Darparu Gwasanaethau

Byddwn yn sicrhau bod ein gwasanaethau ar gael i’r cyhoedd yng Nghymru yn Gymraeg ac yn Saesneg fel arfer.

Byddwn yn rhoi gwybod i’r cyhoedd pan fydd gwasanaethau ar gael yn Gymraeg.

Mae gan gyrff yn y sector cyhoeddus yng Nghymru gyfrifoldeb am yr agweddau ymarferol ar safonau darparu gwasanaethau cyhoeddus lleol, a sicrhau y cydymffurfir â nhw, gan gynnwys unrhyw safonau a nodir yn eu priod Gynlluniau Iaith Gymraeg neu yn Safonau’r Gymraeg. Drwy ddilyn y darpariaethau a nodir yn y Cynllun Iaith Gymraeg hwn, byddwn yn cefnogi darpariaeth Gymraeg berthnasol cyrff eraill yn y sector cyhoeddus ac yn sicrhau nad ydym yn tanseilio eu cynlluniau iaith Gymraeg.

Ein swyddogaethau a'n gwasanaethau rheoleiddio a wneir ar ein rhan gan drydydd partïon

Bydd unrhyw gontractau neu drefniadau a wnawn gyda thrydydd partïon yn gyson â’r rhannau perthnasol o’r cynllun hwn, pan fydd y contractau neu’r trefniadau hynny’n berthnasol i ddarparu gwasanaethau i’r cyhoedd yng Nghymru.

Bydd hyn yn cynnwys gwasanaethau o dan gontract allanol, rhoi trwyddedau a chaniatadau eraill.

Safonau ansawdd

Bydd gwasanaethau a ddarperir yn Gymraeg a Saesneg yn gyfartal o ran ansawdd ac fe’u darperir o fewn yr un amserlen.

Gohebiaeth

Mae hyn yn berthnasol i ohebiaeth ysgrifenedig a thrwy e-bost.

Pan fydd rhywun yn ysgrifennu atom yn Gymraeg, byddwn yn ymateb yn Gymraeg (os bydd angen ymateb). Bydd yn cymryd yr un faint o amser i ymateb ag y byddai i ymateb i ohebiaeth Saesneg.

Pan fyddwn yn dechrau gohebu ag unigolyn, grŵp neu sefydliad, byddwn yn gwneud hynny yn Gymraeg pan fyddwn yn gwybod y byddai’n well ganddynt ohebu yn Gymraeg.

Pan fyddwn yn anfon llythyr safonol neu gylchlythyr at sawl un yng Nghymru, bydd hwnnw’n ddwyieithog oni wyddom y byddai’n well gan bob un ei dderbyn yn Gymraeg neu yn Saesneg yn unig.

Os bydd angen i ni gynhyrchu fersiynau o ohebiaeth yn Gymraeg ac yn Saesneg ar wahân, byddwn yn sicrhau bod y ddwy fersiwn ar gael ar yr un pryd.

Bydd dogfennau amgaeëdig a anfonir gyda llythyrau dwyieithog yn ddwyieithog hefyd.

Bydd dogfennau amgaeëdig a anfonir gyda llythyrau Cymraeg yn Gymraeg.

Bydd pob math o ohebiaeth Gymraeg y byddwn yn ei hanfon ar ffurf copi caled yn cael ei llofnodi yn yr un modd â’r fersiwn Saesneg.

Bydd pob math o ohebiaeth drwy e-bost yn Gymraeg y byddwn yn ei hanfon yn cynnwys llofnod electronig Cymraeg (neu ddwyieithog) yn yr un modd â’r fersiwn Saesneg.

Bydd angen i bob maes busnes ddatblygu system i gofnodi dewis iaith y rheini sy’n dymuno gohebu â ni yn Gymraeg.

