Egwyddor Data Cynhwysol 8
Sicrhau bod data a thystiolaeth y DU yr un mor hygyrch i bawb, gan ddiogelu manylion adnabod a chyfrinachedd y rhai sy’n rhannu eu data.
Ein dull
Byddwn yn cynnwys ystod ehangach o bobl er mwyn deall sut i wneud data a thystiolaeth yn fwy hygyrch, wrth ddiogelu data, a chymryd camau i wella hygyrchedd.
Mae cynhyrchwyr data’r llywodraeth yn adolygu eu hallbynnau er mwyn asesu hygyrchedd a sicrhau bod safonau hygyrchedd yn cael eu mabwysiadu. Bydd gwaith SYG yn datblygu’r Gwasanaeth Data Integredig yn chwarae rôl allweddol o ran hygyrchedd data yn y dyfodol a galluogi gwaith dadansoddi croestoriadol gwell.
Mae SYG yn datblygu’r Gwasanaeth i wella a chynyddu’n sylweddol fynediad at ddata a’r defnydd o ddata ledled y DU, gan ddadansoddwyr yn Adrannau Llywodraeth y DU, y Gweinyddiaethau Datganoledig, y Gwasanaeth Iechyd Gwladol ac Awdurdodau Lleol. Bwriedir i’r gwasanaeth hwn ei gwneud yn hawdd i ymchwilwyr gael mynediad, wrth hefyd ddiogelu cyfrinachedd testunau data bob amser, gan ddefnyddio rheolaethau technegol a gweithredol helaeth, a systemau llywodraethu cadarn a thryloyw.
Gwaith sy'n mynd rhagddo ac yn yr arfaeth
- Bydd Canolfan Cydraddoldebau a Chynhwysiant SYG yn hwyluso’r gwaith o ystyried datblygu adnodd data a dadansoddi cydraddoldebau canolog, chwiliadwy a hygyrch ar gyfer y DU gyfan yng nghyd-destun datblygu’r Gwasanaeth Data Integredig.
- Bydd y Swyddfa Gartref yn parhau i ddatblygu ei datganiadau ystadegol er mwyn sicrhau eu bod yn addas i arbenigwyr a phobl eraill sy’n eu defnyddio. Bydd hyn yn cynnwys cynyddu nifer y setiau data sydd ar gael mewn fformat data agored fel y gall defnyddwyr gynnal eu dadansoddiadau eu hunain. Hefyd, mae rhaglen waith yn mynd rhagddi i barhau i wella hygyrchedd datganiadau ystadegol y Swyddfa Gartref, yn cynnwys lleihau nifer y dogfennau PDF a ddefnyddir a chynyddu argaeledd ystadegau a gyhoeddir mewn fformat HTML.
- Mae Ofqual wedi bod yn arwain menter ar natur agored data gyda Gwasanaeth Derbyn Prifysgolion a Cholegau a SYG (prosiect rhannu data GRADE) er mwyn rhannu data ar fyfyrwyr TGAU a Safon Uwch, gan sicrhau bod microddata gweinyddol ar gael i ymchwilwyr achrededig drwy Wasanaeth Ymchwil Diogel SYG. Mae hyn yn galluogi ymchwil annibynnol yn seiliedig ar ddata dan ffugenw, yn cynnwys galluogi craffu ar ddyfarnu graddau yn 2020 ac yn arbennig ar grwpiau gwarchodedig. Mae data ar gyfer 2017-2020 bellach ar gael, a bydd data 2021 ar gael erbyn diwedd gwanwyn 2022. Rhennir rhagor o ddata yn y dyfodol yn dibynnu ar alw.
- Mae SYG yn datblygu adnoddau tirweddu data er mwyn helpu defnyddwyr i ddefnyddio ystadegau a gyhoeddir ar drosedd a chyfiawnder. Yn 2022, caiff yr adnodd ei gyhoeddi gan ddwyn ynghyd ddata sydd wedi’u cyhoeddi ar fesurau niwed troseddau.
- Bydd Canolfan Cydraddoldeb Swyddfa’r Cabinet yn ymchwilio i’r hyn mae defnyddwyr ei angen o ran dangosfyrddau data archwiliadol a lywir o’i Storfa Ddata Cydraddoldeb. Gwneir gwaith i greu, profi a chyhoeddi dangosfyrddau yn 2022 a cheir fersiynau pellach mewn ymateb i adborth defnyddwyr yn 2023.
