Egwyddor Data Cynhwysol 2
Defnyddio dull system gyfan, gan weithio mewn partneriaeth ag eraill i wneud data a thystiolaeth y DU yn fwy cynhwysol.
Ein dull
Byddwn yn dod ynghyd ar draws llywodraeth y DU, y gweinyddiaethau datganoledig, academia, cymdeithas sifil a’r rhai â phrofiad uniongyrchol i ddatblygu canllawiau ac arfer dda ar fod yn gynhwysol drwy gydol y broses ymchwil, a hyrwyddo cydlyniant er mwyn gwella cymaroldeb data a gwella ansawdd data.
Bydd Canolfan Cydraddoldebau a Chynhwysiant SYG yn cadw llygad ar weithgareddau ar draws system ystadegol y DU a’u huno o ran datblygu canllawiau ac arferion addawol ar sicrhau bod y broses ymchwil gyfan yn gynhwysol.
Mae system lywodraethu newydd yn yr arfaeth a chaiff ei chyflwyno yng ngwanwyn 2022 i oruchwylio, monitro a chyflwyno Cynllun Gweithredu’r Tasglu. Mae hyn yn cynnwys pwyllgor cynghorol annibynnol newydd yr Ystadegydd Gwladol ar ddata cynhwysol, â chadeirydd annibynnol ac aelodau o amrywiaeth eang o sefydliadau, lle cyflwynir adroddiadau tryloyw ar weithgareddau’r pwyllgor. Fel rhan o’r system lywodraethu hon, byddwn yn ystyried sut mae cyrraedd cymdeithas y DU yn eang er mwyn ymgynghori â hi a chael adborth ganddi, a bydd yn datblygu Cynllun Gwerthuso i fesur yr effaith.
Gwaith sy'n mynd rhagddo ac yn yr arfaeth
- Caiff pwyllgor cynghorol annibynnol newydd yr Ystadegydd Gwladol ar ddata cynhwysol ei lansio ar ddechrau 2022, i gynghori ar flaenoriaethau, gwelliannau parhaus a gwerthuso cynnydd, wrth i gymdeithas y DU ddatblygu.
- Ar y cyd â rhanddeiliaid a chynhyrchwyr data allweddol ar draws y system ystadegol, yng ngwanwyn 2022 bydd SYG yn sefydlu dull llywodraethu i gyflwyno Cynllun Gweithredu’r Tasglu ac adrodd arno’n gyhoeddus. Bydd hyn yn cynnwys sut i gyrraedd y cyhoedd a gwahanol grwpiau o’r boblogaeth yn eang.
- Bydd SYG yn datblygu Cynllun Gwerthuso i fesur effaith y gweithgareddau yng Nghynllun Gweithredu’r Tasglu erbyn haf 2022.
- Bydd SYG yn hwyluso adolygiad blynyddol a diweddariad wedi’i gyhoeddi o Gynllun Gweithredu’r Tasglu.
- Mae Grŵp Ansawdd Data Canolfan Cydraddoldeb Swyddfa’r Cabinet wedi cael ei ffurfio. Bydd y grŵp hwn yn dylanwadu ac yn cynghori ar welliannau i ansawdd data mewn ffordd gydgysylltiedig ar draws rhyw, rhywedd, anabledd, ethnigrwydd a grwpiau economaidd-gymdeithasol o’r boblogaeth, er enghraifft ar gysondeb. Bydd y grŵp yn arwain y gwaith o ddatblygu camau gweithredu Swyddfa’r Cabinet a restrir yn y Cynllun hwn ac yn rhoi canllawiau perthnasol i adrannau eraill wrth ddatblygu eu camau gweithredu. Mae’r grŵp hefyd yn gweithio’n agos gyda rhwydweithiau tebyg eraill, megis Hyrwyddwyr Cysondeb a Hyrwyddwyr Ansawdd Data Gwasanaeth Ystadegol y Llywodraeth.