Galwadau ffôn

Byddwn yn sicrhau y gall y cyhoedd siarad yn Gymraeg neu yn Saesneg wrth ddelio â ni dros y ffôn. Mae’r rhif isod yn galluogi defnyddwyr i siarad yn Gymraeg neu yn Saesneg wrth gysylltu â’r sefydliad:

Ymholiadau Cyffredinol ac Ystadegol (Casnewydd): 0345 601 3034

Byddwn yn annog ein staff yng Nghymru i ateb y ffôn gyda chyfarchiad dwyieithog a defnyddio negeseuon dwyieithog ar eu peiriannau ateb personol (os oes ganddynt rai).

Bydd galwyr sy’n cysylltu â’r prif rif ymholiadau ar gyfer y swyddfa yng Nghasnewydd yn cael cyfarchiad dwyieithog.

Bydd ein prif switsfwrdd yng Nghymru yn defnyddio neges ddwyieithog ar ei beiriant ateb.

Os yw’r galwr am siarad Cymraeg, bydd ein switsfwrdd yn ceisio cysylltu’r alwad â siaradwr Cymraeg sy’n gymwys i ddelio’r â’r ymholiad.

Os bydd galwr yn ffonio aelod o staff yn uniongyrchol ac yn dymuno siarad Cymraeg, ond nid yw’r unigolyn sy’n derbyn yr alwad yn gallu gwneud hynny, bydd yn ceisio trosglwyddo’r alwad i gydweithiwr sy’n siarad Cymraeg ac sy’n gymwys i ddelio â’r ymholiad. Os nad oes siaradwr Cymraeg ar gael sy’n gymwys i ddelio â’r ymholiad, rhoddir y dewis i’r galwr, fel y bo’n briodol, o gael siaradwr Cymraeg i’w ffonio yn ôl cyn gynted â phosibl, parhau â’r alwad yn Saesneg neu gyflwyno ei ymholiad yn Gymraeg drwy lythyr neu e-bost.

Pan fyddwn yn sefydlu llinellau cymorth dros y ffôn, neu gyfleusterau tebyg, i ddarparu gwybodaeth, gwasanaethau neu gymorth i’r cyhoedd yng Nghymru, byddwn yn darparu gwasanaeth iaith Gymraeg.

Cyfarfodydd nad ydynt ar agor i'r cyhoedd

Os byddwn yn gwahodd rhanddeiliad allanol i gyfarfod a’i fod yn nodi ymlaen llaw yr hoffai ddefnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod, yna byddwn yn darparu gwasanaeth cyfieithu ar y pryd o’r Gymraeg i’r Saesneg.

Os byddwn yn gwahodd mwy nag un rhanddeiliad allanol i gyfarfod a bod o leiaf 10% ohonynt wedi nodi yr hoffent ddefnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod, yna byddwn yn darparu gwasanaeth cyfieithu ar y pryd o’r Gymraeg i’r Saesneg.

Cyfarfodydd sydd ar agor i'r cyhoedd

Pan fyddwn yn trefnu cyfarfod sydd ar agor i’r cyhoedd yng Nghymru, byddwn yn nodi ar yr holl ddeunyddiau hysbysebu a gwahoddiadau fod croeso i unrhyw un sy’n bresennol ddefnyddio’r Gymraeg.

Caiff yr holl ddeunyddiau i hysbysebu cyfarfod sydd ar agor i’r cyhoedd yng Nghymru eu cynhyrchu yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Dylem wahodd y cyhoedd i roi gwybod i ni ymlaen llaw pa iaith yr hoffent ei defnyddio yn y cyfarfod, ac os hoffai unrhyw un ddefnyddio’r Gymraeg, yna byddwn yn darparu gwasanaeth cyfieithu ar y pryd o’r Gymraeg i’r Saesneg. Os byddwn wedi cael gwybod bod unrhyw gyfranogwyr yn dymuno defnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod, bydd y rheini sy’n mynd i’r cyfarfod yn cael gwybod bod gwasanaeth cyfieithu ar y pryd o’r Gymraeg i’r Saesneg ar gael a’n bod yn croesawu cyfraniadau yn Gymraeg.

Os na fyddwn yn gwahodd y cyhoedd i roi gwybod i ni am eu dewis iaith ymlaen llaw, yna byddwn yn darparu gwasanaeth cyfieithu ar y pryd o’r Gymraeg i’r Saesneg fel mater o drefn.