- Bydd Llywodraeth yr Alban yn parhau i ddiweddaru a gwella’r adnodd Canfod Tystiolaeth Cydraddoldeb, gan gydweithio â defnyddwyr er mwyn sicrhau ei fod yn diwallu anghenion.
- Mae Llywodraeth Cymru yn ystyried symud ei hadnodd canlyniadau Arolwg Cenedlaethol rhyngweithiol o fformat Excel i fformat ar y we. Bydd hyn yn gwella hygyrchedd ac yn cadw’r adnodd yn syml sy’n bwysig i ddefnyddwyr.
- Mae’r Adran Addysg yn parhau i ddatblygu llwyfan i rannu ystadegau swyddogol (Explore Education Statistics) sy’n sicrhau safonau data agored cyson ar gyfer pob cyhoeddiad ac yn ei gwneud hi’n hawdd cael gafael ar ddata sydd wedi’u cyhoeddi drwy wasanaeth gwe hygyrch. Mae hyn yn galluogi defnyddwyr i greu tablau cryno a gwneud gwaith dadansoddi eilaidd drwy adnodd creu tablau hunanwasanaeth. Bydd y ffordd mae’r gwasanaeth yn gweithio yn cael ei gwella fesul tipyn drwy’r cam beta cyhoeddus yn seiliedig ar adborth defnyddwyr. Hefyd, mae’r Adran Addysg yn ystyried defnyddio dangosfyrddau ategol (drwy R Shiny neu PowerBI) i eistedd ochr yn ochr â’i Hystadegau Swyddogol cyhoeddedig er mwyn gwneud data a gwaith dadansoddi yn fwy hygyrch.
- Bydd Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig yn datblygu ymhellach ei Fframwaith Dangosyddion Canlyniadau ar-lein ar gyfer dangosfwrdd y Cynllun Amgylcheddol 25 mlynedd, sy’n galluogi defnyddwyr i archwilio plotiau ar draws amrywiaeth o themâu amgylcheddol. Caiff y dangosfwrdd ei ddiweddaru yng nghanol 2022.
- Bydd y Swyddfa Myfyrwyr yn adolygu’r dechnoleg a ddefnyddir i gynhyrchu dangosfyrddau data er mwyn iddi fod yn haws i ddefnyddwyr gael gafael ar ddata, ac er mwyn lleihau materion o ran hygyrchedd. Yn dibynnu ar ganlyniad yr adolygiad, dylai unrhyw welliannau gael eu rhoi ar waith yn 2023.
- Mae SYG yn cyflwyno adnoddau i gynnal adolygiad o gyfathrebu hygyrch a gwneud argymhellion ar gyfer dull gweithredu effeithiol a chynaliadwy i SYG.
- Fel rhan o’i gwaith i ddatblygu argymhelliad yr Ystadegydd Gwladol ar ddyfodol y cyfrifiad ac ystadegau o’r boblogaeth, bydd SYG yn ceisio adborth ar ei chyhoeddiadau a’i gwefan yn barhaus er mwyn nodi ffyrdd newydd ac arloesol o gynnwys cynulleidfaoedd amrywiol. Bydd y gwaith hwn yn mynd rhagddo nes i’r argymhellion gael eu cyflwyno yn 2023.
- Bydd SYG yn parhau i hyrwyddo mabwysiadu safonau hygyrchedd y llywodraeth mewn allbynnau ar draws system ystadegol y DU. Mae’r gweithgareddau presennol yn cynnwys y canlynol:
- Bydd tîm digidol Canolfan Cydraddoldeb Swyddfa’r Cabinet yn comisiynu archwiliad o hygyrchedd gwefan Ethnicity Facts and Figures yn 2022 ac eto yn 2025, ynghyd â pharhau i gynnal profion hygyrchedd ar unrhyw gynhyrchion neu wasanaethau newydd. Diben hyn yw sicrhau bod gwaith dadansoddi a data yn cael eu cyflwyno mewn ffordd glir a hygyrch, yn cynnwys mewn perthynas â’r iaith a ddefnyddir.
