Egwyddor Data Cynhwysol 3

Sicrhau y caiff gwybodaeth am bob grŵp ei chofnodi mewn perthynas ag agweddau allweddol ar fywyd yn nata’r DU, ac adolygu arferion yn rheolaidd.

Ein Dull

Byddwn yn adeiladu ar waith presennol ac yn datblygu mentrau cydweithredol newydd a chynlluniau gweithredu i wella cynhwysiant grwpiau o’r boblogaeth nas cynrychiolir yn ddigonol mewn data yn y DU mewn partneriaeth ag eraill ar draws y llywodraeth ac yn ehangach.

Bydd Canolfan Cydraddoldebau a Chynhwysiant SYG yn hwyluso’r gwaith o gyfuno’r mentrau arfaethedig drwy’r Pwyllgor Rhyngweinyddol a Phwyllgor Dadansoddi a Gwerthuso Gwasanaeth Ystadegol y Llywodraeth, er mwyn sicrhau bod grwpiau yn cael eu cynnwys, yn enwedig y rhai nas cynrychiolir yn ddigonol ar hyn o bryd yn nata a thystiolaeth y DU.

Bydd pwyllgor cynghorol annibynnol newydd yr Ystadegydd Gwladol ar ddata cynhwysol yn cynghori’r Ystadegydd Gwladol ar ddulliau o wella’r broses o gynnwys grwpiau nas cynrychiolir yn ddigonol.

Gwaith sy'n mynd rhagddo ac yn yr arfaeth

Bydd Canolfan Cydraddoldebau a Chynhwysiant SYG yn chwarae rhan gynnull o hyn ymlaen wrth nodi a chyfuno mentrau. Mae’r mentrau presennol yn cynnwys y canlynol:

  • Bydd SYG yn cymharu Cyfrifiad 2021 Cymru a Lloegr â data gweinyddol perthnasol er mwyn asesu pa mor gynrychioliadwy yw ffynonellau data gwahanol a’r ffordd orau o sicrhau bod grwpiau mwy ymylol yn cael eu cynnwys mewn ystadegau o hyn ymlaen. Bydd y gwaith hwn yn cyfrannu at argymhelliad yr Ystadegydd Gwladol ar ddyfodol y cyfrifiad ac ystadegau o’r boblogaeth.
  • Bydd Canolfan Cydraddoldeb Swyddfa’r Cabinet yn cynnal dadansoddiad gan ddefnyddio data o Astudiaeth Cyswllt Dim Ymateb Cyfrifiad 2021 Cymru a Lloegr er mwyn deall lefelau dim ymateb a thuedd dim ymateb grwpiau gwahanol. Gallai hwn gael ei ddefnyddio i ddatblygu argymhellion ar ostwng cyfraddau dim ymateb grwpiau gwahanol. Ystyrir opsiynau dadansoddi (gwneud y gwaith yn fewnol neu ei gomisiynu) ar ddechrau 2023, a chyhoeddir adroddiad dadansoddol ar ddiwedd 2023.
  • Bydd Grŵp City Titchfield wedi’i arwain gan SYG ar Ystadegau Heneiddio a Data Oedran wedi’u Dadgyfuno yn gwneud gwaith i asesu’r dystiolaeth bresennol a bylchau mewn data o ran data oedran wedi’u dadgyfuno, er mwyn darparu argymhellion i wella ei gasgliad. Paratoir cynlluniau gwaith ac eir ati i gwmpasu ac asesu’r dystiolaeth rhwng 2022 a 2024 a chyhoeddir yr argymhellion yn 2025.
  • Bydd SYG yn mynd ati i ymchwilio i ansawdd cofnodi ethnigrwydd mewn ffynonellau data gweinyddol iechyd allweddol yn Lloegr gan gynnig dulliau o gyfrif am unrhyw duedd yn y ffynonellau data sylfaenol, ar y cyd â Chanolfan Cydraddoldeb Swyddfa’r Cabinet. Ar y cyd â Llywodraeth Cymru bydd SYG yn archwilio’r posibilrwydd o ehangu’r gwaith hwn yng Nghymru. Cyhoeddir canfyddiadau’r ymchwil gychwynnol yn 2022, a bydd lle i wneud rhagor o waith gan ddefnyddio data Cyfrifiad 2021 Cymru a Lloegr yn y dyfodol.
  • O fis Hydref 2022, bydd SYG yn cyflwyno cynrychioliadwyedd fel mesur perfformiad allweddol o’i Harolwg o’r Farchnad Lafur, gan fynd ati’n barhaus i adolygu cynrychioliadwyedd a chymryd camau i fynd i’r afael ag unrhyw faterion o ran cynrychiolaeth annigonol.
  • Bydd SYG yn meincnodi Arolwg Troseddu Cymru a Lloegr yn erbyn Cyfrifiad 2021 Cymru a Lloegr er mwyn asesu ei gynrychioliadwyedd ac ystyried y camau sydd eu hangen i ddatrys unrhyw faterion a nodir, drwy’r Fforwm Ystadegau Trosedd a Chyfiawnder newydd a gaiff ei lansio yn 2022.
  • Mae SYG yn ymchwilio i ymarferoldeb cyflwyno proses casglu data ymatebol i’w chynllun gweithredol yn ystod 2022. Byddai hyn yn golygu targedu grwpiau nas cynrychiolir yn ddigonol wrth gasglu data er mwyn gwneud grwpiau o’r fath yn fwy amlwg yn y data.
  • Bydd SYG yn gweithio gyda Chanolfan Cydraddoldeb Swyddfa’r Cabinet i weld pa mor ymarferol yw hi i ddatblygu data ar gynwysoldeb busnesau yn y DU. Bydd hyn yn cynnwys gweithio gyda pherchenogion data i’w hannog i gasglu a chynhyrchu ystadegau ar ethnigrwydd perchenogion busnes. Bydd Arolwg Disgwyliadau Rheoli SYG yn dechrau casglu’r wybodaeth hon yn 2023.
  • Bydd Canolfan Cydraddoldeb Swyddfa’r Cabinet yn adolygu’r bylchau mewn data a thystiolaeth ar gyfer gwahanol grwpiau o’r boblogaeth, ac yn gweithio gydag adrannau i lenwi’r bylchau hyn, gan adeiladu ar wersi o Gynllun Gwella Ansawdd yr Uned Gwahaniaethau ar sail Hil a’r Rhaglen Gwella Data ar Anabledd. Erbyn haf 2022, bydd bylchau mewn data ar gyfer gwahanol feysydd wedi cael eu hadolygu a datblygir cynlluniau i fynd i’r afael â’r rhain gydag adrannau perthnasol erbyn mis Awst 2022. Bydd gwaith yn parhau dros y 3 blynedd nesaf i fynd i’r afael â’r bylchau mewn data.
  • Bydd Llywodraeth Cymru yn datblygu’r ymchwil a’r camau yn gysylltiedig â data o adroddiad ‘Drws ar Glo: Datgloi bywydau a hawliau pobl anabl yng Nghymru ar ôl COVID-19’. Nodwyd meysydd lle bydd angen ymchwil a data newydd (yn cynnwys data gweinyddol) ac ystyrir mesurau cynnydd priodol ar y cyd â llunwyr polisi.
  • Mae’r Consortiwm Trais, Iechyd a Chymdeithas a ariennir gan Bartneriaeth Ymchwil Atal Ymchwil ac Arloesi’r DU yn gweithio gydag Imkaan ac academyddion o Brifysgol Warwig i archwilio tueddiadau o ran grwpiau ymylol a ffyrdd posibl o oresgyn y rhain. Bydd yn gwneud argymhellion polisi ac yn llunio cyhoeddiadau adolygiad cymheiriaid wrth ymgysylltu â llunwyr polisi.
  • Yn dilyn cyhoeddi “A yw Prydain yn Decach?” yn 2023 bydd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn diwygio ei strategaeth bylchau mewn data er mwyn nodi lle nad yw pynciau a setiau data allweddol a ddefnyddir yn ei Fframwaith Mesur yn cwmpasu nodweddion gwarchodedig ddigon, neu lle mae meintiau samplau yn wael ac yn anghyson. Adolygir setiau data yn 2022 a 2023 a chyhoeddir y strategaeth yn 2023, gan lywio unrhyw ddiwygiadau i’r Fframwaith Mesur neu fersiynau pellach o “A yw Prydain yn Decach?”.
  • Bydd adrannau yn parhau i fonitro cyfraddau ymateb i arolygon er mwyn sicrhau cynrychioliadwyedd gan gymryd camau i fynd i’r afael ag unrhyw faterion a nodir, er enghraifft Arolwg Teithio Cenedlaethol yr Adran Drafnidiaeth.