Os byddwn yn gwahodd siaradwyr i gyfarfod sydd ar agor i’r cyhoedd, byddwn yn gofyn i bob person a wahoddir i siarad a hoffent ddefnyddio’r Gymraeg. Os bydd o leiaf un o’r bobl hynny wedi rhoi gwybod i ni yr hoffent ddefnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod, byddwn yn darparu gwasanaeth cyfieithu ar y pryd o’r Gymraeg i’r Saesneg at y diben hwnnw.

Byddwn yn darparu papurau a gwybodaeth arall ar gyfer cyfarfodydd sydd ar agor i’r cyhoedd yng Nghymru yn Gymraeg ac yn Saesneg oni fyddwn wedi cadarnhau y bydd pob cyfranogwr yn defnyddio’r un iaith.

Bydd adroddiadau neu bapurau a gynhyrchir yn dilyn cyfarfodydd sydd ar agor i’r cyhoedd yng Nghymru yn cael eu cyhoeddi yn Gymraeg ac yn Saesneg (oni bai bod yr holl gyfranogwyr wedi defnyddio’r un iaith).

Ymgyngoriadau cyhoeddus

Pan fyddwn yn trefnu ymgynghoriad cyhoeddus yng Nghymru, neu sy’n berthnasol i’r cyhoedd yng Nghymru, byddwn yn nodi ar yr holl ddeunyddiau hysbysebu a gwahoddiadau fod croeso i unrhyw un sy’n bresennol gyfrannu drwy gyfrwng y Gymraeg. Caiff yr holl ddeunyddiau i hysbysebu ymgynghoriad cyhoeddus yng Nghymru, neu sydd ar gyfer y cyhoedd yng Nghymru, eu cynhyrchu yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Dylem wahodd y cyhoedd i roi gwybod i ni ymlaen llaw pa iaith yr hoffent ei defnyddio yn ystod yr ymgynghoriad, ac os hoffai unrhyw un ddefnyddio’r Gymraeg, yna byddwn yn darparu gwasanaeth cyfieithu ar y pryd o’r Gymraeg i’r Saesneg. Os byddwn wedi cael gwybod bod unrhyw gyfranogwyr yn dymuno defnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod, bydd y rheini sy’n mynd i’r cyfarfod yn cael gwybod bod gwasanaeth cyfieithu ar y pryd o’r Gymraeg i’r Saesneg ar gael a’n bod yn croesawu cyfraniadau yn Gymraeg.

Os na fyddwn yn gwahodd y cyhoedd i roi gwybod i ni am eu dewis iaith ymlaen llaw, yna byddwn yn darparu gwasanaeth cyfieithu ar y pryd o’r Gymraeg i’r Saesneg fel mater o drefn.

Byddwn yn darparu papurau a gwybodaeth arall sy’n cefnogi ymgynghoriad cyhoeddus yng Nghymru, neu sydd ar gyfer y cyhoedd yng Nghymru, yn Gymraeg ac yn Saesneg, a chaiff y ddwy fersiwn eu darparu ar yr un pryd.

Bydd unrhyw adnoddau digidol a ddarperir fel rhan o ymgynghoriad cyhoeddus yng Nghymru, neu sydd ar gyfer y cyhoedd yng Nghymru, ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Bydd adroddiadau neu bapurau a gynhyrchir yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus yng Nghymru, neu sydd ar gyfer y cyhoedd yng Nghymru, yn cael eu cyhoeddi yn Gymraeg ac yn Saesneg (oni bai bod yr holl gyfranogwyr wedi defnyddio’r un iaith).

Digwyddiadau cyhoeddus

Os byddwn yn trefnu digwyddiad cyhoeddus yng Nghymru, wrth hyrwyddo’r digwyddiad byddwn yn sicrhau na chaiff y Gymraeg ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg (er enghraifft, yn y ffordd y caiff y digwyddiad ei hysbysebu neu ei hyrwyddo).

