Cyflwyniad
Mae’r dudalen hon hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Mae’r Cynllun hwn yn disgrifio sut y bydd Awdurdod Ystadegau’r DU, gan gynnwys ei gangen weithredol, y Swyddfa Ystadegau Gwladol (y SYG) a’r gangen reoleiddiol i’r Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau, yn gweithredu’r egwyddor a sefydlwyd gan Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993, cyn belled â’i fod yn briodol o dan yr amgylchiadau ac yn rhesymol ymarferol, sef y dylid trin y Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal wrth gyflawni busnes cyhoeddus a gweinyddu cyfiawnder yng Nghymru.
Mae’r holl wybodaeth a roddir yn y cynllun hwn yn berthnasol i wasanaethau rydym yn eu darparu i’r cyhoedd yng Nghymru, ni waeth ble mae’r staff neu’r timau sy’n cyflawni’r gwaith wedi’u lleoli.
Yn y cynllun hwn, mae’r term ‘cyhoedd’ yn cyfeirio at unigolion, pobl gyfreithiol a chyrff corfforaethol. Mae’n cynnwys y cyhoedd yn gyffredinol, neu adran o’r cyhoedd, yn ogystal ag aelodau unigol o’r cyhoedd. Mae’r term yn cynnwys sefydliadau gwirfoddol ac elusennau. Mae cyfarwyddwyr ac unigolion eraill sy’n cynrychioli cwmnïau cyfyngedig hefyd wedi’u cynnwys o fewn ystyr y term ‘cyhoedd’. Fodd bynnag, nid yw’n cynnwys unigolion sy’n gweithredu mewn rhinwedd sy’n cynrychioli’r Goron, y Llywodraeth neu’r Wladwriaeth. O ganlyniad, nid yw unigolion sy’n cyflawni swyddogaethau swyddogol o natur gyhoeddus, hyd yn oed os ydynt yn unigolion cyfreithiol, wedi’u cynnwys o fewn ystyr y gair cyhoedd pan fyddant yn cyflawni’r swyddogaethau swyddogol hynny.
Ceir rhagor o wybodaeth am gwmpas a diben cynlluniau iaith Gymraeg yng nghanllawiau Comisiynydd y Gymraeg.
Paratowyd y cynllun hwn o dan Adran 21 o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993 yn unol â chanllawiau a gyhoeddwyd gan Gomisiynydd y Gymraeg o dan Adran 9 o’r Ddeddf. Daeth ein cynllun blaenorol i rym ym mis Rhagfyr 2007. Cymeradwywyd y cynllun diwygiedig hwn gan Gomisiynydd y Gymraeg ar 5 Hydref 2023.
Cefndir y sefydliad
Mae Awdurdod Ystadegau’r DU yn gorff statudol annibynnol sy’n gweithredu hyd braich oddi wrth y llywodraeth fel adran anweinidogol ac mae’n atebol yn uniongyrchol i Senedd Cymru, Senedd y DU, Senedd yr Alban a Chynulliad Gogledd Iwerddon. Mae gan yr Awdurdod amcan statudol, sef hyrwyddo’r gwaith o gynhyrchu a chyhoeddi ystadegau swyddogol sydd ‘o fudd i’r cyhoedd’, a diogelu’r ystadegau hynny.
Y Swyddfa Ystadegau Gwladol yw cynhyrchydd ystadegau swyddogol annibynnol mwyaf y DU ac mae’n sefydliad ystadegol cenedlaethol cydnabyddedig. Mae’n gyfrifol am gasglu a chyhoeddi ystadegau sy’n ymwneud â’r economi, y boblogaeth a chymdeithas ar lefel genedlaethol, lefel ranbarthol a lefel leol.
Y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau sy’n gyfrifol am swyddogaeth rheoleiddio annibynnol yr Awdurdod. Mae ganddi swyddfeydd yng Nghymru, Lloegr a’r Alban ac mae’n cyflawni swyddogaeth reoleiddio annibynnol mewn perthynas â’r holl ystadegau swyddogol a gaiff eu cynhyrchu yn y DU. Ei nod yw gwella hyder y cyhoedd yn nibynadwyedd, ansawdd a gwerth ystadegau a gaiff eu cynhyrchu gan y llywodraeth, fel y nodir yn y safonau a ddiffinnir yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau.
Back to top