Egwyddor Data Cynhwysol 6

Ehangu’r amrywiaeth o ddulliau a ddefnyddir fel mater o drefn a chreu dulliau newydd o ddeall profiadau holl boblogaeth y DU.

Ein dull

Byddwn yn cyflawni ymchwil gan ddefnyddio dulliau arloesol sy’n gweddu orau i’r cwestiwn ymchwil a darpar gyfranogwyr, er mwyn deall mwy am brofiadau go iawn sawl grŵp nas cynrychiolir yn ddigonol yn nata a thystiolaeth y DU.

Bydd Canolfan Cydraddoldebau a Chynhwysiant SYG yn hwyluso cydweithio ar draws y mentrau arfaethedig er mwyn deall mwy am brofiadau gwirioneddol sawl grŵp nas cynrychiolir yn ddigonol yn nata a thystiolaeth y DU, gan nodi a rhannu arfer dda.

Bydd proses SYG o ddatblygu’r Gwasanaeth Data Integredig fel dull o gysylltu data a gwneud gwaith dadansoddi croestoriadol yn well ar draws y llywodraeth a sefydliadau ehangach yn chwarae rôl allweddol wrth wella seilwaith data’r DU. Mae SYG yn datblygu’r Gwasanaeth i wella a chynyddu’n sylweddol fynediad at ddata a’r defnydd o ddata ledled y DU, gan ddadansoddwyr yn Adrannau Llywodraeth y DU, y Gweinyddiaethau Datganoledig, y Gwasanaeth Iechyd Gwladol ac Awdurdodau Lleol. Bwriedir i’r gwasanaeth hwn ei gwneud yn hawdd i ymchwilwyr gael mynediad, wrth hefyd ddiogelu cyfrinachedd testunau data bob amser, gan ddefnyddio rheolaethau technegol a gweithredol helaeth, a systemau llywodraethu cadarn a thryloyw.

Bydd pwyllgor cynghorol annibynnol newydd yr Ystadegydd Gwladol ar ddata cynhwysol yn cynghori’r Ystadegydd Gwladol ar ddulliau o gynnal ymchwil ansoddol er mwyn deall profiadau go iawn y grwpiau hyn o bobl yn y DU yn well.

