylltu’n ehangach ar draws y system.

Er gwaethaf bodolaeth yr IDSC, teimlwyd hefyd y byddai annog mwy o gydweithio trawsadrannol wedi cynyddu cyfleoedd i rannu gwersi a ddysgwyd, a allai fod wedi bod yn fuddiol i allu ar draws y llywodraeth i gyflawni’r ymrwymiadau. Efallai bod hyn yn arwydd o ddiffyg ymwybyddiaeth o’r IDSC, neu’n adlewyrchu’r diffyg parhad wrth i’r Pwyllgor gael ei sefydlu, ei ohirio dros dro a’i lansio unwaith eto.

Gofynnwyd hefyd i dîm monitro a llywodraethu’r Tasglu yn y SYG ddarparu metrigau deufisol ar gynnydd mewn perthynas â data cynhwysol er mwyn cefnogi gwaith mewnol i fonitro risgiau strategol mewn perthynas â philer cynhwysol gweledigaeth strategol Awdurdod Ystadegau’r DU. Er bod hwn yn gyfle i uwch-arweinwyr ymgysylltu’n rheolaidd â gwybodaeth am ddata cynhwysol, nid oedd unrhyw gysylltiad rhwng gwaith craffu ar y lefel hon a’r trefniadau llywodraethu ehangach o ran rhoi argymhellion y Tasglu ar waith. Nid oedd dolen adborth ychwaith rhwng y pwyllgor a oedd yn cael y wybodaeth hon a thîm monitro a llywodraethu’r Tasglu a oedd yn ei darparu. Roedd hyn o bosibl yn gyfle a gollwyd i gydlynu’r gwahanol bwyllgorau a oedd yn ystyried cynnydd tuag at ddata cynhwysol.

Mae canfyddiadau’r cyfweliadau ansoddol yn cefnogi’r asesiad hwn o ddatgysylltiad rhwng y weledigaeth gyffredinol, y trefniadau llywodraethu a’r camau gweithredu gwirioneddol. Canfu’r dadansoddiad mai’r canfyddiad oedd bod y Tasglu wedi cael ei sefydlu i lywio gwaith meddwl strategol yn hytrach na chyflawni ac nad oedd ganddo unrhyw awdurdod i gyfeirio mandad gweithredol.

Rôl gwybodaeth reoli wrth gefnogi camau gweithredu a chyflawni

Adroddiadau cynnydd blynyddol

Cyhoeddwyd adroddiadau cynnydd blynyddol i roi diweddariadau tryloyw ar statws holl ymrwymiadau’r Tasglu a oedd wedi’u cynnwys yn y Cynllun Gweithredu. Drwy gydol yr adroddiadau cynnydd blynyddol a gyhoeddwyd yn 2023 a 2024, disgrifiwyd cynnydd mewn perthynas â’r wyth Egwyddor Data Cynhwysol a thynnwyd sylw hefyd at brosiectau data cynhwysol newydd a strategaethau ar gyfer gwneud newidiadau tymor hwy.

Fel y nodwyd eisoes, roedd ymrwymiadau cychwynnol y Tasglu yn cynnwys 205 o brosiectau ac ehangwyd hyn yn ddiweddarach i 339 o brosiectau ar ôl i wybodaeth ddod i law am fentrau newydd perthnasol. Yr adroddiadau blynyddol, a oedd yn crynhoi’r cynnydd diweddaraf ar draws amrywiaeth fawr o weithgareddau, oedd y prif gyfrwng i lunio a rhannu naratif cydlynol a oedd yn asesu natur a chyfradd y newid yn y mentrau a oedd yn rhan o Gynllun Gweithredu’r Tasglu. Fe’u rhannwyd â’r grwpiau llywodraethu ar gyfer menter y Tasglu, ac fe’u cyhoeddwyd yn ehangach ar wefan Awdurdod Ystadegau’r DU hefyd er mwyn sicrhau tryloywder.

