Egwyddor Data Cynhwysol 5
Sicrhau bod y cysyniadau a gaiff eu mesur yn yr holl ddata a gesglir yn briodol ac yn eglur.
Ein Dull
Rydym yn datblygu cynlluniau i fynd i’r afael â materion hysbys o ran safonau a chanllawiau sy’n bodoli eisoes wrth fesur cysyniadau yn ymwneud â chynhwysiant, yn ogystal â gwaith cydweithredol ar draws y llywodraeth i wella cydlyniant ystadegol (gweler Egwyddor Data Cynhwysol 7). Bydd SYG yn goruchwylio’r mentrau ar draws llywodraeth y DU a’r gweinyddiaethau datganoledig er mwyn gwella canllawiau Gwasanaeth Ystadegol y Llywodraeth ar ddiffiniadau a safonau data; hwyluso cydweithio a rhannu arfer orau; a hyrwyddo safonau wedi’u cysoni a chanllawiau Gwasanaeth Ystadegol y Llywodraeth.
Bydd SYG yn cyhoeddi Cynllun Cysoni Gwasanaeth Ystadegol y Llywodraeth ar ddechrau 2022, gan nodi’r cynlluniau a’r amserlenni ar gyfer adolygu a diweddaru safonau wedi’u cysoni a chanllawiau Gwasanaeth Ystadegol y Llywodraeth ar gyfer casglu data ar nodweddion cydraddoldeb. Bydd yn cwmpasu gwahanol ddulliau o gasglu data yn cynnwys cyfweliadau wyneb yn wyneb, dros y ffôn ac ar-lein.
Gwaith sy'n mynd rhagddo ac yn yr arfaeth
- Bydd SYG yn cadw llygad ar ganllawiau’r Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau sy’n berthnasol i gynhwysiant gan annog y llywodraeth a’r pedair gwlad i’w mabwysiadu’n ehangach.
- Bydd Llywodraeth Cymru yn ymchwilio i ddatblygu tystiolaeth sy’n unol â’r model cymdeithasol o anabledd o 2022.
- Fel rhan o waith parhaus i ddeall cefndir economaidd-gymdeithasol y gweithlu Gwasanaeth Sifil yn well, bydd Swyddfa’r Cabinet yn gweithio gyda sefydliadau i gael gwell dealltwriaeth o sbardunau cyfraddau ymateb presennol, gyda’r nod o gyhoeddi gwybodaeth am gefndiroedd economaidd-gymdeithasol y gweithlu Gwasanaeth Sifil fel rhan o gyhoeddiad blynyddol Ystadegau’r Gwasanaeth Sifil.
- Bydd SYG yn cyhoeddi Cynllun Cysoni Gwasanaeth Ystadegol y Llywodraeth ar ddechrau 2022, gan nodi’r cynlluniau a’r amserlenni ar gyfer adolygu a diweddaru safonau wedi’u cysoni a chanllawiau Gwasanaeth Ystadegol y Llywodraeth.
- Bydd SYG yn canolbwyntio ar yr ymatebydd wrth gynllunio ei holl arolygon. Bydd y gwaith a wnaed eisoes sydd wedi dilyn y trywydd hwn yn cael ei gyfuno a’i rannu â defnyddwyr, a bydd yn llywio cynllun y strategaeth, y map, a’r broses o gasglu data arolygon yn y dyfodol. Bydd hyn yn golygu bod y profiad o gwblhau arolwg yn berthynol, yn ddealladwy, ac yn briodol i ymatebwyr.
- Bydd Tîm Digidol Canolfan Cydraddoldeb Swyddfa’r Cabinet yn gweithio gyda chydweithwyr polisi a dadansoddi er mwyn sicrhau bod egwyddorion hygyrchedd, profi defnyddwyr a chynllun cynnwys yn cael eu rhoi ar waith gydag arolygon ysgrifenedig a chwestiynau ymgynghoriadau.
- Bydd Uned Anabledd Swyddfa’r Cabinet yn datblygu ei harolwg o bobl anabl ledled y DU gan weithio gyda SYG a rhanddeiliaid eraill, ac arbenigwyr ar brofiadau go iawn pobl anabl, er mwyn sicrhau dealltwriaeth gysyniadol o’r wybodaeth sydd ei hangen a chynnal profion helaeth er mwyn sicrhau ei fod yn hygyrch ac yn cynhyrchu data priodol.