Gwaith sy'n mynd rhagddo ac yn yr arfaeth

  • Gwneir gwaith dichonoldeb ar sut y gellir defnyddio ffynonellau data newydd a mawr i lenwi bylchau mewn data, a arweinir gan Gampws Gwyddor Data SYG ar y cyd ag aelodau rhyngwladol o Bwyllgor Arbenigwyr Data Mawr a Gwyddor Data y Cenhedloedd Unedig. Byddwn yn adolygu profiadau gwledydd eraill o ddefnyddio data mawr i lenwi bylchau mewn data cynhwysol, gan weithio gyda’r Pwyllgor a chydweithwyr perthnasol yn SYG.
  • Mae SYG yn datblygu protocol ffynonellau answyddogol i hwyluso’r gwaith o sicrhau ansawdd ffynonellau answyddogol a gwneud y defnydd mwyaf ohonynt wrth leihau’r risgiau cymaint â phosibl. Caiff y protocol ar gyfer ffynonellau ansoddol ei roi ar waith yn 2022, a datblygir protocol ar gyfer ffynonellau ansoddol yn 2023.
  • Mae SYG yn ymchwilio i gwmpas setiau data gweinyddol penodol er mwyn deall yn well sut y caiff rhai grwpiau penodol o fewn y boblogaeth eu cynrychioli. Mae dulliau ymchwil ansoddol hefyd yn cael eu datblygu er mwyn rhoi gwell syniad inni o unrhyw faterion o ran cynwysoldeb ffynonellau data o’r fath.
  • Yn ystod 2022, bydd SYG yn cynnal ymchwil ansoddol i archwilio profiadau go iawn grwpiau nas cynrychiolir yn ddigonol ar hyn o bryd yn nata a thystiolaeth y DU yn cynnwys: profiadau oedolion anabl o gymryd rhan mewn gweithgareddau a chael gafael ar nwyddau a gwasanaethau ledled y DU; profiadau ysgol plant ag anghenion addysgol arbennig ac anableddau yn Lloegr; a phrofiadau go iawn, blaenoriaethau ac anghenion cymunedau Sipsiwn a Theithwyr.
  • Bydd Uned Anabledd Swyddfa’r Cabinet yn cynnal adolygiad systematig o dystiolaeth mewn perthynas â phrofiadau go iawn pobl anabl yn y DU, er mwyn ystyried ymchwil ansoddol berthnasol a nodi bylchau allweddol mewn dealltwriaeth a blaenoriaethau ar gyfer gwaith pellach erbyn diwedd mis Mawrth 2022.
  • Mae SYG yn parhau i ymchwilio i well dulliau o gysylltu data, fel rhan o’r Adolygiad o Ddata Cyfunol mewn Llywodraeth. Ymchwilir i adnoddau a thechnegau newydd er mwyn gwella ansawdd cysylltu data a gwella mesurau ansicrwydd a thuedd cysylltu data. Bydd y rhain yn rhan bwysig o unrhyw ddadansoddiad data sy’n defnyddio data wedi’u cysylltu, yn enwedig i is-grwpiau o’r boblogaeth.
  • Fel rhan o’r ymgais barhaus i archwilio dulliau Gwyddor Data, bydd SYG yn archwilio tueddiadau posibl mewn algorithmau dysgu peirianyddol a phryd y gallant arwain at ganlyniadau nad ydynt yn gwbl gynhwysol o bosib. Mae’r technegau hyn yn dibynnu’n fawr ar gynrychioliadwyedd y data hyfforddi, gan olygu bod unrhyw dueddiadau yn parhau i’r model. Mae gwaith yn mynd rhagddo i archwilio dulliau o atal tuedd, yn ogystal â sut y caiff algorithmau Dysgu Peirianyddol a ddefnyddiwyd ar y cam cynhyrchu eu cynnal. Bydd hyn yn cynnwys rheoli’r risg o duedd o ran y model, ac felly ddiffyg cynhwysiant, gan dyfu dros amser oherwydd drifft model.
  • Prin y mae data yn gyflawn, yn enwedig wrth gysylltu ffynonellau, a gall y dulliau a ddefnyddir i ddelio â data sydd ar goll gael effaith ar gynhwysiant. Bydd SYG yn archwilio strategaethau priodoli yng nghyd-destun data gweinyddol wedi’u cysylltu ac yn gwerthuso effaith data sydd ar goll sy’n cronni oherwydd gwallau cysylltu neu ddiffyg cwmpas. Bydd hyn yn ehangu’r gwaith a gwblhawyd eisoes i archwilio priodoli incwm seiliedig ar ddata gweinyddol sy’n gysylltiedig â data’r cyfrifiad, a nododd heriau pwysig wrth gynrychioli’r dosbarthiad incwm is.

  • Bydd SYG yn archwilio cysylltu data fel dull o ymchwilio i brofiadau grwpiau a phoblogaethau penodol, fel rhan o’r gwaith o ddatblygu’r Gwasanaeth Data Integredig, er mwyn meithrin dealltwriaeth newydd o wahanol grwpiau o’r boblogaeth. Bydd hyn yn cynnwys y canlynol: cysylltu data ar fudd-daliadau â Chyfrifiad 2021 Cymru a Lloegr a ffynonellau eraill, er mwyn cefnogi’r gwaith o ddadansoddi canlyniadau 2021 a digwyddiadau eraill (iechyd, marwolaethau) ar gyfer y rhai sy’n cael budd-daliadau; a chysylltu arolygon pwrpasol hanesyddol er mwyn cefnogi’r gwaith o ddadansoddi canlyniadau tymor hwy i unigolion a chartrefi. Caiff y system ystadegau integredig ei chynllunio a’i hadeiladu yn 2022.
  • Fel rhan o drawsnewid y system ystadegau o’r boblogaeth ac ystadegau cymdeithasol bydd SYG yn datblygu astudiaeth darpar gyswllt gwbl gynrychioliadol a chynhwysol ar gyfer y boblogaeth, gan ddefnyddio data arolwg a gweinyddol perthnasol, ac astudiaethau ethnograffig.
  • Mae Uned Gwahaniaethau ar sail Hil Swyddfa’r Cabinet wedi bod yn gweithio gyda SYG i ddatblygu set ddata gysylltiedig i ddarparu data ar enedigaethau a marwolaethau babanod yn ôl ethnigrwydd y fam ynghyd â newidynnau economaidd-gymdeithasol o’r cyfrifiad er mwyn meithrin dealltwriaeth o wahaniaethau ar sail iechyd mamol, gan olygu y gellir datblygu ymyriadau mwy pwrpasol. Bydd y set ddata ar gael drwy’r Gwasanaeth Ymchwil Diogel yn 2022.
  • Mae’r Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol yn gweithio gyda SYG ac Ymchwil Data Gweinyddol y DU i gysylltu data o Astudiaeth Hydredol Cartrefi’r DU â data ar y defnydd o ynni er mwyn archwilio patrymau defnydd ar gyfer gwahanol fathau o gartrefi. Bydd y set ddata ar gael i ymchwilwyr yn 2022, gan olygu y gellir parhau â’r gwaith dadansoddi y tu hwnt i hyn.
  • Mae’r Adran Codi’r Gwastad, Tai a Chymunedau yn gwneud gwaith i gysylltu’r set ddata digartrefedd statudol ag amrywiaeth o ffynonellau data eraill er mwyn darparu gwybodaeth fanylach am ddigartrefedd a chysgu allan. Mae’r Adran hefyd yn gweithio ar brosiect trawsadrannol gan gysylltu â’r Adran Gyfiawnder, er mwyn cysylltu o bosibl wybodaeth am droseddu a data ar drin cyffuriau ac alcohol â chasgliadau digartrefedd. Cyflawnir prosiectau peilot yn 2022 a chyflawnir prosiectau cysylltu trawsadrannol yn y blynyddoedd wedyn.