Mewn unrhyw ddigwyddiad cyhoeddus yng Nghymru a drefnwyd gennym, byddwn yn sicrhau bod gwasanaethau a gynigir i bobl sy’n mynd i’r digwyddiad, yn ogystal â’r arwyddion a gaiff eu harddangos yn y digwyddiad a chyhoeddiadau a wneir dros systemau sain, yn Gymraeg ac yn Saesneg hefyd.

Wrth staffio stondinau arddangos ac arddangosiadau cyhoeddus yng Nghymru, byddwn yn sicrhau bod siaradwyr Cymraeg cymwys yn bresennol, yn ôl yr angen. Bydd unrhyw arddangosiadau clyweledol, teithiau tywys sain neu gyfryngau rhyngweithiol a baratown at ddefnydd y cyhoedd yng Nghymru yn ddwyieithog.

Cyhoeddusrwydd a hysbysebu

Mae hyn yn berthnasol i ymgymryd ag unrhyw ymgyrch cyhoeddusrwydd neu hysbysebu ar gyfer y cyhoedd yng Nghymru.

Bydd unrhyw ddeunydd cyhoeddusrwydd neu hysbysebu y byddwn yn ei gynhyrchu a’i ddefnyddio yng Nghymru yn Gymraeg ac yn Saesneg, a gellir ei gynhyrchu ar ffurf ddwyieithog, neu fel fersiynau Cymraeg a Saesneg ar wahân.

Os bydd angen cyhoeddi’r fersiynau Cymraeg a Saesneg ar wahân, byddwn yn sicrhau bod y fersiwn Gymraeg o’r un fformat, amlygrwydd ac ansawdd â’r un Saesneg ac y bydd y ddwy fersiwn ar gael ar yr un pryd ac y bydd yr un mor hawdd cael gafael arnynt.

Bydd unrhyw hysbysebion a roddir yn y papurau newydd Saesneg (neu debyg) a ddosberthir yn bennaf neu yn gyfan gwbl yng Nghymru yn ddwyieithog, neu byddant yn ymddangos fel fersiynau Cymraeg a Saesneg ar wahân (gyda’r ddwy fersiwn yn ymddangos ar yr un pryd, ac o’r un fformat, amlygrwydd ac ansawdd).

Bydd hysbysebion mewn cyhoeddiadau Cymraeg yn Gymraeg yn unig.

Trefnir hysbysebion teledu, sinema a radio yng Nghymru yn Gymraeg ac yn Saesneg. Bydd ymgyrchoedd teledu sy’n ymddangos ar S4C yn ystod oriau rhaglenni Cymraeg yn Gymraeg. Bydd ymgyrchoedd radio a ddarlledir ar BBC Radio Cymru neu yn ystod rhaglenni Cymraeg ar orsafoedd radio masnachol yn Gymraeg.

Wrth gynhyrchu deunydd fideo fel rhan o ymgyrch cyhoeddusrwydd ar gyfer y cyhoedd, os bydd y pwnc yn berthnasol ac o ddiddordeb i Gymru neu’r cyhoedd yng Nghymru, caiff fersiynau Cymraeg a Saesneg eu cynhyrchu. Byddwn yn osgoi defnyddio isdeitlau Cymraeg ar fideos Saesneg eu hiaith neu ddybio hysbysebion i’r Gymraeg (ac eithrio trosleisio).

Bydd llinellau ymateb dros y ffôn a ffyrdd eraill o ymateb i ymgyrchoedd yng Nghymru yn ddwyieithog neu byddant yn cynnwys gwasanaeth ymateb Cymraeg ar wahân.

Y cyfryngau

Dylai datganiadau i’r wasg gael eu cynhyrchu a’u dosbarthu yn Gymraeg ac yn Saesneg os bydd y pwnc yn berthnasol ac o ddiddordeb i Gymru neu’r cyhoedd yng Nghymru.

Caiff datganiadau newyddion ar gyfer y wasg a’r cyfryngau darlledu yng Nghymru yn benodol eu cyhoeddi yn Gymraeg ac yn Saesneg, neu yn ôl dewis iaith y sefydliad cyfryngau neu’r cyhoeddiad sy’n derbyn y datganiad.