- Bydd yr Adran Addysg yn datblygu strategaeth newydd ar gyfer ymgysylltu â defnyddwyr ystadegau yn 2022, i’w rhoi ar waith yn 2023 a’i gwerthuso yn 2024. Bydd hyn yn adlewyrchu’r arfer orau a nodwyd yn ddiweddar gan Strategaeth Ymgysylltu â Defnyddwyr Gwasanaeth Ystadegol y Llywodraeth ar gyfer Ystadegau a ddatblygwyd gan SYG, yn cryfhau’r cydweithio ar draws ffiniau defnyddwyr, yn ymgorffori diwylliant ymgysylltu â defnyddwyr ar draws y sefydliad ac yn creu mwy o ddealltwriaeth o anghenion defnyddwyr drwy greu deialog ystyrlon a pharhaus rhwng defnyddwyr a chynhyrchwyr ystadegau.
- Mae’r Swyddfa Gartref wedi sefydlu rhwydwaith mewnol o dimau a chysylltiadau allweddol mewn ymateb i ganfyddiadau ac argymhellion y Tasglu, a fydd yn gyfrifol am adrodd ar hynt yr argymhellion hyn.
- Bydd Canolfan Trosedd a Chyfiawnder SYG yn diweddaru ei strategaeth ymgysylltu ac yn datblygu Fforwm Ystadegau Trosedd ac Anrhefn. Cynhelir y fforwm blynyddol cyntaf ym mis Chwefror 2022 a chyhoeddir y strategaeth ar ei newydd wedd erbyn diwedd mis Mawrth 2022.
- Bydd tîm Dadansoddi Arolwg Heintiadau COVID-19 SYG yn addasu ei grwpiau presennol o ddefnyddwyr i greu fforwm defnyddwyr parhaus yn canolbwyntio ar gynnwys defnyddwyr a sicrhau cynhwysiant ac ymgysylltu parhaus.
- Fel rhan o Strategaeth Ymgysylltu â Defnyddwyr Gwasanaeth Ystadegol y Llywodraeth ar gyfer Ystadegau a chreu Canolfan Ymgysylltu SYG, bydd SYG yn annog cynhyrchwyr data ar draws system ystadegol y DU i adeiladu ar eu hymgysylltu â defnyddwyr a rhanddeiliaid.
- Bydd SYG yn parhau i ymgysylltu ag academyddion, grwpiau defnyddwyr ac eraill y tu allan i’r llywodraeth ag arbenigedd perthnasol, ac yn datblygu grwpiau ymgysylltu â rhanddeiliaid newydd, i rannu gwybodaeth a dulliau mesur, a chael mewnbwn ar ymchwil a chynlluniau. Mae hyn yn cynnwys mewn perthynas â gwaith Canolfan Trosedd a Chyfiawnder SYG, yr Arolwg Defnydd Amser, ac Arolygon Cyllid Cartrefi, wrth ddatblygu a chyflawni’r dadansoddiad o Gyfrifiad 2021 ar gyfer Cymru a Lloegr ac fel rhan o ddatblygu argymhelliad yr Ystadegydd Gwladol ar ddyfodol y cyfrifiad ac ystadegau o’r boblogaeth.
- Gan adeiladu ar waith blaenorol gyda grwpiau eirioli ffoaduriaid ar y cyd â’r Swyddfa Gartref, bydd SYG yn gwneud rhagor o waith i sicrhau bod grwpiau eraill sydd mewn perygl o gael eu hallgáu neu o fod yn anweladwy yn ein system newydd o ystadegau o’r boblogaeth ac ystadegau cymdeithasol yn cael eu cynnwys, gan hefyd ymgysylltu â Chynghorau Ymchwil wrth gynllunio a chyflwyno’r systemau newydd. Yn ystod 2022 bydd gwaith yn mynd rhagddo ar y cyd â’r rhai y tu allan i’r llywodraeth i gynllunio dulliau, gan brototeipio’r trywydd a ddilynir yn 2023 cyn cynnal adolygiad systematig o grwpiau o’r boblogaeth fel bod y dulliau mor effeithiol â phosibl yn 2024.
