Egwyddor Data Cynhwysol 4
Gwella seilwaith data’r DU fel bod modd dadgyfuno data a dadansoddi croestoriadau, a hynny mewn ffordd gadarn a dibynadwy, ar gyfer yr ystod lawn o grwpiau a phoblogaethau perthnasol, ac ar lefelau gwahanol o ddaearyddiaeth.
Ein dull
Rydym yn datblygu amrywiaeth o strategaethau i wella seilwaith data’r DU a llenwi bylchau mewn data er mwyn darparu data manylach drwy arolygon newydd neu arolygon wedi’u mireinio a chysylltu data fel bod modd gwneud gwaith dadansoddi croestoriadol gwell.
Bydd proses SYG o ddatblygu’r Gwasanaeth Data Integredig fel dull o gysylltu data a gwneud gwaith dadansoddi croestoriadol yn well ar draws y llywodraeth a sefydliadau ehangach yn chwarae rôl allweddol wrth wella seilwaith data’r DU. Mae SYG yn datblygu’r Gwasanaeth i wella a chynyddu’n sylweddol fynediad at ddata a’r defnydd o ddata ledled y DU, gan ddadansoddwyr yn Adrannau Llywodraeth y DU, y Gweinyddiaethau Datganoledig, y Gwasanaeth Iechyd Gwladol ac Awdurdodau Lleol. Bwriedir i’r gwasanaeth hwn ei gwneud yn hawdd i ymchwilwyr gael mynediad, wrth hefyd ddiogelu cyfrinachedd testunau data bob amser, gan ddefnyddio rheolaethau technegol a gweithredol helaeth, a systemau llywodraethu cadarn a thryloyw.
Gwaith sy'n mynd rhagddo ac yn yr arfaeth
- Erbyn gwanwyn 2022, bydd SYG wedi datblygu cynllun gwaith mewn ymateb i Strategaeth Data Is-genedlaethol Gwasanaeth Ystadegol y Llywodraeth fel y gellir dadgyfuno data a dadansoddi croestoriadau mewn ffordd gadarn a dibynadwy ar lefelau gwahanol o ddaearyddiaeth.
- O fis Hydref 2022, bydd SYG yn cynyddu maint sampl ei Harolwg o’r Farchnad Lafur, a fydd, ynghyd â’r gwaith i fonitro a mynd i’r afael â’i gynrychioliadwyedd, yn ei wneud yn fwy manwl.
- Bydd Uned Gwahaniaethau ar sail Hil Swyddfa’r Cabinet yn gweithio gydag adrannau eraill y llywodraeth a sefydliadau eraill i wneud data ar ethnigrwydd yn fwy manwl, yn cynnwys lleihau faint o ddata a gyhoeddir (yn unig) ar gyfer Gwyn a Heblaw am Wyn. Bydd Uned Gwahaniaethau ar sail Hil Swyddfa’r Cabinet hefyd yn annog cyrff eraill yn y sector cyhoeddus i osgoi defnyddio’r term ‘BAME’, fel rhan o’r ymrwymiadau a nodir yng Nghynllun Gwella Ansawdd yr Uned. Erbyn mis Mai 2022 bydd adolygiad o fanylder setiau data presennol wedi cael ei gwblhau a fydd yn arwain at argymhellion i adrannau ynghylch cynyddu manylder drwy 2022 a 2023.
- Bydd yr Adran Addysg yn dechrau casglu data’r Cynllun Addysg, Iechyd a Gofal yn wirfoddol ar lefel y plentyn yn lle data cyfunol ar lefel Awdurdod Lleol, ym mis Ionawr 2022. Bydd hyn yn golygu y gellir gwneud gwaith dadansoddi manylach a bydd potensial i baru data â setiau data perthnasol eraill, er mwyn cael gwell dealltwriaeth o faterion polisi yn ymwneud â phlant ag Anghenion Addysgol Arbennig. Cyhoeddir y data cyntaf a dechreuir eu casglu’n orfodol yn 2023.