Pan fyddwn yn cyhoeddi datganiadau i’r wasg neu ddatganiadau newyddion ar ein gwefan, byddwn yn eu cyhoeddi yn Gymraeg ac yn Saesneg pan fyddant yn berthnasol ac o ddiddordeb i Gymru neu’r cyhoedd yng Nghymru.

Caiff pob datganiad i’r wasg a roddir i’r cyfryngau Cymraeg ei gyhoeddi’n Gymraeg. Lle y bo’n bosibl, byddwn yn sicrhau y gall siaradwyr Cymraeg gynnal cyfweliadau â’r wasg a’r cyfryngau darlledu Cymraeg.

Gwefannau a gwasanaethau digidol

Bydd ein gwefannau yn cynnwys tudalennau yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Pan fydd gennym dudalennau gwe Cymraeg sy’n cyfateb i dudalen we Saesneg, byddwn yn sicrhau bod y dudalen we Saesneg yn nodi’n glir fod y dudalen ar gael yn Gymraeg hefyd, a bod dolen uniongyrchol i’r dudalen Gymraeg.

Byddwn yn sicrhau bod y rhyngwyneb defnyddwyr a’r dewislenni ar bob tudalen ar ein gwefan ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Dylai’r holl gynnwys statig sy’n cefnogi ein gweithrediadau ac sy’n berthnasol ac o ddiddordeb i Gymru neu’r cyhoedd yng Nghymru fod ar gael yn ddwyieithog. Byddwn yn darparu fersiynau Cymraeg o’r tudalennau rhyngweithiol ar ein gwefannau.

Pan fyddwn yn cyhoeddi cyhoeddiadau ar ein gwefannau, caiff fersiynau Cymraeg a Saesneg eu cyhoeddi ar yr un pryd, lle y bo’n berthnasol.

Wrth ddylunio gwefannau newydd, neu ailddatblygu ein gwefannau presennol, byddwn yn sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei hystyried yn y broses gynllunio er mwyn sicrhau darpariaeth ddwyieithog.

Y cyfryngau cymdeithasol

Bydd ein gweithgarwch ar y cyfryngau cymdeithasol sy’n ymwneud â phynciau penodol i Gymru, neu yr ystyrir eu bod yn berthnasol ac o ddiddordeb i Gymru neu’r cyhoedd yng Nghymru, ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Pan fyddwn yn defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol, byddwn yn sicrhau nad yw’r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg.

Bydd cynnwys digidol a gaiff ei gynhyrchu ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg os bydd yn ymwneud â phynciau penodol i Gymru neu yr ystyrir eu bod yn berthnasol i gynulleidfa yng Nghymru.

Cyhoeddiadau

Mae hyn yn berthnasol i ddogfennau ffisegol yn ogystal â dogfennau a gaiff eu cyhoeddi’n electronig.

Byddwn yn cynhyrchu cyhoeddiadau dwyieithog yn Gymraeg ac yn Saesneg ar bynciau sy’n berthnasol ac o ddiddordeb i’r cyhoedd yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys pynciau sy’n ymwneud â’r DU gyfan, gan gynnwys dadansoddiadau sy’n berthnasol ac o ddiddordeb i Gymru neu’r cyhoedd yng Nghymru, yn ogystal â phynciau sy’n ymwneud â Chymru yn unig (e.e. y Gymraeg). Ni fydd angen cyfieithu pynciau sy’n berthnasol i Loegr yn unig.

Mae Tîm y Gymraeg Awdurdod Ystadegau’r DU wedi llunio siart lif, y mae Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg wedi cytuno arni, er mwyn nodi’n glir ac yn wrthrychol pa ddeunyddiau ddylai gael eu cyhoeddi yn Gymraeg ac yn Saesneg ar gyfer cynulleidfa yng Nghymru. Bydd Tîm y Gymraeg Awdurdod Ystadegau’r DU yn rhoi arweiniad a chymorth i feysydd busnes ar faterion sy’n ymwneud â chyfieithu.

