Cyflwyniad

Mae’r Ystadegydd Gwladol wedi ymrwymo i wella cynwysoldeb data ar draws system ystadegol y DU drwy fynd ati, ar ffurf system gyfan, i nodi a chydweithredu ar fentrau fel bod pawb yn cyfrif ac yn cael eu cyfrif yn nata a thystiolaeth y DU. Mae hyn yn cynnwys gweithgareddau i feithrin ymddiriedaeth â’r rhai sy’n gyfrifol am gyflenwi data, gwaith methodolegol i wella cynhwysiant a mesur yn gysyniadol grwpiau o’r boblogaeth nas cynrychiolir yn ddigonol ar hyn o bryd, a gwelliannau i hygyrchedd data a’u dadansoddi.

Ddiwedd mis Medi 2021, cafodd adroddiad ac argymhellion y Tasglu Data Cynhwysol eu cyhoeddi. Gwnaeth yr adroddiad 46 o argymhellion wedi’u categoreiddio o dan wyth Egwyddor Data Cynhwysol. Ynghyd â hyn, cyhoeddodd yr Ystadegydd Gwladol ei ymateb, yn cynnwys rhaglen waith lefel uchel o weithgareddau cychwynnol a gyflawnir ar draws llywodraeth y DU a’r Gweinyddiaethau Datganoledig i ymateb i’r argymhellion.

Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) wedi arwain y gwaith o lunio Cynllun Gweithredu’r Tasglu Data Cynhwysol isod, sy’n crynhoi mentrau cyfredol ac arfaethedig hysbys ar draws system ystadegol y DU. Mae’r Cynllun hwn yn gam cyntaf tuag at uno’r gwaith rhwng dadansoddwyr yn llywodraethau’r DU, ac â mentrau sy’n digwydd y tu allan i’r llywodraeth. Mae’n cynrychioli rhaglen waith barhaus i gyflawni’r newid sylweddol sydd ei angen yn seilwaith data’r DU. Mae’n bwysig cydnabod y gall sefydliadau fod mewn mannau gwahanol ar y daith i fwy o gynhwysiant. Mae rhai mentrau ar gamau cyntaf pwysig, er nad ydynt efallai yn mynd i’r afael ag argymhellion y Tasglu yn llawn eto, ac efallai y gwelir eraill fel ceidwaid arfer addawol.

I ddatblygu’r Cynllun Gweithredu hwn, aeth SYG ati i gasglu ei gynnwys ynghyd mewn sawl ffordd. Fel rhan o hyn gwahoddodd wybodaeth gan adrannau llywodraeth y DU a’r Gweinyddiaethau Datganoledig ac yn ehangach, ar draws y system o gynhyrchwyr a defnyddwyr data yn y DU, gan sefydliadau cymdeithas sifil, sefydliadau academaidd ac arianwyr ymchwil am y ffordd y byddant yn ymateb i argymhellion y Tasglu. Er crynoder, rydym wedi cynnwys mentrau o dan yr Egwyddor Data Cynhwysol y maent fwyaf perthnasol iddi, er y gallent fod yn berthnasol i sawl egwyddor wahanol.

Bydd SYG, Canolfan Cydraddoldeb Swyddfa’r Cabinet a Gweinyddiaethau Datganoledig Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn chwarae rôl gynnull gydweithredol wrth ddwyn pobl ynghyd ar draws sectorau a disgyblaethau, er mwyn creu mwy o gydweithio ac uno cynlluniau, fel bod newid systemig tuag at ddata a thystiolaeth fwy cynhwysol yn y DU. O hyn ymlaen, byddwn yn anelu at weithredu mewn ffordd sy’n ystyried holl wledydd y DU ‘fel mater o drefn’ ym mhopeth a wnawn o ran cynhwysiant.

Wrth inni wneud cynnydd gyda’n gilydd bydd y Cynllun yn datblygu, a bydd SYG yn ceisio rhagor o wybodaeth ac yn cyhoeddi fersiynau mwy diweddar bob blwyddyn. Yn ogystal â bod yn sail i fonitro cynnydd, gobeithiwn y bydd cyhoeddi’r wybodaeth rydym wedi ei chasglu gan gynifer ar draws y llywodraeth, cymdeithas sifil ac academia yn ei gwneud hi’n haws i’r rhai sy’n gweithio ar weithgareddau tebyg ddod ynghyd ac ychwanegu gwerth at waith y naill a’r llall.

Mae pwyllgor annibynnol ar ddata cynhwysol wrthi’n cael ei sefydlu i gynghori’r Ystadegydd Gwladol ar welliannau parhaus i gynwysoldeb data, a’u hansawdd a’u cwmpas cysylltiedig, a pha mor dda y gwneir cynnydd yn erbyn argymhellion y Tasglu. Ar y cyd â rhanddeiliaid a chynhyrchwyr data allweddol ar draws system ystadegol y DU, bydd SYG yn datblygu ac yn sefydlu dull llywodraethu yng ngwanwyn 2022 i gyflwyno Cynllun Gweithredu’r Tasglu ac adrodd arno’n gyhoeddus.

Sut i wneud sylwadau: Anfonwch unrhyw sylwadau neu adborth ar y Cynllun, yn cynnwys ar gyfer fersiynau pellach ohono, i equalities@ons.gov.uk

Bydd y Cynllun Gweithredu ar gael ar lein yn fuan mewn fformat PDF yn ogystal ag mewn Pwyleg, Rwmaneg, Punjabi, Mandarin, Cantoneg, Arabeg a Ffarsi. Bydd fersiwn Hawdd ei Darllen ar gael hefyd. Os bydd angen iaith neu fformat gwahanol arnoch, yn cynnwys copi papur, cysylltwch ag equalities@ons.gov.uk neu ffoniwch 0800 298 5313 i ofyn am hyn.

Back to top
Download PDF version (1.04 MB)