Dywedodd y rhai a gymerodd ran yn y cyfweliadau nad oeddent yn gyfarwydd iawn â’r adroddiadau cynnydd blynyddol. Teimlai rhai bod menter ehangach y Tasglu yn llai perthnasol i’w rôl neu dîm, felly byddent yn canolbwyntio ar yr ymrwymiadau penodol a oedd yn berthnasol iddynt. Yn aml, pan fyddai deunyddiau cyfathrebu yn dod i law gan y Tasglu, byddent yn cael eu dadflaenoriaethu o ganlyniad i gapasiti neu ofynion cystadleuol eraill.

Dywedodd y rhai a oedd wedi ymgysylltu’n fwy â’r adroddiadau cynnydd blynyddol eu bod yn ddefnyddiol er mwyn cadarnhau ymrwymiadau a chynnal cyfeiriad a’u bod yn rhoi sicrwydd iddynt fod cynnydd parhaus yn cael ei wneud. Fodd bynnag, cyfeiriodd rhai cyfranogwyr at faterion yn ymwneud â fformat a hygyrchedd ar-lein a oedd, yn eu barn nhw, wedi amharu ar ymgysylltiad â’r adroddiadau blynyddol.

Effeithiolrwydd gwaith monitro chwarterol a gwybodaeth reoli

Trafodwyd y gwaith o gyflawni’r Cynllun Gweithredu o safbwynt rheoli hefyd, a dywedodd llawer eu bod yn teimlo nad oedd gan y cynllun fframwaith cyflawni digon clir. Dywedodd rhai bod ansicrwydd ynghylch cyllidebau yn ffactor allweddol a oedd wedi amharu ar y gallu i bennu ymrwymiadau penodol dros amserlenni clir a phenodedig. Nodwyd hefyd fod angen fframwaith atebolrwydd cysylltiedig.

Roedd trefniadau adrodd ar gynnydd i’r tîm monitro yn amrywio’n sylweddol, yn dibynnu ar arweinyddiaeth adrannol, adnoddau, blaenoriaethau cystadleuol, a pharodrwydd deiliaid ymrwymiadau i ymgysylltu.

Yn ogystal â’r diffyg awdurdod canfyddedig i greu newid, dywedwyd hefyd fod bwlch amlwg rhwng uchelgais yr argymhellion a’r gallu i weithredu arnynt fel yr amlinellir yn y Cynllun Gweithredu, a hynny o safbwynt amser ac adnoddau. Dywedwyd bod ymrwymiadau fel newid arolygon mawr, er enghraifft, yn uchelgeisiau i’w cyflawni ymhell yn y tymor hwy ac felly teimlwyd bod adrodd arnynt yn rheolaidd yn afrealistig.

Nododd cyfranogwyr hefyd fod y newid o Is-adran benodedig o fewn y SYG a oedd yn canolbwyntio ar ddata cynhwysol i sefyllfa lle roedd gweithredu argymhellion y Tasglu wedi’i gynnwys fel rhan o un o feysydd busnes y SYG wedi cymhlethu ymdrechion cydgysylltu mewnol ac wedi gwneud y broses weithredu’n anos.

Blaenoriaethau canfyddedig ac arweinyddiaeth mewn perthynas â gweithredu argymhellion y Tasglu

Mynegwyd safbwyntiau cymysg yn y cyfweliadau o ran p’un a oedd data cynhwysol a’r broses o weithredu argymhellion y Tasglu wedi cael eu trin fel blaenoriaeth strategol. Er bod rhai cyfranogwyr wedi disgrifio ymdeimlad clir o gefnogaeth gan arweinwyr, yn enwedig ar y dechrau, teimlai eraill nad oedd y broses weithredu wedi sicrhau digon o eiriolaeth ar lefel uwch, perchnogaeth weithredol na ffocws parhaus dros amser.

Er bod argymhellion y Tasglu yn weladwy, nododd cyfranogwyr nad oedd ei uchelgeisiau yn cael eu blaenoriaethu’n gyson o fewn timau cyflawni o ddydd i ddydd. Ar y llaw arall, roedd eraill o’r farn bod argymhellion y Tasglu yn werthfawr fel cyfeirbwynt allanol a oedd yn cefnogi’r sylw parhaus a oedd yn cael ei roi i ddata cynhwysol yn eu sefydliad.