- Bydd Uned Data Cydraddoldeb Llywodraeth Cymru yn ceisio cryfhau tystiolaeth cydraddoldeb (ansoddol a meintiol) er mwyn mynd i’r afael ag anghydraddoldeb yng Nghymru. Mae croestoriadedd wrth wraidd tystiolaeth Uned Data Cydraddoldeb Llywodraeth Cymru. Bydd yr Uned yn anelu at gyflwyno tystiolaeth i ategu’r meysydd a nodwyd gyda Chynllun Cydraddoldeb Strategol Cymru a Chynllun Gweithredu LGBTQ+, er mwyn rhoi darlun mwy cyflawn o dystiolaeth ar gyfer grwpiau bach amrywiol o’r boblogaeth a grwpiau difreintiedig ledled Cymru, yn cynnwys pobl â nodweddion a warchodir o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 megis LGBTQ+, rhywedd ac oedran. Caiff yr Uned ei sefydlu yn 2022, a bydd yn datblygu ei rhaglen ac yn mapio tystiolaeth sydd eisoes yn bodoli. Yn 2023, gwneir y gwaith dadansoddi blaenoriaeth uchel cychwynnol, a bydd prosiectau ymchwil allweddol yn dechrau.
- Bydd Uned Gwahaniaethau ar sail Anabledd Llywodraeth Cymru yn ceisio cryfhau tystiolaeth ar bobl anabl (ansoddol a meintiol) er mwyn mynd i’r afael ag anghydraddoldeb yng Nghymru. Bydd yr Uned yn gweithio gyda’r Tasglu Anabledd i ddarparu tystiolaeth ad hoc ar gais i ategu’r Cynllun Gweithredu ar Anabledd a darparu darlun mwy cyflawn o dystiolaeth sy’n cynrychioli cymunedau anabl amrywiol ledled Cymru. Caiff yr Uned ei sefydlu yn 2022, a bydd yn datblygu ei rhaglen ac yn mapio tystiolaeth sydd eisoes yn bodoli ar bobl anabl. Yn 2023, gwneir y gwaith dadansoddi blaenoriaeth uchel cychwynnol, a bydd prosiectau ymchwil allweddol yn dechrau.
- Bydd Uned Gwahaniaethau ar sail Hil Llywodraeth Cymru yn ceisio cryfhau tystiolaeth ethnigrwydd (ansoddol a meintiol) er mwyn mynd i’r afael ag anghydraddoldeb yng Nghymru. Bydd yr Uned yn gweithio gyda Grŵp Atebolrwydd REAP i ddarparu tystiolaeth ad hoc ar gais i ategu’r Cynllun Gweithredu ar Gydraddoldeb Hiliol a darparu darlun mwy cyflawn o dystiolaeth sy’n cynrychioli cymunedau ethnig amrywiol ledled Cymru. Caiff yr Uned ei sefydlu yn 2022, a bydd yn datblygu ei rhaglen ac yn mapio tystiolaeth sydd eisoes yn bodoli ar ethnigrwydd. Yn 2023, gwneir y gwaith dadansoddi blaenoriaeth uchel cychwynnol, a bydd prosiectau ymchwil allweddol yn dechrau.
- Bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried y posibilrwydd o gyfuno sawl blwyddyn o ddata o Arolwg Cenedlaethol Cymru fel y gellir dadansoddi is-grwpiau’n fanylach. Yn ystod 2022, penderfynir ar gynnwys yr arolwg ar gyfer 2023 i 2024.
- Bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn cynyddu sampl yr Arolwg Adnoddau Teuluol er mwyn gallu dadansoddi incymau mewn ffordd fwy cadarn ar lefel ranbarthol, a chefnogi gwaith dadansoddi manylach o grwpiau llai sydd o ddiddordeb i lunwyr polisi megis ethnigrwydd. Yn dilyn cynnydd rhannol rhwng mis Hydref 2021 a mis Mawrth 2022, fe’i cynyddir yn llawn ym mis Ebrill 2022, a chyhoeddir amcangyfrifon gan ddefnyddio’r sampl mwy yn 2024 a bydd hyn yn parhau yn y blynyddoedd wedyn.
- Bydd Llywodraeth Cymru yn gwella’r dystiolaeth ar statws economaidd-gymdeithasol ac yn ôl nodweddion gwarchodedig gwahanol yng Nghymru yn dilyn cynyddu sampl yr Arolwg Adnoddau Teuluol yng Nghymru.
