Corfforaethol

Polisïau, deddfwriaeth a mentrau

Bydd ein polisïau, ein mentrau a’n gwasanaethau yn gyson â’r cynllun hwn. Byddant yn cefnogi’r defnydd o’r Gymraeg ac yn helpu’r cyhoedd yng Nghymru i ddefnyddio’r Gymraeg fel rhan o’u bywydau beunyddiol.

Os byddwn yn cyfrannu tuag at ddatblygu neu gyflwyno polisïau, mentrau, gwasanaethau neu ddeddfwriaeth newydd o dan arweiniad sefydliadau eraill, byddwn yn gwneud hynny mewn ffordd sy’n gyson â’r cynllun hwn.

Lle y bo’n berthnasol, bydd ein cyfraniad at ddeddfwriaeth sylfaenol ac is-ddeddfwriaeth newydd yn cefnogi’r defnydd o’r Gymraeg.

Gweithio mewn partneriaeth

Pan fyddwn yn gweithredu fel yr arweinydd strategol ac ariannol o fewn partneriaeth, byddwn yn sicrhau y bydd unrhyw agweddau ar wasanaeth cyhoeddus yn cydymffurfio â’r cynllun hwn.

Pan fyddwn yn ymuno â phartneriaeth a gaiff ei llywio gan sefydliad arall, bydd ein cyfraniad i’r bartneriaeth yn cydymffurfio â’r cynllun hwn a byddwn yn annog ein partneriaid i gydymffurfio.

Pan fyddwn yn bartner mewn consortiwm, byddwn yn annog y consortiwm i gydymffurfio â’r cynllun hwn. Pan fyddwn yn gweithredu yn enw’r consortiwm, byddwn yn gweithredu yn unol â’r cynllun hwn.

Trefniadau mewnol

Bydd gan y mesurau yn y cynllun hwn awdurdod, cefnogaeth a chymeradwyaeth lawn ein sefydliad.

Bydd y cyfarwyddwyr yn gyfrifol am weithredu’r agweddau hynny ar y cynllun sy’n berthnasol i’w his-adrannau, gyda chefnogaeth Tîm y Gymraeg Awdurdod Ystadegau’r DU.

Rydym wedi sefydlu’r Gweithgor Cymraeg, sef fforwm trawsadrannol a gaiff ei gadeirio gan Hyrwyddwr y Gymraeg ac sy’n cynnwys uwch-aelodau o staff. Bydd y fforwm hwn yn cyfarfod dair gwaith y flwyddyn i gyflawni, monitro ac adolygu’r cynllun hwn.

Bydd Tîm y Gymraeg Awdurdod Ystadegau’r DU yn paratoi cynllun gweithredu manwl ac yn ei ddiweddaru’n barhaus. Cytunir ar y cynllun gyda Chomisiynydd y Gymraeg a bydd yn nodi sut y byddwn yn sicrhau ein bod yn gweithredu yn unol â’r cynllun hwn. Daw’r cynllun gweithredu i rym ar y dyddiad y daw’r cynllun i rym, neu cyn gynted â phosibl ar ôl hynny. Bydd y cynllun yn cynnwys targedau, terfynau amser ac adroddiad ar gynnydd yn erbyn pob targed.

Bydd y cynllun ar gael i staff ar fewnrwyd yr adran a chaiff ei gyhoeddi ar ein gwefan.

Bydd Tîm y Gymraeg Awdurdod Ystadegau’r DU yn cynhyrchu cyfarwyddiadau desg, neu ganllawiau tebyg, lle y bo’n briodol, ar gyfer ein staff er mwyn sicrhau eu bod yn gwybod sut i weithredu’r mesurau yn y cynllun hwn.

Caiff y cyfarwyddiadau desg, neu ganllawiau tebyg, a ddefnyddir gan ein staff ar hyn o bryd eu diwygio i adlewyrchu’r mesurau yn y cynllun hwn.

Bydd Tîm y Gymraeg Awdurdod Ystadegau’r DU yn trefnu sesiynau briffio a hyfforddiant ar gyfer ein staff i gynyddu ymwybyddiaeth o’r cynllun hwn – ac i egluro sut y bydd yn effeithio ar eu gwaith o ddydd i ddydd.

Pan fyddwn yn defnyddio cyfieithwyr allanol, byddwn yn sicrhau eu bod yn gyfieithwyr cymwys wedi eu hachredu gan Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru.

Caiff unrhyw fath o gyswllt â’r cyhoedd yng Nghymru, nad yw’r cynllun hwn yn ymdrin yn benodol ag ef, ei gynnal mewn ffordd sy’n gyson ag egwyddorion cyffredinol y cynllun hwn.

Cwynion gan staff

Byddwn yn sicrhau bod aelodau o staff yn gallu gwneud cwynion yn Gymraeg, a byddwn yn ymateb yn Gymraeg i unrhyw gŵyn a wneir amdanynt gan aelod arall o staff os byddant yn dymuno.