Mae profiadau cyfranogwyr yn dangos bod y Tasglu wedi helpu i ddarparu trosoledd ar gyfer ymdrechion ym maes data cynhwysol, er bod y flaenoriaeth a roddwyd i hynny yn dibynnu ar flaengaredd unigol ac arweinyddiaeth leol. Er bod y Tasglu wedi llwyddo i godi proffil data cynhwysol, ni chafodd hyn ei drosi’n gyson yn weithgarwch â blaenoriaeth er mwyn cyflawni. Mae’n debyg bod cynnydd yn dibynnu ar gymhelliant unigolion neu dimau yn hytrach nag arweinyddiaeth glir a chyson ar draws y system ystadegol.

Tystiolaeth o gynnydd a chanlyniadau canfyddedig

Gellir ystyried effeithiau menter y Tasglu yn nhermau:

  • beth sydd wedi cael ei gyflawni mewn perthynas â data mwy cynhwysol yn seiliedig ar y prosiectau a nodir yn y Cynllun Gweithredu;
  • canlyniadau eraill sy’n gysylltiedig â’r broses o weithredu’r argymhellion yn hytrach na phrosiectau penodol (e.e. rhannu mwy o wybodaeth/dealltwriaeth ar draws y system); a,
  • chanfyddiadau pobl o bwyslais cynyddol ar bwysigrwydd data cynhwysol

Tystiolaeth o gynnydd o wybodaeth fonitro

Mae’r adroddiadau cynnydd blynyddol, gan gynnwys yr un mwyaf diweddar, sef adroddiad cynnydd blynyddol 2025, wedi rhoi trosolwg o gamau i gyflawni ymrwymiadau’r Tasglu sydd wedi’u cynnwys yn y Cynllun Gweithredu.

Dros gyfnod monitro’r Cynllun Gweithredu, mae nifer cynyddol o ymrwymiadau wedi cael eu cyflawni neu ar y trywydd cywir i’w cyflawni (fel y dangosir yn Adroddiad Blynyddol 2025). Yn ôl y ffigurau terfynol, aseswyd bod 55% o ymrwymiadau wedi cael eu cwblhau a bod 33% ar y trywydd cywir. Ymhlith y 39 o ymrwymiadau yr aseswyd eu bod wedi cael eu hoedi neu eu hoedi’n sylweddol/gohirio dros dro, roedd gan 32 ohonynt gynlluniau ar waith i barhau/ailddechrau yn y dyfodol.

Mae’r effaith allweddol gyntaf a nodir yn y Ddamcaniaeth Newid (Atodiad C) yn ymwneud â chynyddu ymddiriedaeth y cyhoedd o safbwynt cymryd rhan yng nghasgliadau data’r llywodraeth a gweithgareddau rhannu data. Mae hyn yn ymwneud yn uniongyrchol ag EDC1, sef yr Egwyddor fwyaf heriol i’w chyflawni a’i monitro’n effeithiol yn ôl adroddiad cynnydd blynyddol 2025. Er gwaethaf hyn, roedd 81% o’r ymrwymiadau wedi’u cwblhau neu ar y trywydd cywir.

Mae’r ail effaith, sy’n ymwneud ag ehangu cyfranogiad yn arolygon y llywodraeth a gweithgareddau rhannu data, yn gysylltiedig ag EDC3, lle roedd 87% o’r 70 o ymrwymiadau wedi’u cwblhau neu ar y trywydd cywir.

Mae’r drydedd effaith a nodir yn y Ddamcaniaeth Newid yn ymwneud â’r llywodraeth yn cynhyrchu data o ansawdd uwch drwy weithio mewn ffyrdd systemig a chydweithredol i gynnwys mwy o grwpiau a meithrin gwybodaeth am holl boblogaeth y DU.  Mae hyn yn cysylltu ag EDC2, EDC4, EDC5, EDC6 ac EDC7, lle roedd canran yr ymrwymiadau a oedd wedi’u cwblhau neu ar y trywydd cywir yn amrywio o 84% (EDC2 ac EDC6) i 94% (EDC5).