- Bydd yr Adran dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon yn edrych i weld pa mor ymarferol yw hi i i gyfuno sawl blwyddyn o ddata o’r Arolwg Bywyd Cymunedol er mwyn cynhyrchu set ddata gyfunol i’w gwneud hi’n haws dadansoddi is-grwpiau. Bydd yn edrych i weld pa mor ymarferol yw hi i gynhyrchu amcangyfrifon ardal fach fel bod modd dadansoddi ardaloedd daearyddol llai yn fwy. Gwneir y gwaith hwn yn 2022. Bydd maint sampl yr Arolwg Cyfranogi hefyd yn cynyddu yn 2021/22 fel bod modd cynhyrchu amcangyfrifon ar lefel ddaearyddol is.
- Mae Swyddfa Cydraddoldebau’r Llywodraeth Swyddfa’r Cabinet (rhan o’r Ganolfan Cydraddoldeb) yn gweithio mewn partneriaeth â SYG i gyflwyno ei Rhaglen Data Cydraddoldeb. Ar gam cychwynnol y gwaith, bydd yn defnyddio data sy’n bodoli eisoes i weld sut mae canlyniadau pobl yn amrywio yn ôl dimensiynau gwahanol cydraddoldeb (yn cynnwys daearyddiaeth a chefndir economaidd-gymdeithasol).Bydd y gwaith hwn yn cyflawni dadansoddiadau ar draws amrywiaeth o ganlyniadau sy’n rheoli gwahanol nodweddion yn cynnwys (lle maent ar gael) oedran, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, ethnigrwydd, cefndir economaidd-gymdeithasol a daearyddiaeth. Cyhoeddir y gwaith dadansoddi cychwynnol yn 2022.
- Ail gam y Rhaglen Data Cydraddoldeb fydd datblygu set ddata gysylltiedig (yr Ased Data Cydraddoldeb) drwy’r Gwasanaeth Data Integredig, gan ddwyn ynghyd amrywiaeth o setiau data hydredol, y mwyaf erioed, a ddelir ar draws y llywodraeth, gan olygu bod modd gwneud gwaith dadansoddi croestoriadol manylach ac archwilio sut mae llwybrau bywyd pobl yn amrywio yn ôl gwahanol ddimensiynau cydraddoldeb.Yn ystod 2022, bydd prosesau i gaffael setiau data cychwynnol wedi hen sefydlu, a bydd rhaglen waith barhaus i ddatblygu’r Ased ac archwilio opsiynau i wella ehangder a chyfoeth y data ar gydraddoldebau a chanlyniadau dros y blynyddoedd i ddod.
- Mae SYG yn gwneud amrywiaeth o waith gan ddefnyddio setiau data cysylltiedig fel bod modd gwneud gwaith dadansoddi manylach a chroestoriadol, yn cynnwys: archwilio symudedd cymdeithasol a’r berthynas rhwng symudedd addysg ac enillion, ymchwilio i gefndir addysgol a gofal poblogaeth carchardai, a defnyddio set ddata Growing Up in England i ddeall nodweddion, profiadau gofal cymdeithasol a deilliannau addysgol plant agored i niwed. Gwneir y gwaith hwn yn ystod 2022 a 2023.
- Bydd SYG yn gwneud gwaith dadansoddi croestoriadol gan ddefnyddio Cyfrifiad 2021 Cymru a Lloegr a bydd yn cydweithio â Cofnodion Cenedlaethol yr Alban ac Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon i ystyried darpariaeth dadansoddiadau o gyfrifiadau’r DU ledled y DU.
- Bydd SYG yn darparu dadansoddiad croestoriadol o sbardunau meithrin gwybodaeth a sgiliau gydol oes fel rhan o gyhoeddi’r fframwaith dangosyddion cyfalaf dynol yn 2023 fel bod tystiolaeth ar sut mae grwpiau gwahanol yn datblygu’n wahanol yn ystod eu bywydau.
- Bydd y Swyddfa Myfyrwyr yn datblygu ac yn cyhoeddi set o fesurau croestoriadol i wella’r ddealltwriaeth o’r canlyniadau mae gwahanol grwpiau yn debygol o’u profi yn ystod eu hamser fel myfyrwyr, yn cynnwys mynediad i addysg uwch a pharhau mewn addysg uwch. Caiff y rhain eu datblygu yn 2022, a chyhoeddir mesurau’n barhaus wedyn.
- Bydd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn cynnal amrywiaeth o ddadansoddiadau croestoriadol mewn perthynas â’r farchnad lafur, tlodi ac iechyd fel rhan o’r adroddiad nesaf yn y gyfres ‘A yw Prydain yn Decach?’ a gyhoeddir yn 2023.