  • Yn 2022 bydd Uned Anabledd Swyddfa’r Cabinet yn rhoi’r Rhaglen Gwella Data ar Anabledd ar waith er mwyn adrodd ar ansawdd data adrannau’r llywodraeth a chyhoeddiadau cysylltiedig ar anabledd a namau, gan asesu pa mor berthnasol ydynt i brofiadau go iawn pobl anabl, pennu perchenogaeth o wella data ar anabledd, a nodi dulliau o rannu data ar anabledd ar draws y llywodraeth.
  • Bydd y Swyddfa Myfyrwyr yn gweithio gyda’r Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch i wella’r gwaith o gasglu gwybodaeth am nodweddion personol gan fyfyrwyr addysg uwch. Bydd system casglu data well ar waith ar gyfer blwyddyn academaidd 2022-23, a chyflwynir adroddiad ystadegol ar brofiadau a chanlyniadau yn 2024.
  • Mae Llywodraeth yr Alban wedi cynnal archwiliad data ar gydraddoldeb i asesu’r broses o gasglu a chyhoeddi data ar y naw nodwedd warchodedig yn Neddf Cydraddoldeb 2010 ar draws y sefydliad, gan ganolbwyntio ar amrywiaeth o setiau data, yn cynnwys y rhai a ddefnyddir i gynhyrchu ystadegau swyddogol a chenedlaethol, data gweinyddol, a setiau data ymchwil ad hoc a ddefnyddir i lywio penderfyniadau Gweinidogion. Cyflwynir cynlluniau gwella yn 2022.
  • Bydd y Swyddfa Gartref yn archwilio ffyrdd o wella’r broses o gasglu data ar nodweddion personol yn ei holl gasgliadau data, gan gynyddu ymwybyddiaeth o bwysigrwydd casglu’r data hyn a meithrin mwy o ymrwymiad i’w casglu ar gychwyn system neu broses.
  • Mae SYG yn cynnal ymchwil i ddeall yn well sut y caiff data ar nodweddion personol eu casglu gan gyflenwyr data er mwyn tynnu sylw at feysydd i’w gwella. Bydd yr ymchwil yn barod erbyn 2022 gyda’r canfyddiadau yn cyfrannu at argymhelliad yr Ystadegydd Gwladol ar ddyfodol ystadegau’r cyfrifiad ac ystadegau o’r boblogaeth.
  • Mae CThEM yn archwilio ymarferoldeb casglu gwybodaeth nas cesglir fel mater o drefn ar hyn o bryd, ar ethnigrwydd ac anabledd, ar gyfer pob casgliad data newydd. Cwblheir y gwaith ar ymarferoldeb a chaiff yr argymhellion eu llunio yn 2022.
  • Mae’r Consortiwm Trais, Iechyd a Chymdeithas (VISION) (City, Prifysgol Llundain) a ariennir gan Bartneriaeth Ymchwil Atal Ymchwil ac Arloesi’r DU yn archwilio’r gwahaniaethau mewn nodweddion rhyw, oedran ac ethnigrwydd rhwng gwahanol ffynonellau data a lleoliadau. Bydd hefyd yn archwilio priodoli lluosog gyda’r nod o gywiro tueddiadau posibl. Dechreuir ymgysylltu â defnyddwyr data a darparwyr yn 2022 a bydd y prosiect yn mynd rhagddo dros y tair blynedd nesaf.