Y bedwaredd effaith yw bod mwy o ddefnyddwyr data, gan gynnwys y cyhoedd, yn gallu cael gafael ar y data a’r dystiolaeth sydd eu hangen arnynt gan y llywodraeth. Mae hyn yn cysylltu ag EDC8 lle roedd 98% o’r 46 o ymrwymiadau wedi’u cwblhau neu ar y trywydd cywir. Cyfeiriwch at adroddiad cynnydd blynyddol 2025 i gael gwybodaeth fanylach am gyfraddau cwblhau ymrwymiadau fesul EDC.

Mae hyn yn dangos bod gwelliannau wedi cael eu gwneud ym mhob un o’r meysydd hyn, drwy gyflawniadau cyfunol nifer o brosiectau sy’n symud rhyw agwedd ar yr EDC honno ymlaen. Mae’r taflwybr yn gadarnhaol ar y cyfan ond mae mwy o gynnydd i’w weld mewn rhai meysydd nag eraill.

Roedd rhai o’r prosiectau a gwblhawyd yn cynnwys gwaith i wneud data am ethnigrwydd yn fwy manwl; adrannau yn archwilio ymarferoldeb casglu gwybodaeth am ethnigrwydd ac anabledd fel rhan o bob casgliad data; a mwy o weithgareddau casglu data ac ymgysylltu â grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol er mwyn sicrhau bod eu hanghenion yn cael eu hadlewyrchu mewn data a thystiolaeth. Mae’r gwaith hwn yn amlinellu’r ymrwymiad trawslywodraethol i wneud data a thystiolaeth y DU yn fwy cynhwysol a sicrhau bod gwybodaeth am bob grŵp yn cael ei chofnodi’n gadarn mewn ymarferion casglu data.

Er bod hyn yn helpu i daflu goleuni ar gynnydd pwysig tuag at ddata mwy cynhwysol yn y DU, roedd y prosiectau yn y Cynllun Gweithredu wedi’u casglu’n rhannol o blith mentrau a oedd eisoes wedi’u cynllunio neu ar waith pan gafodd argymhellion y Tasglu eu llunio. Fel y cyfryw, nid ydynt i gyd yn cynrychioli gweithgarwch newydd y gellir ei briodoli i fenter y Tasglu. Yr hyn sy’n anodd ei farnu yw unrhyw effaith y gallai’r Cynllun Gweithredu a’r gwaith monitro cynnydd dilynol fod wedi’i chael ar helpu i gynnal y flaenoriaeth i barhau â phrosiectau cynhwysol dros amser. Mae hyn i’w weld yn amlwg mewn enghreifftiau a roddwyd gan gyfranogwyr ar sail eu profiadau eu hunain. Fodd bynnag, mae’r fframwaith a gynigiwyd gan y Tasglu wedi ein helpu i ddeall sut mae cynnydd wedi cael ei wneud yn barod ar draws y system ac wedi rhoi syniad mwy strategol o ble y dylid blaenoriaethu ymdrechion yn y dyfodol.

Canlyniadau o’r broses o weithredu argymhellion y Tasglu

Un o ganlyniadau clir Menter y Tasglu yw bod gennym wybodaeth well am ble mae gwaith yn mynd rhagddo i wneud data yn fwy cynhwysol ar draws system ystadegol y llywodraeth yn ogystal â dealltwriaeth well o’r ffactorau sy’n cefnogi neu’n llesteirio cynnydd prosiectau data cynhwysol. Mae hon yn wybodaeth newydd nad oedd ar gael yn flaenorol a allai helpu i hyrwyddo cynnydd drwy alluogi gwaith mwy cydlynol ar fentrau tebyg a llywio penderfyniadau strategol o ran ble mae angen gwneud mwy o ymdrech.