- Mae SYG yn datblygu adnodd adeiladu tablau hyblyg fel rhan o gyhoeddi canlyniadau Cyfrifiad 2021 Cymru a Lloegr fel y gall defnyddwyr ddewis y nodweddion sydd o ddiddordeb iddynt i adeiladu eu tablau eu hunain, yn amodol ar reolaethau datgelu ystadegol, fel y gellir archwilio croestoriadedd. Cyhoeddir yr adnoddau hyn i ddefnyddwyr yn ystod 2022 a 2023.
- Mae’r Adran Codi’r Gwastad, Tai a Chymunedau wedi cyhoeddi dangosfwrdd anghenion cymorth o’r set ddata digartrefedd statudol sy’n golygu y gellir nodi’r anghenion cymorth mwyaf cyffredin sy’n digwydd ar yr un pryd yn y boblogaeth ddigartref. Caiff cynnwys yr allbwn hwn ei adolygu, a gwneir gwelliannau fel sydd angen wrth gyhoeddi dangosfwrdd wedi’i ddiweddaru yn 2022.
- Bydd SYG yn edrych i weld pa mor ymarferol ydyw i orsamplu mewn rhai ardaloedd fel rhan o’n gwaith i bennu ymarferoldeb cynllun casglu data ymatebol. Bydd hyn naill ai ar y cam samplu (gorsamplu i fynd i’r afael â bylchau penodol mewn data), ar y cam casglu (targedu grwpiau nas cynrychiolir yn ddigonol wrth gasglu data), neu gyfuniad o’r ddau.
- Bydd CThEM yn parhau i ymchwilio i botensial yr Arolwg blynyddol o Unigolion, Busnesau Bach ac Asiantiaid i feithrin dealltwriaeth o gwsmeriaid â gwahanol nodweddion personol, i ddechrau drwy gyfuno blynyddoedd arolwg er mwyn cynyddu maint samplau, ond os bydd maint samplau yn dal i fod yn rhwystr, ystyrir opsiynau a chostau ar gyfer gorsamplu rhai grwpiau penodol. Dadansoddir cwsmeriaid â nodweddion gwarchodedig drwy gyfuno blynyddoedd arolwg yr Arolwg yn 2022, ac yna ystyrir yr angen i orsamplu grwpiau nas cynrychiolir yn ddigonol yn 2023.
- Bydd Arolwg Rhieni, Disgyblion a Dysgwyr yr Adran Addysg yn mynd ati’n bwrpasol i orsamplu grwpiau nas cynrychiolir yn ddigonol, yn cynnwys y rhai sy’n gymwys i gael Prydau Ysgol am Ddim, y rhai â statws Anghenion Addysgol Arbennig ac Anabledd, a’r rhai â statws Plant mewn Angen, er mwyn llenwi bylchau sy’n bodoli eisoes wrth ddeall y grwpiau hyn. Comisiynwyd ymchwil ar gyfer blynyddoedd academaidd 2021-22 a 2022-23 ac mae’n debygol o gael ei hailgomisiynu yn y blynyddoedd i ddod.
- Bydd astudiaeth cohort Plant y 2020au ac astudiaeth cohort Disgyblion y 2020au yr Adran Addysg, rhan o Astudiaethau Panel Addysg a Deilliannau, yn dilyn plant rhwng 9 mis a 5 oed ac o gam cynnar yn eu haddysg gynradd (Blwyddyn 1 neu 2) tan ddiwedd yr ysgol gynradd (Blwyddyn 6) yn y drefn honno. Bydd y ddwy astudiaeth yn cynnwys gwaith gorsamplu pwrpasol ar grwpiau difreintiedig, er mwyn cael gwell dealltwriaeth o’r gydberthynas rhwng cyrhaeddiad, anfantais ac amrywiaeth o nodweddion personol a nodweddion cartrefi. Caiff y ddwy astudiaeth eu sefydlu a’u treialu yn ystod 2021/22 a chyflawnir gwaith maes a chyflwynir y data o’r don gyntaf yn 2022/23, a thonnau dilynol yn y 3 blynedd wedyn.
- Mae SYG yn cyflawni gweithgareddau ymgysylltu ac ymchwil helaeth er mwyn sicrhau bod argymhellion y Tasglu Data Cynhwysol yn cael eu hystyried wrth ddatblygu argymhelliad yr Ystadegydd Gwladol ar ddyfodol y cyfrifiad ac ystadegau o’r boblogaeth.