  • Un o brif nodweddion strategaeth arolygon SYG yw caffael data cyfunol a fydd yn sicrhau ein bod yn diwallu anghenion data defnyddwyr yn effeithiol drwy fanteisio ar natur ategol ein ffynonellau data i gyd yn cynnwys data gweinyddol ac arolygon. Lle bo’n berthnasol bydd argymhellion y Tasglu yn llywio ein dull o sicrhau, beth bynnag fo’r ffynhonnell ddata, y byddwn yn sicrhau bod grwpiau o’r boblogaeth nas cynrychiolir yn ddigonol yn y DU yn cael eu cynnwys yn well.
  • Fel rhan o’r gwaith o drawsnewid ystadegau o’r boblogaeth ac ystadegau cymdeithasol, bydd SYG yn cynnwys cwestiynau ychwanegol mewn ffynonellau arolygon cartrefi lle bo angen a lle bo’n ymarferol yn weithredol i gasglu data ar nodweddion gwarchodedig lle nad oes gan ddata gweinyddol fawr ddim potensial, os o gwbl.
  • Yn ystod 2022, bydd CThEM yn cynnal astudiaeth gwmpasu i asesu ymarferoldeb a fforddiadwyedd casglu data ar nodweddion gwarchodedig drwy arolygon ar raddfa fawr ar gyfer grwpiau penodol o gwsmeriaid, er mwyn deall mwy am gyfansoddiad a phrofiadau’r cwsmeriaid hyn.
  • Yn 2022/23 bydd Uned Anabledd Swyddfa’r Cabinet yn cynnal arolwg o bobl anabl ledled y DU yn canolbwyntio ar brofiadau gwirioneddol a’r rhwystrau a wynebir, er mwyn deall yn well brofiadau pobl anabl mewn cymdeithas a llywio gwaith llunio polisi pwrpasol a gwerthuso’r Strategaeth Anabledd Genedlaethol.

  • Fel rhan o’r gwaith o drawsnewid ystadegau o’r boblogaeth ac ystadegau cymdeithasol, mae SYG yn gweithio gydag eraill, yn cynnwys y gweinyddiaethau datganoledig, i ddatblygu system ystadegol i integreiddio ffynonellau gweinyddol, data’r cyfrifiad a data arolygon. O ganlyniad, cynhyrchir amcangyfrifon o’r boblogaeth mwy amserol ac anelir at nodi nodweddion perthnasol i gefnogi gwaith dadansoddi. Bydd y system ar ei newydd wedd yn gwneud y defnydd gorau o ffynonellau data sydd ar gael ac sy’n datblygu er mwyn diwallu anghenion defnyddwyr o ran system ystadegau gynhwysol. Caiff y system ei chynllunio a’i chreu yn 2022, a bydd ei hynt a datblygiadau yn y dyfodol yn cael eu hadlewyrchu yn argymhelliad yr Ystadegydd Gwladol ar ddyfodol y cyfrifiad ac ystadegau o’r boblogaeth.
  • Bydd y Swyddfa Gartref yn parhau i weithio gyda SYG ac adrannau eraill o’r llywodraeth i hwyluso mynediad diogel a phriodol at y data gweinyddol sydd eu hangen i ddeall mudo, yn cynnwys galluogi gwaith cysylltu perthnasol ac angenrheidiol.
  • Mae ymchwil dichonoldeb yn mynd rhagddi yn SYG i nodi ffyrdd o gynhyrchu amcangyfrifon o’r boblogaeth mwy amserol sy’n seiliedig ar ddata gweinyddol yn ôl ethnigrwydd, gan ddefnyddio amrywiaeth o ffynonellau data, yn cynnwys gwaith dadansoddi amlamrywedd ar draws nodweddion gwarchodedig, gan ddefnyddio data gweinyddol.