- Bydd y Swyddfa Myfyrwyr yn ymgysylltu ag academyddion ac ymarferwyr i gefnogi’r gwaith o ddatblygu system well o gasglu data ar gyfer myfyrwyr sydd â phrofiad o fod mewn gofal sydd mewn addysg uwch. Bydd system casglu data well ar waith ar gyfer blwyddyn academaidd 2022-23, a chyflwynir adroddiad ystadegol ar brofiadau a chanlyniadau yn 2024.
- Mae King’s College Llundain wedi llunio pecyn cymorth i’w ddefnyddio fel rhan o brosiectau Citizen Science fel y gall cynhyrchwyr data hwyluso gweithgareddau casglu data mwy diddorol a chynhwysol.
- Fel rhan o’i brosiect Contemporary Fathers in the UK a ariennir gan Sefydliad Nuffield, bydd y Sefydliad Tadolaeth yn gweithio gyda sefydliadau ymchwil ac ystadegol cenedlaethol i wella gweladwyedd a gwahanrediad tadau mewn setiau data ystadegol mawr cenedlaethol. Caiff y prosiect ei gwblhau yng nghanol 2023.
- Bydd cynhyrchwyr data yn archwilio partneriaethau cydariannu newydd a datblygu rhai sy’n bodoli eisoes.
- Bydd Canolfan Cydraddoldebau a Chynhwysiant SYG yn chwarae rhan gynnull wrth nodi mentrau lle byddai cydweithio yn cynnig effeithlonrwydd.
- Bydd SYG yn gwneud y canlynol:
- Archwilio’r posibilrwydd o greu Grŵp Dinas Cenhedloedd Unedig newydd ar gynwysoldeb yn 2022.
- Parhau i gymryd rhan yn Nhasglu Cyfrifiad Comisiwn Economaidd Ewrop y Cenhedloedd Unedig (UNECE) ar Ryw a Rhywedd, gan gyfrannu at waith rhyngwladol i archwilio a chynnig cwestiynau am ryw a rhywedd i’w defnyddio yn argymhellion UNECE ar gyfrifiadau’r dyfodol.
- Diweddaru Cynllun Gweithredu’r Siarter Data Cynhwysol ar gyfer y Nodau Datblygu Cynaliadwy Byd-eang a pharhau i ymgysylltu’n rhyngwladol, gan rannu gwersi o arfer orau ryngwladol ar ddata cynhwysol ar draws sefydliadau perthnasol. Yn 2022, caiff y cynllun gweithredu sydd wedi’i adnewyddu ei lansio ac yna ymgysylltir â’r rhwydwaith Siarter Data Cynhwysol i rannu gwersi ac arbenigedd yn ystod 2023.
- Parhau i chwarae rhan yn Nhasglu UNECE ar Ystadegau ar Blant a Phobl Ifanc, gan ganolbwyntio’n benodol ar blant mewn gofal y tu allan i’r cartref, plant anabl, a thrais yn erbyn plant. Bydd y Tasglu yn datblygu argymhellion ac yn darparu canllawiau i Swyddfeydd Ystadegau Gwladol yn 2022 er mwyn adlewyrchu’r grwpiau hyn yn well yn y data a’r dystiolaeth.
- Parhau i gyfrannu fel aelod o Weithgor Rhyngysgrifenyddiaeth y Cenhedloedd Unedig ar Arolygon Cartrefi. Mae’r gweithgor yn llunio papur sefyllfa sy’n anelu at nodi meysydd â blaenoriaeth ar gyfer arolygon cartrefi er mwyn cyflawni eu rolau sylfaenol yn well yn y blynyddoedd i ddod.
- Parhau i chwarae rhan mewn cyfarfodydd wedi’u harwain gan Sefydliad Iechyd y Byd ar anabledd a chydweithio’n agos â chydweithwyr rhyngwladol i ddarparu cymariaethau rhyngwladol pwysig mewn iechyd.
- Parhau i ymgysylltu’n rhyngwladol â’r gwaith o ddatblygu ystadegau mewn perthynas â chyfalaf dynol a gwaith di-dâl, yn cynnwys cadeirio is-grwpiau Gwaith Gwasanaeth Di-dâl mewn Cartrefi, a Llafur, Cyfalaf Dynol ac Addysg Gweithgor Rhyngysgrifenyddiaeth Cyfrifon Cenedlaethol ac is-grŵp ystadegau Moderneiddio Defnydd Amser Grŵp Arbenigol y Cenhedloedd Unedig ar Ffyrdd Effeithiol o Gasglu Ystadegau Defnydd Amser.