Mae enghreifftiau o adrannau’r llywodraeth yn cydweithio’n agos i hwyluso mynediad at ffynonellau data gweinyddol sydd eu hangen i feithrin dealltwriaeth well o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol yn ystadegol, a rhagor o waith i greu cyfleoedd i gysylltu data. Mae’r rhain yn dangos yn glir bod ymdeimlad o berchnogaeth a rennir ar draws y llywodraeth i wneud data a thystiolaeth yn fwy cynhwysol. Fodd bynnag, mae’r graddau y mae’r camau gweithredu hyn yn deillio o fenter y Tasglu yn aneglur.

Effeithiau canfyddedig menter y Tasglu

Barn y cyfranogwyr ar yr hyn a oedd wedi gweithio’n dda

Teimlai’r cyfranogwyr fod menter y Tasglu wedi llwyddo i gynyddu pwysigrwydd data cynhwysol a chydraddoldeb ond dywedwyd bod y graddau yr oedd wedi dylanwadu’n uniongyrchol ar gynhyrchu data mwy cynhwysol yn aneglur. Awgrymwyd bod cynnwys sefydliadau ac adrannau a oedd wedi ymrwymo eisoes i gydraddoldeb a chynwysoldeb yn y gwaith o ddatblygu’r Cynllun Gweithredu wedi helpu i roi hwb i’r gwaith hwn.

Teimlwyd hefyd fod menter y Tasglu wedi llwyddo i godi proffil llawer o’r gwaith sy’n digwydd ar draws y llywodraeth i wneud gwelliannau o ran data cynhwysol. Fodd bynnag, awgrymwyd nad oedd hyn wedi arwain o reidrwydd at newid strwythurol ar draws y llywodraeth. Dywedwyd bod menter y Tasglu yn rhoi hwb i weithredu parhaus drwy fonitro ac annog cynnydd, ond roedd cyfyngiadau ariannol yn golygu nad oedd hyn bob amser yn ddigonol i gynnal effaith ac ysgogi gwelliant ar raddfa ehangach.

Asesiadau’r cyfranogwyr o’r hyn nad oedd wedi gweithio cystal

Yn debyg i ymwybyddiaeth a dealltwriaeth y cyfranogwyr o weledigaeth a nodau’r Tasglu, er bod y fenter wedi llwyddo i dynnu sylw at yr agenda cydraddoldebau i ddechrau, teimlwyd bod amlygrwydd canfyddedig ac effaith gwaith ymgysylltu ynghylch y fenter wedi lleihau dros amser.

Er y gallai’r Cynllun Gweithredu fod wedi helpu i greu’r amodau ar gyfer gwaith mwy cydlynol ar draws y llywodraeth a thu hwnt ac er y gallai gweithgareddau monitro fod wedi annog eu parhad, roedd momentwm y fenter wedi lleihau dros amser, gan gyfyngu ar ei heffeithiolrwydd canfyddedig.

Gwelliannau a awgrymwyd gan y cyfranogwyr

Her gyffredin a drafodwyd gan y rhai a gymerodd ran yn y cyfweliadau oedd y canfyddiad na allai trefniadau llywodraethu’r fenter ddylanwadu ar gamau gweithredu. Er mwyn helpu NSIDAC i ysgogi cynnydd yn fwy effeithiol, awgrymwyd y dylid ei gynnwys mewn strwythur llywodraethu a sicrwydd a fyddai’n mandadu camau gweithredu.

Yn yr un modd, awgrymodd cyfranogwyr y dylai fod ymrwymiad i sicrhau bod cynwysoldeb yn un o gonglfeini rhaglenni, ac y dylid darparu cyllid a fframwaith cyflawni i gyd-fynd â hyn. Gallai hyn fod yn gam pwysig ymlaen i oresgyn y problemau strwythurol o ran llywodraethu ac arwain at fwy o newid sydd wedi’i wreiddio’n ddyfnach yn y gwaith o gyflawni rhaglenni a chreu mwy o atebolrwydd ar lefel fwy lleol.

O ystyried yr ailstrwythuro a’r newidiadau a wnaed i’r tîm yn y SYG a oedd yn cefnogi trefniadau i lywodraethu a monitro’r gwaith o weithredu argymhellion y Tasglu, galwyd am fwy o barhad a chydlyniant o safbwynt swyddogaethau cefnogi a thimau llywodraethu yn y dyfodol.