- Bydd Llywodraeth yr Alban yn diweddaru canllawiau ar gasglu data a geirio cwestiynau wrth gasglu data ar gydraddoldeb. Caiff y canllawiau newydd hyn, sy’n debygol o fod yn seiliedig ar gwestiynau Cyfrifiad 2022 neu safonau presennol SYG sydd wedi’u cyfuno, yn cael eu cyflwyno ar draws y sector cyhoeddus yn yr Alban yn 2022.
- Bydd cynllun arolwg panel 6 wythnos yr Adran Addysg o athrawon ac arweinwyr ysgolion a cholegau, y Panel Ysgolion a Cholegau, yn parhau i fod yn seiliedig ar ymgysylltu â thimau polisi er mwyn comisiynu cwestiynau i’w cynnwys sy’n seiliedig ar resymeg glir o angen adrannol a chraffu trylwyr. Lle bo modd bydd yr arolwg yn defnyddio cwestiynau safonedig sy’n bodoli eisoes gyda chwestiynau newydd yn seiliedig ar arfer orau cynllunio a phrofion gwybyddol er mwyn sicrhau cynnyrch terfynol sy’n hawdd ei ddeall ac yn berthnasol i’r sector. Ar hyn o bryd mae’r arolwg wedi’i gomisiynu ar gyfer blynyddoedd academaidd 2021-22 a 2022-23 ac mae’n debygol o gael ei ail-gomisiynu yn y blynyddoedd i ddod.
- Bydd cynllun Arolwg Teithio Cenedlaethol yr Adran Drafnidiaeth yn parhau i gael ei oruchwylio gan ystadegwyr proffesiynol a chaiff ei gynnal gan gontractwr profiadol ar ran yr Adran a bydd cwestiynau newydd yn dal i gael eu profi cyn eu hychwanegu at yr arolwg.
- Bydd yr Adran Codi’r Gwastad, Tai a Chymunedau yn parhau i weithio’n agos gyda grwpiau Partneriaeth Gwybodaeth Ganolog a Lleol awdurdodau lleol i adolygu unrhyw ofynion newydd o ran data a chynnal profion addasrwydd cyn mynd yn fyw.
- Yn sgil ymgynghori â Chanolfan Cydraddoldeb Swyddfa’r Cabinet a’r gweinyddiaethau datganoledig, bydd SYG yn cyhoeddi Cynllun Cysoni Gwasanaeth Ystadegol y Llywodraeth ar ddechrau 2022, gan nodi’r cynlluniau a’r amserlenni ar gyfer adolygu a diweddaru safonau wedi’u cysoni a chanllawiau Gwasanaeth Ystadegol y Llywodraeth.
- Bydd gweithgor Creu Amrywiaeth a Chynhwysiant Swyddogaeth Dadansoddi’r Llywodraeth yn ymestyn ei Becyn Cymorth Cynhwysiant i dimau dadansoddol i gynnwys adran ar arfer orau dadansoddi cynhwysol, gan ddarparu adnoddau i gefnogi eglurder wrth adrodd ar gynwysoldeb. Caiff y pecyn cymorth ei fireinio yn 2022 ac yna caiff ei ddiweddaru bob 6 mis.
- Bydd SYG, drwy’r Pwyllgor Rhyngweinyddu a fforymau perthnasol eraill, yn hwyluso’r gwaith o nodi mentrau ar draws llywodraeth y DU a’r gweinyddiaethau datganoledig i wella eglurder iaith, rhannu arfer orau a mabwysiadu safonau wedi’u cysoni lle bo modd. Mae’r mentrau’n cynnwys y canlynol:
- Bydd Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon yn llunio canllawiau ar fonitro poblogaethau ethnig er mwyn darparu fframwaith safonedig er mwyn helpu cyrff cyhoeddus i gasglu gwybodaeth mewn modd cyson ond hyblyg, gan wella’r broses o ddarparu gwasanaethau a chydraddoldeb i wahanol boblogaethau ethnig a mudol sy’n byw yng Ngogledd Iwerddon. Ystyrir y canllawiau yn 2022, ac fe’u rhoddir ar waith yn amodol ar gytuno arnynt erbyn diwedd 2022.
- Bydd yr Adran dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon yn parhaui adolygu holiaduron ac yn darparu eglurder lle bo angen, gan barhau i ddefnyddio mesurau wedi’u cysoni a sicrhau yr adroddir ar ystadegau’n gywir.
- Bydd SYG yn gweithio gyda chymunedau, adrannau eraill y llywodraeth ac academyddion i sicrhau bod yr iaith a ddefnyddir wrth gyhoeddi allbynnau a gwaith dadansoddi o Gyfrifiad 2021 Cymru a Lloegr yn eglur ac yn briodol.