- Parhau i arwain Grŵp City y Cenhedloedd Unedig ar Ystadegau Heneiddio ac Oedran wedi’u Dadgyfuno, gan weithio gyda Sefydliadau Ystadegau Cenedlaethol, Sefydliad Iechyd y Byd, Is-adran Ystadegau’r Cenhedloedd Unedig a sefydliadau eraill i sicrhau cysondeb ac arfer orau wrth ddarparu gwybodaeth am y boblogaeth hŷn.
- Bydd yr Adran Addysg yn gweithio ar draws adrannau llywodraeth y DU, y Gweinyddiaethau Datganoledig, dibyniaethau’r goron a thiriogaethau tramor i ymateb i Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn, gan ddarparu tystiolaeth ar brofiad plant yn y meysydd o ddiddordeb a nodir gan y Cenhedloedd Unedig, yn cynnwys dadansoddiadau dros amser ac yn ôl nodweddion lle bo modd. Cyflwynir yr adroddiad nesaf i’r Cenhedloedd Unedig yn 2022, a bydd angen cyflwyno adroddiad pellach bob 4-5 mlynedd.
- Mae SYG yn datblygu Strategaeth Ymchwil i wella effaith ein hymchwil a chamau arloesi a datblygu’r cydweithio ag academia a sefydliadau ymchwil ehangach.
- Bydd SYG yn rhannu gwersi o ran datblygu dulliau er mwyn gwella cynhwysiant cymdeithasol drwy gyhoeddi Erthyglau Ymchwil Dulliau SYG a chyhoeddiadau ymchwil a methodolegol perthnasol eraill. Bydd allbynnau ymchwil mor hawdd eu canfod ac mor hygyrch, rhyngymarferol ac ailddefnyddiadwy (egwyddorion FAIR) â phosibl drwy, er enghraifft, fynegeio uniongyrchol yn ôl peiriannau chwilio a’r defnydd o ddynodwyr gwrthrychau digidol.
- Bydd SYG yn dechrau mynd ati’n ffurfiol i werthuso ei allbynnau arloesedd, gan edrych ar fetrigau dynodol (os yn amherffaith) megis cyfeiriadau a chyhoeddiadau cyfnodolion.
- Mae SYG yn ymrwymedig i weithio i ddatblygu rhaglen ymchwil a fydd yn canolbwyntio ar ddatblygu ac arloesi methodolegol, ac a gomisiynir o’r cymunedau ymchwil ac academaidd ehangach er mwyn gwella ansawdd data arolygon.
- Bydd Uned Gwahaniaethau ar sail Hil Swyddfa’r Cabinet yn mynd ati’n rheolaidd i gyhoeddi cyfres o Adroddiadau Dulliau ac Ansawdd a phostiadau blog er mwyn helpu defnyddwyr i ddeall yn well agweddau gwahanol ar gasglu a dadansoddi data, a materion ansawdd data sy’n gysylltiedig â chasglu data ar ethnigrwydd ac adrodd arnynt.
- Gan ddefnyddio’r gwersi a ddysgwyd ynghylch ansawdd data ar ethnigrwydd o ran data iechyd, bydd Uned Gwahaniaethau ar sail Hil Swyddfa’r Cabinet yn gwneud argymhellion i wella ansawdd data mewn casgliadau gwahanol o ddata. Datblygir adroddiad prototeip ar gyfer maes penodol o ddata drwy gydol 2022 ac ymhelaethir ar hynny i feysydd eraill yn 2023, yn dibynnu ar yr ymateb i’r prototeip.
- Yn ystod 2022, bydd Llywodraeth yr Alban yn cynnal gweithdai i drafod arfer orau wrth ddadansoddi nodweddion gwarchodedig i ddadansoddwyr yn y sector cyhoeddus, er mwyn dangos arfer dda a rhannu gwersi.