Gan edrych i’r dyfodol, ystyriwyd bod y cyfrifiad nesaf yn gyfle penodol i ganolbwyntio ar gynwysoldeb data.

Gwersi allweddol a chyfeiriadau posibl i’r dyfodol

Mae adroddiad cynnydd blynyddol 2025 yn amlinellu’r cynnydd a wnaed mewn meysydd allweddol sy’n cyfrannu at yr effeithiau a nodir yn y Ddamcaniaeth Newid (Atodiad C). Fodd bynnag, er gwaethaf y cynnydd a welwyd ymhlith yr egwyddorion data cynhwysol yn ystod y cyfnod monitro, roedd y rhai a gymerodd ran yn y cyfweliadau’n teimlo bod momentwm ac ymwybyddiaeth wedi pylu ar ôl cyrraedd uchafbwynt i ddechrau pan gyhoeddwyd yr adroddiad argymhellion a’r cynllun gweithredu.

Yn unol â hyn, mae’r ddau ddull gwerthuso a ddefnyddiwyd yn yr adroddiad hwn (cyfweliadau ansoddol â rhanddeiliaid allweddol a dadansoddiad o ddata eilaidd) wedi meithrin dealltwriaeth ar ddwy lefel wahanol. Tra bod y cyfweliadau ansoddol yn darparu gwybodaeth o safbwynt y cyfranogwyr eu hunain, mae’r gwaith monitro yn rhoi darlun ehangach o’r system gyfan. Ar y cyd, mae’r rhain yn darparu gwybodaeth werthfawr a gwersi pwysig ynghylch sut i symud ymlaen ar draws y system.

Ymhlith y rhai a gymerodd ran yn y cyfweliadau, barnwyd bod lansiad a diwrnodau cynnar menter y Tasglu wedi llwyddo i godi ymwybyddiaeth o nodau’r Tasglu Data Cynhwysol a’i lasbrint ar gyfer gwneud data a thystiolaeth y DU yn fwy cynhwysol. Ystyriwyd ei fod wedi ehangu’r ffocws ar gynwysoldeb ar draws y llywodraeth, gan annog nifer o adrannau i ailystyried rhywfaint o’u gwaith eu hunain ar ddata cynhwysol.

Nid oedd gan y trefniadau llywodraethu a sefydlwyd i oruchwylio cynnydd tuag at gyflawni argymhellion y Tasglu ddigon o adnoddau, awdurdod na phrosesau atebolrwydd clir, a oedd yn cyfyngu ar eu heffaith uniongyrchol ar ganlyniadau a chanfyddiadau ehangach o’u heffeithiolrwydd a’u pwysigrwydd.

Roedd ailstrwythuro a lleihad yn adnoddau tîm y SYG a oedd yn cefnogi’r strwythurau llywodraethu hefyd wedi amharu ar barhad ac wedi cyfyngu ar ymdrechion i ymgymryd â gwaith cyfathrebu ac ymgysylltu trawslywodraethol mewn perthynas ag argymhellion y Tasglu a data cynhwysol yn fwy cyffredinol.

Ymhlith y rhai a gafodd eu cyfweld, nodwyd mai prif gyfraniadau’r Tasglu oedd ysgogi pobl i feddwl am ddata cynhwysol, codi disgwyliadau, rhoi ffocws ar ddata cynhwysol fel blaenoriaeth sefydliadol a llywodraethol, a rhoi hwb i gynnydd.

Er y gwnaed llawer o gyflawniadau cadarn tuag at ddata mwy cynhwysol ymhlith y prosiectau yn y Cynllun Gweithredu, roedd y rhain yn cynnwys gwaith a oedd eisoes wedi’i gynllunio neu ar waith pan wnaeth y Tasglu ei argymhellion. Fel y cyfryw, ni ellir dweud bod yr effeithiau hyn wedi deillio’n uniongyrchol o argymhellion y Tasglu.