  • Yn 2022, mae’r Adran Codi’r Gwastad, Tai a Chymunedau, ar y cyd â SYG, yn pennu cwmpas gwaith i amcangyfrif poblogaethau nad ydynt yn byw ar aelwydydd preifat a deall eu profiadau mewn perthynas â’r boblogaeth gyffredinol. Mae hyn yn cynnwys gwaith i edrych ar bobl sy’n cysgu allan ac mewn hosteli a llochesi. Disgwylir i’r gwaith barhau y tu hwnt i 2022.
  • Yn ystod 2022, bydd SYG yn adolygu ffynonellau data sy’n bodoli eisoes ar sefydliadau cymunedol ledled y DU, gan ganolbwyntio’n benodol ar ddeall sut mae pobl â nodweddion gwarchodedig yn cael eu cynnwys yn y ffynonellau hyn. Bydd yr adolygiad yn nodi bylchau perthnasol mewn data a meysydd â blaenoriaeth i’w gwella.
  • Mae SYG yn ymchwilio i’r graddau y caiff poblogaethau sy’n byw mewn sefydliadau cymunedol ledled Cymru a Lloegr eu cynnwys mewn data gweinyddol er mwyn asesu’r gallu i’w cynnwys mewn amcangyfrifon o’r boblogaeth sy’n seiliedig ar ddata gweinyddol yn y dyfodol. Yn 2022, cyflawnir ymchwil i nodi sut mae aelwydydd nad ydynt yn breifat a’u preswylwyr yn cael eu hadlewyrchu mewn data gweinyddol a sut y gellid ymgorffori hyn mewn dulliau o gynhyrchu amcangyfrifon o’r boblogaeth yn seiliedig ar ddata gweinyddol er mwyn bwydo i mewn i argymhelliad yr Ystadegydd Gwladol ar ddyfodol y cyfrifiad ac ystadegau o’r boblogaeth. Bydd y gwaith yn mynd rhagddo y tu hwnt i’r argymhellion.
  • Bydd SYG yn cyflawni ymchwil i werth data arolygon o boblogaethau nad ydynt yn byw ar aelwydydd preifat, yn cynnwys y rhai sy’n byw mewn Sefydliadau Cymunedol, a’r ffordd orau o gasglu’r data hynny pan fo angen. Gwneir y gwaith hwn yn ystod hanner cyntaf 2022 a bydd yn cynnwys integreiddio gwersi a ddysgwyd o Gyfrifiad 2021 Cymru a Lloegr.
  • Mae Llywodraeth Cymru yn ystyried cyflwyno proses casglu data ar ddigartrefedd ar lefel unigol er mwyn deall sefyllfaoedd y rhai sy’n wynebu’r risg o fod yn ddigartref yn well, a gallu gwerthuso mesurau atal digartrefedd yn well. Yn ystod 2022, asesir ymarferoldeb a llwyddiant casglu’r data hyn gan Awdurdodau Lleol peilot er mwyn pennu dichonoldeb cyflwyno’r broses ar draws Awdurdodau Lleol eraill mewn blynyddoedd i ddod.

