Cynllun Iaith Gymraeg – Hydref 2023

Published:
16 October 2023
Last updated:
25 October 2023

Arolygon

Arolygon i gartrefi ac unigolion

Pan fyddwn yn cynnal arolygon cyhoeddus, byddwn yn sicrhau bod pob agwedd ar ohebu â’r cyhoedd yng Nghymru yn ddwyieithog.

Caiff llawer o’r arolygon o gartrefi ac unigolion a gynhelir gan yr Adran eu cynnal drwy gyfweliadau wyneb yn wyneb. Os bydd y rheini sy’n cael cyfweliad yn nodi yr hoffent i’r cyfweliad gael ei gynnal yn Gymraeg, byddwn yn darparu cyfwelwyr sy’n siarad Cymraeg.

Byddwn yn anfon llythyrau dwyieithog ymlaen llaw at ddarpar gyfweledigion yng Nghymru yn eu gwahodd i roi gwybod i ni a ydynt am gael eu cyfweld yn Gymraeg neu yn Saesneg. Bydd ffurflenni a holiaduron ar gyfer arolygon haenellwn ar gael yn ddwyieithog hefyd.

Caiff unrhyw ohebiaeth â chyfweledigion yng Nghymru, gan gynnwys llythyrau, e-byst a negeseuon testun, ei hanfon yn Gymraeg ac yn Saesneg, oni bai bod yr unigolyn wedi nodi ym mha iaith y byddai’n well ganddo i ni ohebu.

Caiff arolygon sy’n ymwneud â chadw dyddiadur eu gweinyddu gan staff maes, a gall ymatebwyr ddarparu eu cyfraniadau yn Gymraeg neu yn Saesneg. Bydd unrhyw ddiweddariadau i weithrediadau sy’n ymwneud ag ymatebwyr yn cynnwys yr angen i ddarparu gwasanaeth dwyieithog.

Bydd unrhyw gynlluniau i adnewyddu neu ddiweddaru meddalwedd sy’n ymwneud â chasglu data drwy arolygon yn ystyried gofynion dwyieithog a chydweddoldeb.

Arolygon busnes

Bydd pob ffurflen ar gyfer arolygon busnes a ddosberthir yng Nghymru yn cael eu darparu’n ddwyieithog, oni bai ein bod eisoes yn gwybod beth yw dewis iaith y rheini sy’n derbyn y ffurflenni.

Gallwn hefyd wahodd busnesau i roi gwybod i ni beth yw eu dewis iaith cyn dosbarthu ffurflenni arolygon, a byddant yn cael ffurflenni’r arolwg yn eu dewis iaith.

Byddwn yn cadw cofnod cyfredol o ddewis iaith busnesau rydym yn gohebu â nhw.

Mae hyn yn berthnasol i arolygon busnes digidol a rhai papur.

Bydd unrhyw gynlluniau i adnewyddu neu ddiweddaru meddalwedd sy’n ymwneud â chasglu data drwy arolygon yn ystyried gofynion dwyieithog a chydweddoldeb.

Back to top