  • Fel rhan o drawsnewid y system ystadegau o’r boblogaeth ac ystadegau cymdeithasol, bydd SYG yn datblygu asedau hydredol. Bydd hyn yn galluogi nodi grwpiau difreintiedig a diddordebau dros dro er mwyn cefnogi gwaith dadansoddi dilynol. Caiff y system ystadegau integredig ei chynllunio a’i hadeiladu yn 2022.
  • Bydd yr Adran Addysg yn parhau â’i Hastudiaeth Hydredol o Bobl Ifanc yn Lloegr, gan ddilyn carfan o bobl ifanc 13/14 oed yn 2013 drwy flynyddoedd olaf addysg orfodol, ac ymlaen i fathau eraill o addysg, hyfforddiant, cyflogaeth a gweithgareddau eraill, casglu gwybodaeth am lwybrau gyrfa a’r ffactorau sy’n effeithio arnynt, ac amrywiaeth o wybodaeth am nodweddion. Yn 2021/22 caiff yr holiadur ei ddatblygu, a gwneir gwaith maes, a bydd y data ar gael yn 2022/23.
  • Bydd rhaglen Astudiaethau Panel Addysg a Deilliannau’r Adran Addysg yn cyflawni dwy astudiaeth carfan newydd gan ddilyn plant rhwng 9 mis a 5 oed (Plant y 2020au) ac o gam cynnar yn eu haddysg gynradd (Blynyddoedd 1 neu 2) i ddiwedd yr ysgol gynradd (Blwyddyn 6) (Disgyblion y 2020au). Caiff Disgyblion y 2020au ei gaffael a’i sefydlu yn 2022, a gwneir gwaith maes a chyflwynir ton gyntaf y data yn 2022/23. Bydd yn defnyddio meini prawf cymhwysedd Prydau Ysgol am Ddim o’r Gronfa Ddata Genedlaethol o Ddisgyblion i orsamplu disgyblion difreintiedig, a deall yn well y gydberthynas rhwng cyrhaeddiad, anfantais ac amrywiaeth o nodweddion personol a nodweddion y cartref.

Bydd cynhyrchwyr data yn sicrhau bod prosiectau cysylltu data yn dilyn y mesurau llywodraethu a chymeradwyo priodol, er enghraifft:

  • Bydd y Swyddfa Gartref yn sicrhau bod yr holl waith gyda SYG ar gysylltu data yn cael ei gymeradwyo drwy brosesau llywodraethu rhaglenni priodol gydag uwch gynrychiolwyr o’r Swyddfa Gartref a SYG.
  • Bydd SYG yn sicrhau bod yr holl waith cynhyrchu ystadegol ar ei newydd wedd yn cael ei adolygu a’i sicrhau drwy’r sianeli ffurfiol (Grŵp Sicrwydd Ymchwil y Cyfrifiad, Panel Adolygu Sicrwydd Methodolegol a Phanel Cynghori Gwyddonol Hydredol) a bod yr holl astudiaethau cysylltu wedi’u cymeradwyo gan Bwyllgor Cynghorol Moeseg Data’r Ystadegydd Gwladol. Yn yr un modd bydd y gwaith o drawsnewid ein harolygon yn cael ei adolygu a’i sicrhau drwy fforymau priodol.
  • Bydd SYG yn sicrhau bod yr holl setiau data a ddefnyddir wrth ddadansoddi Cyfrifiad 2021 Cymru a Lloegr wedi’u cymeradwyo gan y byrddau moesegol perthnasol cyn i’r gwaith dadansoddi ddechrau.

Back to top
Download PDF version (1.04 MB)