- Lle mae Canolfan Cydraddoldeb Swyddfa’r Cabinet yn casglu neu’n adrodd ar ddata, caiff yr allbynnau eu datblygu yn ôl Safon Gwasanaeth y Llywodraeth, sy’n cynnwys egwyddorion ar (1) deall defnyddwyr a’u hanghenion a (2) sut i wneud gwasanaethau yn ddefnyddiadwy ac yn hygyrch i bawb. Bydd y broses o gyhoeddi data yn cynnwys deall defnyddwyr y data ac unrhyw anghenion penodol. Gwneir hyn yn barhaus wrth i allbynnau newydd gael eu datblygu.
- Yn ystod y gwaith parhaus o ddatblygu ei llwyfan Explore Education Statistics, mae’r Adran Addysg wedi bod yn profi hygyrchedd y gwasanaeth yn rheolaidd, a bydd yn parhau i wneud hynny, er mwyn sicrhau y cydymffurfir â’r rheoliadau.
- Bydd Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) yn adolygu compendiwm Dangosyddion Bioamrywiaeth Ystadegau Gwladol am hygyrchedd, gan ddatblygu argymhellion ar gyfer gwelliannau pellach. Caiff yr adroddiad a’r argymhellion eu cyhoeddi yng nghanol 2022. Mae Defra hefyd wrthi’n trosglwyddo cyhoeddiadau presennol eraill i fformat HTML ac yn ehangu’r gwaith o gynhyrchu setiau data a chynnwys lefel uwch arall er mwyn diwallu anghenion defnyddwyr yn llawn.
- Mae’r Swyddfa Myfyrwyr wedi sefydlu gweithgor dadansoddol mewnol i adolygu a diweddaru canllawiau i’w dadansoddwyr ar faterion hygyrchedd fel bod datganiadau data yn y dyfodol yn hygyrch. Bydd hyrwyddwyr hygyrchedd yn mynd ati’n barhaus i hyrwyddo a chefnogi’r gwaith o gynhyrchu cynhyrchion data hygyrch.
- Bydd yr Adran Codi’r Gwastad, Tai a Chymunedau yn parhau i adolygu gofynion hygyrchedd a chyflwyno gwelliannau ar draws allbynnau er mwyn diwallu anghenion defnyddwyr yn well.
- Mae King’s College Llundain wedi llunio canllawiau ar wneud data yn fwy hygyrch er mwyn cynnwys dinasyddion mewn data a gwella eu dealltwriaeth ohonynt.
- Bydd tîm Nodau Datblygu Cynaliadwy SYG yn sicrhau bod gwefan data Nodau Datblygu Cynaliadwy’r DU yn cyrraedd safon hygyrchedd AA [o Ganllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We (2.1)] drwy ailasesu ac ardystio yn ystod haf 2022.
- Bydd yr Adran Addysg yn cyhoeddi rhagor o ddata o Gyfrifiad Ysgolion Lloegr o ran Prydau Ysgol am Ddim, yn cynnwys bod yn gymwys i’w cael dros y 6 blynedd flaenorol o fewn prif ystadegau gwladol nodweddion disgyblion; mae hyn mewn ymateb i ddiddordeb y cyhoedd.
- Bydd y Swyddfa Myfyrwyr yn cyhoeddi nodweddion ychwanegol myfyrwyr, nas nodir mewn man arall, fel rhan o’i chyhoeddiadau blynyddol presennol ar gydraddoldeb ac amrywiaeth ymhlith myfyrwyr addysg uwch a’u deilliannau addysgol, ynghyd â gwybodaeth am ansawdd data. Caiff y rhain eu cyhoeddi i ddechrau yn ystod haf 2022 ac yna bob blwyddyn.
- Bydd Llywodraeth yr Alban yn dadansoddi dangosyddion Fframwaith Perfformiad Cenedlaethol unigol neu’n seiliedig ar gartrefi i nodi’r graddau y mae dadansoddiadau o gydraddoldeb ar gael, ac ar gyfer pob dangosydd yn nodi cynllun i ddadansoddi’r dangosydd presennol yn ôl nodwedd warchodedig neu nodi dull amgen o ddarparu tystiolaeth.