Rhagair y Cadeirydd

Picture of Dame Moira GibbMae’n bleser gennyf gyflwyno adroddiad y Tasglu Data Cynhwysol a’r argymhellion rydym wedi’u datblygu er mwyn helpu i greu system data fwy cynhwysol.

Sefydlwyd y Tasglu ym mis Hydref 2020 gyda’r nod o sicrhau bod data a thystiolaeth ledled y DU yn adlewyrchu ac yn cynnwys pawb, fel bod pob aelod o gymdeithas yn cyfrif ac yn cael ei gyfrif a bod neb yn cael ei adael ar ôl.

Mae pandemig COVID-19, sef cyd-destun ein holl waith, wedi tynnu sylw at ba mor bwysig yw data da ac amserol ym maes polisi cyhoeddus ac o ran cymdeithas. Mae data cynhwysol yn ein helpu i ddeall sut mae digwyddiadau’n cael effeithiau gwahaniaethol ar unigolion, grwpiau a chymunedau. Rhaid i hyn yn ei dro alluogi’r rhai â chyfrifoldeb yn y llywodraeth ac mewn awdurdodau lleol a chymdeithas ehangach, a phob un ohonom fel unigolion a chymunedau, i fynd i’r afael â’r gwahaniaethau a’r anghydraddoldebau sy’n bodoli yn y DU yn 2021.

Mae’r Tasglu wedi dod ag amrywiaeth o arbenigwyr ynghyd, gan gynnwys uwch-academyddion ac arweinwyr cymdeithas sifil, i drafod pynciau fel anghydraddoldebau cymdeithasol ac economaidd, ethnigrwydd a hunaniaeth, methodolegau ansoddol a meintiol, a moeseg ymchwil. Rwy’n ddiolchgar iddynt am eu gwaith caled a’u parodrwydd i fodloni terfynau amser tynn. Maen nhw, fel finnau, wir yn gwerthfawrogi cymorth a gwaith caled y tîm o’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) sydd wedi bod o gymorth mawr drwy gydol y broses. Rydym wedi ystyried sut y gellid bod yn fwy cynhwysol drwy gydol y broses ymchwil, drwy’r camau dylunio astudiaeth, mapio data, casglu data a dadansoddi data nes y caiff y canfyddiadau eu cyflwyno.

Fel rhan o’n proses, gwnaethom ymgynghori ac ymgysylltu’n helaeth. Gwnaethom gasglu amrywiaeth o wybodaeth er mwyn gweld pa mor gynhwysfawr yw data a thystiolaeth y DU ar hyn o bryd. Gwnaethom geisio deall beth sy’n gweithio’n dda a beth y gellid ei wella, y bylchau a’r rhwystrau rhag casglu data mwy cynhwysol, effeithiau data nad ydynt yn gwbl gynhwysol, a sut y gellid bod yn fwy cynhwysol.

Rwy’n ddiolchgar i bawb a gymerodd ran am roi o’u hamser a rhannu eu safbwyntiau, eu profiadau a’u syniadau ar gyfer atebion a ffyrdd ymlaen. Rhyfeddwyd y Tasglu gan ba mor awyddus oedd pobl i gymryd rhan yng ngweithgareddau’r ymgynghoriad, trefnu eu digwyddiadau eu hunain ac anfon eu gwaith atom. Mae cyfraniadau cynifer o wahanol unigolion a grwpiau wedi bod yn hanfodol i’n hystyriaethau a’n hargymhellion. Maent wedi ein helpu i ddeall yn well sut y gellid gwneud data’n fwy cynhwysol yn ymarferol.

Ni fyddai wedi bod yn bosibl cynnal ymgynghoriad mor fanwl ac eang yn yr amser a oedd gennym heb y tîm yng Nghanolfan Cydraddoldebau a Chynhwysiant SYG, a fu’n gweithio’n ddiflino ar ein rhan ar ymgysylltu, ymgynghori ac ymchwilio, gan gasglu a llunio’r sylfaen dystiolaeth ar gyfer yr adroddiad hwn.

Credaf y bydd ein hargymhellion yn dwyn ffrwyth, o ystyried yr holl gyfraniadau rydym wedi’u cael o bob cyfeiriad, sy’n galonogol gan fod cymaint o waith i’w wneud.

Gobeithiwn y bydd yr argymhellion a amlinellir yn yr adroddiad hwn, sy’n helaeth ac yn gynhwysfawr, yn helpu i fapio ffordd ymlaen er mwyn gwneud data a thystiolaeth y DU yn fwy cynrychiadol, fel y caiff lleisiau a phrofiadau pawb eu hadlewyrchu’n well yn y dyfodol.

Y Fonesig Moira Gibb, Cadeirydd y Tasglu Data Cynhwysol

Gorffennaf 2021

Back to top
Download PDF version (1.04 MB)