Caiff unrhyw benderfyniadau neu wybodaeth sy’n ymwneud â chwyn eu darparu yn Gymraeg os bydd yr aelod o staff yn dewis hynny.

Os na fydd aelodau priodol o staff sy’n siarad Cymraeg ar gael i gynnal y weithdrefn gwyno yn Gymraeg, byddwn yn sicrhau y caiff gwasanaeth cyfieithu ar y pryd o’r Gymraeg i’r Saesneg ei ddarparu.

Gweithdrefnau disgyblu

Gall staff ofyn am i weithdrefnau disgyblu gael eu cynnal drwy gyfrwng y Gymraeg.

Caiff unrhyw benderfyniadau neu wybodaeth sy’n ymwneud â gweithdrefn ddisgyblu eu darparu yn Gymraeg os bydd yr aelod o staff yn dewis hynny.

Os na fydd aelodau priodol o staff sy’n siarad Cymraeg ar gael i gynnal y weithdrefn ddisgyblu yn Gymraeg, byddwn yn sicrhau y caiff gwasanaeth cyfieithu ar y pryd o’r Gymraeg i’r Saesneg ei ddarparu.

Deddf Rhyddid Gwybodaeth

Pan gaiff cais Rhyddid Gwybodaeth ei dderbyn yn Gymraeg, bydd y llythyr eglurhaol a anfonir gydag unrhyw ymateb yn Gymraeg hefyd.

Os bydd y dogfennau y gwneir cais amdanynt eisoes ar gael yn Gymraeg, cânt eu darparu i’r ymgeisydd yn Gymraeg.

Yn unol â’r cynllun hwn, os dylai’r dogfennau y gwneir cais amdanynt fod ar gael yn Gymraeg, cânt eu darparu yn Gymraeg. Os bydd hyn yn golygu bod angen cyfieithiad o’r Saesneg, caiff ei wneud o fewn y terfyn amser statudol o 20 diwrnod gwaith, ac ni chodir tâl ar yr ymgeisydd.

Yn unol â’r cynllun hwn, os nad oes angen i’r dogfennau y gwneir cais amdanynt fod ar gael yn Gymraeg, cânt eu darparu yn yr iaith wreiddiol.

Mae gan ymgeiswyr yr hawl i ofyn am grynodeb yn hytrach na chopi o’r ddogfen. Byddwn yn ystyried cynhyrchu crynodeb byr lle y gwneir cais am hynny neu lle y credir bod hynny’n angenrheidiol, fel y gwneir gydag unrhyw gais Rhyddid Gwybodaeth. Fel arfer ni fydd crynodebau yn hwy nag ychydig gannoedd o eiriau. Mewn achosion lle y gwneir cais am grynodeb yn Gymraeg, byddwn yn cynhyrchu’r crynodeb yn Gymraeg, p’un a yw’r wybodaeth wreiddiol yn Gymraeg, yn Saesneg, neu mewn iaith arall.

Cwynion ac awgrymiadau ar gyfer gwelliant

Dylid cyfeirio unrhyw gwynion am wasanaethau Cymraeg Awdurdod Ystadegau’r DU, neu awgrymiadau ar gyfer gwelliannau, i:

Tîm y Gymraeg

Yr Ysgrifenyddiaeth Polisi Ganolog

Y Swyddfa Ystadegau Gwladol

Adeiladau’r Llywodraeth

Heol Caerdydd

Casnewydd

NP10 8XG

Neu drwy e-bost i: cymraeg@ons.gov.uk

Monitro

Bydd Tîm y Gymraeg Awdurdod Ystadegau’r DU yn monitro ein cynnydd wrth gyflawni’r cynllun hwn yn erbyn y targedau a nodir yn ei gynllun gweithredu cysylltiedig.

Bydd ein gweithdrefnau monitro ac adrodd presennol yn cynnwys cyfeiriad at gynnydd wrth gyflawni’r cynllun hwn, fel y bo’n briodol.

Byddwn yn anfon adroddiadau monitro blynyddol at Gomisiynydd y Gymraeg, gan amlinellu cynnydd o ran cyflawni’r cynllun hwn.

Adolygu a diwygio'r Cynllun

Bydd Tîm y Gymraeg Awdurdod Ystadegau’r DU yn adolygu’r cynllun hwn o fewn pedair blynedd i’r dyddiad y daw i rym, a phob pedair blynedd ar ôl hynny.

Hefyd, o bryd i’w gilydd, efallai y bydd yn rhaid i ni adolygu’r cynllun hwn, neu gynnig diwygiadau iddo, oherwydd newidiadau i’n swyddogaethau, neu i’r amgylchiadau lle rydym yn cyflawni’r swyddogaethau hynny, neu am unrhyw reswm arall.

Ni wneir unrhyw newidiadau i’r cynllun hwn heb gymeradwyaeth Comisiynydd y Gymraeg.

Back to top