- Yn ystod 2022, bydd Llywodraeth yr Alban yn cynorthwyo cyrff yn yr Alban i roi newidiadau ar waith yn sgil cyhoeddi canllawiau ar gasglu data ar ryw, rhywedd a statws traws a gyhoeddwyd ym mis Medi 2021. Ystyrir hyn fel rhan o Adolygiad Cysoni Gwasanaeth Ystadegol y Llywodraeth.
- Bydd y Swyddfa Gartref yn adolygu safonau data yn Rhaglen Cynyddu Niferoedd yr Heddlu er mwyn sicrhau bod yr iaith a ddefnyddir wrth gasglu data, yn enwedig o ran rhyw a rhywedd, yn eglur gan sicrhau y gellir cyflwyno adroddiadau cliriach. Cynhelir yr adolygiad nesaf ar ddechrau 2022.
- Bydd Llywodraeth Cymru yn adolygu’r defnydd o’r termau rhyw a rhywedd wrth gasglu a dadansoddi data er mwyn sicrhau defnydd cyson, eglur a chynhwysol ar draws Llywodraeth Cymru.
- Bydd y Swyddfa Myfyrwyr yn sicrhau mwy o eglurder mewn cyhoeddiadau ynghylch sut mae data wedi cael eu casglu a’r defnydd o’r termau rhyw a rhywedd er mwyn sicrhau bod defnyddwyr yn deall y nodweddion yr adroddir arnynt.
- Yn ddiweddar mae’r Adran Codi’r Gwastad, Tai a Chymunedau wedi adolygu a diwygio’r diffiniadau o ryw a rhywedd yn y set ddata digartrefedd statudol er mwyn cynrychioli grwpiau anneuaidd yn well. Cyflwynir prosesau casglu data sy’n defnyddio diffiniadau newydd ym mis Ebrill 2022 a bydd cyhoeddi yn seiliedig ar y diffiniadau hyn o 2023 ymlaen.
- Yn 2022, bydd CThEM yn comisiynu adolygiad o fetadata ystadegau swyddogol a lle bo angen yn gwella gwybodaeth gyhoeddedig am y ffordd mae data wedi’u casglu mewn cyhoeddiadau ystadegau swyddogol.
- Yn 2022, bydd yr Adran dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon yn adolygu dogfennaeth sy’n ategu cyhoeddiadau arolygon er mwyn sicrhau bod metadata yn cael eu rhoi i ddefnyddwyr i asesu ansawdd ac addasrwydd data.
- Bydd SYG yn sicrhau bod metadata priodol yn ategu holl allbynnau Cyfrifiad 2021 Cymru a Lloegr, yn cynnwys mewn perthynas â chyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth o ran rhywedd, ethnigrwydd, hunaniaeth genedlaethol, iaith a chrefydd, gan roi eglurder i ddefnyddwyr ynghylch y ffordd mae’r data wedi cael eu casglu a’u cyfuno. Ceir cyhoeddiadau yn ystod 2022 a 2023, a bydd lle i gyhoeddiadau ychwanegol yn ystod 2023 a 2024 yn amodol ar anghenion defnyddwyr.
- Bydd SYG yn sicrhau bod yr holl gyhoeddiadau sy’n seiliedig ar ei Harolwg o’r Farchnad Lafur yn cael eu hategu gan wybodaeth berthnasol allweddol o’r arolwg, yn cynnwys, ymatebion yn ôl dull a chyfraddau ymateb, ond heb fod yn gyfyngedig i hynny.
- Mae SYG yn cynnal asesiad parhaus o ansawdd ffynonellau gweinyddol a ddefnyddir i drawsnewid ystadegau o’r boblogaeth ac ystadegau cymdeithasol SYG. Bydd hyn yn cynhyrchu metadata a fydd yn helpu cynhyrchwyr a defnyddwyr i ddeall cryfderau a chyfyngiadau’r ffynonellau gweinyddol. Bydd datganiadau a diweddariadau parhaus i fetadata ac adroddiadau ansawdd yn ystod 2022 a 2023.
- Bydd yr Adran Codi’r Gwastad, Tai a Chymunedau yn parhau i gyhoeddi amrywiaeth o fetadata i gefnogi allbynnau cyhoeddedig yn cynnwys adroddiadau ansawdd sy’n tynnu sylw at y dulliau a ddefnyddiwyd a gwybodaeth berthnasol arall.