Os bydd angen cyhoeddi’r fersiynau Cymraeg a Saesneg ar wahân, bydd y ddwy fersiwn o’r un ansawdd a fformat, a byddwn yn sicrhau eu bod ar gael ar yr un pryd a’i bod yr un mor hawdd cael gafael arnynt. Bydd pob fersiwn yn nodi’n glir bod y deunydd ar gael yn yr iaith arall.

Os codir tâl am gyhoeddiad, ni fydd pris y fersiwn Gymraeg yn uwch na phris y fersiwn Saesneg, ac ni fydd pris y fersiwn ddwyieithog yn fwy na fersiwn iaith unigol.

Cynnwys technegol

Mewn rhai achosion, mae’n bosibl na fydd angen cynhyrchu cynnwys yn Gymraeg os ystyrir ei fod yn ystadegol dechnegol, neu’n arbenigol mewn ffordd ddadansoddol arall. Y rheswm am hyn yw mai dim ond nifer cyfyngedig iawn o ddefnyddwyr technegol a/neu ddadansoddwyr arbenigol sy’n defnyddio’r mathau hyn o ddogfennau neu ddata fel arfer.

Gallai hyn gynnwys erthygl fethodolegol neu setiau data ar gyfer defnyddwyr technegol. Gallai hefyd gyfeirio at gynnwys sydd ar gyfer gweithwyr dadansoddol proffesiynol y byddai’n anodd ei ddeall heb wybodaeth arbenigol am bwnc, neu sy’n cynnwys llawer iawn o dermau sy’n ymwneud â gwybodaeth, systemau neu ddulliau a ddefnyddir mewn gwyddorau a diwydiannau penodol.

Byddwn yn nodi’n glir bod croeso i aelodau o’r cyhoedd ofyn am unrhyw ddogfennaeth dechnegol neu setiau data penodol yn Gymraeg, a darperir hyn mewn modd amserol.

Ffurflenni a holiaduron, a deunydd eglurhaol cysylltiedig

Byddwn yn sicrhau bod pob ffurflen a holiadur, a deunydd eglurhaol cysylltiedig, a ddefnyddir gan y cyhoedd yng Nghymru yn gwbl ddwyieithog, a bydd y fersiynau Cymraeg a Saesneg gyda’i gilydd mewn un ddogfen, oni bai ein bod wedi cadarnhau dewis iaith unigolion ymlaen llaw. Bydd hyn yn cynnwys ffurflenni rhyngweithiol sydd ar gael ar ein gwefannau.

Os bydd angen cyhoeddi’r fersiynau Cymraeg a Saesneg o ffurflenni neu holiaduron ar wahân, bydd y ddwy fersiwn o’r un ansawdd a fformat, a byddwn yn sicrhau eu bod ar gael ar yr un pryd a’i bod yr un mor hawdd cael gafael arnynt. Bydd pob fersiwn yn nodi’n glir bod y deunydd ar gael yn yr iaith arall.

Pan fyddwn yn mewnbynnu gwybodaeth ar ffurflenni a holiaduron dwyieithog a anfonir at y cyhoedd, byddwn yn gwneud hynny yn ddwyieithog, oni bai ein bod yn gwybod y byddai’n well gan bob un dderbyn y wybodaeth yn Gymraeg neu yn Saesneg yn unig. Yn yr un modd, pan fyddwn yn mewnbynnu gwybodaeth ar fersiynau Cymraeg o ffurflenni a holiaduron a anfonir at y cyhoedd, byddwn yn gwneud hynny yn Gymraeg.

Pan fydd sefydliadau eraill yn dosbarthu ffurflenni a holiaduron ar ein rhan, byddwn yn sicrhau eu bod yn gwneud hynny yn unol â’r uchod.

Hunaniaeth gorfforaethol

Bydd ein hunaniaeth gorfforaethol yng Nghymru yn ddwyieithog bob amser.