Yn hytrach, ysgogodd argymhellion y Tasglu ymdrech ar y cyd i nodi ble roedd gwaith i wneud data yn fwy cynhwysol yn digwydd yn y llywodraeth, faint o gynnydd oedd yn cael ei wneud a meysydd lle roedd llawer o gynnydd neu lai o gynnydd yn cael ei wneud mewn perthynas â’r Egwyddorion Data Cynhwysol. Yn ogystal, roedd yr enghreifftiau a ddarparwyd gan y rhai a gymerodd ran yn y cyfweliadau o’r gwaith monitro sy’n gysylltiedig â Chynllun Gweithredu’r Tasglu wedi helpu i sicrhau ffocws parhaus ar bwysigrwydd cyflawni’r prosiect.

Gellir dadlau bod gwybodaeth am beth sy’n digwydd ar draws system gymhleth fel Gwasanaeth Ystadegol y Llywodraeth yn hanfodol er mwyn gweithredu’n strategol a gellid ystyried bod y wybodaeth well hon yn deillio’n uniongyrchol o argymhellion y Tasglu, yn enwedig y pwyslais ar gydweithio ar draws y system.

Yn ogystal, am fod data wedi cael eu casglu am ddiffyg cynnydd hefyd, mae gwybodaeth well ar gael am rwystrau i gynnydd a allai fod yn ddefnyddiol wrth ystyried ffyrdd o symud ymlaen. Nodwyd bod cyfyngiadau o ran adnoddau, ailflaenoriaethu a dibyniaethau yn ffactorau allweddol a oedd wedi arwain at oedi gwaith ar gynwysoldeb. Er bod rhai o’r materion hyn yn anochel o bosibl, gallai sefydlu rhwydwaith cryfach ar draws system Gwasanaeth Ystadegol y Llywodraeth i gysylltu prosiectau sy’n canolbwyntio ar wneud data yn fwy cynhwysol a hwyluso trefniadau cydweithio, rhannu gwybodaeth ac, o bosibl, adnoddau helpu i oresgyn rhai o’r anawsterau hyn.

Yr her nawr yw symud ymlaen mewn ffyrdd sy’n gwreiddio’r egwyddorion ar gyfer creu data mwy cynhwysol a amlygwyd gan y Tasglu fel rhan o fusnes fel arfer.

Gallai ymdrechion gan y SYG ac ar draws Gwasanaeth Ystadegol y Llywodraeth yn y dyfodol adeiladu ar y lefel uwch o eglurder a grëwyd ynghylch ymdrechion i wneud data yn fwy cynhwysol ar draws y system ystadegol, er mwyn nodi ysgogiadau penodol ar gyfer gweithredu.  Gwers bwysig o’r gwerthusiad hwn yw bod cael gweledigaeth strategol ar gyfer data mwy cynhwysol yn bwysig er mwyn ffocysu meddyliau, ond nad yw’n ddigonol i sicrhau camau gweithredu a chanlyniadau. I wneud hynny, rhaid cael mandad clir, adnoddau ac atebolrwydd.

Yn y dyfodol, mae amrywiaeth o ffyrdd y gellir cyflawni hyn. Er enghraifft, gellid ystyried cysylltu swyddogaeth gynghori annibynnol NSIDAC yn agosach â strwythurau llywodraethu eraill gyda mandad sicrwydd i sicrhau bod ei gyngor yn cael ei ystyried a’i ddilyn lle bo hynny’n briodol. Gellid hefyd gyflwyno mandad sefydliadol i sicrhau bod cynwysoldeb yn cael ei wreiddio’n rheolaidd yn nhrefniadau llywodraethu a safonau ansawdd rhaglenni gwaith allweddol, gan sefydlu atebolrwydd dros gynwysoldeb ar lefel rhaglen. Mae’n her o bosibl hefyd i arweinwyr sicrhau bod pwysigrwydd parhau ar y daith tuag at ddata mwy cynhwysol yn cael ei gyfathrebu, ei ariannu a’i werthuso’n rheolaidd.

Back to top