  • Bydd SYG yn llunio map ar gyfer ei Strategaeth Arolygon newydd ar ddechrau blwyddyn ariannol 2022/23. Mae bod yn gynhwysol o’r dechrau’n deg wrth wraidd ein gweledigaeth ar gyfer arolygon a byddwn yn ymgysylltu ac yn ymgynghori ar unrhyw newidiadau strategol arfaethedig a wneir i’r portffolio presennol o arolygon cymdeithasol. Mae ymgynghoriad ar newidiadau i ystadegau Teithio a Thwristiaeth newydd orffen a bydd SYG wedi ymateb i’r holl adborth erbyn diwedd mis Mawrth 2022.
  • Fel rhan o’r gwaith i ddatblygu argymhelliad yr Ystadegydd Gwladol ar ddyfodol y cyfrifiad ac ystadegau o’r boblogaeth, bydd SYG yn ymgysylltu’n helaeth â defnyddwyr yn ystod 2022 a 2023 i sicrhau bod anghenion data amrywiol gwahanol ddefnyddwyr yn llywio’r gwaith o ddatblygu’r broses o gasglu a chaffael data, a llunio allbynnau ystadegol newydd yn y system ar ei newydd wedd yn y dyfodol.
  • Gan adeiladu ar grwpiau defnyddwyr presennol y gwaith o Ddadansoddi Arolwg Heintiadau COVID-19 ar gyfer rhanddeiliaid allweddol ar draws llywodraeth y DU a’r Gweinyddiaethau Datganoledig, bydd SYG yn sefydlu grwpiau tebyg o ddefnyddwyr ar gyfer defnyddwyr academaidd er mwyn sicrhau ymgysylltu a bod eu hadborth yn llywio cynlluniau yn y dyfodol.
  • Bydd Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig yn datblygu Strategaeth Ymgysylltu â Defnyddwyr i roi mwy o bwyslais ar ymgysylltu â defnyddwyr yn ei hystadegau. Datblygir y Strategaeth yn ystod 2022.
  • Yr Adran Cymunedau sy’n arwain y gwaith o ddatblygu’r strategaethau cynhwysiant cymdeithasol newydd ar gyfer Gweithrediad Gogledd Iwerddon, yn cynnwys Strategaeth Anabledd, Strategaeth Cydraddoldeb Rhywiol a Strategaeth Cyfeiriadedd Rhywiol/LGBTQI+. Er mai’r Adran Cymunedau sy’n arwain y gwaith hwn, maent yn strategaethau ar draws y Weithrediaeth y mae Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon yn bwydo i mewn iddynt. Bydd unrhyw brosiectau datblygu data yn rhan o’r cynlluniau gweithredu sy’n gysylltiedig â’r strategaethau hyn.
  • Bydd y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd yn sicrhau bod mwy o amrywiaeth o ran y sawl sy’n cymryd rhan mewn ymchwil yn yr astudiaethau a gefnogir ganddo a lleisiau’r rhai sy’n llywio ei agenda ymchwil, drwy ymestyn ei gyrhaeddiad i gynnwys cymunedau lle bydd ei ymchwil yn gwneud y gwahaniaeth mwyaf, a bydd yn cynnwys ystod eang o gleifion, y cyhoedd a gofalwyr ar bob cam.
  • Bydd Llywodraeth yr Alban yn ymgysylltu â sefydliadau rhanddeiliaid cydraddoldeb i ddatblygu Strategaeth Tystiolaeth Cydraddoldeb newydd ar gyfer 2023-25. Bydd y gwaith yn mynd rhagddo drwy gydol 2022 a chyhoeddir y strategaeth yn 2023.
  • Mae’r Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol wedi mireinio ei Strategaeth Tlodi Tanwydd yn unol ag anghenion defnyddwyr a bydd yn parhau i gyhoeddi ystadegau ar dlodi tanwydd gan ddefnyddio metrigau wedi’u diweddaru sy’n adlewyrchu statws tlodi tanwydd yn fwy teg.
  • Mae’r Adran Codi’r Gwastad, Tai a Chymunedau wedi llunio amrywiaeth o allbynnau newydd o’r set ddata digartrefedd statudol er mwyn diwallu anghenion defnyddwyr o ran y llifau drwy’r system o is-grwpiau penodol, yn cynnwys pobl sy’n cysgu allan a’r rhai rhwng 18 ac 20 oed sy’n gadael gofal a’r ddalfa. Adolygir anghenion defnyddwyr cyn y cyhoeddiad nesaf yn ystod hydref 2022 er mwyn sicrhau bod y gwaith adrodd yn adlewyrchu’r grwpiau â’r flaenoriaeth uchaf.

Back to top
Download PDF version (1.04 MB)