Bydd ein henw, ein manylion cyswllt, ein logo, sloganau a gwybodaeth safonol arall yn ymddangos yn Gymraeg ac yn Saesneg ar unrhyw ddeunydd sy’n arddangos ein hunaniaeth gorfforaethol. Mae hyn yn cynnwys ein deunydd ysgrifennu fel cardiau busnes, bathodynnau adnabod ar gyfer staff arolwg, cardiau, tocynnau, cardiau cydnabod, slipiau cyfarch a gwahoddiadau.

Efallai y byddwn yn defnyddio brandio Cymraeg yn unig ar gyfer rhai mentrau.

Pan fyddwn yn llunio, yn diwygio neu’n cyflwyno ein hunaniaeth gorfforaethol yng Nghymru, byddwn yn sicrhau nad yw’r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg.

Arwyddion

Pan fyddwn yn gosod arwydd newydd neu’n adnewyddu arwydd (gan gynnwys arwyddion dros dro), yng Nghymru, byddant yn Gymraeg ac yn Saesneg, a chaiff y ddwy iaith eu cyflwyno’n gyfartal. Byddwn yn sicrhau bod arwyddion yn trin y Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal, ac y caiff y ddwy iaith eu cyflwyno yn yr un fformat a maint a gyda’r un ansawdd ac amlygrwydd.

Os darperir arwyddion Cymraeg a Saesneg ar wahân, byddant yn gyfartal o ran fformat, maint, ansawdd ac amlygrwydd.

Ein harfer orau ar gyfer arwyddion dwyieithog yw gosod y ddau destun ochr yn ochr os oes modd, gyda’r Gymraeg ar y chwith a’r Saesneg ar y dde. Os nad yw hyn yn bosibl, yna dylai’r testun Cymraeg ddod yn gyntaf, ac yna’r Saesneg.

Bydd yr uchod yn gymwys i bob math o arwydd, gan gynnwys arwyddion electronig.

Hysbysiadau swyddogol

Bydd hysbysiadau swyddogol, hysbysiadau cyhoeddus a hysbysiadau recriwtio staff a roddir mewn papurau newydd Saesneg (neu gyfryngau tebyg) a ddosberthir yn bennaf neu’n gyfan gwbl yng Nghymru yn ddwyieithog, neu byddant yn ymddangos fel fersiynau Cymraeg a Saesneg ar wahân. Caiff hysbysiadau Cymraeg eu rhoi mewn cyhoeddiadau Cymraeg.

Bydd fersiynau Cymraeg a Saesneg yn gyfartal o ran fformat, maint, ansawdd ac amlygrwydd p’un a fyddant wedi’u cynhyrchu fel fersiwn ddwyieithog unigol, neu fel hysbysiadau Cymraeg a Saesneg ar wahân.

Gall swyddi lle mae’r gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol gael eu hysbysebu yn Gymraeg yn y cyfryngau Saesneg gyda disgrifiad byr yn Saesneg.

Bydd hysbysiadau recriwtio mewn cylchgronau Saesneg (a chyhoeddiadau eraill) sy’n cael eu dosbarthu ledled y DU yn Saesneg, oni fydd y swydd yn un lle mae’r gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol, ac os felly, bydd yr hysbysiad yn gwbl ddwyieithog, neu yn Gymraeg gyda disgrifiad byr yn Saesneg.

Bydd unrhyw hysbysiadau swyddogol, hysbysiadau cyhoeddus neu hysbysiadau recriwtio staff a osodir rywle arall yng Nghymru yn ddwyieithog.

Bydd hysbysiadau recriwtio ar-lein ar gyfer swyddi yn ddwyieithog yn unol â gofynion perthnasol y swydd o ran y Gymraeg.

Codi ymwybyddiaeth o wasanaethau Cymraeg a ddarperir

Byddwn yn sicrhau ein bod yn mynd ati’n rhagweithiol i hysbysebu’r gwasanaethau Cymraeg rydym yn eu darparu, a byddwn yn gwneud hynny yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Bydd hyn yn cynnwys ein gwefan, cyfryngau cymdeithasol, gohebiaeth ysgrifenedig ac unrhyw ddeunydd hyrwyddo neu hysbysebu yng Nghymru.

Back to top